a1

Ar Ddu a Gwyn (1963)

Huw Lloyd Edwards

Ⓗ 1963 Huw Lloyd Edwards
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


Pan gyfyd y llen, y mae Amos wrthi'n twtio'r ystafell. Yn sydyn, saif yn llonydd fel petai'n myfyrio: yna mae'n mynd yn araf at y ddesg, ac ar ôl petruso'n ofnus am eiliad, mae'n eistedd yn y gadair y tu ôl iddi. Cymer sigâr o'r bocs a'i rhoi rhwng ei wefusau, ond nid yw'n ei thanio: yna rhydd sbectol Botha ar ei drwyn ac eistedd yn ôl yn y gadair fel petai'n dychmygu am funud ei fod yn ddyn o awdurdod. Cymer y teliffôn, a'i godi i'w glust a meimio siarad yn bwysig iddo. Gwna hyn oll yn hollol ddifrifol, heb unrhyw elfen o ffars o gwbl.

Daw sŵn traed o'r tu allan: rhydd Amos y teliffôn i lawr, y sigâr yn ôl yn y bocs, a'r sbectol ar y ddesg. Yna, rhed yn ôl i dwtio'r ystafell. Mae wrthi'n brysur pan ddaw Botha i mewn.

Amos

P'nawn da, Syr.

Botha

P'nawn da, Amos.



Saib am eiliad.

Amos

Chi'n teimlo'n well, Syr?

Botha

(Yn eistedd wrth ei ddesg.) Beth? O, ydw'... ydw'... Diolch iti am ofyn. 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma?

Amos

Ydw' Syr.

Botha

Mi gei fynd, felly. Mae arna'i eisiau llonydd rŵan.

Amos

O'r gora', Syr. (Amos yn mynd at y drws.)

Botha

Amos!

Amos

(Sefyll wrth y drws.) Syr?

Botha

Tyrd yma am funud.

Amos

(Mynd yn ôl at y ddesg.) Syr?

Botha

Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma?

Amos

Yr un fath, Syr. Dim golwg gwella arni.

Botha

Hm! 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan?

Amos

Naw, Syr. Ei phen-blwydd hi ddoe.

Botha

Felly'n wir... Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud?

Amos

Y galon, Syr. Mae hi'n wanllyd erioed. 'Does dim lle yn yr ysbyty. Nhw'n dweud ddim lle am flwyddyn arall. Mae ein hysbyty ni'n llawn bob amser, Syr.

Botha

Ydy', 'rwy'n deall... Mae'n ddrwg iawn gen' i glywed, Amos. Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro.

Amos

O'r gora', Syr.

Botha

(Mynd i'w boced.) Aros di... (Tynnu arian o'i boced a'i roi i Amos.) Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi.

Amos

'Wn i ddim sut i ddiolch ichi, Syr?

Botha

Paid â thrio. Gwneud dy waith yn ddistaw, — dyna'r diolch gora'. Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall?

Amos

Fi'n deall.

Botha

Dim hyd yn oed wrth Miss Helga... B'le mae hi, gyda llaw?

Amos

Yn yr ardd, fi'n credu, Syr. (Mae Amos yn mynd at y ffenestr Ffrengig.) Ia, dacw hi, Syr, yn hel blodau. 'Ydych chi am imi alw arni?

Botha

Na, na: mi ddaw yma mewn munud... Mae yma un peth arall, Amos.

Amos

Syr?

Botha

'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma.

Amos

O'r gora', Syr.

Botha

'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid. Ond mae hi mor bryderus. 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau.

Amos

Ond os bydd hi'n gofyn imi, Syr?

Botha

'Dwyt ti'n gwybod dim. Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod!

Amos

Nac ydy', Mr. Botha.

Botha

'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di?

Amos

Fi —?

Botha

'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma. 'Rwyt ti'n edrych yn anesmwyth. Fel petai ofn arnat ti.

Amos

Dim ond ychydig o bryder, Syr: y ferch fach yn wael... a chwitha', Syr.

Botha

O, 'rwy'n gweld. Wel, paid â phoeni. Fe ddaw dy ferch yn ei blaen yn siŵr iti. A 'dwy' innau ddim yn barod i farw eto! Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti.

Amos

Rhaid, Syr.

Botha

'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos. Mi ofala' i na chei di ddim cam.



Saib ennyd.

Amos

(Yn sydyn.) Petai pawb 'r un fath â chi, Syr...

Botha

Ia, Amos?

Amos

(Mewn penbleth.) O, fi ddim yn gwybod beth i' ddweud... Maddeuwch imi... Fi'n mynd i wneud eich llefrith yn barod.

Botha

O'r gora'. Cymer d'amser. Mae llefrith mor ddiflas â ffisig imi erbyn hyn... Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd.

Amos

Diolch ichi, Syr. Chi'n garedig iawn. Diolch yn fawr.

Botha

Paid â sôn. 'Ffwrdd â thi, rŵan. Mae gen' i waith i'w wneud.



Amos yn mynd allan. Botha yn tynnu ei law yn flinedig ar draws ei dalcen: yna cymer ei sbectol oddi ar y ddesg: rhydd sigâr rhwng ei wefusau a'i thanio. Mynd ati wedyn i edrych drwy'r papurau sydd ar y ddesg o'i flaen. Mae wrthi'n sgrifennu pan ymddengys Helga yn y ffenestr ffrengig â thusw o flodau ar ei braich.

Helga

'Nhad!

Botha

(Codi ei ben i edrych arni.) Paid â dweud dim, Helga. Paid â symud am funud!

Helga

Pam? 'Oes rhywbeth o'i le?

Botha

Na, na. Gad imi edrych arnat ti, dyna'r cyfan.

Helga

'Dwy'i ddim yn deall —!

Botha

'Rwy' i'n mynd yn hen, 'merch i. Ond 'dwy' i ddim yn rhy hen i werthfawrogi prydferthwch.

Helga

Gweniaith!

Botha

Dim o gwbl. (Codi.) 'Rwy'n dweud y gwir. 'Welais i 'rioed monot ti'n edrych yn debycach i'th fam. (Mynd ati.) Sawl gwaith y gwelais i hi'n dod i mewn o'r ardd, fel hyn, â thusw o flodau ar ei braich!... Yr ardd oedd ei bywyd, Helga. Edrych allan yna,—y lawnt felfed, y rhosynnau a'r winwydden. 'Elli di feddwl amdani'n ddiffeithwch?

Helga

Na allaf, 'nhad.

Botha

Wel, dyna oedd hi pan ddaethom yma gyntaf, dy fam a minnau. Diffeithwch o chwyn ac ysgall. Mae'n anodd coelio hynny rŵan... Mae deugain mlynedd ers hynny. 'Roedd hi'n frwydr galed, Helga. Ar brydiau bu bron inni a digalonni ac ildio. Ond diolch i Dduw, fe gawsom nerth a dyfal-barhad.

Helga

Dim rhyfedd fod mam mor hoff ohoni!

Botha

Symbol ydy'r ardd yna, Helga. Symbol o wareiddiad a diwylliant. Trefn o anhrefn. 'Roedd yn werth y chwys a'r llafur a'r siomiant... Ond mae hynny i gyd y tu ôl inni, rŵan. Mae'r seiliau wedi eu gosod. Mae'r wlad yn dangos cynnydd. Mae'r dyfodol yn ddiogel. Ond rhaid wrth wyliadwriaeth barhaus, Helga, neu fe ddaw'r chwyn yn ôl. Fe ddônt yn ôl i hagru a difetha popeth. {Mae Botha yn mynd yn ôl at ei ddesg. Edrych Helga arno am ennyd, yna daw ymlaen.}

Helga

'Ga i roi'r rhain ar eich desg chi, 'nhad?

Botha

Beth?... O, ia, — syniad reit dda. Mae arna' i angen tipyn o ffresni. (Mae Helga yn rhoi'r blodau mewn dysgl a dodi honno ar y ddesg.)

Helga

'Rwy'n siŵr na fyddan' nhw ddim yn hapus ynghanol yr hen bapurau sychlyd yma! 'Fydd yna ddim hir oes iddyn' nhw, mi gewch chi weld!... Wel, sut mae nhw'n edrych?

Botha

Gwych, gwych. Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen.



Saib.

Helga

'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed.

Botha

Ydw', am 'wn i, ydw'.

Helga

Ac eto anfynych iawn y byddwch chi'n mynd iddi.

Botha

Ia, rwy'n cyfadde'.

Helga

Pam?

Botha

'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad.

Helga

'Dwy'i ddim yn deall.

Botha

Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi.

Helga

'Does dim amser fel y presennol 'nhad. 'Rydych chi wedi gweithio digon. Mae'n hen bryd ichi gymryd seibiant. 'Rydych yn ei haeddu.

Botha

Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto.

Helga

Yr un hen gân!

Botha

Dyletswydd yn gyntaf. Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i.



Cymer Botha ddogfen oddi ar y ddesg, a'i hastudio.

Helga

'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad?

Botha

Beth?

Helga

Fe wnaethoch addo peidio â gweithio heddiw. A dyma chi'n torri eich addewid yn barod.

Botha

Ia, Helga, 'rwy'n gwybod. Ond ─

Helga

'Ydych chi ddim yn sylweddoli'r peryg? Fe wyddoch yn iawn beth ddywedodd y doctor.

Botha

Gwn yn iawn. Pennyd o segurdod bara a dŵr. Fe fyddai hynny'n fy lladd yn gynt na dim.

Helga

'Rwy'n siŵr mai Dr. Hoffman sy'n gwybod orau.

Botha

Fel mater o ffaith, 'does ganddo fo fawr o syniad be' sy'n bod arna' i. Bai mawr Hoffman erioed ydy' ei fod o mor boenus o ffwdanus. Pe bawn i'n greadur o weithiwr, fe fyddai potelaid o ffisig a cherydd yn gwneud y tro imi. Yn lle hynny 'rwy'n Seneddwr ac yn berchen mwynglawdd aur. Rhaid gorliwio'r clefyd i siwtio fy safle!

Helga

Mae'n pryderu o ddifri' yn eich cylch, 'nhad. Rydych wedi mynd i wendid mawr yn amlwg.

Botha

Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan.

Helga

Nid annwyd a barodd ichi syrthio i lewyg fel y gwnaethoch chi ddoe,—yr ail dro o fewn pythefnos. (Rhoi ei llaw ar ei ysgwydd.) Dowch, 'rydych chi wedi gwneud digon am heddiw: fe ddylech chi orffwys rŵan.

Botha

Na ddylwn, Helga. Rhaid i mi fynd ymlaen tra medra' i.

Helga

Hyd nes y byddwch chi'n rhy wan i godi eich llaw?

Botha

Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny.

Helga

'Rydych yn barod, felly, i aberthu eich iechyd a pheryglu eich bywyd. A'r cyfan er mwyn ─

Botha

Er mewn delfryd, Helga. Ydw', 'rwy'n barod i wneud hynny... Ond 'does dim achos iti bryderu. 'Rwy' i bron wedi gorffen. Yr wythnos nesa' mi fyddaf yn traddodi'r araith yma o flaen y Senedd ─

Helga

Hyn i gyd er mwyn un araith!

Botha

Nid er mwyn un araith. Er mwyn dyfodol a hapusrwydd y genedl, Helga. Beth yw fy iechyd i o'i gymharu â hynny? 'Rwy' i'n barod i farw drosti os bydd rhaid.



Mae cloch y teliffôn yn canu. Botha yn ei godi.

Botha

Botha... Pwy?... O, Malán... Be'sy'nbod?... Beth? Dŵr? (Botha yn codi.)

Helga

'Nhad!

Botha

Ond mae hyn yn ddifrifol! Pa siafft dd'wedsoch chi? O, 'dyw hynny ddim mor ddrwg... Wrth gwrs, fe wnaethoch yn iawn... 'Oes yna lawer o ddifrod?... O, rwy'n gweld... Ond y gweithwyr, Malán, beth am y gweithwyr?... Dau? Rhaid eu cael allan, doed a ddelo... Costied a gostio, Malán, 'rydych chi'n deall?... Pwy? Hendricks? (Helga yn dangos pryder.) Mae'n dda gen' i glywed... Ia, 'rwy'n dibynnu arnoch chi... O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha.



Botha yn rhoi'r teliffôn i lawr.

Helga

Be' sy'n bod?

Botha

Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll.

Helga

Beth am Karl?

Botha

Paid â phryderu. Mae Karl yn ddiogel.

Helga

Ond y gweithwyr?

Botha

(Saib eiliad.) Dau negro ar goll. Ond mae Karl yn ceisio'u hachub. 'Roedd Malán yn swnio'n eitha' ffyddiog.

Helga

Ond Karl, — 'oes yna beryg?

Botha

Paid â phoeni, 'merch i. 'Ddaw dim niwed iddo fo. Mae'r gwaetha' drosodd erbyn hyn. Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg.



Daw Amos i'r drws.

Amos

Dr. Hoffman, Syr.



Daw Hoffman i mewn braidd yn bryderus.

Hoffman

Botha, 'glywaist ti am y pwll?

Botha

Do, Hoffman. Mae Malán newydd fod ar y teliffôn.

Hoffman

Oes yna rywun wedi —?

Botha

Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud.

Hoffman

Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll.

Botha

Dau, Hoffman, dau negro. A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg.

Hoffman

O, mae'n dda gen' i glywed.

Botha

Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg!

Helga

Peth naturiol yw pryder, 'nhad.

Hoffman

O, p'nawn da, Helga. 'Wnes i ddim bwriadu bod yn anghwrtais.

Helga

Popeth yn iawn, Dr. Hoffman. Eisteddwch.



Hoffman yn eistedd.

Hoffman

Diolch... Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha?



Helga yn mynd at y cabinet a thywallt gwin i ddau wydr.

Botha

Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman. 'Does yna fawr o aur ar ôl yn y rhan yna o'r pwll. Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd.

Hoffman

Wel, mae hynna'n ollyngdod. Cofia fod gen' i siâr ynddo fo!



Daw Helga ymlaen.

Helga

Llymaid o win, Dr. Hoffman. A gofalwch ei ganmol!

Hoffman

Eich gwin chi, Helga?

Helga

Ia, grawnwin o'r ardd.

Hoffman

'Does yna mo'i hafal yn y wlad, felly! Diolch yn fawr,



Hoffman yn cymryd y gwydr. Rhydd Helga y gwydr arall ar ddesg ei thad.

Botha

(Yn gellweirus.) Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman.

Hoffman

'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha.

Botha

Ia, — ond y brys anarferol! Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn.

Hoffman

'Dwy' i ddim yn deall. Beth arall?

Botha

Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr!

Hoffman

(Chwerthin.) Dim o gwbl! 'Dyw'r ychydig a fuddsoddais i ddim gwerth colli munud o gwsg yn 'i gylch. Hwyrach na choeli di ddim, ond fel cyffur y bydda' i'n edrych ar aur, nid fel cyfoeth.

Botha

'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman!

Hoffman

Mae'n berffaith wir iti. (Yn ddifrifol.) Fe wyddost yn eitha' da pam 'rydw' i yma, Botha.

Botha

Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna! Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod.

Hoffman

Fy nyletswydd fel meddyg ydy' iachâu. Ond 'alla' i wneud dim heb dy gydweithrediad di. Pam wyt ti'n mynnu bod mor styfnig?

Botha

Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu? Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely!

Hoffman

Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw.

Helga

'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo!



Botha yn chwerthin.

Hoffman

Mi wn i, Helga. 'Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â chi... Hawdd y gelli di chwerthin, Botha!

Botha

'Wyddost ti pam? Mae'r ddrama fach yma wedi digwydd inni'n dau o'r blaen. Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio?

Hoffman

Hanner munud rŵan —!

Helga

Am beth mae o'n sôn, Doctor?

Hoffman

Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga.

Botha

Dim o gwbl. (Wrth Helga.) Rhyw chwech oed oeddit ti ar y pryd. Fe ddaeth rhyw haint i'r dre yma, a channoedd yn cael eu taro'n bur wael. 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman.

Hoffman

'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg.

Botha

Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn. Pla'r negrod oedd o, yn codi o fudreddi'r Dre-Sianti. P'run bynnag, mi ge's i'r salwch. A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth.

Hoffman

Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw!

Botha

Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser! A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos!

Hoffman

Felly'n wir! Wel, paid â dibynnu ar lwc eto.

Botha

Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd.

Hoffman

'Rwy'n cymryd dy wydnwch i ystyriaeth. Ond cofia fod i'r gadwyn gryfa' ei dolen wanna'. 'Dwy'i i ddim yn gwneud camgymeriad, 'wyddost ti.

Botha

Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw!

Hoffman

Mi ydw' i'n trio 'ngora glas dy gadw di'n fyw.

Botha

(Gwenu.) Ac yr wy'n dal i fod yma er dy waetha'!

Helga

'Nhad!

Hoffman

Mae'n rhaid iti wrando arna' i, Botha. Mae'r hen gorff gwydn yma'n erfyn am orffwys.

Botha

'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill. Mae gen' i waith i'w wneud.

Hoffman

Fel hen gyfaill, 'wnei di goelio am funud 'mod i o ddifri'? 'Mod i'n wir bryderus yn dy gylch?

Botha

Heb achos, yn siŵr iti.

Helga

'Rydych yn gwastraffu eich anadl, Dr. Hoffman. 'Does dim dichon ei ddarbwyllo. 'Rwy' i wedi erfyn ar fy ngliniau, bron. Mae'n gwrthod gwrando.

Hoffman

Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory.

Botha

Pam yfory?

Hoffman

'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe?

Botha

Ydw.

Hoffman

'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz.

Botha

Hertz? Pwy ydy' Hertz?

Hoffman

Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha.

Botha

A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg. Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog!

Hoffman

Tipyn o salwch? Gwrando, Botha, mae gen' i newydd pur ddifrifol iti.

Botha

O? Wel, allan â fo. Paid â chelu dim.

Hoffman

'Rwyf i o'r farn fod triniaeth law-feddygol yn angenrheidiol iti. A hynny ar frys.

Botha

'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau?

Hoffman

Bron yn siŵr ─

Botha

A!

Hoffman

'Does 'run meddyg yn anffaeledig. Dyna pam 'rwy' i mor awyddus i gael barn Hertz. Ac yr wy' i'n hollol sicr o un peth. Fe fydd yn rhaid iti gael trawsnewid gwaed cyn hynny.

Botha

Pam?

Hoffman

O, paid â gofyn imi fanylu, Botha. Mae gennyt ddigon o ymddiriedaeth yn fy nhipyn gallu erbyn hyn, gobeithio!

Botha

'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman. Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau!

Hoffman

Y felltith ydy' na wn i byth pa bryd yr wyt ti o ddifri' a phryd yr wyt ti'n cellwair. Ond aros funud, mae gen' i newydd arall, iti.

Botha

Newydd drwg?

Hoffman

Nid ynddo'i hun. Ond gallai achosi trafferth.

Botha

Beth ydy' o?

Hoffman

'Wyddit ti dy fod yn perthyn i grŵp-gwaed prin? Mor brin ag un ymhob miliwn?

Botha

Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin!

Hoffman

Fel mater o ffaith dim ond un o'r grŵp hwnnw a welais i erioed. Rhyw bum mlynedd yn ôl.

Botha

Pwy ydy'r dyn anrhydeddus?

Hoffman

Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio.

Botha

A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus!

Hoffman

Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny.

Botha

Wel?

Hoffman

'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod!

Botha

Druan o ddynol-ryw!

Hoffman

O, fe ddown o hyd i'r dyn, paid â phryderu. Mae o yn yr ardal yma yn rhywle. Peth hawdd fydd rhoi apêl ar y radio. Yn y cyfamser, ymgynghori â Hertz. Cawn weld beth fydd ei ddyfarniad yfory.

Botha

Yfory?

Hoffman

Ia, mae'n dod i'm gweld i'r ysbyty. Hwyrach y byddi'n barotach i dderbyn cyngor dieithryn! 'Ge'st ti rywfaint o orffwys heddiw?

Botha

Wel ─

Helga

Dim un eiliad, Doctor. Gweithio drwy gydol y bore.

Hoffman

Ffolineb y doeth! Llafurio a chwysu efo'i araith, mae'n debyg.

Botha

Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman. Rywfodd neu'i gilydd 'rwy'n gweld pethau'n gliriach yn ddiweddar yma. Mae f'argyhoeddiad yn gryfach nag erioed. 'Rwy'n hollol sicr fod cyfiawnder o'm plaid. O'm rhan i, mae'r Ddeddf Addysg newydd eisoes ar y Llyfr Statud. Mae'r araith i'w chyflwyno i'r Senedd yn barod gen' i yma. Ac os ca'i ddweud, 'rwy'n meddwl cryn dipyn ohoni. 'Hoffit ti ei chlywed?

Hoffman

Mae'n ormod o dreth ar dy nerth, Botha. Gwell peidio.

Botha

Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte". Aros di... (Gafael yn y ddogfen oddi ar y ddesg.) Ia, dyma ni. (Darllen.)

"Foneddigion:

Braint ac anrhydedd i mi, yw rhoi'r Ddeddf Addysg newydd ger eich bron. Yn ddiamau fe fydd yn garreg filltir nodedig yn hanes ein cenedl. Fe'i cyflwynaf i chwi yn llawn hyder gwladgarwch diffuant. Dichon y gwelwch yn ddoeth i newid rhai o'r manylion: ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu hynny. Ond ni oddefir unrhyw ymyrryd â'r egwyddor fawr sy'n sylfaen iddi: egwyddor sy'n hanfodol i ddiogelwch ein gwlad a ffyniant ein cenedl."



Rhydd Botha y ddogfen ar y ddesg: mae'n gwybod y gweddill o'r araith ar ei gof. Daw ymlaen at ymyl y llwyfan ac edrych allan i'r gynulleidfa. Daw Amos i mewn, yn cario gwydriad o lefrith ar hambwrdd, ond saif yn gwrtais wrth y drws tra bo Botha yn llefaru.

Botha

"Foneddigion:

Cyfnod o argyfwng yw hwn: cyfnod o brawf. Rhaid wrth weledigaeth glir ac argyhoeddiad pendant. Mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i'n plant ac i blant ein plant. Na ato Duw inni eu bradychu! Pwy sydd yma nad yw enw De Affrig yn gysegredig iddo? Pwy sydd yma na wêl reidrwydd aberth a ffydd ddigyfaddawd? Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco! Gwladgarwch, Foneddigion, gwladgarwch angerddol yw Apartheid, — a'i unig gyfiawnhad. Apartheid, — fe welodd ddyddiau tywyll: cafodd ei feirniadu'n llym. Onid dyna dynged pob egwyddor chwyldroadol ymhob oes? Ond aros y mae er gwaethaf dichell a chenfigen. Ac nid oes raid ymddiheuro drosti: mae Deddf Duw o'n plaid, — dau liw a dwy gymdeithas. Awn ymlaen yn hyderus, felly, a golau fflam newydd yn ein hysgolion a'n colegau. Fe rydd y Ddeddf Addysg hon holl fanteision Apartheid i ieuenctid ein gwlad, — y du a'r gwyn fel ei gilydd. Y du a'r gwyn, yn rhydd i ddilyn ffydd a thraddodiad eu tadau: yn rhydd i feithrin eu talentau fel y gallont. O anhrefn daeth trefn: o'r diffeithwch daeth gardd flodau. Apartheid yw'r unig iechydwriaeth i'n gwlad: onibai fy mod yn credu hynny o waelod fy enaid ni fyddwn yn rhoi'r Ddeddf yma ger eich bron. Mae llygaid y byd arnom, Foneddigion: fe fyddwn yn esiampl iddo o genedl ranedig, gytûn."



Mae Botha yn troi at Hoffman. Daw Amos ymlaen a rhoi'r hambwrdd ar y ddesg, ac yna exit.

Botha

Wel, Hoffman?

Hoffman

Mae'n rymus, Botha. Yn rymus a diffuant. Rhaid imi dy longyfarch.

Botha

Diolch iti. Mae gen' i barch i'th farn.

Hoffman

(Gafael ym mraich Botha.) Ond tyrd rŵan: eistedd i lawr. 'Rwyt ti'n edrych braidd yn flinedig. (Mae'n arwain Botha i'w gadair y tu ôl i'r ddesg.) 'Dwyt ti i wneud dim rhagor heddiw, 'wyt ti'n deall? Cofia gadw llygad arno fo, Helga.

Helga

Mi wnaf fy ngora', Doctor.

Botha

(Chwerthin.) Druan ohonot ti, Hoffman. 'Rwyt ti mor ffwdanus â hen ferch, weithia'!... O'r gora', dim pwt o waith eto heddiw. 'Rwy'n rhoi fy ngair iti.

Hoffman

Gobeithio y cofi di hynna ar ôl i mi fynd! Mi ddof yma eto nos yfory. Fe fydd adroddiad Hertz gen' i pryd hynny. (Mynd at y drws.) P'nawn da i chwi eich dau,

Botha

P'nawn da, Hoffman. A diolch iti.

Helga

P'nawn da, Doctor.

Hoffman

(Wrth y drws.) O, diolch am y gwin, hefyd, Helga. 'Roedd o'n ardderchog! (Exit Hoffman.)

Botha

(Mae'n eistedd yn ôl yn ei gadair.) O wel, dyna hynna drosodd.

Helga

Tan yfory, 'nhad.

Botha

Ia... tan yfory. (Saib.)

Helga

Mae Amos wedi dod â'ch llefrith chi, 'nhad.

Botha

Ydy'... alla' i mo'i yfed o rŵan: nid ar ôl y gwin yna... Beth wyt ti'n ei feddwl o'r araith yma?

Helga

'Rwy' i'n cyd-weld â Dr. Hoffman. Mae hi'n rymus a diffuant. Ond...

Botha

Ond?

Helga

Rhaid imi fod yn onest, 'nhad. 'Dwy' i ddim yn deall yn iawn ─

Botha

Wel, gad imi geisio egluro iti. Beth yn hollol wyt ti ddim yn 'i ddeall?

Helga

Wel, yn gyntaf, yr ysgolion cenhadol.

Botha

Beth amdanyn' nhw?

Helga

'Fyddan' nhw, hefyd, yn dod o dan y Ddeddf Addysg newydd?

Botha

Wrth gwrs y byddan' nhw. Fe gânt gyd-ymffurfio neu gau eu drysau.

Helga

'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad.



Helga yn mynd at y ffenestr.

Botha

Nac wyt ti? Buan iawn y gwelan' nhw eu camsyniad. Fedrwn ni ddim cyfaddawdu yn y mater yma, Helga: 'feiddiwn ni ddim. A pheth arall, rydym yn gwneud hyn oll yn enw Duw, ac yn unol â'i ddoethineb. Fe wnaeth yr Eglwys hynna'n berffaith eglur y llynedd.

Helga

Ond mae'r ysgolion yma wedi gwneud gwaith da, 'nhad.

Botha

'Rwy'n cydnabod hynny. Ond un peth ydy' lledaenu'r Efengyl: myfi fyddai'r olaf i wahardd cymwynas o'r fath. Ond pan ddaw llechgwn o estroniaid i'r wlad yma i greu anghydfod yn enw crefydd, rhaid eu ffrwyno.

Helga

'Ydych chi'n meddwl o ddifri' fod hynny'n digwydd?

Botha

'Rwy'n gwybod ei fod yn digwydd. Mae gen' i ddigon o brawf. 'Fydda' i byth yn cyhuddo heb fod yn berffaith siŵr o'r ffeithiau.

Helga

Fe ddaw hyn â chaledi i lawer, 'nhad.

Botha

Fe fydd yn gymwynas i'r mwyafrif. Rhaid wrth drefn cyn daw cynnydd. (Saib.)

Helga

(Mae'n edrych allan i'r ardd.) 'Glywsoch chi sŵn aflafar allan yn yr ardd, gynna', 'nhad?

Botha

Na, 'sylwais i ddim. Beth oedd yna?

Helga

Haid o wylanod yn ymlid brân.

Botha

'Oes yna rywbeth yn od yn hynny?

Helga

Am ei bod hi'n wahanol iddyn' nhw, mae'n debyg. Am ei bod hi'n ddu a hwythau'n wyn.

Botha

Mae'r brain, pan gânt gyfle, yn ymlid y gwylanod. Cofia hynna, 'wnei di? Mae'n beth hollol naturiol.

Helga

(Troi i wynebu Botha.) Naturiol, ydy', — i greaduriaid di-reswm. Ond 'rwy'n ofni, weithia nad yw dynion 'run gronyn gwell. Rhagfarn a chasineb sy'n eu cymell hwythau, hefyd, yn aml.

Botha

(Codi a mynd ati.) Mae gen' ti natur deimladol a dychymyg rhamantus, 'merch i. Ac 'rwy'n dy edmygu am hynny: mae'n beth da. Ond rhaid iti ddysgu wynebu ffeithia', wyddost ti. Oni wnei di, 'rwyt ti'n siŵr o gael dy frifo. 'Rwy'n siarad o hir brofiad. 'Dwyt ti ond ifanc eto. Coelia fi, mi weli di'n wahanol ryw ddiwrnod.

Helga

'Dwy i ddim yn siŵr fod arna' i eisiau gweld yn wahanol, 'nhad.

Botha

'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud?

Helga

Mae'n ddrwg gen' i. Ond 'alla' i mo'i gadw i mi fy hun ddim mwy.

Botha

Helga!

Helga

Anghyfiawnder y peth, — dyna sy'n ffiaidd gen' i.

Botha

'Dwy'i ddim yn dy ddeall. 'Wyt ti ddim yn gweld mai cenedl ifanc ydym ni? Cenedl ifanc yn ceisio sefyll ar ei thraed ei hun? Mae'r frwydr yn un fawr: rhaid inni ymdrechu'n barhaus. Ac nid ar chwarae bach y llwyddwn ni. Wrth gwrs fod yna anghyfiawnder: wrth gwrs fod yna galedi. Mae hynny'n anochel. Ond allwn ni ddim troi'n ôl. Ffolineb fyddai gwangalonni, rŵan, wedi inni fynd mor bell.

Helga

Ffolineb yw brawd-garwch, felly?

Botha

'Rwyt ti'n ystumio fy ngeiriau, Helga. Nid dyna 'roeddwn i'n 'i feddwl. Ond na hidia: amser a ddengys. Hyd yma 'dwyt ti erioed wedi gorfod wynebu'r broblem yn dy fywyd dy hun. Dyna'r prawf wedi'r cyfan. Rhagfarn a chasineb ddywedaist ti? Paid â chamsynio, 'merch i! Wyt ti'n meddwl am foment y bradychwn i fy nghydwybod fy hun?

Helga

Nid o fwriad, efallai. Dyna sy'n fy nychryn, — y gall dynion o egwyddor, weithiau, achosi camwri dychrynllyd. A hynny dan yr argraff eu bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn.

Botha

'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd.

Helga

'Ydw' i? Cofiwch hyn, 'nhad, — 'dydych chi ddim ar ei pen eich hun. Mae yna ddynion eraill y tu ôl i chi. Dynion heb egwyddor.

Botha

'Chei di ddim dweud hynna, Helga.

Helga

Mae'n berffaith wir, 'nhad. Mae nhw'n wahanol i chi

Botha

Yn ymladd yr un frwydr ─

Helga

Ond nid â'r un arfau. O, 'nhad, pam na welwch chi?

Botha

Helga fach, 'rwyt ti'n mwydro dy ben pert yn ofer. Nid â'r galon y mae gwleidydda. 'Dwyt ti ddim yn deall y pethau yma, 'wyddost ti.

Helga

'Rwy'n deall digon i ─

Botha

Rhaid iti gael mwy o ffydd ynof i, 'merch i. Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau.



Ymddengys Amos yn y drws.

Amos

Mr. Karl Hendricks!



Exit Amos. Daw Karl i mewn yn edrych braidd yn flinedig. Mae ei ddillad yn lleidiog.

Helga

(Yn gythryblus.) Karl!

Botha

(Codi.) Hendricks!... Be' sy'n bod?

Helga

Wyt ti wedi d'anafu?

Karl

Na, mi ydw' i'n iawn, Helga.

Botha

Y dynion, Hendricks?

Karl

(Ysgwyd ei ben.) Rhy hwyr, Mr. Botha.

Helga

Mae nhw wedi —?

Karl

Wedi boddi. Y ddau. Petawn i bum munud ynghynt... Pum munud... Ond 'doedd dim modd mynd atyn' nhw. 'Roeddyn' nhw mewn twnel cul yn arwain o'r brif siafft... Fe wyddoch amdano?

Botha

Gwn, 'machgen i, gwn.

Karl

Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan... Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha.

Botha

Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna. Nid dy fai di oedd o.

Karl

Dim ond pum munud... Ond fe gododd y dŵr yn rhy gyflym. A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio.

Helga

Damwain oedd hi, Karl!

Karl

Ia, damwain. Ond 'dyw gwybod hynny'n fawr o help... 'Roeddwn i o fewn ugain llath iddyn' nhw. Eu clywed yn gweiddi, a minnau'n hollol ddiymadferth... 'Alla' i byth anghofio... Ac yna, y distawrwydd... Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha.

Botha

Gwn, 'machgen i. Mae'n arswydus... Ond fe aeth y dŵr i lawr?

Karl

Do, mor sydyn ag y cododd. Mi fedrais fynd i mewn... 'Roedd y ddau wrth geg y twnel, yn lled-orwedd ar y graig... Eu breichiau wedi ymestyn... fel petaent wedi eu croeshoelio... Maddau i mi, Helga.

Helga

Dos ymlaen, Karl. Gwell ei gael o allan.

Karl

'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen... Fe laddwyd tri y llynedd, os wyt ti'n cofio, pan ddisgynnodd y rwbel... ond 'roedd hynny'n wahanol, rywsut. Fe'u lladdwyd yn y fan: 'wydden' nhw ddim... 'Roedd eu diwedd yn lân, heb boen, heb ofn... Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd...

Botha

Profiad dychrynllyd, Hendricks. Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau.

Karl

Pum munud...!

Helga

Eistedd, Karl.

Karl

(Fel petai heb ei chlywed.) Mi rown i unrhyw beth... 'Roedd eu llygaid yn agored, ac arswyd wedi fferu ynddyn' nhw. Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes.

Botha

Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar.

Karl

Dim ond wythnos yn ôl. 'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo.

Botha

Fel yna mae'n digwydd weithia'.

Karl

Ia, ond yr eironi chwerw ydy'...

Helga

Ia, Karl?

Karl

'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall. Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw.

Botha

'Rwy'n deall.

Karl

Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb?

Helga

'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl.

Karl

Dyna a ddywedodd Malán, Helga. Ond ag ystyr gwahanol. Mi ddywedodd 'mod i'n ffôl i boeni fy mhen am ddau negro! (Gydag angerdd.) "Wyt ti ddim yn sylweddoli," medda' fo, "mae yna ddau ddwsin yn y Dre-Sianti yn barod i gymryd eu lle. 'Does yna byth brinder ohonyn' nhw. Mi fyddan' yn heidio o flaen y swyddfa bore fory." Dyna'i union eiriau. Fel petai'n sôn am anifeiliaid. Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha!

Botha

Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti.

Karl

'Dwy'i ddim yn gorliwio.

Botha

'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks. Mae gan Malán berffaith hawl i'w ddaliadau, beth bynnag ydyn' nhw. Ond mae o'n gyfrifol i mi am ddiogelwch pob gweithiwr yn y pwll, y du a'r gwyn fel ei gilydd. Os gwelaf fod ei ddaliadau'n peryglu bywyd un ohonynt, — fe ŵyr y canlyniadau. Hyd yma 'dyw hynny ddim wedi digwydd. 'Does gen' i ond y gair gora' i Malán fel gwas ffyddlon a gweithgar i'r Cwmni... Ond mae Helga'n iawn: 'rwyt ti'n ffôl i deimlo'n euog am ddamwain anochel. Noson o gwsg sydd arnat ti 'i eisiau. Mi weli di bethau'n gliriach yfory, â chydwybod tawel. Peth da yw tosturi, Hendricks, ond cymer gyngor gen' i: paid â'i gario fel pwn ar dy gefn beunydd. Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, wyddost ti... Ond mae'n ddigon hawdd siarad: 'rwy'n cofio'r ddamwain gynta' erioed yn yr hen waith yna, pan laddwyd fy ffrind penna'... Mae hyn yn dod â'r cyfan yn ôl imi. 'Rwy'n cofio, fel petai ddoe, y distawrwydd syfrdan, a dieithrwch angau a fferdod gofid... Mi wn i'n iawn sut yr wyt ti'n teimlo... "Chafodd yna neb arall ei anafu?

Karl

Naddo, diolch i'r nefoedd. Mae hyn yn ddigon.

Botha

Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i. Ond paid â gweld bai arnat dy hun... 'Gymeri di lymaid o rywbeth?

Karl

Na, dim diolch, Mr. Botha.

Helga

Eistedd, Karl.

Karl

Mae fy nillad yn lleidiog, Helga.

Helga

O, pa wahaniaeth! 'Wnan' nhw fawr o niwed. (Mae Karl yn eistedd.) Ond rhaid iti eu newid rhag blaen... 'Nhad?

Botha

Wrth gwrs! Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo.

Karl

Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha. Mi fydda' i'n iawn.

Botha

'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna. 'Allwn ni ddim fforddio dy gael dithau'n wael hefyd, 'wyddost ti.

Helga

Mi af i ddweud wrth Amos. (Exit Helga.)

Botha

Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu?

Karl

Oes, mae'r ddau yn briod. Un â phedwar o blant, a'r llall â dau.

Botha

Trueni... Rhaid imi feddwl am y peth. (Saib.)

Karl

Maddeuwch imi, Mr. Botha...

Botha

Ia, Hendricks?

Karl

Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi.

Botha

Gofyn.

Karl

'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw?

Botha

Beth wyt ti'n 'i feddwl?

Karl

Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd.

Botha

Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna.

Karl

Eich pardwn am y tro, Mr. Botha. 'Rwy'n eich adnabod yn bur dda. 'Oddefwch chi ddim i neb gael cam. Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro.

Botha

Nac ydy', — yn swyddogol. Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i.

Karl

Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha... 'Rwy'n fodlon.



Daw Helga i mewn.

Helga

Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl.

Karl

Diolch, Helga. (Codi.) Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha.

Botha

Wrth gwrs, wrth gwrs. Ond nid dyma'r amser i'w drafod, 'machgen i. Dos i ymolchi a newid, rŵan. Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni.

Karl

Gorffwys?

Botha

Ia, ia, paid â dadla'! Mi gawn ni sgwrs nos yfory. 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod?

Karl

Gallaf yn siŵr: mi af ati heno... Diolch ichi eto.



Karl yn edrych ar Helga am ennyd, yna exit.

Botha

(Eistedd yn ôl yn flinedig yn ei gadair.) 'Alla' i ddim peidio â meddwl am y ddau negro yna... Ddwy awr yn ôl 'roeddyn' nhw'n fyw ac iach. A rŵan ─

Helga

(Yn ddistaw.) Hwyrach eu bod yn well allan.

Botha

Beth dd'wedaist ti?

Helga

Hidiwch befo, rŵan, 'nhad. 'Does arna' i ddim eisiau eich blino.

Botha

Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim.

Helga

Mae dynion yn bwysicach na syniadau i mi.

Botha

'Wyt ti ddim yn gweld y perygl? 'Wyddost ti ddim fod y gelyn yn cynllwynio yn ein herbyn? A hynny dan rith crefydd? 'Rwy'n siŵr fod yn rhaid rhoi terfyn ar hynny?

Helga

Ond sut?

Botha

Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus.

Helga

I ba ddiben?

Botha

I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw.

Helga

Ym mha ffordd?

Botha

Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl.

Helga

O, 'nhad, beth a wyddoch chi am Y Cymrodyr?

Botha

'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas?

Helga

Ond fuoch chi ddim ar y Pwyllgor rŵan ers... ers faint?

Botha

Ers rhyw dair blynedd. Beth am hynny?

Helga

Mae yna lawer wedi digwydd yn y cyfamser. 'Dydych chi ddim yn gwybod am y pethau sy'n digwydd yn y dre' yma. Neu 'rydych yn cau eich llygaid rhag ichi eu gweld. 'Rwy'n gobeithio o waelod fy nghalon nad ydych chi ddim yn gwybod.

Botha

Am beth wyt ti'n sôn?

Helga

Am Y Cymrodyr. Erbyn heddiw, beth ydyn' nhw? Cymdeithas Gyfrin sy'n sathru'r negro i'r llaid. A'i ddal yno drwy rym a thrais.



Mae Botha yn codi.

Botha

(Yn ddistaw.) Helga —!

Helga

Os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod am hyn, — ac wrth gwrs mae nhw yn gwybod — ffug a rhagrith ydy'r cyfan!

Botha

(Codi ei lais.) Helga, rhaid iti beidio â siarad fel yna, 'wyt ti'n deall? 'Wyt ti'n mynnu mynd ar dy ben i drybini? A minnau i'th ganlyn? Mae'r pamffledi felltith yna wedi troi dy ben, yn amlwg. Adnodau o'r Ysgrythur ar un ochr, a phropaganda ffiaidd y Comiwnyddion ar yr ochr arall.

Helga

"Salvadór "?

Botha

"Salvadór," ia... Sut y gwyddit ti yr enw?

Helga

Fe ddangosoch un o'r pamffledi imi yr wythnos ddiwetha'.

Botha

Fe'i rhoddais iti i'w losgi, nid ei ddysgu. A'i daflu'n ôl yn fy wyneb wedyn! (Gostwng ei lais gydag ymdrech.) 'Rwyt ti'n rhy ifanc a dibrofiad i ddeall y pethau yma. Dyna pam 'rwy' mor amyneddgar â thi. Ar y llaw arall 'rwyt ti'n rhy hen i wneud gwaith y Comiwnyddion iddyn' nhw, yn rhad ac am ddim. Mae'n ffiaidd, Helga, mae'n ffiaidd ac yn sâl.

Helga

'Gaf i ddweud rhywbeth wrthych chi, 'nhad?

Botha

Wel?

Helga

Fe gurwyd negro i farwolaeth yn Stryd Kruger neithiwr. A'i daflu'n gorffyn gwaedlyd i'r gwter o flaen y capel. Nid propaganda'r Comiwnyddion yw hynna. Mae'n ffaith. 'Roeddwn i yno.

Botha

Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun?

Helga

Na, nid yn hollol ─

Botha

Aha —!

Helga

Ond fe welais dwr o bobol yn sefyll o'i amgylch. A bachgen bach o negro yn beichio crio. 'Roedd yna blisman yn ceisio'i gael i fynd adre': ond ni fynnai symud heb ei dad. Ni fynnai ei gysuro, 'chwaith, er imi drio fy ngorau... A'r dyrfa yn edrych arno heb ronyn o dosturi... O, beth ddaw ohono' ni?

Botha

'Rwy'n gweld, rŵan, be' sy'n dy boeni... Tyrd, 'merch i, paid â bod mor galon-feddal. Fe fydd rhywun yn siŵr o ofalu am y bychan. Mae'n ddrwg gen' i am ei dad. Ond nid dyna'r negro cyntaf i syrthio mewn ffrwgwd rhwng hwliganiaid.

Helga

Ffrwgwd rhwng hwliganaid! Ia, dyna fydd dyfarniad y crwner, hefyd, ar ôl ffars o gwest brysiog. Ac fe ŵyr pawb, ond y chi, feddyliwn, — mai'r Cymrodyr a'i llofruddiodd. A hynny yn enw sanctaidd Apartheid. O, mae'n ddigon i wneud i rywun gyfogi!

Botha

Gwrando arna' i, Helga. 'Dyw'r wlad yma ddim yn berffaith o lawer, Duw a ŵyr. A 'dydy' ni, y dynion sy'n ei harwain ddim yn berffaith 'chwaith. Ond rydym yn gwneud ein gorau glas i wella pethau, yn ôl ein hychydig ddoethineb. Ond 'does 'run ohonom yn anffaeledig... 'Rydym yn gwneud hyn oll i chwi, ein plant. 'Wyt ti ddim yn credu ein bod yn haeddu eich cefnogaeth? Yn lle hynny, be' sy'n digwydd? Amheuaeth, crach-feirniadu a sarhâd. O, mae'n ddigon hawdd i ti fod yn deimladol a ffroen-uchel ynghylch Apartheid! Aros nes y doi di wyneb yn wyneb â'r broblem yn dy fywyd dy hun. Fel y dywedais i, — dyna'r prawf. Mae'r broblem yn ddigon anodd fel y mae, heb i ti ei chymhlethu'n fwy. O, 'rwy'n edmygu dy ysbryd a'th frwdfrydedd. Rhinweddau ieuenctid ydy'r rheini ym mhob oes. Ond oni ddefnyddi di nhw'n adeiladol fe'u llygri... 'Rŵan, gad lonydd imi. 'Rwy' i wedi blino...



Botha yn chwilio ar ei ddesg am ei sbectol. Mae'n dod o hyd i un o bamffledi "Salvadór." Edrych arno am eiliad.

Botha

Edrych, dyma un arall ohonyn' nhw. Mi hoffwn i wybod sut y ma' nhw'n dod i'r tŷ yma... Darllen o.

Helga

(Taflu golwg ar y pamffled.) Cyfres o adnodau ydy'r rhain, 'nhad.

Botha

Edrych ar y sorod gwenwynig yr ochr arall. A'r enw ar y gwaelod, — "Salvadór" — Gwaredwr! Penboethyn hanner-pan, mae'n debyg. Llechgi o Gomiwnydd! Hwn a'i siort sy'n creu anghydfod a chwerwedd rhwng Du a Gwyn. Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo!



Daw Amos i mewn.

Amos

Esgusodwch fi, Syr.



Amos yn mynd at y ddesg. Botha yn edrych yn graff a drwgdybus arno.

Amos

Chi ddim wedi yfed y llefrith, Syr.

Botha

Hidia befo'r llefrith, Amos. Tyrd yma.



Amos yn mynd yn nes ato.

Amos

Syr?

Botha

Beth a wyddost ti am hwn?



Botha yn dangos y pamffled iddo.

Amos

Syr?

Botha

O, paid â bod mor hurt! Mae arna' i eisiau gwybod sut y daeth ar fy nesg. Edrych arno.

Amos

Fi ddim yn medru darllen yn dda, Syr.

Botha

Ys gwn i!... Welaist ti o o'r blaen?

Amos

Naddo, Syr.

Botha

Edrych ym myw fy llygaid, Amos. 'Wyt ti'n dweud y gwir?

Amos

Ydw', Syr. Fi'n dweud y gwir.

Botha

(Saib ennyd.) O'r gora'. 'Che's i erioed achos, hyd yma, i amau d'air. Ond os gweli di sothach maleisus fel hwn eto, dan enw "Salvadór," rho fo yn y tân. 'Wyt ti'n deall?

Amos

(Yn ddistaw ac ofnus.) "Salvadór"!

Botha

Ia. 'Wyddost ti pwy ydy' o?

Amos

Syr?

Botha

Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o?

Amos

Na wn, Syr... Wedi clywed yr enw, dyna'r cyfan. Mae'r dref i gyd wedi clywed yr enw. Ond fi ddim yn gwybod, Syr.

Botha

'Wyt ti'n siŵr, rŵan?

Amos

Ydw', Syr. Coeliwch fi, Syr, fi byth yn gwrando ar neb. Gwneud fy ngwaith yn ddistaw a meindio fy musnes.

Botha

O'r gora', 'rwy'n dy goelio. Ond deall hyn: os byth y caf allan dy fod yn celu rhywbeth, fe fydd yn edifar gan dy enaid. 'Ydy' hynna'n glir?

Amos

'Ydy', Syr... 'Oes yna rywbeth arall, Syr?

Botha

Na, dyna'r cyfan. Cei fynd rŵan.



Amos yn gafael yn yr hambwrdd a'r gwydriad llefrith, a mynd at y drws.

Helga

Amos, aros am funud.



Amos yn troi.

Amos

Ia, Miss Helga?

Helga

'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach?

Botha

Beth?... Cei, wrth gwrs. Syniad rhagorol... Dos i'r ardd ì nôl tusw iddo fo.

Helga

Mi ddo' i â nhw yma, toc, Amos. Fe'u rhôf mewn dŵr. Mi gei fynd â nhw adre' heno.

Amos

Diolch ichi, Miss Helga. Fe fydd wrth ei bodd. Bob dydd mae hi'n sôn am flodau. Chi a Mr. Botha yn garedig iawn. Diolch yn fawr ichi.



Exit Amos.

Helga

'Dydych chi ddim yn ddig gobeithio?

Botha

Yn ddig? Am beth?

Helga

'Mod i'n rhoi blodau iddo fo?

Botha

Dim o gwbl, Helga... Os edrychwn ni ar ôl yr ardd, gall fod o fudd i eraill hefyd... 'Wyt ti'n deall beth wy'n ei feddwl?



Mae Helga yn edrych ar ei thad heb ei ateb. Daw'r llen i lawr yn araf.

Diwedd Act I.

a1