Ar Ddu a Gwyn

Ciw-restr ar gyfer Botha

(Amos) P'nawn da, Syr.
 
(Amos) P'nawn da, Syr.
(1, 0) 11 P'nawn da, Amos.
(Amos) Chi'n teimlo'n well, Syr?
 
(1, 0) 15 Beth?
(1, 0) 16 O, ydw'... ydw'...
(1, 0) 17 Diolch iti am ofyn.
(1, 0) 18 'Wyt ti wedi gorffen y 'stafell yma?
(Amos) Ydw' Syr.
 
(Amos) Ydw' Syr.
(1, 0) 20 Mi gei fynd, felly.
(1, 0) 21 Mae arna'i eisiau llonydd rŵan.
(Amos) O'r gora', Syr.
 
(Amos) {Amos yn mynd at y drws.}
(1, 0) 24 Amos!
(Amos) {Sefyll wrth y drws.}
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 27 Tyrd yma am funud.
(Amos) {Mynd yn ôl at y ddesg.}
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 30 Dy ferch,—sut y mae hi y dyddia' 'ma?
(Amos) Yr un fath, Syr.
 
(Amos) Dim golwg gwella arni.
(1, 0) 33 Hm!
(1, 0) 34 'Faint ydy' ei hoed hi rŵan?
(Amos) Naw, Syr.
 
(Amos) Ei phen-blwydd hi ddoe.
(1, 0) 37 Felly'n wir...
(1, 0) 38 Beth mae'r meddyg yn 'i ddweud?
(Amos) Y galon, Syr.
 
(Amos) Mae ein hysbyty ni'n llawn bob amser, Syr.
(1, 0) 44 Ydy', 'rwy'n deall...
(1, 0) 45 Mae'n ddrwg iawn gen' i glywed, Amos.
(1, 0) 46 Gad imi wybod sut y bydd o dro i dro.
(Amos) O'r gora', Syr.
 
(1, 0) 49 Aros di...
 
(1, 0) 51 Hwda, dos i brynu tipyn o ffrwythau iddi.
(Amos) 'Wn i ddim sut i ddiolch ichi, Syr?
 
(Amos) 'Wn i ddim sut i ddiolch ichi, Syr?
(1, 0) 53 Paid â thrio.
(1, 0) 54 Gwneud dy waith yn ddistaw, — dyna'r diolch gora'.
(1, 0) 55 Paid â dweud am hyn wrth neb, 'wyt ti'n deall?
(Amos) Fi'n deall.
 
(Amos) Fi'n deall.
(1, 0) 57 Dim hyd yn oed wrth Miss Helga...
(1, 0) 58 B'le mae hi, gyda llaw?
(Amos) Yn yr ardd, fi'n credu, Syr.
 
(Amos) 'Ydych chi am imi alw arni?
(1, 0) 63 Na, na: mi ddaw yma mewn munud...
(1, 0) 64 Mae yma un peth arall, Amos.
(Amos) Syr?
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 66 'Dwy'i ddim am iti ddweud gair wrthi am y wasgfa fach honno ge's i y bore yma.
(Amos) O'r gora', Syr.
 
(Amos) O'r gora', Syr.
(1, 0) 68 'Dydy' o ddim ond tipyn o wendid.
(1, 0) 69 Ond mae hi mor bryderus.
(1, 0) 70 'Fynnwn i mo'i phoeni heb eisiau.
(Amos) Ond os bydd hi'n gofyn imi, Syr?
 
(Amos) Ond os bydd hi'n gofyn imi, Syr?
(1, 0) 72 'Dwyt ti'n gwybod dim.
(1, 0) 73 Celwydd gola', Amos,— dyw hwnnw ddim yn bechod!
(Amos) Nac ydy', Mr. Botha.
 
(Amos) Nac ydy', Mr. Botha.
(1, 0) 75 'Oes yna rywbeth ar dy feddwl di?
(Amos) Fi —?
 
(Amos) Fi —?
(1, 0) 77 'Rwy' i wedi sylwi arnat ti yn ddiweddar yma.
(1, 0) 78 'Rwyt ti'n edrych yn anesmwyth.
(1, 0) 79 Fel petai ofn arnat ti.
(Amos) Dim ond ychydig o bryder, Syr: y ferch fach yn wael... a chwitha', Syr.
 
(Amos) Dim ond ychydig o bryder, Syr: y ferch fach yn wael... a chwitha', Syr.
(1, 0) 81 O, 'rwy'n gweld.
(1, 0) 82 Wel, paid â phoeni.
(1, 0) 83 Fe ddaw dy ferch yn ei blaen yn siŵr iti.
(1, 0) 84 A 'dwy' innau ddim yn barod i farw eto!
(1, 0) 85 Rhaid iti fod yn fwy ffyddiog, wyddost ti.
(Amos) Rhaid, Syr.
 
(Amos) Rhaid, Syr.
(1, 0) 87 'Rwyt ti'n was da a ffyddlon, Amos.
(1, 0) 88 Mi ofala' i na chei di ddim cam.
(Amos) {Yn sydyn.}
 
(Amos) Petai pawb 'r un fath â chi, Syr...
(1, 0) 92 Ia, Amos?
(Amos) {Mewn penbleth.}
 
(Amos) Fi'n mynd i wneud eich llefrith yn barod.
(1, 0) 97 O'r gora'.
(1, 0) 98 Cymer d'amser.
(1, 0) 99 Mae llefrith mor ddiflas â ffisig imi erbyn hyn...
(1, 0) 100 Cofia ddweud sut y bydd dy ferch fach o bryd i bryd.
(Amos) Diolch ichi, Syr.
 
(Amos) Diolch yn fawr.
(1, 0) 104 Paid â sôn.
(1, 0) 105 'Ffwrdd â thi, rŵan.
(1, 0) 106 Mae gen' i waith i'w wneud.
(Helga) 'Nhad!
 
(1, 0) 113 Paid â dweud dim, Helga.
(1, 0) 114 Paid â symud am funud!
(Helga) Pam?
 
(Helga) 'Oes rhywbeth o'i le?
(1, 0) 117 Na, na.
(1, 0) 118 Gad imi edrych arnat ti, dyna'r cyfan.
(Helga) 'Dwy'i ddim yn deall —!
 
(Helga) 'Dwy'i ddim yn deall —!
(1, 0) 120 'Rwy' i'n mynd yn hen, 'merch i.
(1, 0) 121 Ond 'dwy' i ddim yn rhy hen i werthfawrogi prydferthwch.
(Helga) Gweniaith!
 
(Helga) Gweniaith!
(1, 0) 123 Dim o gwbl.
 
(1, 0) 125 'Rwy'n dweud y gwir.
(1, 0) 126 'Welais i 'rioed monot ti'n edrych yn debycach i'th fam.
 
(1, 0) 128 Sawl gwaith y gwelais i hi'n dod i mewn o'r ardd, fel hyn, â thusw o flodau ar ei braich!...
(1, 0) 129 Yr ardd oedd ei bywyd, Helga.
(1, 0) 130 Edrych allan yna,—y lawnt felfed, y rhosynnau a'r winwydden.
(1, 0) 131 'Elli di feddwl amdani'n ddiffeithwch?
(Helga) Na allaf, 'nhad.
 
(Helga) Na allaf, 'nhad.
(1, 0) 133 Wel, dyna oedd hi pan ddaethom yma gyntaf, dy fam a minnau.
(1, 0) 134 Diffeithwch o chwyn ac ysgall.
(1, 0) 135 Mae'n anodd coelio hynny rŵan...
(1, 0) 136 Mae deugain mlynedd ers hynny.
(1, 0) 137 'Roedd hi'n frwydr galed, Helga.
(1, 0) 138 Ar brydiau bu bron inni a digalonni ac ildio.
(1, 0) 139 Ond diolch i Dduw, fe gawsom nerth a dyfal-barhad.
(Helga) Dim rhyfedd fod mam mor hoff ohoni!
 
(Helga) Dim rhyfedd fod mam mor hoff ohoni!
(1, 0) 141 Symbol ydy'r ardd yna, Helga.
(1, 0) 142 Symbol o wareiddiad a diwylliant.
(1, 0) 143 Trefn o anhrefn.
(1, 0) 144 'Roedd yn werth y chwys a'r llafur a'r siomiant...
(1, 0) 145 Ond mae hynny i gyd y tu ôl inni, rŵan.
(1, 0) 146 Mae'r seiliau wedi eu gosod.
(1, 0) 147 Mae'r wlad yn dangos cynnydd.
(1, 0) 148 Mae'r dyfodol yn ddiogel.
(1, 0) 149 Ond rhaid wrth wyliadwriaeth barhaus, Helga, neu fe ddaw'r chwyn yn ôl.
(1, 0) 150 Fe ddônt yn ôl i hagru a difetha popeth.
 
(1, 0) 152 Edrych Helga arno am ennyd, yna daw ymlaen.}
(Helga) 'Ga i roi'r rhain ar eich desg chi, 'nhad?
 
(Helga) 'Ga i roi'r rhain ar eich desg chi, 'nhad?
(1, 0) 154 Beth?...
(1, 0) 155 O, ia, — syniad reit dda.
(1, 0) 156 Mae arna' i angen tipyn o ffresni.
 
(Helga) Wel, sut mae nhw'n edrych?
(1, 0) 161 Gwych, gwych.
(1, 0) 162 Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen.
(Helga) 'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed.
 
(Helga) 'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed.
(1, 0) 165 Ydw', am 'wn i, ydw'.
(Helga) Ac eto anfynych iawn y byddwch chi'n mynd iddi.
 
(Helga) Ac eto anfynych iawn y byddwch chi'n mynd iddi.
(1, 0) 167 Ia, rwy'n cyfadde'.
(Helga) Pam?
 
(Helga) Pam?
(1, 0) 169 'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad.
(Helga) 'Dwy'i ddim yn deall.
 
(Helga) 'Dwy'i ddim yn deall.
(1, 0) 171 Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi.
(Helga) 'Does dim amser fel y presennol 'nhad.
 
(Helga) 'Rydych yn ei haeddu.
(1, 0) 176 Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto.
(Helga) Yr un hen gân!
 
(Helga) Yr un hen gân!
(1, 0) 178 Dyletswydd yn gyntaf.
(1, 0) 179 Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i.
(Helga) 'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad?
 
(Helga) 'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad?
(1, 0) 182 Beth?
(Helga) Fe wnaethoch addo peidio â gweithio heddiw.
 
(Helga) A dyma chi'n torri eich addewid yn barod.
(1, 0) 185 Ia, Helga, 'rwy'n gwybod.
(1, 0) 186 Ond ─
(Helga) 'Ydych chi ddim yn sylweddoli'r peryg?
 
(Helga) Fe wyddoch yn iawn beth ddywedodd y doctor.
(1, 0) 189 Gwn yn iawn.
(1, 0) 190 Pennyd o segurdod bara a dŵr.
(1, 0) 191 Fe fyddai hynny'n fy lladd yn gynt na dim.
(Helga) 'Rwy'n siŵr mai Dr. Hoffman sy'n gwybod orau.
 
(Helga) 'Rwy'n siŵr mai Dr. Hoffman sy'n gwybod orau.
(1, 0) 193 Fel mater o ffaith, 'does ganddo fo fawr o syniad be' sy'n bod arna' i.
(1, 0) 194 Bai mawr Hoffman erioed ydy' ei fod o mor boenus o ffwdanus.
(1, 0) 195 Pe bawn i'n greadur o weithiwr, fe fyddai potelaid o ffisig a cherydd yn gwneud y tro imi.
(1, 0) 196 Yn lle hynny 'rwy'n Seneddwr ac yn berchen mwynglawdd aur.
(1, 0) 197 Rhaid gorliwio'r clefyd i siwtio fy safle!
(Helga) Mae'n pryderu o ddifri' yn eich cylch, 'nhad.
 
(Helga) Rydych wedi mynd i wendid mawr yn amlwg.
(1, 0) 200 Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan.
(Helga) Nid annwyd a barodd ichi syrthio i lewyg fel y gwnaethoch chi ddoe,—yr ail dro o fewn pythefnos.
 
(Helga) Dowch, 'rydych chi wedi gwneud digon am heddiw: fe ddylech chi orffwys rŵan.
(1, 0) 204 Na ddylwn, Helga.
(1, 0) 205 Rhaid i mi fynd ymlaen tra medra' i.
(Helga) Hyd nes y byddwch chi'n rhy wan i godi eich llaw?
 
(Helga) Hyd nes y byddwch chi'n rhy wan i godi eich llaw?
(1, 0) 207 Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny.
(Helga) 'Rydych yn barod, felly, i aberthu eich iechyd a pheryglu eich bywyd.
 
(Helga) A'r cyfan er mwyn ─
(1, 0) 210 Er mewn delfryd, Helga.
(1, 0) 211 Ydw', 'rwy'n barod i wneud hynny...
(1, 0) 212 Ond 'does dim achos iti bryderu.
(1, 0) 213 'Rwy' i bron wedi gorffen.
(1, 0) 214 Yr wythnos nesa' mi fyddaf yn traddodi'r araith yma o flaen y Senedd ─
(Helga) Hyn i gyd er mwyn un araith!
 
(Helga) Hyn i gyd er mwyn un araith!
(1, 0) 216 Nid er mwyn un araith.
(1, 0) 217 Er mwyn dyfodol a hapusrwydd y genedl, Helga.
(1, 0) 218 Beth yw fy iechyd i o'i gymharu â hynny?
(1, 0) 219 'Rwy' i'n barod i farw drosti os bydd rhaid.
 
(1, 0) 222 Botha... Pwy?... O, Malán... Be'sy'nbod?...
(1, 0) 223 Beth?
(1, 0) 224 Dŵr?
 
(Helga) 'Nhad!
(1, 0) 227 Ond mae hyn yn ddifrifol!
(1, 0) 228 Pa siafft dd'wedsoch chi?
(1, 0) 229 O, 'dyw hynny ddim mor ddrwg...
(1, 0) 230 Wrth gwrs, fe wnaethoch yn iawn...
(1, 0) 231 'Oes yna lawer o ddifrod?...
(1, 0) 232 O, rwy'n gweld...
(1, 0) 233 Ond y gweithwyr, Malán, beth am y gweithwyr?...
(1, 0) 234 Dau?
(1, 0) 235 Rhaid eu cael allan, doed a ddelo...
(1, 0) 236 Costied a gostio, Malán, 'rydych chi'n deall?...
(1, 0) 237 Pwy?
(1, 0) 238 Hendricks?
 
(1, 0) 240 Mae'n dda gen' i glywed...
(1, 0) 241 Ia, 'rwy'n dibynnu arnoch chi...
(1, 0) 242 O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha.
(Helga) Be' sy'n bod?
 
(Helga) Be' sy'n bod?
(1, 0) 245 Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll.
(Helga) Beth am Karl?
 
(Helga) Beth am Karl?
(1, 0) 247 Paid â phryderu.
(1, 0) 248 Mae Karl yn ddiogel.
(Helga) Ond y gweithwyr?
 
(1, 0) 251 Dau negro ar goll.
(1, 0) 252 Ond mae Karl yn ceisio'u hachub.
(1, 0) 253 'Roedd Malán yn swnio'n eitha' ffyddiog.
(Helga) Ond Karl, — 'oes yna beryg?
 
(Helga) Ond Karl, — 'oes yna beryg?
(1, 0) 255 Paid â phoeni, 'merch i.
(1, 0) 256 'Ddaw dim niwed iddo fo.
(1, 0) 257 Mae'r gwaetha' drosodd erbyn hyn.
(1, 0) 258 Fe ddaw yma cyn bo hir, mae'n debyg.
(Amos) Dr. Hoffman, Syr.
 
(Hoffman) Botha, 'glywaist ti am y pwll?
(1, 0) 263 Do, Hoffman.
(1, 0) 264 Mae Malán newydd fod ar y teliffôn.
(Hoffman) Oes yna rywun wedi —?
 
(Hoffman) Oes yna rywun wedi —?
(1, 0) 266 Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud.
(Hoffman) Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll.
 
(Hoffman) Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll.
(1, 0) 268 Dau, Hoffman, dau negro.
(1, 0) 269 A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg.
(Hoffman) O, mae'n dda gen' i glywed.
 
(Hoffman) O, mae'n dda gen' i glywed.
(1, 0) 271 Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg!
(Helga) Peth naturiol yw pryder, 'nhad.
 
(Hoffman) Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha?
(1, 0) 281 Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman.
(1, 0) 282 'Does yna fawr o aur ar ôl yn y rhan yna o'r pwll.
(1, 0) 283 Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd.
(Hoffman) Wel, mae hynna'n ollyngdod.
 
(1, 0) 296 Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman.
(Hoffman) 'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha.
 
(Hoffman) 'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha.
(1, 0) 298 Ia, — ond y brys anarferol!
(1, 0) 299 Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn.
(Hoffman) 'Dwy' i ddim yn deall.
 
(Hoffman) Beth arall?
(1, 0) 302 Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr!
(Hoffman) {Chwerthin.}
 
(Hoffman) Hwyrach na choeli di ddim, ond fel cyffur y bydda' i'n edrych ar aur, nid fel cyfoeth.
(1, 0) 307 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman!
(Hoffman) Mae'n berffaith wir iti.
 
(Hoffman) Fe wyddost yn eitha' da pam 'rydw' i yma, Botha.
(1, 0) 311 Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna!
(1, 0) 312 Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod.
(Hoffman) Fy nyletswydd fel meddyg ydy' iachâu.
 
(Hoffman) Pam wyt ti'n mynnu bod mor styfnig?
(1, 0) 316 Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu?
(1, 0) 317 Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely!
(Hoffman) Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw.
 
(Hoffman) Hawdd y gelli di chwerthin, Botha!
(1, 0) 324 'Wyddost ti pam?
(1, 0) 325 Mae'r ddrama fach yma wedi digwydd inni'n dau o'r blaen.
(1, 0) 326 Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio?
(Hoffman) Hanner munud rŵan —!
 
(Hoffman) Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga.
(1, 0) 330 Dim o gwbl.
 
(1, 0) 332 Rhyw chwech oed oeddit ti ar y pryd.
(1, 0) 333 Fe ddaeth rhyw haint i'r dre yma, a channoedd yn cael eu taro'n bur wael.
(1, 0) 334 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman.
(Hoffman) 'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg.
 
(Hoffman) 'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg.
(1, 0) 336 Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn.
(1, 0) 337 Pla'r negrod oedd o, yn codi o fudreddi'r Dre-Sianti.
(1, 0) 338 P'run bynnag, mi ge's i'r salwch.
(1, 0) 339 A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth.
(Hoffman) Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw!
 
(Hoffman) Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw!
(1, 0) 341 Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser!
(1, 0) 342 A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos!
(Hoffman) Felly'n wir!
 
(Hoffman) Wel, paid â dibynnu ar lwc eto.
(1, 0) 345 Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd.
(Hoffman) 'Rwy'n cymryd dy wydnwch i ystyriaeth.
 
(Hoffman) 'Dwy'i i ddim yn gwneud camgymeriad, 'wyddost ti.
(1, 0) 349 Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw!
(Hoffman) Mi ydw' i'n trio 'ngora glas dy gadw di'n fyw.
 
(1, 0) 352 Ac yr wy'n dal i fod yma er dy waetha'!
(Helga) 'Nhad!
 
(Hoffman) Mae'r hen gorff gwydn yma'n erfyn am orffwys.
(1, 0) 356 'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill.
(1, 0) 357 Mae gen' i waith i'w wneud.
(Hoffman) Fel hen gyfaill, 'wnei di goelio am funud 'mod i o ddifri'?
 
(Hoffman) 'Mod i'n wir bryderus yn dy gylch?
(1, 0) 360 Heb achos, yn siŵr iti.
(Helga) 'Rydych yn gwastraffu eich anadl, Dr. Hoffman.
 
(Hoffman) Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory.
(1, 0) 366 Pam yfory?
(Hoffman) 'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe?
 
(Hoffman) 'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe?
(1, 0) 368 Ydw.
(Hoffman) 'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz.
 
(Hoffman) 'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz.
(1, 0) 370 Hertz?
(1, 0) 371 Pwy ydy' Hertz?
(Hoffman) Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha.
 
(Hoffman) Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha.
(1, 0) 373 A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg.
(1, 0) 374 Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog!
(Hoffman) Tipyn o salwch?
 
(Hoffman) Gwrando, Botha, mae gen' i newydd pur ddifrifol iti.
(1, 0) 377 O?
(1, 0) 378 Wel, allan â fo.
(1, 0) 379 Paid â chelu dim.
(Hoffman) 'Rwyf i o'r farn fod triniaeth law-feddygol yn angenrheidiol iti.
 
(Hoffman) A hynny ar frys.
(1, 0) 382 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau?
(Hoffman) Bron yn siŵr ─
 
(Hoffman) Bron yn siŵr ─
(1, 0) 384 A!
(Hoffman) 'Does 'run meddyg yn anffaeledig.
 
(Hoffman) Fe fydd yn rhaid iti gael trawsnewid gwaed cyn hynny.
(1, 0) 389 Pam?
(Hoffman) O, paid â gofyn imi fanylu, Botha.
 
(Hoffman) Mae gennyt ddigon o ymddiriedaeth yn fy nhipyn gallu erbyn hyn, gobeithio!
(1, 0) 392 'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman.
(1, 0) 393 Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau!
(Hoffman) Y felltith ydy' na wn i byth pa bryd yr wyt ti o ddifri' a phryd yr wyt ti'n cellwair.
 
(Hoffman) Ond aros funud, mae gen' i newydd arall, iti.
(1, 0) 396 Newydd drwg?
(Hoffman) Nid ynddo'i hun.
 
(Hoffman) Ond gallai achosi trafferth.
(1, 0) 399 Beth ydy' o?
(Hoffman) 'Wyddit ti dy fod yn perthyn i grŵp-gwaed prin?
 
(Hoffman) Mor brin ag un ymhob miliwn?
(1, 0) 402 Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin!
(Hoffman) Fel mater o ffaith dim ond un o'r grŵp hwnnw a welais i erioed.
 
(Hoffman) Rhyw bum mlynedd yn ôl.
(1, 0) 405 Pwy ydy'r dyn anrhydeddus?
(Hoffman) Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio.
 
(Hoffman) Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio.
(1, 0) 407 A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus!
(Hoffman) Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny.
 
(Hoffman) Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny.
(1, 0) 409 Wel?
(Hoffman) 'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod!
 
(Hoffman) 'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod!
(1, 0) 411 Druan o ddynol-ryw!
(Hoffman) O, fe ddown o hyd i'r dyn, paid â phryderu.
 
(Hoffman) Cawn weld beth fydd ei ddyfarniad yfory.
(1, 0) 417 Yfory?
(Hoffman) Ia, mae'n dod i'm gweld i'r ysbyty.
 
(Hoffman) 'Ge'st ti rywfaint o orffwys heddiw?
(1, 0) 421 Wel ─
(Helga) Dim un eiliad, Doctor.
 
(Hoffman) Llafurio a chwysu efo'i araith, mae'n debyg.
(1, 0) 426 Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman.
(1, 0) 427 Rywfodd neu'i gilydd 'rwy'n gweld pethau'n gliriach yn ddiweddar yma.
(1, 0) 428 Mae f'argyhoeddiad yn gryfach nag erioed.
(1, 0) 429 'Rwy'n hollol sicr fod cyfiawnder o'm plaid.
(1, 0) 430 O'm rhan i, mae'r Ddeddf Addysg newydd eisoes ar y Llyfr Statud.
(1, 0) 431 Mae'r araith i'w chyflwyno i'r Senedd yn barod gen' i yma.
(1, 0) 432 Ac os ca'i ddweud, 'rwy'n meddwl cryn dipyn ohoni.
(1, 0) 433 'Hoffit ti ei chlywed?
(Hoffman) Mae'n ormod o dreth ar dy nerth, Botha.
 
(Hoffman) Gwell peidio.
(1, 0) 436 Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte".
(1, 0) 437 Aros di...
 
(1, 0) 439 Ia, dyma ni.
 
(1, 0) 441 ~
(1, 0) 442 "Foneddigion:
(1, 0) 443 ~
(1, 0) 444 Braint ac anrhydedd i mi, yw rhoi'r Ddeddf Addysg newydd ger eich bron.
(1, 0) 445 Yn ddiamau fe fydd yn garreg filltir nodedig yn hanes ein cenedl.
(1, 0) 446 Fe'i cyflwynaf i chwi yn llawn hyder gwladgarwch diffuant.
(1, 0) 447 Dichon y gwelwch yn ddoeth i newid rhai o'r manylion: ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu hynny.
(1, 0) 448 Ond ni oddefir unrhyw ymyrryd â'r egwyddor fawr sy'n sylfaen iddi: egwyddor sy'n hanfodol i ddiogelwch ein gwlad a ffyniant ein cenedl."
 
(1, 0) 452 "Foneddigion:
(1, 0) 453 ~
(1, 0) 454 Cyfnod o argyfwng yw hwn: cyfnod o brawf.
(1, 0) 455 Rhaid wrth weledigaeth glir ac argyhoeddiad pendant.
(1, 0) 456 Mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i'n plant ac i blant ein plant.
(1, 0) 457 Na ato Duw inni eu bradychu!
(1, 0) 458 Pwy sydd yma nad yw enw De Affrig yn gysegredig iddo?
(1, 0) 459 Pwy sydd yma na wêl reidrwydd aberth a ffydd ddigyfaddawd?
(1, 0) 460 Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco!
(1, 0) 461 Gwladgarwch, Foneddigion, gwladgarwch angerddol yw Apartheid, — a'i unig gyfiawnhad.
(1, 0) 462 Apartheid, — fe welodd ddyddiau tywyll: cafodd ei feirniadu'n llym.
(1, 0) 463 Onid dyna dynged pob egwyddor chwyldroadol ymhob oes?
(1, 0) 464 Ond aros y mae er gwaethaf dichell a chenfigen.
(1, 0) 465 Ac nid oes raid ymddiheuro drosti: mae Deddf Duw o'n plaid, — dau liw a dwy gymdeithas.
(1, 0) 466 Awn ymlaen yn hyderus, felly, a golau fflam newydd yn ein hysgolion a'n colegau.
(1, 0) 467 Fe rydd y Ddeddf Addysg hon holl fanteision Apartheid i ieuenctid ein gwlad, — y du a'r gwyn fel ei gilydd.
(1, 0) 468 Y du a'r gwyn, yn rhydd i ddilyn ffydd a thraddodiad eu tadau: yn rhydd i feithrin eu talentau fel y gallont.
(1, 0) 469 O anhrefn daeth trefn: o'r diffeithwch daeth gardd flodau.
(1, 0) 470 Apartheid yw'r unig iechydwriaeth i'n gwlad: onibai fy mod yn credu hynny o waelod fy enaid ni fyddwn yn rhoi'r Ddeddf yma ger eich bron.
(1, 0) 471 Mae llygaid y byd arnom, Foneddigion: fe fyddwn yn esiampl iddo o genedl ranedig, gytûn."
 
(1, 0) 474 Wel, Hoffman?
(Hoffman) Mae'n rymus, Botha.
 
(Hoffman) Rhaid imi dy longyfarch.
(1, 0) 478 Diolch iti.
(1, 0) 479 Mae gen' i barch i'th farn.
(Hoffman) {Gafael ym mraich Botha.}
 
(1, 0) 488 Druan ohonot ti, Hoffman.
(1, 0) 489 'Rwyt ti mor ffwdanus â hen ferch, weithia'!...
(1, 0) 490 O'r gora', dim pwt o waith eto heddiw.
(1, 0) 491 'Rwy'n rhoi fy ngair iti.
(Hoffman) Gobeithio y cofi di hynna ar ôl i mi fynd!
 
(Hoffman) P'nawn da i chwi eich dau,
(1, 0) 497 P'nawn da, Hoffman.
(1, 0) 498 A diolch iti.
(Helga) P'nawn da, Doctor.
 
(1, 0) 505 O wel, dyna hynna drosodd.
(Helga) Tan yfory, 'nhad.
 
(Helga) Tan yfory, 'nhad.
(1, 0) 507 Ia... tan yfory.
 
(Helga) Mae Amos wedi dod â'ch llefrith chi, 'nhad.
(1, 0) 510 Ydy'... alla' i mo'i yfed o rŵan: nid ar ôl y gwin yna...
(1, 0) 511 Beth wyt ti'n ei feddwl o'r araith yma?
(Helga) 'Rwy' i'n cyd-weld â Dr. Hoffman.
 
(Helga) Ond...
(1, 0) 515 Ond?
(Helga) Rhaid imi fod yn onest, 'nhad.
 
(Helga) 'Dwy' i ddim yn deall yn iawn ─
(1, 0) 518 Wel, gad imi geisio egluro iti.
(1, 0) 519 Beth yn hollol wyt ti ddim yn 'i ddeall?
(Helga) Wel, yn gyntaf, yr ysgolion cenhadol.
 
(Helga) Wel, yn gyntaf, yr ysgolion cenhadol.
(1, 0) 521 Beth amdanyn' nhw?
(Helga) 'Fyddan' nhw, hefyd, yn dod o dan y Ddeddf Addysg newydd?
 
(Helga) 'Fyddan' nhw, hefyd, yn dod o dan y Ddeddf Addysg newydd?
(1, 0) 523 Wrth gwrs y byddan' nhw.
(1, 0) 524 Fe gânt gyd-ymffurfio neu gau eu drysau.
(Helga) 'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad.
 
(Helga) 'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad.
(1, 0) 527 Nac wyt ti?
(1, 0) 528 Buan iawn y gwelan' nhw eu camsyniad.
(1, 0) 529 Fedrwn ni ddim cyfaddawdu yn y mater yma, Helga: 'feiddiwn ni ddim.
(1, 0) 530 A pheth arall, rydym yn gwneud hyn oll yn enw Duw, ac yn unol â'i ddoethineb.
(1, 0) 531 Fe wnaeth yr Eglwys hynna'n berffaith eglur y llynedd.
(Helga) Ond mae'r ysgolion yma wedi gwneud gwaith da, 'nhad.
 
(Helga) Ond mae'r ysgolion yma wedi gwneud gwaith da, 'nhad.
(1, 0) 533 'Rwy'n cydnabod hynny.
(1, 0) 534 Ond un peth ydy' lledaenu'r Efengyl: myfi fyddai'r olaf i wahardd cymwynas o'r fath.
(1, 0) 535 Ond pan ddaw llechgwn o estroniaid i'r wlad yma i greu anghydfod yn enw crefydd, rhaid eu ffrwyno.
(Helga) 'Ydych chi'n meddwl o ddifri' fod hynny'n digwydd?
 
(Helga) 'Ydych chi'n meddwl o ddifri' fod hynny'n digwydd?
(1, 0) 537 'Rwy'n gwybod ei fod yn digwydd.
(1, 0) 538 Mae gen' i ddigon o brawf.
(1, 0) 539 'Fydda' i byth yn cyhuddo heb fod yn berffaith siŵr o'r ffeithiau.
(Helga) Fe ddaw hyn â chaledi i lawer, 'nhad.
 
(Helga) Fe ddaw hyn â chaledi i lawer, 'nhad.
(1, 0) 541 Fe fydd yn gymwynas i'r mwyafrif.
(1, 0) 542 Rhaid wrth drefn cyn daw cynnydd.
 
(Helga) 'Glywsoch chi sŵn aflafar allan yn yr ardd, gynna', 'nhad?
(1, 0) 546 Na, 'sylwais i ddim.
(1, 0) 547 Beth oedd yna?
(Helga) Haid o wylanod yn ymlid brân.
 
(Helga) Haid o wylanod yn ymlid brân.
(1, 0) 549 'Oes yna rywbeth yn od yn hynny?
(Helga) Am ei bod hi'n wahanol iddyn' nhw, mae'n debyg.
 
(Helga) Am ei bod hi'n ddu a hwythau'n wyn.
(1, 0) 552 Mae'r brain, pan gânt gyfle, yn ymlid y gwylanod.
(1, 0) 553 Cofia hynna, 'wnei di?
(1, 0) 554 Mae'n beth hollol naturiol.
(Helga) {Troi i wynebu Botha.}
 
(1, 0) 560 Mae gen' ti natur deimladol a dychymyg rhamantus, 'merch i.
(1, 0) 561 Ac 'rwy'n dy edmygu am hynny: mae'n beth da.
(1, 0) 562 Ond rhaid iti ddysgu wynebu ffeithia', wyddost ti.
(1, 0) 563 Oni wnei di, 'rwyt ti'n siŵr o gael dy frifo.
(1, 0) 564 'Rwy'n siarad o hir brofiad.
(1, 0) 565 'Dwyt ti ond ifanc eto.
(1, 0) 566 Coelia fi, mi weli di'n wahanol ryw ddiwrnod.
(Helga) 'Dwy i ddim yn siŵr fod arna' i eisiau gweld yn wahanol, 'nhad.
 
(Helga) 'Dwy i ddim yn siŵr fod arna' i eisiau gweld yn wahanol, 'nhad.
(1, 0) 568 'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud?
(Helga) Mae'n ddrwg gen' i.
 
(Helga) Ond 'alla' i mo'i gadw i mi fy hun ddim mwy.
(1, 0) 571 Helga!
(Helga) Anghyfiawnder y peth, — dyna sy'n ffiaidd gen' i.
 
(Helga) Anghyfiawnder y peth, — dyna sy'n ffiaidd gen' i.
(1, 0) 573 'Dwy'i ddim yn dy ddeall.
(1, 0) 574 'Wyt ti ddim yn gweld mai cenedl ifanc ydym ni?
(1, 0) 575 Cenedl ifanc yn ceisio sefyll ar ei thraed ei hun?
(1, 0) 576 Mae'r frwydr yn un fawr: rhaid inni ymdrechu'n barhaus.
(1, 0) 577 Ac nid ar chwarae bach y llwyddwn ni.
(1, 0) 578 Wrth gwrs fod yna anghyfiawnder: wrth gwrs fod yna galedi.
(1, 0) 579 Mae hynny'n anochel.
(1, 0) 580 Ond allwn ni ddim troi'n ôl.
(1, 0) 581 Ffolineb fyddai gwangalonni, rŵan, wedi inni fynd mor bell.
(Helga) Ffolineb yw brawd-garwch, felly?
 
(Helga) Ffolineb yw brawd-garwch, felly?
(1, 0) 583 'Rwyt ti'n ystumio fy ngeiriau, Helga.
(1, 0) 584 Nid dyna 'roeddwn i'n 'i feddwl.
(1, 0) 585 Ond na hidia: amser a ddengys.
(1, 0) 586 Hyd yma 'dwyt ti erioed wedi gorfod wynebu'r broblem yn dy fywyd dy hun.
(1, 0) 587 Dyna'r prawf wedi'r cyfan.
(1, 0) 588 Rhagfarn a chasineb ddywedaist ti?
(1, 0) 589 Paid â chamsynio, 'merch i!
(1, 0) 590 Wyt ti'n meddwl am foment y bradychwn i fy nghydwybod fy hun?
(Helga) Nid o fwriad, efallai.
 
(Helga) A hynny dan yr argraff eu bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn.
(1, 0) 594 'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd.
(Helga) 'Ydw' i?
 
(Helga) Dynion heb egwyddor.
(1, 0) 599 'Chei di ddim dweud hynna, Helga.
(Helga) Mae'n berffaith wir, 'nhad.
 
(Helga) Mae nhw'n wahanol i chi
(1, 0) 602 Yn ymladd yr un frwydr ─
(Helga) Ond nid â'r un arfau.
 
(Helga) O, 'nhad, pam na welwch chi?
(1, 0) 605 Helga fach, 'rwyt ti'n mwydro dy ben pert yn ofer.
(1, 0) 606 Nid â'r galon y mae gwleidydda.
(1, 0) 607 'Dwyt ti ddim yn deall y pethau yma, 'wyddost ti.
(Helga) 'Rwy'n deall digon i ─
 
(Helga) 'Rwy'n deall digon i ─
(1, 0) 609 Rhaid iti gael mwy o ffydd ynof i, 'merch i.
(1, 0) 610 Mae arna' i ei heisiau, Duw a ŵyr: mae ar y wlad ei heisiau.
(Amos) Mr. Karl Hendricks!
 
(1, 0) 619 Hendricks!...
(1, 0) 620 Be' sy'n bod?
(Helga) Wyt ti wedi d'anafu?
 
(Karl) Na, mi ydw' i'n iawn, Helga.
(1, 0) 623 Y dynion, Hendricks?
(Karl) {Ysgwyd ei ben.}
 
(Karl) Fe wyddoch amdano?
(1, 0) 634 Gwn, 'machgen i, gwn.
(Karl) Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan...
 
(Karl) Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha.
(1, 0) 637 Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna.
(1, 0) 638 Nid dy fai di oedd o.
(Karl) Dim ond pum munud...
 
(Karl) Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha.
(1, 0) 650 Gwn, 'machgen i.
(1, 0) 651 Mae'n arswydus...
(1, 0) 652 Ond fe aeth y dŵr i lawr?
(Karl) Do, mor sydyn ag y cododd.
 
(Karl) Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd...
(1, 0) 665 Profiad dychrynllyd, Hendricks.
(1, 0) 666 Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau.
(Karl) Pum munud...!
 
(Karl) Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes.
(1, 0) 673 Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar.
(Karl) Dim ond wythnos yn ôl.
 
(Karl) 'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo.
(1, 0) 676 Fel yna mae'n digwydd weithia'.
(Karl) Ia, ond yr eironi chwerw ydy'...
 
(Karl) Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw.
(1, 0) 681 'Rwy'n deall.
(Karl) Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb?
 
(Karl) Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha!
(1, 0) 694 Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti.
(Karl) 'Dwy'i ddim yn gorliwio.
 
(Karl) 'Dwy'i ddim yn gorliwio.
(1, 0) 696 'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks.
(1, 0) 697 Mae gan Malán berffaith hawl i'w ddaliadau, beth bynnag ydyn' nhw.
(1, 0) 698 Ond mae o'n gyfrifol i mi am ddiogelwch pob gweithiwr yn y pwll, y du a'r gwyn fel ei gilydd.
(1, 0) 699 Os gwelaf fod ei ddaliadau'n peryglu bywyd un ohonynt, — fe ŵyr y canlyniadau.
(1, 0) 700 Hyd yma 'dyw hynny ddim wedi digwydd.
(1, 0) 701 'Does gen' i ond y gair gora' i Malán fel gwas ffyddlon a gweithgar i'r Cwmni...
(1, 0) 702 Ond mae Helga'n iawn: 'rwyt ti'n ffôl i deimlo'n euog am ddamwain anochel.
(1, 0) 703 Noson o gwsg sydd arnat ti 'i eisiau.
(1, 0) 704 Mi weli di bethau'n gliriach yfory, â chydwybod tawel.
(1, 0) 705 Peth da yw tosturi, Hendricks, ond cymer gyngor gen' i: paid â'i gario fel pwn ar dy gefn beunydd.
(1, 0) 706 Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, wyddost ti...
(1, 0) 707 Ond mae'n ddigon hawdd siarad: 'rwy'n cofio'r ddamwain gynta' erioed yn yr hen waith yna, pan laddwyd fy ffrind penna'...
(1, 0) 708 Mae hyn yn dod â'r cyfan yn ôl imi.
(1, 0) 709 'Rwy'n cofio, fel petai ddoe, y distawrwydd syfrdan, a dieithrwch angau a fferdod gofid...
(1, 0) 710 Mi wn i'n iawn sut yr wyt ti'n teimlo...
(1, 0) 711 "Chafodd yna neb arall ei anafu?
(Karl) Naddo, diolch i'r nefoedd.
 
(Karl) Mae hyn yn ddigon.
(1, 0) 714 Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i.
(1, 0) 715 Ond paid â gweld bai arnat dy hun...
(1, 0) 716 'Gymeri di lymaid o rywbeth?
(Karl) Na, dim diolch, Mr. Botha.
 
(Helga) 'Nhad?
(1, 0) 725 Wrth gwrs!
(1, 0) 726 Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo.
(Karl) Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha.
 
(Karl) Mi fydda' i'n iawn.
(1, 0) 729 'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna.
(1, 0) 730 'Allwn ni ddim fforddio dy gael dithau'n wael hefyd, 'wyddost ti.
(Helga) Mi af i ddweud wrth Amos.
 
(Helga) {Exit Helga.}
(1, 0) 733 Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu?
(Karl) Oes, mae'r ddau yn briod.
 
(Karl) Un â phedwar o blant, a'r llall â dau.
(1, 0) 736 Trueni...
(1, 0) 737 Rhaid imi feddwl am y peth.
 
(Karl) Maddeuwch imi, Mr. Botha...
(1, 0) 740 Ia, Hendricks?
(Karl) Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi.
 
(Karl) Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi.
(1, 0) 742 Gofyn.
(Karl) 'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw?
 
(Karl) 'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw?
(1, 0) 744 Beth wyt ti'n 'i feddwl?
(Karl) Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd.
 
(Karl) Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd.
(1, 0) 746 Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna.
(Karl) Eich pardwn am y tro, Mr. Botha.
 
(Karl) Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro.
(1, 0) 751 Nac ydy', — yn swyddogol.
(1, 0) 752 Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i.
(Karl) Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha...
 
(Karl) Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha.
(1, 0) 760 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(1, 0) 761 Ond nid dyma'r amser i'w drafod, 'machgen i.
(1, 0) 762 Dos i ymolchi a newid, rŵan.
(1, 0) 763 Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni.
(Karl) Gorffwys?
 
(Karl) Gorffwys?
(1, 0) 765 Ia, ia, paid â dadla'!
(1, 0) 766 Mi gawn ni sgwrs nos yfory.
(1, 0) 767 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod?
(Karl) Gallaf yn siŵr: mi af ati heno...
 
(1, 0) 772 'Alla' i ddim peidio â meddwl am y ddau negro yna...
(1, 0) 773 Ddwy awr yn ôl 'roeddyn' nhw'n fyw ac iach.
(1, 0) 774 A rŵan ─
(Helga) {Yn ddistaw.}
 
(Helga) Hwyrach eu bod yn well allan.
(1, 0) 777 Beth dd'wedaist ti?
(Helga) Hidiwch befo, rŵan, 'nhad.
 
(Helga) 'Does arna' i ddim eisiau eich blino.
(1, 0) 780 Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim.
(Helga) Mae dynion yn bwysicach na syniadau i mi.
 
(Helga) Mae dynion yn bwysicach na syniadau i mi.
(1, 0) 782 'Wyt ti ddim yn gweld y perygl?
(1, 0) 783 'Wyddost ti ddim fod y gelyn yn cynllwynio yn ein herbyn?
(1, 0) 784 A hynny dan rith crefydd?
(1, 0) 785 'Rwy'n siŵr fod yn rhaid rhoi terfyn ar hynny?
(Helga) Ond sut?
 
(Helga) Ond sut?
(1, 0) 787 Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus.
(Helga) I ba ddiben?
 
(Helga) I ba ddiben?
(1, 0) 789 I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw.
(Helga) Ym mha ffordd?
 
(Helga) Ym mha ffordd?
(1, 0) 791 Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl.
(Helga) O, 'nhad, beth a wyddoch chi am Y Cymrodyr?
 
(Helga) O, 'nhad, beth a wyddoch chi am Y Cymrodyr?
(1, 0) 793 'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas?
(Helga) Ond fuoch chi ddim ar y Pwyllgor rŵan ers... ers faint?
 
(Helga) Ond fuoch chi ddim ar y Pwyllgor rŵan ers... ers faint?
(1, 0) 795 Ers rhyw dair blynedd.
(1, 0) 796 Beth am hynny?
(Helga) Mae yna lawer wedi digwydd yn y cyfamser.
 
(Helga) 'Rwy'n gobeithio o waelod fy nghalon nad ydych chi ddim yn gwybod.
(1, 0) 801 Am beth wyt ti'n sôn?
(Helga) Am Y Cymrodyr.
 
(1, 0) 808 Helga —!
(Helga) Os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod am hyn, — ac wrth gwrs mae nhw |yn| gwybod — ffug a rhagrith ydy'r cyfan!
 
(1, 0) 811 Helga, rhaid iti beidio â siarad fel yna, 'wyt ti'n deall?
(1, 0) 812 'Wyt ti'n mynnu mynd ar dy ben i drybini?
(1, 0) 813 A minnau i'th ganlyn?
(1, 0) 814 Mae'r pamffledi felltith yna wedi troi dy ben, yn amlwg.
(1, 0) 815 Adnodau o'r Ysgrythur ar un ochr, a phropaganda ffiaidd y Comiwnyddion ar yr ochr arall.
(Helga) "Salvadór "?
 
(Helga) "Salvadór "?
(1, 0) 817 "Salvadór," ia...
(1, 0) 818 Sut y gwyddit ti yr enw?
(Helga) Fe ddangosoch un o'r pamffledi imi yr wythnos ddiwetha'.
 
(Helga) Fe ddangosoch un o'r pamffledi imi yr wythnos ddiwetha'.
(1, 0) 820 Fe'i rhoddais iti i'w losgi, nid ei ddysgu.
(1, 0) 821 A'i daflu'n ôl yn fy wyneb wedyn!
 
(1, 0) 823 'Rwyt ti'n rhy ifanc a dibrofiad i ddeall y pethau yma.
(1, 0) 824 Dyna pam 'rwy' mor amyneddgar â thi.
(1, 0) 825 Ar y llaw arall 'rwyt ti'n rhy hen i wneud gwaith y Comiwnyddion iddyn' nhw, yn rhad ac am ddim.
(1, 0) 826 Mae'n ffiaidd, Helga, mae'n ffiaidd ac yn sâl.
(Helga) 'Gaf i ddweud rhywbeth wrthych chi, 'nhad?
 
(Helga) 'Gaf i ddweud rhywbeth wrthych chi, 'nhad?
(1, 0) 828 Wel?
(Helga) Fe gurwyd negro i farwolaeth yn Stryd Kruger neithiwr.
 
(Helga) 'Roeddwn i yno.
(1, 0) 834 Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun?
(Helga) Na, nid yn hollol ─
 
(Helga) Na, nid yn hollol ─
(1, 0) 836 Aha —!
(Helga) Ond fe welais dwr o bobol yn sefyll o'i amgylch.
 
(Helga) O, beth ddaw ohono' ni?
(1, 0) 843 'Rwy'n gweld, rŵan, be' sy'n dy boeni...
(1, 0) 844 Tyrd, 'merch i, paid â bod mor galon-feddal.
(1, 0) 845 Fe fydd rhywun yn siŵr o ofalu am y bychan.
(1, 0) 846 Mae'n ddrwg gen' i am ei dad.
(1, 0) 847 Ond nid dyna'r negro cyntaf i syrthio mewn ffrwgwd rhwng hwliganiaid.
(Helga) Ffrwgwd rhwng hwliganaid!
 
(Helga) O, mae'n ddigon i wneud i rywun gyfogi!
(1, 0) 853 Gwrando arna' i, Helga.
(1, 0) 854 'Dyw'r wlad yma ddim yn berffaith o lawer, Duw a ŵyr.
(1, 0) 855 A 'dydy' ni, y dynion sy'n ei harwain ddim yn berffaith 'chwaith.
(1, 0) 856 Ond rydym yn gwneud ein gorau glas i wella pethau, yn ôl ein hychydig ddoethineb.
(1, 0) 857 Ond 'does 'run ohonom yn anffaeledig...
(1, 0) 858 'Rydym yn gwneud hyn oll i chwi, ein plant.
(1, 0) 859 'Wyt ti ddim yn credu ein bod yn haeddu eich cefnogaeth?
(1, 0) 860 Yn lle hynny, be' sy'n digwydd?
(1, 0) 861 Amheuaeth, crach-feirniadu a sarhâd.
(1, 0) 862 O, mae'n ddigon hawdd i ti fod yn deimladol a ffroen-uchel ynghylch Apartheid!
(1, 0) 863 Aros nes y doi di wyneb yn wyneb â'r broblem yn dy fywyd dy hun.
(1, 0) 864 Fel y dywedais i, — dyna'r prawf.
(1, 0) 865 Mae'r broblem yn ddigon anodd fel y mae, heb i ti ei chymhlethu'n fwy.
(1, 0) 866 O, 'rwy'n edmygu dy ysbryd a'th frwdfrydedd.
(1, 0) 867 Rhinweddau ieuenctid ydy'r rheini ym mhob oes.
(1, 0) 868 Ond oni ddefnyddi di nhw'n adeiladol fe'u llygri...
(1, 0) 869 'Rŵan, gad lonydd imi.
(1, 0) 870 'Rwy' i wedi blino...
 
(1, 0) 874 Edrych, dyma un arall ohonyn' nhw.
(1, 0) 875 Mi hoffwn i wybod sut y ma' nhw'n dod i'r tŷ yma...
(1, 0) 876 Darllen o.
(Helga) {Taflu golwg ar y pamffled.}
 
(Helga) Cyfres o adnodau ydy'r rhain, 'nhad.
(1, 0) 879 Edrych ar y sorod gwenwynig yr ochr arall.
(1, 0) 880 A'r enw ar y gwaelod, — "Salvadór" — Gwaredwr!
(1, 0) 881 Penboethyn hanner-pan, mae'n debyg.
(1, 0) 882 Llechgi o Gomiwnydd!
(1, 0) 883 Hwn a'i siort sy'n creu anghydfod a chwerwedd rhwng Du a Gwyn.
(1, 0) 884 Mi rown i unrhyw beth i gael gafael ynddo fo!
(Amos) Esgusodwch fi, Syr.
 
(Amos) Chi ddim wedi yfed y llefrith, Syr.
(1, 0) 890 Hidia befo'r llefrith, Amos.
(1, 0) 891 Tyrd yma.
(Amos) Syr?
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 894 Beth a wyddost ti am hwn?
(Amos) Syr?
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 897 O, paid â bod mor hurt!
(1, 0) 898 Mae arna' i eisiau gwybod sut y daeth ar fy nesg.
(1, 0) 899 Edrych arno.
(Amos) Fi ddim yn medru darllen yn dda, Syr.
 
(Amos) Fi ddim yn medru darllen yn dda, Syr.
(1, 0) 901 Ys gwn i!...
(1, 0) 902 Welaist ti o o'r blaen?
(Amos) Naddo, Syr.
 
(Amos) Naddo, Syr.
(1, 0) 904 Edrych ym myw fy llygaid, Amos.
(1, 0) 905 'Wyt ti'n dweud y gwir?
(Amos) Ydw', Syr.
 
(1, 0) 909 O'r gora'.
(1, 0) 910 'Che's i erioed achos, hyd yma, i amau d'air.
(1, 0) 911 Ond os gweli di sothach maleisus fel hwn eto, dan enw "Salvadór," rho fo yn y tân.
(1, 0) 912 'Wyt ti'n deall?
(Amos) {Yn ddistaw ac ofnus.}
 
(Amos) "Salvadór"!
(1, 0) 915 Ia.
(1, 0) 916 'Wyddost ti pwy ydy' o?
(Amos) Syr?
 
(Amos) Syr?
(1, 0) 918 Ateb fy nghwestiwn, 'wyddost ti pwy ydy' o?
(Amos) Na wn, Syr...
 
(Amos) Ond fi ddim yn gwybod, Syr.
(1, 0) 923 'Wyt ti'n siŵr, rŵan?
(Amos) Ydw', Syr.
 
(Amos) Gwneud fy ngwaith yn ddistaw a meindio fy musnes.
(1, 0) 927 O'r gora', 'rwy'n dy goelio.
(1, 0) 928 Ond deall hyn: os byth y caf allan dy fod yn celu rhywbeth, fe fydd yn edifar gan dy enaid.
(1, 0) 929 'Ydy' hynna'n glir?
(Amos) 'Ydy', Syr...
 
(Amos) 'Oes yna rywbeth arall, Syr?
(1, 0) 932 Na, dyna'r cyfan.
(1, 0) 933 Cei fynd rŵan.
(Helga) Amos, aros am funud.
 
(Helga) 'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach?
(1, 0) 939 Beth?...
(1, 0) 940 Cei, wrth gwrs.
(1, 0) 941 Syniad rhagorol...
(1, 0) 942 Dos i'r ardd ì nôl tusw iddo fo.
(Helga) Mi ddo' i â nhw yma, toc, Amos.
 
(Helga) 'Dydych chi ddim yn ddig gobeithio?
(1, 0) 953 Yn ddig?
(1, 0) 954 Am beth?
(Helga) 'Mod i'n rhoi blodau iddo fo?
 
(Helga) 'Mod i'n rhoi blodau iddo fo?
(1, 0) 956 Dim o gwbl, Helga...
(1, 0) 957 Os edrychwn ni ar ôl yr ardd, gall fod o fudd i eraill hefyd...
(1, 0) 958 'Wyt ti'n deall beth wy'n ei feddwl?