Ar Ddu a Gwyn

Ciw-restr ar gyfer Helga

(Amos) P'nawn da, Syr.
 
(Botha) Mae gen' i waith i'w wneud.
(1, 0) 111 'Nhad!
(Botha) {Codi ei ben i edrych arni.}
 
(Botha) Paid â symud am funud!
(1, 0) 115 Pam?
(1, 0) 116 'Oes rhywbeth o'i le?
(Botha) Na, na.
 
(Botha) Gad imi edrych arnat ti, dyna'r cyfan.
(1, 0) 119 'Dwy'i ddim yn deall —!
(Botha) 'Rwy' i'n mynd yn hen, 'merch i.
 
(Botha) Ond 'dwy' i ddim yn rhy hen i werthfawrogi prydferthwch.
(1, 0) 122 Gweniaith!
(Botha) Dim o gwbl.
 
(Botha) 'Elli di feddwl amdani'n ddiffeithwch?
(1, 0) 132 Na allaf, 'nhad.
(Botha) Wel, dyna oedd hi pan ddaethom yma gyntaf, dy fam a minnau.
 
(Botha) Ond diolch i Dduw, fe gawsom nerth a dyfal-barhad.
(1, 0) 140 Dim rhyfedd fod mam mor hoff ohoni!
(Botha) Symbol ydy'r ardd yna, Helga.
 
(Botha) Edrych Helga arno am ennyd, yna daw ymlaen.}
(1, 0) 153 'Ga i roi'r rhain ar eich desg chi, 'nhad?
(Botha) Beth?...
 
(Botha) {Mae Helga yn rhoi'r blodau mewn dysgl a dodi honno ar y ddesg.}
(1, 0) 158 'Rwy'n siŵr na fyddan' nhw ddim yn hapus ynghanol yr hen bapurau sychlyd yma!
(1, 0) 159 'Fydd yna ddim hir oes iddyn' nhw, mi gewch chi weld!...
(1, 0) 160 Wel, sut mae nhw'n edrych?
(Botha) Gwych, gwych.
 
(Botha) Rhaid iti ddod â rhai yma bod dydd o hyn ymlaen.
(1, 0) 164 'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed.
(Botha) Ydw', am 'wn i, ydw'.
 
(Botha) Ydw', am 'wn i, ydw'.
(1, 0) 166 Ac eto anfynych iawn y byddwch chi'n mynd iddi.
(Botha) Ia, rwy'n cyfadde'.
 
(Botha) Ia, rwy'n cyfadde'.
(1, 0) 168 Pam?
(Botha) 'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad.
 
(Botha) 'Rwy' i'n gohirio'r pleser hwnnw o fwriad.
(1, 0) 170 'Dwy'i ddim yn deall.
(Botha) Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi.
 
(Botha) Fe ddaw'r amser pan fydda' i'n berffaith rydd i'w mwynhau hi.
(1, 0) 172 'Does dim amser fel y presennol 'nhad.
(1, 0) 173 'Rydych chi wedi gweithio digon.
(1, 0) 174 Mae'n hen bryd ichi gymryd seibiant.
(1, 0) 175 'Rydych yn ei haeddu.
(Botha) Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto.
 
(Botha) Nac ydw', Helga: 'dyw fy ngwaith i ddim wedi ei orffen eto.
(1, 0) 177 Yr un hen gân!
(Botha) Dyletswydd yn gyntaf.
 
(Botha) Anghenion y wlad o flaen f'anghenion i.
(1, 0) 181 'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad?
(Botha) Beth?
 
(Botha) Beth?
(1, 0) 183 Fe wnaethoch addo peidio â gweithio heddiw.
(1, 0) 184 A dyma chi'n torri eich addewid yn barod.
(Botha) Ia, Helga, 'rwy'n gwybod.
 
(Botha) Ond ─
(1, 0) 187 'Ydych chi ddim yn sylweddoli'r peryg?
(1, 0) 188 Fe wyddoch yn iawn beth ddywedodd y doctor.
(Botha) Gwn yn iawn.
 
(Botha) Fe fyddai hynny'n fy lladd yn gynt na dim.
(1, 0) 192 'Rwy'n siŵr mai Dr. Hoffman sy'n gwybod orau.
(Botha) Fel mater o ffaith, 'does ganddo fo fawr o syniad be' sy'n bod arna' i.
 
(Botha) Rhaid gorliwio'r clefyd i siwtio fy safle!
(1, 0) 198 Mae'n pryderu o ddifri' yn eich cylch, 'nhad.
(1, 0) 199 Rydych wedi mynd i wendid mawr yn amlwg.
(Botha) Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan.
 
(Botha) Ychydig o annwyd, dyna'r cyfan.
(1, 0) 201 Nid annwyd a barodd ichi syrthio i lewyg fel y gwnaethoch chi ddoe,—yr ail dro o fewn pythefnos.
 
(1, 0) 203 Dowch, 'rydych chi wedi gwneud digon am heddiw: fe ddylech chi orffwys rŵan.
(Botha) Na ddylwn, Helga.
 
(Botha) Rhaid i mi fynd ymlaen tra medra' i.
(1, 0) 206 Hyd nes y byddwch chi'n rhy wan i godi eich llaw?
(Botha) Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny.
 
(Botha) Does dim rhaid cywilyddio oherwydd hynny.
(1, 0) 208 'Rydych yn barod, felly, i aberthu eich iechyd a pheryglu eich bywyd.
(1, 0) 209 A'r cyfan er mwyn ─
(Botha) Er mewn delfryd, Helga.
 
(Botha) Yr wythnos nesa' mi fyddaf yn traddodi'r araith yma o flaen y Senedd ─
(1, 0) 215 Hyn i gyd er mwyn un araith!
(Botha) Nid er mwyn un araith.
 
(Botha) {Botha yn codi.}
(1, 0) 226 'Nhad!
(Botha) Ond mae hyn yn ddifrifol!
 
(Botha) O'r gora', Malán, gadewch imi wybod sut y bydd petha.
(1, 0) 244 Be' sy'n bod?
(Botha) Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll.
 
(Botha) Dŵr wedi torri i mewn i un o'r siafftau yn y pwll.
(1, 0) 246 Beth am Karl?
(Botha) Paid â phryderu.
 
(Botha) Mae Karl yn ddiogel.
(1, 0) 249 Ond y gweithwyr?
(Botha) {Saib eiliad.}
 
(Botha) 'Roedd Malán yn swnio'n eitha' ffyddiog.
(1, 0) 254 Ond Karl, — 'oes yna beryg?
(Botha) Paid â phoeni, 'merch i.
 
(Botha) Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg!
(1, 0) 272 Peth naturiol yw pryder, 'nhad.
(Hoffman) O, p'nawn da, Helga.
 
(Hoffman) 'Wnes i ddim bwriadu bod yn anghwrtais.
(1, 0) 275 Popeth yn iawn, Dr. Hoffman.
(1, 0) 276 Eisteddwch.
(Hoffman) Diolch...
 
(Hoffman) Cofia fod gen' i siâr ynddo fo!
(1, 0) 287 Llymaid o win, Dr. Hoffman.
(1, 0) 288 A gofalwch ei ganmol!
(Hoffman) Eich gwin chi, Helga?
 
(Hoffman) Eich gwin chi, Helga?
(1, 0) 290 Ia, grawnwin o'r ardd.
(Hoffman) 'Does yna mo'i hafal yn y wlad, felly!
 
(Hoffman) Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw.
(1, 0) 319 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo!
(Hoffman) Mi wn i, Helga.
 
(Hoffman) Hanner munud rŵan —!
(1, 0) 328 Am beth mae o'n sôn, Doctor?
(Hoffman) Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga.
 
(Botha) Ac yr wy'n dal i fod yma er dy waetha'!
(1, 0) 353 'Nhad!
(Hoffman) Mae'n rhaid iti wrando arna' i, Botha.
 
(Botha) Heb achos, yn siŵr iti.
(1, 0) 361 'Rydych yn gwastraffu eich anadl, Dr. Hoffman.
(1, 0) 362 'Does dim dichon ei ddarbwyllo.
(1, 0) 363 'Rwy' i wedi erfyn ar fy ngliniau, bron.
(1, 0) 364 Mae'n gwrthod gwrando.
(Hoffman) Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory.
 
(Botha) Wel ─
(1, 0) 422 Dim un eiliad, Doctor.
(1, 0) 423 Gweithio drwy gydol y bore.
(Hoffman) Ffolineb y doeth!
 
(Hoffman) Cofia gadw llygad arno fo, Helga.
(1, 0) 486 Mi wnaf fy ngora', Doctor.
(Botha) {Chwerthin.}
 
(Botha) A diolch iti.
(1, 0) 499 P'nawn da, Doctor.
(Hoffman) {Wrth y drws.}
 
(Botha) O wel, dyna hynna drosodd.
(1, 0) 506 Tan yfory, 'nhad.
(Botha) Ia... tan yfory.
 
(Botha) {Saib.}
(1, 0) 509 Mae Amos wedi dod â'ch llefrith chi, 'nhad.
(Botha) Ydy'... alla' i mo'i yfed o rŵan: nid ar ôl y gwin yna...
 
(Botha) Beth wyt ti'n ei feddwl o'r araith yma?
(1, 0) 512 'Rwy' i'n cyd-weld â Dr. Hoffman.
(1, 0) 513 Mae hi'n rymus a diffuant.
(1, 0) 514 Ond...
(Botha) Ond?
 
(Botha) Ond?
(1, 0) 516 Rhaid imi fod yn onest, 'nhad.
(1, 0) 517 'Dwy' i ddim yn deall yn iawn ─
(Botha) Wel, gad imi geisio egluro iti.
 
(Botha) Beth yn hollol wyt ti ddim yn 'i ddeall?
(1, 0) 520 Wel, yn gyntaf, yr ysgolion cenhadol.
(Botha) Beth amdanyn' nhw?
 
(Botha) Beth amdanyn' nhw?
(1, 0) 522 'Fyddan' nhw, hefyd, yn dod o dan y Ddeddf Addysg newydd?
(Botha) Wrth gwrs y byddan' nhw.
 
(Botha) Fe gânt gyd-ymffurfio neu gau eu drysau.
(1, 0) 525 'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad.
(Botha) Nac wyt ti?
 
(Botha) Fe wnaeth yr Eglwys hynna'n berffaith eglur y llynedd.
(1, 0) 532 Ond mae'r ysgolion yma wedi gwneud gwaith da, 'nhad.
(Botha) 'Rwy'n cydnabod hynny.
 
(Botha) Ond pan ddaw llechgwn o estroniaid i'r wlad yma i greu anghydfod yn enw crefydd, rhaid eu ffrwyno.
(1, 0) 536 'Ydych chi'n meddwl o ddifri' fod hynny'n digwydd?
(Botha) 'Rwy'n gwybod ei fod yn digwydd.
 
(Botha) 'Fydda' i byth yn cyhuddo heb fod yn berffaith siŵr o'r ffeithiau.
(1, 0) 540 Fe ddaw hyn â chaledi i lawer, 'nhad.
(Botha) Fe fydd yn gymwynas i'r mwyafrif.
 
(1, 0) 545 'Glywsoch chi sŵn aflafar allan yn yr ardd, gynna', 'nhad?
(Botha) Na, 'sylwais i ddim.
 
(Botha) Beth oedd yna?
(1, 0) 548 Haid o wylanod yn ymlid brân.
(Botha) 'Oes yna rywbeth yn od yn hynny?
 
(Botha) 'Oes yna rywbeth yn od yn hynny?
(1, 0) 550 Am ei bod hi'n wahanol iddyn' nhw, mae'n debyg.
(1, 0) 551 Am ei bod hi'n ddu a hwythau'n wyn.
(Botha) Mae'r brain, pan gânt gyfle, yn ymlid y gwylanod.
 
(1, 0) 556 Naturiol, ydy', — i greaduriaid di-reswm.
(1, 0) 557 Ond 'rwy'n ofni, weithia nad yw dynion 'run gronyn gwell.
(1, 0) 558 Rhagfarn a chasineb sy'n eu cymell hwythau, hefyd, yn aml.
(Botha) {Codi a mynd ati.}
 
(Botha) Coelia fi, mi weli di'n wahanol ryw ddiwrnod.
(1, 0) 567 'Dwy i ddim yn siŵr fod arna' i eisiau gweld yn wahanol, 'nhad.
(Botha) 'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud?
 
(Botha) 'Wyt ti'n sylweddoli beth wyt ti'n ei ddweud?
(1, 0) 569 Mae'n ddrwg gen' i.
(1, 0) 570 Ond 'alla' i mo'i gadw i mi fy hun ddim mwy.
(Botha) Helga!
 
(Botha) Helga!
(1, 0) 572 Anghyfiawnder y peth, — dyna sy'n ffiaidd gen' i.
(Botha) 'Dwy'i ddim yn dy ddeall.
 
(Botha) Ffolineb fyddai gwangalonni, rŵan, wedi inni fynd mor bell.
(1, 0) 582 Ffolineb yw brawd-garwch, felly?
(Botha) 'Rwyt ti'n ystumio fy ngeiriau, Helga.
 
(Botha) Wyt ti'n meddwl am foment y bradychwn i fy nghydwybod fy hun?
(1, 0) 591 Nid o fwriad, efallai.
(1, 0) 592 Dyna sy'n fy nychryn, — y gall dynion o egwyddor, weithiau, achosi camwri dychrynllyd.
(1, 0) 593 A hynny dan yr argraff eu bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn.
(Botha) 'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd.
 
(Botha) 'Rwyt ti'n siarad yn ynfyd.
(1, 0) 595 'Ydw' i?
(1, 0) 596 Cofiwch hyn, 'nhad, — 'dydych chi ddim ar ei pen eich hun.
(1, 0) 597 Mae yna ddynion eraill y tu ôl i chi.
(1, 0) 598 Dynion heb egwyddor.
(Botha) 'Chei di ddim dweud hynna, Helga.
 
(Botha) 'Chei di ddim dweud hynna, Helga.
(1, 0) 600 Mae'n berffaith wir, 'nhad.
(1, 0) 601 Mae nhw'n wahanol i chi
(Botha) Yn ymladd yr un frwydr ─
 
(Botha) Yn ymladd yr un frwydr ─
(1, 0) 603 Ond nid â'r un arfau.
(1, 0) 604 O, 'nhad, pam na welwch chi?
(Botha) Helga fach, 'rwyt ti'n mwydro dy ben pert yn ofer.
 
(Botha) 'Dwyt ti ddim yn deall y pethau yma, 'wyddost ti.
(1, 0) 608 'Rwy'n deall digon i ─
(Botha) Rhaid iti gael mwy o ffydd ynof i, 'merch i.
 
(1, 0) 617 Karl!
(Botha) {Codi.}
 
(Botha) Be' sy'n bod?
(1, 0) 621 Wyt ti wedi d'anafu?
(Karl) Na, mi ydw' i'n iawn, Helga.
 
(Karl) Rhy hwyr, Mr. Botha.
(1, 0) 626 Mae nhw wedi —?
(Karl) Wedi boddi.
 
(Karl) A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio.
(1, 0) 642 Damwain oedd hi, Karl!
(Karl) Ia, damwain.
 
(Karl) Maddau i mi, Helga.
(1, 0) 658 Dos ymlaen, Karl.
(1, 0) 659 Gwell ei gael o allan.
(Karl) 'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen...
 
(Karl) Pum munud...!
(1, 0) 668 Eistedd, Karl.
(Karl) {Fel petai heb ei chlywed.}
 
(Karl) Ia, ond yr eironi chwerw ydy'...
(1, 0) 678 Ia, Karl?
(Karl) 'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall.
 
(Karl) Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb?
(1, 0) 683 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl.
(Karl) Dyna a ddywedodd Malán, Helga.
 
(Karl) Na, dim diolch, Mr. Botha.
(1, 0) 718 Eistedd, Karl.
(Karl) Mae fy nillad yn lleidiog, Helga.
 
(Karl) Mae fy nillad yn lleidiog, Helga.
(1, 0) 720 O, pa wahaniaeth!
(1, 0) 721 'Wnan' nhw fawr o niwed.
 
(1, 0) 723 Ond rhaid iti eu newid rhag blaen...
(1, 0) 724 'Nhad?
(Botha) Wrth gwrs!
 
(Botha) 'Allwn ni ddim fforddio dy gael dithau'n wael hefyd, 'wyddost ti.
(1, 0) 731 Mi af i ddweud wrth Amos.
 
(Karl) 'Rwy'n fodlon.
(1, 0) 756 Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl.
(Karl) Diolch, Helga.
 
(1, 0) 776 Hwyrach eu bod yn well allan.
(Botha) Beth dd'wedaist ti?
 
(Botha) Beth dd'wedaist ti?
(1, 0) 778 Hidiwch befo, rŵan, 'nhad.
(1, 0) 779 'Does arna' i ddim eisiau eich blino.
(Botha) Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim.
 
(Botha) Mae meddwl dy fod yn coleddu syniadau ffôl yn fy mlino'n fwy na dim.
(1, 0) 781 Mae dynion yn bwysicach na syniadau i mi.
(Botha) 'Wyt ti ddim yn gweld y perygl?
 
(Botha) 'Rwy'n siŵr fod yn rhaid rhoi terfyn ar hynny?
(1, 0) 786 Ond sut?
(Botha) Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus.
 
(Botha) Mae'r Cymrodyr yn archwilio pob achos yn ofalus.
(1, 0) 788 I ba ddiben?
(Botha) I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw.
 
(Botha) I sicrhau bod egwyddorion Apartheid yn cael eu cadw.
(1, 0) 790 Ym mha ffordd?
(Botha) Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl.
 
(Botha) Drwy wyliadwriaeth a chyngor ac esiampl.
(1, 0) 792 O, 'nhad, beth a wyddoch chi am Y Cymrodyr?
(Botha) 'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas?
 
(Botha) 'Gaf i d'atgoffa 'mod i'n un o sefydlwyr y Gymdeithas?
(1, 0) 794 Ond fuoch chi ddim ar y Pwyllgor rŵan ers... ers faint?
(Botha) Ers rhyw dair blynedd.
 
(Botha) Beth am hynny?
(1, 0) 797 Mae yna lawer wedi digwydd yn y cyfamser.
(1, 0) 798 'Dydych chi ddim yn gwybod am y pethau sy'n digwydd yn y dre' yma.
(1, 0) 799 Neu 'rydych yn cau eich llygaid rhag ichi eu gweld.
(1, 0) 800 'Rwy'n gobeithio o waelod fy nghalon nad ydych chi ddim yn gwybod.
(Botha) Am beth wyt ti'n sôn?
 
(Botha) Am beth wyt ti'n sôn?
(1, 0) 802 Am Y Cymrodyr.
(1, 0) 803 Erbyn heddiw, beth ydyn' nhw?
(1, 0) 804 Cymdeithas Gyfrin sy'n sathru'r negro i'r llaid.
(1, 0) 805 A'i ddal yno drwy rym a thrais.
(Botha) {Yn ddistaw.}
 
(Botha) Helga —!
(1, 0) 809 Os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod am hyn, — ac wrth gwrs mae nhw |yn| gwybod — ffug a rhagrith ydy'r cyfan!
(Botha) {Codi ei lais.}
 
(Botha) Adnodau o'r Ysgrythur ar un ochr, a phropaganda ffiaidd y Comiwnyddion ar yr ochr arall.
(1, 0) 816 "Salvadór "?
(Botha) "Salvadór," ia...
 
(Botha) Sut y gwyddit ti yr enw?
(1, 0) 819 Fe ddangosoch un o'r pamffledi imi yr wythnos ddiwetha'.
(Botha) Fe'i rhoddais iti i'w losgi, nid ei ddysgu.
 
(Botha) Mae'n ffiaidd, Helga, mae'n ffiaidd ac yn sâl.
(1, 0) 827 'Gaf i ddweud rhywbeth wrthych chi, 'nhad?
(Botha) Wel?
 
(Botha) Wel?
(1, 0) 829 Fe gurwyd negro i farwolaeth yn Stryd Kruger neithiwr.
(1, 0) 830 A'i daflu'n gorffyn gwaedlyd i'r gwter o flaen y capel.
(1, 0) 831 Nid propaganda'r Comiwnyddion yw hynna.
(1, 0) 832 Mae'n ffaith.
(1, 0) 833 'Roeddwn i yno.
(Botha) Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun?
 
(Botha) Ac fe'i gwelaist â'th lygaid dy hun?
(1, 0) 835 Na, nid yn hollol ─
(Botha) Aha —!
 
(Botha) Aha —!
(1, 0) 837 Ond fe welais dwr o bobol yn sefyll o'i amgylch.
(1, 0) 838 A bachgen bach o negro yn beichio crio.
(1, 0) 839 'Roedd yna blisman yn ceisio'i gael i fynd adre': ond ni fynnai symud heb ei dad.
(1, 0) 840 Ni fynnai ei gysuro, 'chwaith, er imi drio fy ngorau...
(1, 0) 841 A'r dyrfa yn edrych arno heb ronyn o dosturi...
(1, 0) 842 O, beth ddaw ohono' ni?
(Botha) 'Rwy'n gweld, rŵan, be' sy'n dy boeni...
 
(Botha) Ond nid dyna'r negro cyntaf i syrthio mewn ffrwgwd rhwng hwliganiaid.
(1, 0) 848 Ffrwgwd rhwng hwliganaid!
(1, 0) 849 Ia, dyna fydd dyfarniad y crwner, hefyd, ar ôl ffars o gwest brysiog.
(1, 0) 850 Ac fe ŵyr pawb, ond y chi, feddyliwn, — mai'r Cymrodyr a'i llofruddiodd.
(1, 0) 851 A hynny yn enw sanctaidd Apartheid.
(1, 0) 852 O, mae'n ddigon i wneud i rywun gyfogi!
(Botha) Gwrando arna' i, Helga.
 
(1, 0) 878 Cyfres o adnodau ydy'r rhain, 'nhad.
(Botha) Edrych ar y sorod gwenwynig yr ochr arall.
 
(Botha) Cei fynd rŵan.
(1, 0) 935 Amos, aros am funud.
(Amos) Ia, Miss Helga?
 
(Amos) Ia, Miss Helga?
(1, 0) 938 'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach?
(Botha) Beth?...
 
(Botha) Dos i'r ardd ì nôl tusw iddo fo.
(1, 0) 943 Mi ddo' i â nhw yma, toc, Amos.
(1, 0) 944 Fe'u rhôf mewn dŵr.
(1, 0) 945 Mi gei fynd â nhw adre' heno.
(Amos) Diolch ichi, Miss Helga.
 
(Amos) Diolch yn fawr ichi.
(1, 0) 952 'Dydych chi ddim yn ddig gobeithio?
(Botha) Yn ddig?
 
(Botha) Am beth?
(1, 0) 955 'Mod i'n rhoi blodau iddo fo?