Ar Ddu a Gwyn

Ciw-restr ar gyfer Hoffman

(Amos) P'nawn da, Syr.
 
(Amos) Dr. Hoffman, Syr.
(1, 0) 262 Botha, 'glywaist ti am y pwll?
(Botha) Do, Hoffman.
 
(Botha) Mae Malán newydd fod ar y teliffôn.
(1, 0) 265 Oes yna rywun wedi —?
(Botha) Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud.
 
(Botha) Na, 'does neb wedi ei anafu, mae'n dda gen' i ddweud.
(1, 0) 267 Mae yna stori yn y dre' fod deg o weithwyr ar goll.
(Botha) Dau, Hoffman, dau negro.
 
(Botha) A'r rheini ar fin cael eu hachub erbyn hyn, mae'n debyg.
(1, 0) 270 O, mae'n dda gen' i glywed.
(Botha) Rhyfedd mor hoff yw pobl o orliwio newydd drwg!
 
(Helga) Peth naturiol yw pryder, 'nhad.
(1, 0) 273 O, p'nawn da, Helga.
(1, 0) 274 'Wnes i ddim bwriadu bod yn anghwrtais.
(Helga) Popeth yn iawn, Dr. Hoffman.
 
(Helga) Eisteddwch.
(1, 0) 278 Diolch...
(1, 0) 279 Fe fydd hyn yn golled fawr i'r Cwmni, Botha?
(Botha) Dim i boeni yn ei gylch, Hoffman.
 
(Botha) Buom yn sôn am ei gau fwy nag unwaith, ac agor siafft newydd.
(1, 0) 284 Wel, mae hynna'n ollyngdod.
(1, 0) 285 Cofia fod gen' i siâr ynddo fo!
(Helga) Llymaid o win, Dr. Hoffman.
 
(Helga) A gofalwch ei ganmol!
(1, 0) 289 Eich gwin chi, Helga?
(Helga) Ia, grawnwin o'r ardd.
 
(Helga) Ia, grawnwin o'r ardd.
(1, 0) 291 'Does yna mo'i hafal yn y wlad, felly!
(1, 0) 292 Diolch yn fawr,
(Botha) {Yn gellweirus.}
 
(Botha) Rwy'n deall, rŵan, pam y daethost yma ar gymaint o frys, Hoffman.
(1, 0) 297 'Roeddwn i ar y ffordd yma pan glywais i, Botha.
(Botha) Ia, — ond y brys anarferol!
 
(Botha) Nid meddwl am fy nghyflwr i barodd iti ddod â'th wynt yn dy ddwrn.
(1, 0) 300 'Dwy' i ddim yn deall.
(1, 0) 301 Beth arall?
(Botha) Ariangarwch: poeni ynghylch dy siâr!
 
(1, 0) 304 Dim o gwbl!
(1, 0) 305 'Dyw'r ychydig a fuddsoddais i ddim gwerth colli munud o gwsg yn 'i gylch.
(1, 0) 306 Hwyrach na choeli di ddim, ond fel cyffur y bydda' i'n edrych ar aur, nid fel cyfoeth.
(Botha) 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman!
 
(Botha) 'Alla' i ddim llyncu hynna, Hoffman!
(1, 0) 308 Mae'n berffaith wir iti.
 
(1, 0) 310 Fe wyddost yn eitha' da pam 'rydw' i yma, Botha.
(Botha) Da ti, paid â throi i'r llais angladdol yna!
 
(Botha) Dy ddyletswydd fel cyfaill ydy' sirioli, nid codi bwganod.
(1, 0) 313 Fy nyletswydd fel meddyg ydy' iachâu.
(1, 0) 314 Ond 'alla' i wneud dim heb dy gydweithrediad di.
(1, 0) 315 Pam wyt ti'n mynnu bod mor styfnig?
(Botha) Styfnigrwydd wyt ti'n galw peidio â ffwdanu?
 
(Botha) Wyddost ti be', petawn i wedi gwrando arnat ti, mi fyddwn i fel hen ferch yn yfed te yn fy ngwely!
(1, 0) 318 Petait wedi gwrando arna' i ynghynt, fyddit ti ddim yn y cyflwr yma heddiw.
(Helga) 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo!
 
(Helga) 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo!
(1, 0) 321 Mi wn i, Helga.
(1, 0) 322 'Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â chi...
(1, 0) 323 Hawdd y gelli di chwerthin, Botha!
(Botha) 'Wyddost ti pam?
 
(Botha) Ugain mlynedd yn ôl, 'wyt ti ddim yn cofio?
(1, 0) 327 Hanner munud rŵan —!
(Helga) Am beth mae o'n sôn, Doctor?
 
(Helga) Am beth mae o'n sôn, Doctor?
(1, 0) 329 Mae eich tad yn cellwair fel arfer, Helga.
(Botha) Dim o gwbl.
 
(Botha) 'Roeddit ti'n meddwl ar y dechrau mai'r Pla Du oedd o, Hoffman.
(1, 0) 335 'Roedd yr arwyddion yn ddigon tebyg.
(Botha) Wel, mewn un ystyr 'roeddit ti'n iawn.
 
(Botha) A dyma titha' Hoffman, yn fy siarsio i fynd i'r gwely'n syth.
(1, 0) 340 Mae'n dda 'mod i wedi gwneud, ne fyddit ti ddim yma heddiw!
(Botha) Ond y jôc ydy' na fum i ddim yn fy ngwely am fwy na dwyawr ar hyd yr amser!
 
(Botha) A thithau wedi bygwth marwolaeth arswydus imi petawn i'n beiddio codi o fewn pythefnos!
(1, 0) 343 Felly'n wir!
(1, 0) 344 Wel, paid â dibynnu ar lwc eto.
(Botha) Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd.
 
(Botha) Nid lwc, Hoffman, — gwydnwch: ac y mae hwnnw gen' i o hyd.
(1, 0) 346 'Rwy'n cymryd dy wydnwch i ystyriaeth.
(1, 0) 347 Ond cofia fod i'r gadwyn gryfa' ei dolen wanna'.
(1, 0) 348 'Dwy'i i ddim yn gwneud camgymeriad, 'wyddost ti.
(Botha) Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw!
 
(Botha) Mae meddygon yn claddu eu camgymeriadau, meddan' nhw!
(1, 0) 350 Mi ydw' i'n trio 'ngora glas dy gadw di'n fyw.
(Botha) {Gwenu.}
 
(Helga) 'Nhad!
(1, 0) 354 Mae'n rhaid iti wrando arna' i, Botha.
(1, 0) 355 Mae'r hen gorff gwydn yma'n erfyn am orffwys.
(Botha) 'Dwyt ti ddim yn deall, 'rhen gyfaill.
 
(Botha) Mae gen' i waith i'w wneud.
(1, 0) 358 Fel hen gyfaill, 'wnei di goelio am funud 'mod i o ddifri'?
(1, 0) 359 'Mod i'n wir bryderus yn dy gylch?
(Botha) Heb achos, yn siŵr iti.
 
(Helga) Mae'n gwrthod gwrando.
(1, 0) 365 Fe fydd yn rhaid iddo wrando, 'fory.
(Botha) Pam yfory?
 
(Botha) Pam yfory?
(1, 0) 367 'Wyt ti'n cofio i mi gymryd sampl o'th waed di ddoe?
(Botha) Ydw.
 
(Botha) Ydw.
(1, 0) 369 'Rwy' i wedi ei anfon i Hertz.
(Botha) Hertz?
 
(Botha) Pwy ydy' Hertz?
(1, 0) 372 Un o arbenigwyr mwya'r wlad yma, Botha.
(Botha) A'i fil yn gymesur â'i fri, mwya' tebyg.
 
(Botha) Peth costus yw tipyn o salwch i ddyn cyfoethog!
(1, 0) 375 Tipyn o salwch?
(1, 0) 376 Gwrando, Botha, mae gen' i newydd pur ddifrifol iti.
(Botha) O?
 
(Botha) Paid â chelu dim.
(1, 0) 380 'Rwyf i o'r farn fod triniaeth law-feddygol yn angenrheidiol iti.
(1, 0) 381 A hynny ar frys.
(Botha) 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau?
 
(Botha) 'Wyt ti'n siŵr o'th ffeithiau?
(1, 0) 383 Bron yn siŵr ─
(Botha) A!
 
(Botha) A!
(1, 0) 385 'Does 'run meddyg yn anffaeledig.
(1, 0) 386 Dyna pam 'rwy' i mor awyddus i gael barn Hertz.
(1, 0) 387 Ac yr wy' i'n hollol sicr o un peth.
(1, 0) 388 Fe fydd yn rhaid iti gael trawsnewid gwaed cyn hynny.
(Botha) Pam?
 
(Botha) Pam?
(1, 0) 390 O, paid â gofyn imi fanylu, Botha.
(1, 0) 391 Mae gennyt ddigon o ymddiriedaeth yn fy nhipyn gallu erbyn hyn, gobeithio!
(Botha) 'Rwy' i'n rhoi fy hun yn dy ddwylo, Hoffman.
 
(Botha) Ond rho imi'r pleser o dynnu tipyn ar dy goes weithiau!
(1, 0) 394 Y felltith ydy' na wn i byth pa bryd yr wyt ti o ddifri' a phryd yr wyt ti'n cellwair.
(1, 0) 395 Ond aros funud, mae gen' i newydd arall, iti.
(Botha) Newydd drwg?
 
(Botha) Newydd drwg?
(1, 0) 397 Nid ynddo'i hun.
(1, 0) 398 Ond gallai achosi trafferth.
(Botha) Beth ydy' o?
 
(Botha) Beth ydy' o?
(1, 0) 400 'Wyddit ti dy fod yn perthyn i grŵp-gwaed prin?
(1, 0) 401 Mor brin ag un ymhob miliwn?
(Botha) Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin!
 
(Botha) Mi wyddwn, wrth gwrs, 'mod i'n ddyn anghyffredin!
(1, 0) 403 Fel mater o ffaith dim ond un o'r grŵp hwnnw a welais i erioed.
(1, 0) 404 Rhyw bum mlynedd yn ôl.
(Botha) Pwy ydy'r dyn anrhydeddus?
 
(Botha) Pwy ydy'r dyn anrhydeddus?
(1, 0) 406 Dyna'r drwg, 'fedra' i yn fy myw gofio.
(Botha) A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus!
 
(Botha) A'm gwaredo i, yn nwylo'r fath feddyg anghofus!
(1, 0) 408 Mi wnes i gofnod o'r achlysur, 'rwy'n sicr o hynny.
(Botha) Wel?
 
(Botha) Wel?
(1, 0) 410 'Fedra' i ddim dod o hyd i'r cofnod!
(Botha) Druan o ddynol-ryw!
 
(Botha) Druan o ddynol-ryw!
(1, 0) 412 O, fe ddown o hyd i'r dyn, paid â phryderu.
(1, 0) 413 Mae o yn yr ardal yma yn rhywle.
(1, 0) 414 Peth hawdd fydd rhoi apêl ar y radio.
(1, 0) 415 Yn y cyfamser, ymgynghori â Hertz.
(1, 0) 416 Cawn weld beth fydd ei ddyfarniad yfory.
(Botha) Yfory?
 
(Botha) Yfory?
(1, 0) 418 Ia, mae'n dod i'm gweld i'r ysbyty.
(1, 0) 419 Hwyrach y byddi'n barotach i dderbyn cyngor dieithryn!
(1, 0) 420 'Ge'st ti rywfaint o orffwys heddiw?
(Botha) Wel ─
 
(Helga) Gweithio drwy gydol y bore.
(1, 0) 424 Ffolineb y doeth!
(1, 0) 425 Llafurio a chwysu efo'i araith, mae'n debyg.
(Botha) Na, ma' hi'n dwad yn weddol hawdd imi rŵan, Hoffman.
 
(Botha) 'Hoffit ti ei chlywed?
(1, 0) 434 Mae'n ormod o dreth ar dy nerth, Botha.
(1, 0) 435 Gwell peidio.
(Botha) Wel, hwyrach y goddefi imi ddarllen y diweddglo, ynte".
 
(Botha) Wel, Hoffman?
(1, 0) 475 Mae'n rymus, Botha.
(1, 0) 476 Yn rymus a diffuant.
(1, 0) 477 Rhaid imi dy longyfarch.
(Botha) Diolch iti.
 
(1, 0) 481 Ond tyrd rŵan: eistedd i lawr.
(1, 0) 482 'Rwyt ti'n edrych braidd yn flinedig.
 
(1, 0) 484 'Dwyt ti i wneud dim rhagor heddiw, 'wyt ti'n deall?
(1, 0) 485 Cofia gadw llygad arno fo, Helga.
(Helga) Mi wnaf fy ngora', Doctor.
 
(Botha) 'Rwy'n rhoi fy ngair iti.
(1, 0) 492 Gobeithio y cofi di hynna ar ôl i mi fynd!
(1, 0) 493 Mi ddof yma eto nos yfory.
(1, 0) 494 Fe fydd adroddiad Hertz gen' i pryd hynny.
 
(1, 0) 496 P'nawn da i chwi eich dau,
(Botha) P'nawn da, Hoffman.
 
(1, 0) 501 O, diolch am y gwin, hefyd, Helga.
(1, 0) 502 'Roedd o'n ardderchog!