Ar Ddu a Gwyn

Ciw-restr ar gyfer Karl

(Amos) P'nawn da, Syr.
 
(Helga) Wyt ti wedi d'anafu?
(1, 0) 622 Na, mi ydw' i'n iawn, Helga.
(Botha) Y dynion, Hendricks?
 
(1, 0) 625 Rhy hwyr, Mr. Botha.
(Helga) Mae nhw wedi —?
 
(Helga) Mae nhw wedi —?
(1, 0) 627 Wedi boddi.
(1, 0) 628 Y ddau.
(1, 0) 629 Petawn i bum munud ynghynt...
(1, 0) 630 Pum munud...
(1, 0) 631 Ond 'doedd dim modd mynd atyn' nhw.
(1, 0) 632 'Roeddyn' nhw mewn twnel cul yn arwain o'r brif siafft...
(1, 0) 633 Fe wyddoch amdano?
(Botha) Gwn, 'machgen i, gwn.
 
(Botha) Gwn, 'machgen i, gwn.
(1, 0) 635 Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan...
(1, 0) 636 Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha.
(Botha) Paid â dweud hynna, Hendricks, paid â dweud hynna.
 
(Botha) Nid dy fai di oedd o.
(1, 0) 639 Dim ond pum munud...
(1, 0) 640 Ond fe gododd y dŵr yn rhy gyflym.
(1, 0) 641 A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio.
(Helga) Damwain oedd hi, Karl!
 
(Helga) Damwain oedd hi, Karl!
(1, 0) 643 Ia, damwain.
(1, 0) 644 Ond 'dyw gwybod hynny'n fawr o help...
(1, 0) 645 'Roeddwn i o fewn ugain llath iddyn' nhw.
(1, 0) 646 Eu clywed yn gweiddi, a minnau'n hollol ddiymadferth...
(1, 0) 647 'Alla' i byth anghofio...
(1, 0) 648 Ac yna, y distawrwydd...
(1, 0) 649 Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha.
(Botha) Gwn, 'machgen i.
 
(Botha) Ond fe aeth y dŵr i lawr?
(1, 0) 653 Do, mor sydyn ag y cododd.
(1, 0) 654 Mi fedrais fynd i mewn...
(1, 0) 655 'Roedd y ddau wrth geg y twnel, yn lled-orwedd ar y graig...
(1, 0) 656 Eu breichiau wedi ymestyn... fel petaent wedi eu croeshoelio...
(1, 0) 657 Maddau i mi, Helga.
(Helga) Dos ymlaen, Karl.
 
(Helga) Gwell ei gael o allan.
(1, 0) 660 'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen...
(1, 0) 661 Fe laddwyd tri y llynedd, os wyt ti'n cofio, pan ddisgynnodd y rwbel... ond 'roedd hynny'n wahanol, rywsut.
(1, 0) 662 Fe'u lladdwyd yn y fan: 'wydden' nhw ddim...
(1, 0) 663 'Roedd eu diwedd yn lân, heb boen, heb ofn...
(1, 0) 664 Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd...
(Botha) Profiad dychrynllyd, Hendricks.
 
(Botha) Ond mae gen' ti un cysur, — fe wnest dy orau.
(1, 0) 667 Pum munud...!
(Helga) Eistedd, Karl.
 
(1, 0) 670 Mi rown i unrhyw beth...
(1, 0) 671 'Roedd eu llygaid yn agored, ac arswyd wedi fferu ynddyn' nhw.
(1, 0) 672 Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes.
(Botha) Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar.
 
(Botha) Os wy'n cofio'n iawn 'roeddit ti wedi archwilio'r twnel yna'n ddiweddar.
(1, 0) 674 Dim ond wythnos yn ôl.
(1, 0) 675 'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo.
(Botha) Fel yna mae'n digwydd weithia'.
 
(Botha) Fel yna mae'n digwydd weithia'.
(1, 0) 677 Ia, ond yr eironi chwerw ydy'...
(Helga) Ia, Karl?
 
(Helga) Ia, Karl?
(1, 0) 679 'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall.
(1, 0) 680 Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw.
(Botha) 'Rwy'n deall.
 
(Botha) 'Rwy'n deall.
(1, 0) 682 Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb?
(Helga) 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl.
 
(Helga) 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl.
(1, 0) 684 Dyna a ddywedodd Malán, Helga.
(1, 0) 685 Ond ag ystyr gwahanol.
(1, 0) 686 Mi ddywedodd 'mod i'n ffôl i boeni fy mhen am ddau negro!
 
(1, 0) 688 "Wyt ti ddim yn sylweddoli," medda' fo, "mae yna ddau ddwsin yn y Dre-Sianti yn barod i gymryd eu lle.
(1, 0) 689 'Does yna byth brinder ohonyn' nhw.
(1, 0) 690 Mi fyddan' yn heidio o flaen y swyddfa bore fory."
(1, 0) 691 Dyna'i union eiriau.
(1, 0) 692 Fel petai'n sôn am anifeiliaid.
(1, 0) 693 Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha!
(Botha) Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti.
 
(Botha) Mater o farn ydy' hynna, 'wyddost ti.
(1, 0) 695 'Dwy'i ddim yn gorliwio.
(Botha) 'Dd'wedais i ddim dy fod ti, Hendricks.
 
(Botha) "Chafodd yna neb arall ei anafu?
(1, 0) 712 Naddo, diolch i'r nefoedd.
(1, 0) 713 Mae hyn yn ddigon.
(Botha) Fe ddoi di drosto fo, 'machgen i.
 
(Botha) 'Gymeri di lymaid o rywbeth?
(1, 0) 717 Na, dim diolch, Mr. Botha.
(Helga) Eistedd, Karl.
 
(Helga) Eistedd, Karl.
(1, 0) 719 Mae fy nillad yn lleidiog, Helga.
(Helga) O, pa wahaniaeth!
 
(Botha) Rho fenthyg un o'm siwtiau i iddo fo.
(1, 0) 727 Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha.
(1, 0) 728 Mi fydda' i'n iawn.
(Botha) 'Fyddi di ddim yn iawn yn y dillad gwlyb yna.
 
(Botha) Hendricks, — y ddau ddyn anffodus yna, 'oes ganddyn' nhw deulu?
(1, 0) 734 Oes, mae'r ddau yn briod.
(1, 0) 735 Un â phedwar o blant, a'r llall â dau.
(Botha) Trueni...
 
(Botha) {Saib.}
(1, 0) 739 Maddeuwch imi, Mr. Botha...
(Botha) Ia, Hendricks?
 
(Botha) Ia, Hendricks?
(1, 0) 741 Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi.
(Botha) Gofyn.
 
(Botha) Gofyn.
(1, 0) 743 'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw?
(Botha) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
 
(Botha) Beth wyt ti'n 'i feddwl?
(1, 0) 745 Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd.
(Botha) Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna.
 
(Botha) Hendricks, rhaid imi ofyn yn garedig iti beidio ag ymyrryd â'r mater yna.
(1, 0) 747 Eich pardwn am y tro, Mr. Botha.
(1, 0) 748 'Rwy'n eich adnabod yn bur dda.
(1, 0) 749 'Oddefwch chi ddim i neb gael cam.
(1, 0) 750 Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro.
(Botha) Nac ydy', — yn swyddogol.
 
(Botha) Ond unwaith eto, 'rwy' i am ofyn iti adael hynna i'm doethineb i.
(1, 0) 753 Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha...
(1, 0) 754 'Rwy'n fodlon.
(Helga) Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl.
 
(Helga) Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl.
(1, 0) 757 Diolch, Helga.
 
(1, 0) 759 Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha.
(Botha) Wrth gwrs, wrth gwrs.
 
(Botha) Gorffwys am ychydig wedyn, os mynni.
(1, 0) 764 Gorffwys?
(Botha) Ia, ia, paid â dadla'!
 
(Botha) 'Wyt ti'n meddwl y medri di wneud y plania'n barod?
(1, 0) 768 Gallaf yn siŵr: mi af ati heno...
(1, 0) 769 Diolch ichi eto.