Dau Dylwyth

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

(Hlin) PROLOG
 
113 O mam...
 
115 Tadcu, mae Rofer wedi marw.
116 Mae Ifan yn torri bedd iddo fe yn y cae.
117 Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu?
(Mrs Lloyd) Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd.
 
(Mrs Lloyd) Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd.
120 Ond pam, mam?
(Mrs Lloyd) Fe gei di gi arall yn ei le.
 
(Mrs Lloyd) Fe gei di gi arall yn ei le.
122 Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i.
 
124 Pam mae Rofer wedi marw, tadcu?
125 A fuodd e'n gwneud drwg?
(William) Naddo, machgen i.
 
(William) Wnaeth Rofer ddim drwg erioed.
128 Pam mae e wedi marw, ynte?
(William) Fe ddweda i wrthyt ti maes o law.
 
(William) Fe ddweda i wrthyt ti maes o law.
130 Ond rydw i am gael gwybod nawr.
131 Roedd e'n iawn pan es i i'r ysgol bore heddiw.
132 Fe ddaeth gyda mi i ben draw'r cae.
133 Ac mae Ifan yn pallu dweud beth a ddigwyddodd.
134 Roedd ei'n dweud wrthyf am ofyn i chi.
(Mrs Lloyd) {Yn cydio ynddo a'i dynnu ati eto.}
 
138 Chi laddodd Rofer, tadcu!
139 Dyna pam na ddwedwch chi.
(William) Fi!
 
(William) Nage, machgen i, fuaswn i ddim yn debyg o wneud hynny.
142 Pam na ddwedwch chi ynte?
(William) Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn...
 
146 Na!
147 Rydw i am gael gwybod.
148 Pwy saethodd e, tadcu?
(William) Fe fynn gael gwybod ac y mae ganddo hawl i gael gwybod.
 
156 Dwedwch, tadcu!
(William) Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel.
 
162 Dwedwch, tadcu.
163 Pwy saethodd Rofer?
(William) {Yn rhoi eì ddwy law ar ei ysgwyddau ac yn syllu i'w wyneb.}
 
(William) Shincyn Rhydyfran a'i saethodd e, Dafydd.
166 Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
(William) Wnaeth e ddim drwg o gwbl.
 
(William) Wnaeth e ddim drwg o gwbl.
168 Pam ynte?
169 Pam ynte?
(William) Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd.
 
(William) Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd.
171 Ond doedden ni ddim wedi gwneud un drwg i'w ci nhw.
172 Ydych chi ddim yn mynd i gosbi pobol Rhydyfran, tadcu?
173 Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw?
(Mrs Lloyd) Dafydd!
 
(Mrs Lloyd) Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna.
176 Ydych chi ddim, tadcu?
177 Os na wnewch chi, fe wna i pan fydda i wedi tyfu i fyny.
(Mrs Lloyd) {Yn cydio ynddo yn drwsgl.}
 
181 Ond fy nghi i oedd Rofer.
182 Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e.
(Mrs Lloyd) Fe gei di gi eto...
 
(Mrs Lloyd) Fe gei di gi eto...
184 Dydw i ddim eisiau ci arall.
185 Fe gofia i am hyn pan fydda i... pan fydda i wedi tyfu i fyny.
 
187 Faint sy'n raid i mi dyfu eto, tadcu, cyn bydda i'n ddigon mawr i handlo dryll?