Dau Dylwyth

Ciw-restr ar gyfer William

(Hlin) PROLOG
 
17 Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel.
(Mrs Lloyd) Pwy?
 
(Mrs Lloyd) Y Morgansiaid?
20 Pwy ond y nhw?
(Mrs Lloyd) Beth maen nhw wedi'i wneud?
 
(Mrs Lloyd) Beth maen nhw wedi'i wneud?
22 Saethu Rofer.
(Mrs Lloyd) Beth?
 
(Mrs Lloyd) Pwy gafodd afael arno?
26 Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr.
27 Doedd ganddyn nhw ddim digon o ddynoliaeth i'w orffen yn iawn—fe'i gadawsant i drigo bob yn dipyn.
28 Druan o Rofer!
(Mrs Lloyd) Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu?
 
(Mrs Lloyd) Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu?
30 Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno.
31 Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe.
(Mrs Lloyd) Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio.
 
(Mrs Lloyd) Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio.
33 Gwybod!
34 Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith.
(Mrs Lloyd) Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
 
(Mrs Lloyd) Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
36 Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd.
(Mrs Lloyd) O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn.
 
(Mrs Lloyd) Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha.
39 Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny.
(Mrs Lloyd) Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i.
 
43 Tra bo un o'r Morgansiaid yn ffermio dros y clawdd ffin i'r fferm hon, mi wna fy ngorau i wneud iddyn nhw fel y maen nhw wedi gwneud i mi a'm teulu.
44 Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau.
(Mrs Lloyd) Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt.
 
(Mrs Lloyd) Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt.
46 Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau.
(Mrs Lloyd) Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt.
 
(Mrs Lloyd) Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt.
48 Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel.
49 Beth wyt ti'n feddwl a fydd Dafydd yn ei ddweud pan ddaw e adre o'r ysgol yn y man a dim Rofer yn ei gwrdd ym mhen draw'r cae?
(Mrs Lloyd) {Yn gyflym a chyda thaerineb.}
 
(Mrs Lloyd) Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer.
52 Fe fynn gael gwybod.
53 Ac y mae ganddo hawl i gael gwybod.
54 Ei gi ef oedd Rofer.
(Mrs Lloyd) Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd.
 
(Mrs Lloyd) Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am.
60 Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad?
(Mrs Lloyd) Nac ydw i ddim yn anghofio.
 
(Mrs Lloyd) Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl.
65 Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel.
66 Ond, weld di, dwyt ti ddim wedi dod yn un o'r teulu yma eto ac ni ddoi di fyth, greda i.
67 Ni fuost ti erioed yn teimlo tuag at wŷr Rhydyfran fel yr ydw i ac fel yr oedd Dafydd dy ŵr yn teimlo.
68 A phan ddaethant ar ei draws y noson honno...
(Mrs Lloyd) {ar ei draws}
 
(Mrs Lloyd) A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad.
73 Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth...
(Mrs Lloyd) Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol.
 
(Mrs Lloyd) Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol.
75 Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben.
76 Dyna beth a ddigwyddodd ac yr wyf mor sicr o hynny ag yr ydw i fod yr haul yn mynd i godi fory.
77 A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno.
(Mrs Lloyd) Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny?
 
(Mrs Lloyd) Dau sydd mor hapus a llon bob amser.
83 Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir.
84 Na, tra bo'r ddau deulu yn ffermio y naill ochr i'r clawdd ffin, y mae mor amhosibl i anghofio'r hyn a fu ac yw hi i'r ci a'r hwch fwyta o'r un cafn.
(Mrs Lloyd) {Yn daer ac eto yn sylweddoli mor anobeithiol oedd ei chais.}
 
(Mrs Lloyd) Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.
87 Symud o Gwmhelyg?
(Mrs Lloyd) Ie, pam lai?
 
(Mrs Lloyd) Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod.
91 Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd.
92 Ymadael â'r lle yma?—fferm fy nhad a 'nhadcu yn unig oherwydd pobl Rhydyfran?
93 A wyt ti'n meddwl y gallwn i ddioddef gorfoledd y gethern yna petawn i'n sôn am symud?
94 A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid?
(Mrs Lloyd) Be waeth am hynny?
 
(Mrs Lloyd) Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno.
98 Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad.
(Mrs Lloyd) Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl.
 
(Mrs Lloyd) Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond...
102 Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl.
103 A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer?
(Mrs Lloyd) Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno.
 
(Mrs Lloyd) Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno.
105 Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel.
(Mrs Lloyd) Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau.
 
(Dafydd) A fuodd e'n gwneud drwg?
126 Naddo, machgen i.
127 Wnaeth Rofer ddim drwg erioed.
(Dafydd) Pam mae e wedi marw, ynte?
 
(Dafydd) Pam mae e wedi marw, ynte?
129 Fe ddweda i wrthyt ti maes o law.
(Dafydd) Ond rydw i am gael gwybod nawr.
 
(Dafydd) Dyna pam na ddwedwch chi.
140 Fi!
141 Nage, machgen i, fuaswn i ddim yn debyg o wneud hynny.
(Dafydd) Pam na ddwedwch chi ynte?
 
(Dafydd) Pam na ddwedwch chi ynte?
143 Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn...
(Mrs Lloyd) Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan.
 
(Dafydd) Pwy saethodd e, tadcu?
149 Fe fynn gael gwybod ac y mae ganddo hawl i gael gwybod.
150 Ei gi ef oedd Rofer.
(Mrs Lloyd) Nac oes ganddo, ddim hawl.
 
(Dafydd) Dwedwch, tadcu!
157 Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel.
(Mrs Lloyd) Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch.
 
(Mrs Lloyd) Chi yn unig.
160 Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd.
(Dafydd) {Yn siglo ei fraich.}
 
165 Shincyn Rhydyfran a'i saethodd e, Dafydd.
(Dafydd) Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
 
(Dafydd) Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
167 Wnaeth e ddim drwg o gwbl.
(Dafydd) Pam ynte?
 
(Dafydd) Pam ynte?
170 Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd.
(Dafydd) Ond doedden ni ddim wedi gwneud un drwg i'w ci nhw.
 
191 Dere allan gen i, Dafydd.