Dyrchafiad Arall i Gymro

Ciw-restr ar gyfer Catrin

(John) Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall.
 
(John) Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd.
(1, 0) 24 Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna.
(1, 0) 25 Mi goleua i o.
(John) Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth.
 
(John) Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth.
(1, 0) 27 O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi.
 
(1, 0) 29 Beth sy arnoch chi'r bore ma, John?
(1, 0) 30 Rydech chi'n ddistaw iawn.
(1, 0) 31 Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch?
(John) Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny?
 
(John) Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny?
(1, 0) 33 Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn.
(1, 0) 34 Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater.
(John) Beth, meddwch chi?
 
(John) Beth, meddwch chi?
(1, 0) 36 Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel.
(1, 0) 37 Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio.
(John) Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha.
 
(John) Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha.
(1, 0) 39 Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod.
(1, 0) 40 Mi gewch molchi wedyn.
 
(1, 0) 43 John!
(1, 0) 44 Beth ydi'r mater?─
(1, 0) 45 Deudwch wrtha i; fethis i erioed ych cysuro chi o'r blaen, a fethai ddim y tro yma.─
(1, 0) 46 Dowch, deudwch wrth ych gwraig.
(John) Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch?
 
(John) Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch?
(1, 0) 48 Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna.
(John) le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna?
 
(John) le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna?
(1, 0) 50 Gwylia?
(1, 0) 51 Beth ydech chi'n feddwl?
(1, 0) 52 Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl?
(John) Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel?
 
(John) Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel?
(1, 0) 54 Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl.
 
(1, 0) 56 Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle?
(John) Wn i ddim, neno'r tad annwyl.
 
(John) Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo.
(1, 0) 61 Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl?
(1, 0) 62 Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John?
(John) Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni.
 
(1, 0) 70 John?
(John) Wel?
 
(John) Wel?
(1, 0) 72 Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi.
(John) Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi.
 
(John) Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r |First Class| y tro yma?
(1, 0) 75 Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna...
(1, 0) 76 Deudwch wrtha i, nghariad i.
(John) Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i.
 
(John) Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i.
(1, 0) 78 Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn.
(John) {Yn sydyn.}
 
(John) Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o.
(1, 0) 84 Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o.
(1, 0) 85 Dowch.
(John) Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch?
 
(John) Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch?
(1, 0) 87 Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith.
(John) Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia.
 
(John) Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro?
(1, 0) 90 Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus?
(John) la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt..
 
(John) Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o.
(1, 0) 96 Medru gweld beth?
(John) Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl.
 
(John) Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio.
(1, 0) 100 Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi...
(1, 0) 101 Ond deudwch ych breuddwyd.
(John) {Yn eistedd i lawr, ac yn codi wedyn ar ganol dwedyd ei freuddwyd.}
 
(1, 0) 109 Na wn i, wir.
(John) {Mewn llais ofnus.}
 
(1, 0) 113 Twt, peidiwch â styrbio'ch hunan ddim,─does gen i ddim coel o gwbwl ar freuddwydion.
(1, 0) 114 Dydech chi ddim yn cofio amdanoch ych hunan yn breuddwydio ers talwm, newydd i Ifan gael ei eni, fod rhyw bobol fawr wedi dwad heibio, wedi i gipio fo yn i cerbyd, a chitha {yn gwenu} wedi rhedeg ar i hola, ac wedi taro Ifan oddiar sêt y car hefo'ch esgid?
(John) {Yn chwerthin.}
 
(John) Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith.
(1, 0) 120 Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall.
(1, 0) 121 Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach.
(John) Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal.
 
(Tomos) Lle mae John?
(1, 0) 129 Hylo, Tomos!
(1, 0) 130 Beth sy wedi d'yrru di yma allan o dy ffordd yr adeg yma o'r dydd, fel hyn?
(1, 0) 131 Eistedd i lawr.
(1, 0) 132 Mae John wrthi hi'n molchi.
(Tomos) Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo.
 
(Tomos) Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo.
(1, 0) 134 Aros funud; mae arna i eisio gofyn rhwbeth i ti, a fynnwn i er dim i John glywed.
 
(1, 0) 136 Mae hi'n fain iawn arnon ni'r mis yma, ac mae ar Ifan bach eisio lot o betha newydd.
(1, 0) 137 Oes gen ti ddim rhyw chweigien roet ti'n fenthig ini dan ben y mis?
(Tomos) {Yn rhoi i law ar ei hysgwydd.}
 
(Tomos) Mi rois y chweigien i ddwytha oedd gen i neithiwr i orffen cownt y capel─daset ti wedi gofyn yn gynt imi, mi faswn wedi i chadw ond mi dreia i gael benthig un i ti gan John Ellis y Siop─mae o'n un reit barod.
(1, 0) 141 Diolch yn fawr iti.
 
(1, 0) 143 Dim gair, Tomos, cofia.
(John) Hylo, Twm, ti sy'na?
 
(Tomos) Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny.
(1, 0) 159 Wel, dwad dy reswm, Twm.
(Tomos) Wel, dyma fo─ac mi gei ditha chwerthin, os leici di, ond dydw i ddim yn mynd i wrando dim arnat...
 
(1, 0) 174 Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm.
(John) Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed.
 
(Tomos) O ia!
(1, 0) 183 Rhybudd gan Ragluniaeth oedd o, yn deud fod damwain i fod yn ych bargen chi heddiw.
(1, 0) 184 Dos yn ol i dy wely, Twm, a chitha hefyd, John.
(1, 0) 185 Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi.
(John) Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon.
 
(John) Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa...
(1, 0) 192 Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw.
(John) {Yn cerdded o gwmpas.}
 
(John) Catrin! sana pwy ydi'r rhain?
(1, 0) 209 Sana Ifan bach.
(John) {Yn gafael ynddynt ac yn edrych arnynt.}
 
(John) Y mae nhw'n lyb dyferu!
(1, 0) 212 Yn lyb?
(John) Ia, teimlwch nhw...
 
(John) Oes gynno fo bâr arall?
(1, 0) 219 Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed.
(John) Faint o arian sydd yma yn y ty?
 
(John) Faint o arian sydd yma yn y ty?
(1, 0) 224 Dim ond deuswllt dan ben y mis.