a1a2

Dyrchafiad Arall i Gymro (1914)

William John Gruffydd

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 1


Cegin Pen y Rhos, tyddyn bychan dwy acer ar ymyl y Rhos Fawr yn Sir Gaernarfon. Yn y pared gyferbyn, y mae ffenestr fechan bedair cwarel, yn dangos trwch mawr y mur, ac ar yr ochr chwith iddi, dresel dderw hen ffasiwn iawn, yn dal pethau hen a newydd, llestri gan mwyaf. Rhwng y dresel a'r ffenestr, y mae cloc wyth niwrnod yn perthyn i genhedlaeth neu ddwy ar ol y dresel; a ffyn ac umbrela neu ddau yn y gongl wrth ei ochr. Ar yr ochr dde i'r ffenestr, cwpwrdd gwydr, yn llawn o lyfrau. Ar y pared de, y mae'r tân o dan simdde fawr, a mainc yn cyrraedd oddiwrtho i'r llawr, o dan y simdde. Y mae drws y siambr yn y pared chwith, ac yn nes i gefn yr ystafell, y mae llen laes yn cuddio gwaelod y grisiau sy'n arwain i'r llofft. Nid oes lofft o gwbl uwchben y gegin ei hunan, ac y mae'r nenbrennau i'w gweled yn amlwg. Y mae'r drws cefn yn y gongl dde y tu ol i'r simdde.

Ar ganol y llawr, y mae bwrdd bychan ac oilcloth arno, a Beibl mawr a llyfr arall wedi eu gadael yno er y noson cynt. Ar y mur, llun Williams Pant-y-celyn, a Gladstone, a darlun lliwiedig o frwydr Tel-el-Kebir. Y mae popeth yn boenus o lân. Ar gadair rhwng y ddau ddrws y mae dillad plentyn, ac esgidiau o dani, a dwy hosan ar gefn y gadair.

Pump o'r gloch y bore ydyw, yn y gaeaf, felly y mae y popeth yn hollol dywyll.

John

Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall. Dengys ei lodrau gwynion mai chwarelwr ydyw, chwarelwr yn byw ar dyddyn, y math perffeithiaf o werinwr a allodd gwareiddiad Cymru ei godi eto; dyn distaw penderfynol, ac ôl diwylliant nid bychan ar ei iaith a'i foes. Gwasged gordoroy werdd, a chôt frethyn lychlyd am dano. Dyry ei esgidiau am ei draed yn bwyllog, ac yna, cyfyd i fyny ei freichiau i ymestyn. Saif fel pe bai rhwng dau feddwl am funud, a dyry ochenaid ddofn, ond â allan yn araf drwy'r drws, a daw'n ol ymhen munud neu ddau, gyda choed tân yn un llaw, a glo mewn bwced yn y llall; penlinia o flaen y tân, gan ddechreu ei osod.

Yna daw Catrin Morris i lawr, gwraig ieuanc brydweddol, serchog yr olwg, dan glymu ei barclod o'r tu ol. Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd.

Catrin

Ewch i molchi, John, a gadwch i'r tân yna. Mi goleua i o.

John

Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth.

Catrin

O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi.



John yn myned at y drws ac yn sefyll fel o'r blaen ac yn ochneidio.

Catrin

Beth sy arnoch chi'r bore ma, John? Rydech chi'n ddistaw iawn. Oes rhwbeth ar ych meddwl chi, deudwch?

John

Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny?

Catrin

Ych clywed chi'n ochneidio, a'ch gweld chi'n edrych mor syn. Rhoswch, dowch yma, John; mi wn i bedi'r mater.

John

Beth, meddwch chi?

Catrin

Poeni rydech chi fod yr hen fargen yna yn y chwarel wedi mynd mor sâl, ac ofn arnoch chi na chewch chi ddim digon o gyflog y mis yma i dalu'r addewid at ddyled y capel. Wel, wir, wn i ddim i beth rydech chi'n gneud baich o'ch crefydd fel hyn─tasa bawb yn rhoi cystal at yr achos ag yr yden ni 'n roi, fasa raid poeni dim pan ddaw ambell i fis gwan fel hyn heibio.

John

Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha.

Catrin

Wel, dowch i gael ych brecwast ynte, mae'r y tê yn barod. Mi gewch molchi wedyn.



Y ddau yn eistedd i lawr wrth y bwrdd ac yn bwyta.

Catrin

(Yn rhoi ei llaw ar law ei gŵr.) John! Beth ydi'r mater?─ Deudwch wrtha i; fethis i erioed ych cysuro chi o'r blaen, a fethai ddim y tro yma.─ Dowch, deudwch wrth ych gwraig.

John

Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch?

Catrin

Chwe blynedd i fis Ebrill dwytha; mi ddylech chi gofio cystal a finna.

John

le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna?

Catrin

Gwylia? Beth ydech chi'n feddwl? Mynd am dro'n bell ydech chi'n feddwl?

John

Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel?

Catrin

Dim ond yr wythnos y bu'ch mam farw, rydw i'n meddwl. (Yn tywallt y te.) Ydech chi'n meddwl mynd am dro i rywle?

John

Wn i ddim, neno'r tad annwyl. Rydw i'n dechra blino ar yr hen chwarel yna; ydw wir. Mi fydda i'n meddwl weithia am fynd oddiyma i Awstralia neu rywle arall─yn ddigon pell, lle caiff rhywun dâl gonest am i waith... Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo.

Catrin

Peidiwch a chyboli, wir─lle cawn arian i gychwyn, ydech chi'n feddwl? Dydech chi ddim yn hapus yma hefo mi ag Ifan bach, John?

John

Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni. Rydw i'n câl digon o bopeth sy arna i eisio, ond mi fyddai'n ama weithia y byddwch chi ag Ifan bach yn byw ar wynt a dŵr pan fyddai yn y chwarel... Wel, wir, waeth imi dewi. Fedrwn i byth adael yr hen le yma debig, er mor gandryll ydi o─hen aelwyd y nhad a mam─y siambar lle buon nhw i gyd farw, a'r hen gapel lle ces i'r olwg gynta... Ar hen lwybra yma lle buon ni'n caru ystalwm... Does arna i fawr o eisio bwyd y bore yma.

Catrin

(Yn codi ac yn sefyll y tu ol iddo a'i dwylo ar ei ysgwydd.) John?

John

Wel?

Catrin

Deudwch beth sy wedi'ch styrbio chi'r bora ma... mi wela fod yna rwbeth go fawr o'i le arnoch chi.

John

Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi. Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r First Class y tro yma?

Catrin

Hitiwch chi befo Ifan,─troi'r stori ydi peth fel yna... Deudwch wrtha i, nghariad i.

John

Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i.

Catrin

Wna i ddim chwerthin, John, mi wyddoch yn iawn.

John

(Yn sydyn.) Hen freuddwyd câs gês i neithiwr. Mi fuom i bron a'ch deffro chi, i ddeud owrthoch chi, ond mi feddylis y basa'n well peidio, wedyn, ac mae'n debig imi huno tipin rhwng rhyw gwsc ac effro wedyn. (Yn codi.) Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o.

Catrin

Wel, mi fydd oddiar ych meddwl chi wedi i chi ddeud o. Dowch.

John

Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch?

Catrin

Wn i ddim sut i ddeud wrthoch chi,─bydda ac na fydda chwaith.

John

Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia. Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro?

Catrin

Hwnnw fu'n gweithio yn ych ymyl chi ym Mhonc Mosus?

John

la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt.. Mi fethodd y capal, ag mi fethodd y jêl, mi fethodd i wraig o a'i blant i droi o,─fydda fo byth yn sobor. Ond mi freuddwydiodd ryw noson i fod o wedi lladd i wraig a'i blant bach yn i ddiod, a phan ddeffrodd o yn y bore, mi aeth ar i union cyn brecwast at Mr. Huws, Sardis, i seinio dirwest, a chyffyrddodd o â dafn byth wedyn. Mae o'n coelio hyd heddiw tasa fo wedi meddwi unwaith wedyn y basa fo wedi gneud fel yr oedd o'n breuddwydio. Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o.

Catrin

Medru gweld beth?

John

Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl. Mae yna ddwy len o'n cylch ni, un o'n hola ni, sef llen y gorffennol, ac un o'n blaena, sef llen y dyfodol. Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio.

Catrin

Fedrai ddim mynd ar ych hol chi yn y fan yna, John; rydech chi'n ormod o sglaig i mi... Ond deudwch ych breuddwyd.

John

(Yn eistedd i lawr, ac yn codi wedyn ar ganol dwedyd ei freuddwyd.) Wel, mi welwn fy hunan wrthi hi'n tyllu ar wyneb y graig, a Tomos ych brawd, fel arfer, yn taro imi. Mi fuon ni wrthi hi yn ddygyn am oria, debygwn i, a phan oedden ni ar ddarfod, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên i ddwad adre, ond cyn y mod i wedi rhoi fy nghôt am dana, mi welwn ddyn ar ben y clogwyn yn galw arna i wrth f'enw, ac yn gwaeddi wâr, a chyn i fod o wedi tewi, mi welwn y graig wrth yn penna ni yn gwegian ac yn plygu drosodd, ac i lawr a hi am yn penna ni. Mi welwn blyg mawr yn taro Tomos yn i ben, a wedyn dyma'r cwbwl i lawr, am danon ni... Mi ddeffris yn chwys oer drosta'i gyd, ac yn crynu fel deilen... Catrin, wyddoch chi pwy oedd y dyn oedd yn gwaeddi wâr arnai?

Catrin

(Yn gyffrous.) Na wn i, wir.

John

(Mewn llais ofnus.) Yr hen Huw Lewis y Buarth,─hwnnw gafodd i ladd pan syrthiodd y Clogwyn Mawr ystalwm.

Catrin

(Ymhen ychydig). Twt, peidiwch â styrbio'ch hunan ddim,─does gen i ddim coel o gwbwl ar freuddwydion. Dydech chi ddim yn cofio amdanoch ych hunan yn breuddwydio ers talwm, newydd i Ifan gael ei eni, fod rhyw bobol fawr wedi dwad heibio, wedi i gipio fo yn i cerbyd, a chitha (yn gwenu) wedi rhedeg ar i hola, ac wedi taro Ifan oddiar sêt y car hefo'ch esgid?

John

(Yn chwerthin.) le, rydw i fel Joseph yn breuddwydio ar y mwya, bob amser─ond breuddwyd hollol ddisynnwyr oedd hwnnw. (Yn ddifrifol). Ond dyma i chi rwbeth mwy rhesymol. Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith.

Catrin

Peidiwch a gadael imi'ch perswadio chi beth bynnag, y naill ffordd na'r llall. Gnewch chi fel rydech chi'n meddwl yn ora, John bach.

John

Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal. Rhaid imi fynd i molchi. (Yn mynd allan.)



Catrin yn tacluso'r bwrdd. Curo ar y drws, a dyn mewn dillad chwarelwr yn dyfod i fewn.

Tomos

Sut rwyt ti, Catrin? Lle mae John?

Catrin

Hylo, Tomos! Beth sy wedi d'yrru di yma allan o dy ffordd yr adeg yma o'r dydd, fel hyn? Eistedd i lawr. Mae John wrthi hi'n molchi.

Tomos

Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo.

Catrin

Aros funud; mae arna i eisio gofyn rhwbeth i ti, a fynnwn i er dim i John glywed. (Yn ddistaw.) Mae hi'n fain iawn arnon ni'r mis yma, ac mae ar Ifan bach eisio lot o betha newydd. Oes gen ti ddim rhyw chweigien roet ti'n fenthig ini dan ben y mis?

Tomos

(Yn rhoi i law ar ei hysgwydd.) Catrin bach, mae'n ddrwg iawn genni, ydi wir. Mi rois y chweigien i ddwytha oedd gen i neithiwr i orffen cownt y capel─daset ti wedi gofyn yn gynt imi, mi faswn wedi i chadw ond mi dreia i gael benthig un i ti gan John Ellis y Siop─mae o'n un reit barod.

Catrin

Diolch yn fawr iti. (John yn dyfod i mewn.) Dim gair, Tomos, cofia.

John

Hylo, Twm, ti sy'na? Sut mae hi'n canu? Beth wyt ti'n neud yma mor fora?

Tomos

Eisio dy weld ti.─ Wyddost ti beth─dydw ì ddim am fynd i'r chwarel heddiw.



Ifan yn pesychu o'r siambar.

John

(Yn edrych at ddrws y siambar.) Beth! ddim am fynd i'r chwarel? A hitha'n ben y mis? Wyt ti'n wael?

Tomos

Nag ydw i, ond pen y mis neu beidio, dydw i ddim am fynd.

John

Bedi'r rheswm? Wyt ti'n mynd i briodi, dwad? Ynte wyt ti'n mynd i riteirio a byw'n ŵr bonheddig?

Tomos

Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny.

Catrin

Wel, dwad dy reswm, Twm.

Tomos

Wel, dyma fo─ac mi gei ditha chwerthin, os leici di, ond dydw i ddim yn mynd i wrando dim arnat... Mi ges hen freuddwyd cas iawn neithiwr.

John

Eh! Breuddwyd? Beth odd o?

Tomos

Wel, mi welwn fy hun yn taro iti ar wyneb y graig, a thitha'n dal yr ebill. Wedi bod wrthi hi drwy'r pnawn, debygwn i, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên, ond cyn ini roi'n cotia am danon, dyma rywun o ben y clogwyn yn galw wâr, a chyn ini fedru symud, dyma'r clogwyn i gyd yn ysgwyd ac yn disgyn arnon ni'n dau... a wedyn mi ddeffris... Dydw i ddim yn mynd i'r chwarel heddiw.

John

(Yn gyffrous iawn) Ddaru ti ddal sylw ar y dyn oedd yn gweiddi wâr?

Tomos

Do.

John

Pwy oedd o?

Tomos

Wel, rhyw frith atgo sy genni am dano fo; ond roeddwn i'n meddwl mai'r hen Huw Lewis y Buarth oedd o,─dyna dychrynodd fi gymint.

Catrin

(Ym mhen tipyn.) Dydi John ddim yn mynd i'r chwarel chwaith, Twm.

John

Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed. Wyddost ti beth? Mi freuddwydis inna 'r un breuddwyd yn union neithiwr.

Tomos

Yr un breuddwyd, beth wyt ti'n feddwl?

John

Ia, yr un breuddwyd yn union, air am air, a mi glywis yr hen Huw Lewis yn galw wâr a phopeth fel y deudisti.

Tomos

(Ar ol distawrwydd mawr.) Felly wir. O ia!

Catrin

Rhybudd gan Ragluniaeth oedd o, yn deud fod damwain i fod yn ych bargen chi heddiw. Dos yn ol i dy wely, Twm, a chitha hefyd, John. Nid yn amal y byddwch chi'n cael siawns i gysgu heb ddim yn galw arnoch chi.

John

Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon.

Tomos

Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd.



Tomos yn troi tua'r drws.

John

Aros funud! Faint well fyddwn ni wedi aros adre? Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa...

Catrin

Arhoswch chi adre heddiw ych dau beth bynnag, ac mi gewch weld beth ddigwydd yno heddiw.

John

(Yn cerdded o gwmpas.) Wn i ddim, na wn i wir... (Trên y gweithwyr yn chwibanu yn y pellter.) Dyna hi'r trên wrth Gefn y Gwyndy.

Tomos

Gwna dy feddwl i fyny, ngwas i, i aros adre bellach...

John

O'r gore. Mi adwn ni iddi hi yn y fan yna ynte... Dydw i ddim yn mynd. (Yn codi ei droed ar y gadair i ddatod ei esgidiau.)



Ifan yn pesychu o'r siambar.

John

Mae'r hogyn bach yna wedi cael annwyd ofnadwy yn rhywle... Rhaid ini gymryd gofol hefo fo, neu mae o'n siwr o droi yn rhywbeth gwaeth arno fo.



Ifan yn pesychu eto. Distawrwydd. John yn dal i ddatod ei esgidiau, ac wedi datod un esgid, yn rhoi ei law ar yr hosanau ar gefn y gadair, ac yna yn edrych ar ei law.

John

Catrin! sana pwy ydi'r rhain?

Catrin

Sana Ifan bach.

John

(Yn gafael ynddynt ac yn edrych arnynt.) Y mae nhw'n lyb dyferu!

Catrin

Yn lyb?

John

Ia, teimlwch nhw... Does dim rhyfedd fod y peth bach wedi cael annwyd... Rhowch imi weld i sgidia fo. (Catrin yn estyn un esgid, a Tomos yn estyn y llall iddo.) Wel, edrychwch ar i sgidia fo... ond tydyn nhw'n dwll drwadd!... Oes gynno fo bâr arall?

Catrin

Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed.



Sŵn traed dynion ar y ffordd yn rhedeg am y trên. John yn edrych ar y cloc. Ifan yn pesychu eto.

John

Faint o arian sydd yma yn y ty?

Catrin

Dim ond deuswllt dan ben y mis.

John

Oes coel i gael gan gryddion y Dre?

Tomos

Nag oes, dim perig. Rhaid iti dalu arian parod am bopeth.



John yn cau ei esgidiau i fyny ar unwaith, ac yn gafael yn ei het a'i flwch bwyd.}

John

Wel, dyna ben arni hi. Fedra i ddim aros adra i ddiogi ag lfan bach heb sgidia am i draed... Cadwch o yn i wely heddiw.



Yn agor y drws ac yn myned allan. Sŵn ei draed yn rhedeg i'w glywed ar y ffordd. Catrin a Tomos yn edrych yn syn ar eu gilydd, ac yn dal esgid bob un yn eu llaw... Trên y gweithwyr yn chwibanu.

LLEN

a1a2