Dyrchafiad Arall i Gymro

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Cegin Pen y Rhos, tyddyn bychan dwy acer ar ymyl y Rhos Fawr yn Sir Gaernarfon.
(1, 0) 2 Yn y pared gyferbyn, y mae ffenestr fechan bedair cwarel, yn dangos trwch mawr y mur, ac ar yr ochr chwith iddi, dresel dderw hen ffasiwn iawn, yn dal pethau hen a newydd, llestri gan mwyaf.
(1, 0) 3 Rhwng y dresel a'r ffenestr, y mae cloc wyth niwrnod yn perthyn i genhedlaeth neu ddwy ar ol y dresel; a ffyn ac umbrela neu ddau yn y gongl wrth ei ochr.
(1, 0) 4 Ar yr ochr dde i'r ffenestr, cwpwrdd gwydr, yn llawn o lyfrau.
(1, 0) 5 Ar y pared de, y mae'r tân o dan simdde fawr, a mainc yn cyrraedd oddiwrtho i'r llawr, o dan y simdde.
(1, 0) 6 Y mae drws y siambr yn y pared chwith, ac yn nes i gefn yr ystafell, y mae llen laes yn cuddio gwaelod y grisiau sy'n arwain i'r llofft.
(1, 0) 7 Nid oes lofft o gwbl uwchben y gegin ei hunan, ac y mae'r nenbrennau i'w gweled yn amlwg.
(1, 0) 8 Y mae'r drws cefn yn y gongl dde y tu ol i'r simdde.
(1, 0) 9 ~
(1, 0) 10 Ar ganol y llawr, y mae bwrdd bychan ac oilcloth arno, a Beibl mawr a llyfr arall wedi eu gadael yno er y noson cynt.
(1, 0) 11 Ar y mur, llun Williams Pant-y-celyn, a Gladstone, a darlun lliwiedig o frwydr Tel-el-Kebir.
(1, 0) 12 Y mae popeth yn boenus o lân.
(1, 0) 13 Ar gadair rhwng y ddau ddrws y mae dillad plentyn, ac esgidiau o dani, a dwy hosan ar gefn y gadair.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Pump o'r gloch y bore ydyw, yn y gaeaf, felly y mae y popeth yn hollol dywyll.
(John) Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall.
 
(Catrin) O'r gora, brysiwch wir; mae hi'n oer ofnadwy i sefyllian o gwmpas, a chitha wedi cael annwyd fel rydech chi.
(1, 0) 28 John yn myned at y drws ac yn sefyll fel o'r blaen ac yn ochneidio.
(Catrin) Beth sy arnoch chi'r bore ma, John?
 
(Catrin) Mi gewch molchi wedyn.
(1, 0) 41 Y ddau yn eistedd i lawr wrth y bwrdd ac yn bwyta.
(Catrin) {Yn rhoi ei llaw ar law ei gŵr.}
 
(John) {Yn mynd allan.}
(1, 0) 125 Catrin yn tacluso'r bwrdd.
(1, 0) 126 Curo ar y drws, a dyn mewn dillad chwarelwr yn dyfod i fewn.
(Tomos) Sut rwyt ti, Catrin?
 
(Tomos) Wyddost ti beth─dydw ì ddim am fynd i'r chwarel heddiw.
(1, 0) 149 Ifan yn pesychu o'r siambar.
(John) {Yn edrych at ddrws y siambar.}
 
(Tomos) Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd.
(1, 0) 188 Tomos yn troi tua'r drws.
(John) Aros funud!
 
(John) {Yn codi ei droed ar y gadair i ddatod ei esgidiau.}
(1, 0) 202 Ifan yn pesychu o'r siambar.
(John) Mae'r hogyn bach yna wedi cael annwyd ofnadwy yn rhywle...
 
(John) Rhaid ini gymryd gofol hefo fo, neu mae o'n siwr o droi yn rhywbeth gwaeth arno fo.
(1, 0) 205 Ifan yn pesychu eto.
(1, 0) 206 Distawrwydd.
(1, 0) 207 John yn dal i ddatod ei esgidiau, ac wedi datod un esgid, yn rhoi ei law ar yr hosanau ar gefn y gadair, ac yna yn edrych ar ei law.
(John) Catrin! sana pwy ydi'r rhain?
 
(Catrin) Mae arna i ofn fod y rheiny llawn cyn waethed.
(1, 0) 220 Sŵn traed dynion ar y ffordd yn rhedeg am y trên.
(1, 0) 221 John yn edrych ar y cloc.
(1, 0) 222 Ifan yn pesychu eto.
(John) Faint o arian sydd yma yn y ty?
 
(Tomos) Rhaid iti dalu arian parod am bopeth.
(1, 0) 228 John yn cau ei esgidiau i fyny ar unwaith, ac yn gafael yn ei het a'i flwch bwyd.}
(John) Wel, dyna ben arni hi.
 
(John) Cadwch o yn i wely heddiw.
(1, 0) 232 Yn agor y drws ac yn myned allan.
(1, 0) 233 Sŵn ei draed yn rhedeg i'w glywed ar y ffordd.
(1, 0) 234 Catrin a Tomos yn edrych yn syn ar eu gilydd, ac yn dal esgid bob un yn eu llaw...
(1, 0) 235 Trên y gweithwyr yn chwibanu.
(1, 0) 236 ~
(1, 0) 237 LLEN
(2, 0) 238 Y mae deugain mlynedd o amser rhwng Act 1 ag Act 2.
(2, 0) 239 ~
(2, 0) 240 Llyfrgell yn nhy Ifan Morris yng ngorllewin Llundain, tua naw o'r gloch y nos.
(2, 0) 241 Ffenestr Ffrengig yng nghefn yr ystafell, a llenni trymion arni; ar y dde i'r ffenestr, cwpwrdd yn llawn o lyfrau.
(2, 0) 242 Drws ar yr ochr chwith, a rhyngddo a'r ffenestr yr hen gloc a welsom yn nhy John Morris.
(2, 0) 243 Tân ar y llaw dde.
(2, 0) 244 Bwrdd mawr derw yn y canol, a phentwr o lyfrau gleision, papurau, etc., arno.
(2, 0) 245 Ar soffa wrth y tân y mae Mrs. Morris yn eistedd yn darllen.
(2, 0) 246 ~
(2, 0) 247 Ifan Morris yn dyfod i mewn; y mae ef a'i wraig mewn evening dress, gan eu bod newydd orffen eu cinio.
(2, 0) 248 Y mae'n debig iawn i'w dad, ond ei fod ychydig yn dalach ac yn sythach ei gerdded, ond y mae ei wallt yn wynnach nag oedd gwallt ei dad, pan welsom ef.
(2, 0) 249 Y mae ei wyneb yn feinach, ac yn dangos mwy o graffter, er nad oes dim mwy o ôl diwylliant arno.
(Ifan) Wel, dydw i ddim am fynd allan eto, beth bynnag, waeth gen i beth fo'n galw arna i.
 
(Ifan) Wel, lle ar y ddaear y mae hi?
(2, 0) 265 Yn chwilio eto a'i gefn at ei wraig; hithau'n araf yn cymryd papur newydd odditan un o'r llyfrau ar y bwrdd, ac yn ei guddio'n llechwraidd o dan glustog y soffa.
(Mrs. Morris) Hwyrach bod Jane wedi ei llosgi hi heb wybod.
 
(Ifan) Rwan am dipyn o adloniant.
(2, 0) 301 Yn ail oleu ei sigar ac yn codi ei goesau ar y soffa.
(2, 0) 302 Distawrwydd mawr.─
(2, 0) 303 Mrs.Morris yn edrych yn bryderus arno.─
(2, 0) 304 Yntau 'n dal i ddarllen.
(2, 0) 305 Yn codi'n sydyn.
(Ifan) Wel! Wel!
 
(Ifan) Rhaid imi feddwl am y dyfodol... ac yn y |Cabinet|, mi gai siawns i wneud rhywbeth dros yr hen wlad.
(2, 0) 351 Cynnwrf wrth y drws.
(2, 0) 352 Llais.
(Llais.) Waeth iti beidio ddim, ngeneth i.
 
(Mrs. Morris) Beth sy na?
(2, 0) 357 Ifan Morris yn neidio i fyny ac yn rhedeg at y drws, ond cyn iddo ei gyrraedd, y mae'r drws yn agoryd, a Tomos yn dyfod i fewn.
(2, 0) 358 Mae ei wisg yn od o wladaidd, a bag mawr ganddo yn un llaw, a het ac umbrela yn y llall.
(2, 0) 359 Mae erbyn hyn yn hen ddyn, a gwaith caled y chwarel wedi ei grymu.
(2, 0) 360 Hawdd gweled er hynny ar ei wyneb nad yn ofer y bu yn ysgol bywyd.
(Ifan) F'ewyrth Tomos!
 
(Ifan) Dyna'r gair ola, ac os ydech chi yn mynd i siarad ymhellach rydw i'n mynd allan.
(2, 0) 413 Yn symud at y drws.
(2, 0) 414 Drws yn agor a llais y forwyn yn galw enw Sir Henry Fawcett-Edwards.
(2, 0) 415 Y Prif-weinidog yn dyfod i mewn.
(2, 0) 416 Dyn tâl main, a wyneb ganddo na allai'r un dewin yn y byd ei ddarllen.
(2, 0) 417 Ond gallai dyn craff ddyfalu llawer─er engraifft, ei fod wedi gweled gormod, ac wedi deall rhy ychydig─a'i fod wedi blino ar yr unig beth yr oedd yn ei ddeall, sef y byd.
(Ifan) {Wrth Tomos}.
 
(Syr Henry) Nos da, Mrs. Morris.
(2, 0) 440 Yn troi at y drws.
(2, 0) 441 Llais y forwyn.
(2, 0) 442 Mrs. Morris yn mynd at y drws, ac yn dyfod yn ol a pharsel yn ei llaw.
(Mrs. Morris) Mae'ch ewyrth, Ifan, wedi mynd i rywle a'i bethau hefog o─ond wedi gadael hwn i Jane, ac yn gofyn i chi agor o cyn i Syr Henry fynd.
 
(Syr Henry) Ynte atgofion mebyd wedi eu pacio yn hwylus er mwyn cael gwared o honyn nhw ar drothwy'r bywyd newydd?
(2, 0) 447 Ifan mewn distawrwydd yn agor y papur ac yn codi i fyny bâr o esgidiau plentyn, ac hosanau─ei esgidiau a'i hosanu ei hunan─a welsom yn Act I.
(Ifan) {Yn rhoi'i law ar ei wyneb ac yn wylo'n chwerw.}
 
(Ifan) Dyna "Ddyrchafiad arall i Gymro," yntê?
(2, 0) 456 LLEN