Dyrchafiad Arall i Gymro

Ciw-restr ar gyfer Ifan

(John) Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall.
 
(John) Cadwch o yn i wely heddiw.
(2, 0) 250 Wel, dydw i ddim am fynd allan eto, beth bynnag, waeth gen i beth fo'n galw arna i.
(2, 0) 251 Rydw i am eistedd.
(Mrs. Morris) {Yn codi ei golwg arno.}
 
(Mrs. Morris) Eisteddwch ar y soffa yna, y mae hi'n esmwythach na'r cadeiria.
(2, 0) 256 Diolch.
 
(2, 0) 258 Welsoch chi'r |Genedl| hyd y fan yma'n rhywle, deudwch?
(Mrs. Morris) Pa |Genedl|?
 
(Mrs. Morris) Ydi un yr wythnos yma wedi dwad?
(2, 0) 261 Ydi, debig: does dim perig i mam anghofio'i gyrru hi.
(2, 0) 262 Bobol annwyl, dasa ddigwydd iddi hi anghofio, mi ddoe yma'i hunan bob cam o Gymru a'r papur yn i llaw─neu hwyrach y basa hi'n gyrru Tomos.
 
(2, 0) 264 Wel, lle ar y ddaear y mae hi?
(Mrs. Morris) Hwyrach bod Jane wedi ei llosgi hi heb wybod.
 
(2, 0) 270 Rhaid imi chael hi─dyna'r unig gyfle sy genni i wybod beth sy'n digwydd yn yr hen wlad. Mae'n ddigon hawdd i chi chwerthin, ond wyddoch chi beth?
(2, 0) 271 Mi fuasa'n well genni golli hanes holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant, na methu gwybod pwy gafodd i ffeinio'r Sadwrn yn Nghaernarfon am feddwi, neu pa hogyn o'r dre sy wedi cael ei godi ar y Cyngor Plwy yn Timbuctoo─"dyrchafiad arall i Gymro!"...
(2, 0) 272 Wel, fedra i ddim cael hyd iddi hi.
 
(Mrs. Morris) Pam na fedrwch chi fod fel Mr. Balfour, os ydech chi'n teimlo mor |superior|─peidio edrych ar bapur newydd ddydd mewn blwyddyn?
(2, 0) 277 le, dyna hi, ngeneth i, dyna hi, dydi dyn rhesymol byth yn gyson a fo'i hunan.
(2, 0) 278 Mi fydd rhai o bobol fawr y Senedd yn chwerthin am ben bychander bywyd Cymru,─ond waeth am danyn nhw, pobol felna yden ni.
(2, 0) 279 Ryden ni heb ddysgu eto y gelfyddyd fawr Seisnig o edrych galla pan fyddwn ni fwya o ffyliaid.
(2, 0) 280 Pan fyddwn ni'n gneud petha fasa'n ddigon i yrru Sais ar ei ben i Colney Hatch, dyna'r pryd y byddwn ni galla, fel rheol.
(2, 0) 281 Ac heblaw hynny, faint gwaeth ydi mynnu gwybod pwy enillodd y râs redig yn Llandinadman nag ymdrabaeddu yn y papura Saesneg i wybod pa sut |gostume| newydd sy gan y frenhines, neu pa ŵr newydd sy gan rhyw dipyn o actress?...
(2, 0) 282 Beth ydech chi'n ddarllen?
(Mrs. Morris) Ceiriog.
 
(Mrs. Morris) Ceiriog.
(2, 0) 284 Ceiriog!
(2, 0) 285 Dyna lle'r ydech chi o hyd?
(2, 0) 286 Rydw i wedi diflasu arno fo ers blynyddoedd─fedra i mo'i ddarllen o─yr hen greadur meddal iddo fo, hefo'i |sentiment|, a'i ddagrau a'i garu, a'i gusanu.
(Mrs. Morris) Wel ie, ond rydw i'n hen ffasiwn iawn, welwch chi, a fedra i ddim cael fawr yn y beirdd diweddar yma─mae Ceiriog yn fy siwtio ì,─un |sentimental| ydw i, lfan bach, fel y gwyddoch chi.
 
(Mrs. Morris) Wel ie, ond rydw i'n hen ffasiwn iawn, welwch chi, a fedra i ddim cael fawr yn y beirdd diweddar yma─mae Ceiriog yn fy siwtio ì,─un |sentimental| ydw i, lfan bach, fel y gwyddoch chi.
(2, 0) 288 Mewn geiriau ereill, rydech chi am droi dagrau Ceiriog at ych melin ych hun.
(2, 0) 289 Wel, mae hynny'n eitha tra bo digon o ddŵr ynddyn nhw i throi hi.
(2, 0) 290 Mae fy melin i yn rhy drom, dyna'r gwir,─neu mae ar y treulia eisio'i hiro.
(Mrs. Morris) Fasa tipyn bach o |sentiment| yn gneud fawr o ddrwg i chitha,─rydech chi wedi caledu llawer er pan ydech chi yn Llundain.
 
(Mrs. Morris) Fasa tipyn bach o |sentiment| yn gneud fawr o ddrwg i chitha,─rydech chi wedi caledu llawer er pan ydech chi yn Llundain.
(2, 0) 292 Mae'r hen soffa yma wedi cledu hefyd er pan mae yma.
 
(2, 0) 294 Neno'r tad, fedrai yn fy myw osod fy hun yn esmwyth.
 
(2, 0) 296 Hylo! bedi hwn?
 
(2, 0) 298 Wel, dyma hi'r |Genedl|.
(2, 0) 299 Doedd ryfedd fod y soffa'n bigog─ond doeddwn i'n eistedd ar holl gyfarfodydd misol Gogledd Cymru─heb sôn am |wit| y Cwrt bach.
(2, 0) 300 Rwan am dipyn o adloniant.
 
(2, 0) 306 Wel! Wel!
 
(Mrs. Morris) Beth ydi'r mater rwan?
(2, 0) 309 Dim.
 
(2, 0) 311 Os oes arnoch chi eisio tipyn o syniad y |Genedl| am ych gŵr, dyma fo i chi yn blwmp ac yn blaen.
(2, 0) 312 Ga i ddarllen o i chi?
(Mrs. Morris) Os leiciwch chi.
 
(Mrs. Morris) Os leiciwch chi.
(2, 0) 314 Gwrandewch.
(2, 0) 315 Dyma ran o'r brif erthygl:-
(2, 0) 316 ~
(2, 0) 317 "Fel y gŵyr pawb o'n darllenwyr, fe ddaeth Mr. Morris â bil o flaen y Senedd i godi safon cyflog y chwarelwyr,─y bobl o bob dosbarth o weithwyr sy'n cael eu talu salaf, ac nid oedd gan neb yr amheuaeth leiaf nad âi'r bil yn llwyddiannus drwy'r Ty.
(2, 0) 318 Cynheswyd llawer aelwyd, a llonnwyd aml galon drist wrth feddwl bod yr hen bryder a'r hen ofal o'r diwedd i orffen am byth; bod siawns i'r plant gael digon o fwyd eto, ac i'r gruddiau gwelwon adennill gwaed.
(2, 0) 319 Ond fel y digwyddodd yn rhy aml yng Nghymru cyn heddiw, llin yn mygu oedd ein gobeithion, a chorsen ysig oedd yr un y pwysem arno.
(2, 0) 320 Os ydyw'r sibrydion yn wir bod Mr. Morris yn bwriadu cefnu ar y bil, rhaid inni ddywedyd yn ddifloesgni fod Mr. Morris wedi bradychu y bobl a'i gyrrodd i'r Senedd.
(2, 0) 321 Pa faint fydd y wobr a gaiff Judas y tro yma, nis gwyddom, ond byddwn yn gwylio'r penodiadau nesaf i'r Cabinet yn bryderus.
(2, 0) 322 Fe fu amser pan feddyliem fod Cymru o'r diwedd wedi cael yn Mr. Morris ddyn oedd yn gosod y wlad a'r werin y cododd ohoni o flaen manteision personol ac elw, ond gwelwn erbyn hyn yn amlwg nad yw yntau, er disgleiried ei allu, yn amgen na'r rhelyw o'r aelodau Cymreig.
(2, 0) 323 Diwedd y gân ydyw'r geiniog."
(2, 0) 324 ~
 
(2, 0) 326 ... Wel, dyna i chi beth ydi gwenwyn golygyddol.
(2, 0) 327 Mi leiciwn i gael o o flaen y nhroed am funud!
(Mrs. Morris) le, |mae| o'n gas... ond Ifan?
 
(Mrs. Morris) le, |mae| o'n gas... ond Ifan?
(2, 0) 329 Beth?
(2, 0) 330 Ydech chi am ail ddechra eto?
(Mrs. Morris) Ydw wir.
 
(Mrs. Morris) Cymrwch bwyll─a chofiwch y graig yr ydych chi wedi'ch naddu ohoni.
(2, 0) 336 Twt, twt.
(2, 0) 337 Pa iws ydi ail-ddechra'r hen ymdderu yma eto?
(2, 0) 338 Dyma hi'n naw o'r gloch ac mi addewis y cai'r Prif-weinidog fy atebiad i cyn hanner awr wedi naw.
(2, 0) 339 Rydw i yn i ddisgwyl o yma bob munud rwan.
(2, 0) 340 Rydw i'n ddigon tawel fy nghydwybod.
(Mrs. Morris) Ydech chi wedi meddwl beth feddylia pobl Cymru ohonoch chi?
 
(Mrs. Morris) Ydech chi wedi meddwl beth feddylia pobl Cymru ohonoch chi?
(2, 0) 342 Dydi o ddim gwahaniaeth genni o gwbl beth mae nhw'n feddwl, tra byddan nhw'n meddwl mor niwlog ag y mae nhw.
(2, 0) 343 Pan ddysg yr arweinwyr─y pregethwyr a'u ffryndiau─wneud tipyn o aberth eu hunain, mi fydd ganddyn nhw le i ofyn aberth gan rai fel finna...
(2, 0) 344 Welsoch chi bregethwr erioed wrthododd adael i bwlpud er mwyn tipyn rhagor o arian yn rhywle arall?
(Mrs. Morris) Fedrai ddim deud─dydw i na chitha ddim yn gwybod am y rhai sy wedi gneud yr aberth─fydd hanes y rheiny ddim yn mynd i'r papura.
 
(Mrs. Morris) Fedrai ddim deud─dydw i na chitha ddim yn gwybod am y rhai sy wedi gneud yr aberth─fydd hanes y rheiny ddim yn mynd i'r papura.
(2, 0) 346 Na fydd, rydech chi yn ych lle.
(2, 0) 347 Ond pan wela i yn y |Genedl Gymreig| a'r papura ereill o dan y pennawd "Dyrchafiad arall i Gymro" fod rhywun wedi gwrthod mwy o arian er mwyn i egwyddor, mi ddechreua inna aberthu wedyn.
(Mrs. Morris) Felly, does dim symud arnoch chi?
 
(Mrs. Morris) Felly, does dim symud arnoch chi?
(2, 0) 349 Rydw i fel y graig.
(2, 0) 350 Rhaid imi feddwl am y dyfodol... ac yn y |Cabinet|, mi gai siawns i wneud rhywbeth dros yr hen wlad.
(Llais.) Waeth iti beidio ddim, ngeneth i.
 
(Mrs. Morris) Beth sy na?
(2, 0) 361 F'ewyrth Tomos!
(Mrs. Morris) O ble yn y byd y daethoch chi'r adeg yma o'r nos, f'ewyrth?
 
(Mrs. Morris) Mi gewch damaid o swper mewn munud.
(2, 0) 371 Sut mae pawb yng Nghymru?
(Tomos) Mae dy fam a finna'n ddigon iach, ond mae pawb acw cyn dloted ag y mae posib iddyn nhw fod.
 
(Tomos) Mae'r hen le acw, yn bentra, ac yn ysgol, ac yn gapal, yn marw dan yn dwylo ni,─mi ddarun y nanfon i yma i siarad hefo ti, Ifan.
(2, 0) 374 Wel wir, mae'n rhaid fod gynnoch chi rywbeth pwysig iawn i ddeud.
(2, 0) 375 Does na ddim ffortiwn, debig gen i, wedi dwad i'r un o'n teulu ni?
(Tomos) {Yn eistedd ar ymyl cadair.}
 
(Tomos) Ond rydw i'n dwad yma i gynnig ffortiwn arall i ti─ffortiwn nad oes ond ychydig iawn yn medru i hel hi weldi, ond roedd Iesu Grist yn i plith nhw, a dy dad titha...
(2, 0) 379 Dydw i ddim yn deall damhegion, f'ewyrth, rwan.
(2, 0) 380 Mae pawb yn y senedd, wyddoch chi, yn siarad mor blaen.
(2, 0) 381 Seiat Bethlehem acw sy wedi'ch gyrru chi yma i chwilio i gyflwr y nghrefydd i?
(Tomos) {Yn hamddenol.}
 
(Tomos) Ond dyma'r ffortiwn oedd genni i gynnig iti─aberth.
(2, 0) 387 le, reit siwr─
(2, 0) 388 Aberth hefo A fawr yntê?
(2, 0) 389 Rydw i wedi sylwi, f'ewyrth, fod mwy o gynnig nag o dderbyn ar y ffortiwn honno.
(Tomos) {Yn fwy hamddenol byth.}
 
(Tomos) Mae arnon ni eisio iti fynd ymlaen hefo bil y cyflog.
(2, 0) 393 Rydech chi'n rhy hwyr, yn rhy hwyr o dipyn.
(2, 0) 394 Rydw i'n disgwyl y Prif-weinidog yma bob munud i ddwedyd wrtho fo y mod i yn mynd i dynnu'r bil yn ol.
(Tomos) {Yn codi'n araf, ac yn pwyntio at Ifan gyda'i umbrela.}
 
(Tomos) Mi laddwyd dy dad, er iddo fo gael i rybuddio gan freuddwyd rhag mynd i'r chwarel; yr oedd dy dad yn ffit arwr i sefyll gyda'r seintia mwya...
(2, 0) 399 Tewch, tewch, fedrai mo'ch gwrando chi; rydw i wedi gneud y meddwl i fyny.
(Tomos) Do, mi fu farw ym mloda 'i ddyddia─rydw i'n cofio mynd i nol o, a dwad a fo i lawr ar elor o'r chwarel, a thitha'n hogyn bach yn rhythu ar ben y drws ac yn methu sylweddoli beth oedd yn bod.
 
(2, 0) 403 Fewyrth, tasech chitha'n deall ac yn sylweddoli'r cwbwl, fasech chi ddim mor greulon wrtha i─wyddoch chi ddim y mod i'n gorfod crafu a chynilo, ac ymwadu oddiwrth bopeth i dreio byw yn Llundain yma yn agos i fy safle─a dyna'r plant i'w haddysgu.
(Tomos) Ie, dyna'r plant─dyna ddeudodd dy dad y bora hwnnw pan aeth o i'r Chwarel.
 
(Tomos) Ond wyddost ti pam yr aeth o i'r Chwarel y bore hwnnw?
(2, 0) 407 Wel, gwn.
(Tomos) Ie, roedden ni yn dau wedi penderfynu peidio mynd.
 
(Tomos) Roeddet ti'n hogyn bach yn y siambar yn yr hen dy,─yn pesychu yn dy wely─ac mi glywodd dy dad ti.
(2, 0) 410 F'ewyrth─rydw i'n deud wrthoch chi fod y peth wedi ei wneud─does dim dadwneud arno fo.
 
(2, 0) 412 Dyna'r gair ola, ac os ydech chi yn mynd i siarad ymhellach rydw i'n mynd allan.
 
(2, 0) 419 Y prif-weinidog!
 
(Syr Henry) Mae arna i ofn fy mod i wedi torri ar eich cyngor yma─dau funud fydda i─dim ond i glywed ych ateb chi.
(2, 0) 425 Wel, rydw i wedi cael f'ysgwyd, dipyn.
(2, 0) 426 Roeddwn i'r bore yma wedi penderfynu rhoi'r bil ì fyny, a derbyn ych cynnig, ond heno,─wel, wn i ddim wir.
(Syr Henry) Wel, wrth gwrs, does gen i ddim amser i grefu.
 
(2, 0) 430 Wel, syr, y mae un atgo bach yn y nghadw i rhag addo ar unwaith, a phe basa 'r hen ŵr yna sy newydd fynd allan wedi aros munud yn hwy i orffen i stori, hwyrach mai yn ych gwrthod chi y buaswn i.
(2, 0) 431 Ond... {yn eistedd yn sydyn yn ei gadair}... rydw i'n derbyn ych cynnig chi.
(Syr Henry) Da iawn.
 
(2, 0) 449 Syr Henry, rydech chi'n iawn─mae fy mebyd i wedi dyfod yn ol, ond bu bron iddo ddyfod yn rhy hwyr.
(2, 0) 450 Welwch chi'r esgidiau a'r hosanau yma?
(2, 0) 451 Mae rhain wedi eu prynu a gwaed, a fedrai i mo'u gwerthu nhw er mwyn lle yn y Cabinet.
 
(2, 0) 453 Nos da, Syr Henry─Y mae'r bil i fynd ymlaen, pa bawn i'n rhwygo'ch pleidiau pydron chi bob un, a phob |Cabinet| yn Ewrop yn mynd i golledigaeth.
 
(2, 0) 455 Dyna "Ddyrchafiad arall i Gymro," yntê?