Nawr Yw Ei Hamser Hi

Ciw-restr ar gyfer Dilys

(Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach.
 
(Mrs Lloyd) Ti fuost yn hir iawn.
(1, 0) 4 Do, 'mam.
(1, 0) 5 Cwrddais â'r hen Athro, a 'doedd dim posib cael ei wared.
(1, 0) 6 Bum am dro hir yn y car gydag 'e.
(Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn.
 
(Mrs Lloyd) 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn.
(1, 0) 8 Oedd.
 
(1, 0) 10 '|Roedd| e'n anfodlon 'mod i allan pan alwodd e' neithiwr.
(1, 0) 11 'Rwy'n mynd i'r Ginio gydag e' heno.
(1, 0) 12 Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd.
(Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd.
 
(Mrs Lloyd) Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd.
(1, 0) 14 A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan.
(1, 0) 15 Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno.
(Mrs Lloyd) Mae e'n garedig iawn.
 
(Mrs Lloyd) Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets.
(1, 0) 20 Yr Athro roddodd 'nhw i fi.
(1, 0) 21 Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo.
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna.
 
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna.
(1, 0) 23 Mae e'n gwybod am Jane.
(1, 0) 24 'Does ryfedd ei fod yn cymryd trugaredd arnaf i.
 
(1, 0) 26 Edrychwch beth a brynais i, Mam.
(1, 0) 27 On'd yw'r ffrog fach yma'n bert?
(1, 0) 28 Digwyddais ei gweld yn siop Morgan.
(1, 0) 29 Mae yn fy nharo i'r dim.
(Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser.
 
(Mrs Lloyd) Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser.
(1, 0) 31 A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus.
(1, 0) 32 'Does gen i ddim byd i'w wisgo.
(Mrs Lloyd) Dilys, Dilys!
 
(Mrs Lloyd) Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te?
(1, 0) 35 Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg.
 
(1, 0) 37 Rwy'n leicio hon, ond fod eisiau ei chwtogi dipyn.
 
(Mrs Lloyd) Ydi Jane wedi ei gweld?
(1, 0) 40 Nag yw, eto.
(1, 0) 41 Pa wahaniaeth am Jane os y'ch chi'n fodlon i mi ei chael?
(1, 0) 42 Gellid meddwl mai hi yw'r fam a chwithau'n neb... a 'dyw Jane yn cymryd dim diddordeb mewn dillad newydd.
(1, 0) 43 Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain.
(Mrs Lloyd) O'r gorau, o'r gorau.
 
(Mrs Lloyd) Mae hi wedi oeri a...
(1, 0) 50 O dyna fwstwr.
(1, 0) 51 Edrychwch beth y'ch chi'n wneud, wnewch chi'; sarnu'r glo ar y carped.
(1, 0) 52 A ble mae'ch capan chi, eto?
(1, 0) 53 Beth ddwedais i'r bore 'ma?
(Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd.
 
(Letitia) Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd.
(1, 0) 55 'Chlywais i erioed y fath ddwli!
(1, 0) 56 Ewch i'w 'nôl ar unwaith.
(Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys.
 
(Mrs Lloyd) Gad iddi, Dilys.
(1, 0) 58 Na wna, wir.
(1, 0) 59 Cerwch Letitia.
(Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo.
 
(Letitia) Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo.
(1, 0) 61 Yr arswyd!
(1, 0) 62 Dyma drefen ar gapan.
(1, 0) 63 Gaf i ei osod i chi?
(1, 0) 64 Does gennych chi ddim clem.
 
(1, 0) 66 Dyna chi 'nawr.
(1, 0) 67 Wyddys yn y byd pwy ddaw yma.
(1, 0) 68 Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân.
(Mrs Lloyd) Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory.
 
(Mrs Lloyd) Mae hi'n dy leicio di.
(1, 0) 71 Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo!
(1, 0) 72 Mae hi'n leicio gwledd penblwydd yn iawn, ond leiciodd hi ddim rhoi dim i mi erioed.
 
(1, 0) 74 "Dilys fach, 'rown i wedi |meddwl| prynu"
 
(1, 0) 76 o, pob math o ffrogiau i mi, ond, druan â fi!
(1, 0) 77 Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi.
(Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys!
 
(Mrs Lloyd) 'Nawr, 'nawr, Dilys!
(1, 0) 79 Mae'n eitha gwir.
(1, 0) 80 Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo.
 
(1, 0) 82 Byddwch ddistaw, Letitia.
(1, 0) 83 'Rown i ddim yn siarad â chi.
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys.
 
(Mrs Lloyd) Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys.
(1, 0) 86 Dyna rywun wedi dod.
(1, 0) 87 Cer'wch Letitia, ond dewch chi â gwybod pwy sydd yna cyn dweud 'mod i i mewn, cofiwch.
(Letitia) Gwnaf, Miss Dilys.
 
(1, 0) 92 Pwy sydd yna, wn i!
(1, 0) 93 Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna.
(Mrs Lloyd) Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro.
 
(Tabitha) O, dyma hi!
(1, 0) 106 Modryb Tabitha!
(1, 0) 107 Dewch ymlaen.
(Mrs Lloyd) Dyma syndod!
 
(Letitia) {Yn chwerthin.}
(1, 0) 116 Rhag c'wilydd i chi—yn siarad â phobol dierth—a—ac ymddwyn fel yna; ond 'does dim dysgu arnoch chi.
(1, 0) 117 Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam.
(Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng.
 
(Mrs Lloyd) Na, sonia Jane ddim am ei gollwng.
(1, 0) 119 Glywsoch chi, Modryb Tabitha?
(1, 0) 120 Jane yw'r feistres yma, nid mam.
(1, 0) 121 Peidiwch anghofio hynny...
(1, 0) 122 Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot?
(Tabitha) Cewch, wir.
 
(Tabitha) Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf.
(1, 0) 133 Da iawn, Modryb Tabitha.
(1, 0) 134 Pryd ddaethoch chi 'nôl?
(Tabitha) Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, {yn chwareus} ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa.
 
(Letitia) 'Rown i'n meddwl...
(1, 0) 138 Cer'wch i'r gegin ar unwaith, groten.
(Letitia) O'r gorau, Miss Dilys, ond chi ddwedodd mai...
 
(Tabitha) Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte?
(1, 0) 149 Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma.
(1, 0) 150 Jane sy'n cadw'r pwrs.
(Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw.
 
(Mrs Lloyd) 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw.
(1, 0) 152 Ond oedd dim diolch i Jane.
(1, 0) 153 Cael arian i brynu ffrwythau a phethau i chi, 'mam, wnes i, ond gan fod yr Athro wedi dweud y byddai ef yn dod â rheini, heno, prynais y ffrog fach yma.
(1, 0) 154 Saith a chwech gostiodd hi.
(Tabitha) O, yr Athro, ai e?
 
(Mrs Lloyd) Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn.
(1, 0) 161 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian.
(Tabitha) Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny.
 
(Mrs Lloyd) Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim.
(1, 0) 177 Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam.
(1, 0) 178 Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau.
(Tabitha) Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth."
 
(Tabitha) Dyna fydd saffa i chi.
(1, 0) 182 'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud.
(1, 0) 183 Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr.
(Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te.
 
(Tabitha) Gofalwch wneud hynny, 'te.
(1, 0) 185 Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag.
(1, 0) 186 Dyma Jane yn dod.
(Tabitha) Helo, Jane, sut y'ch chi?
 
(Tabitha) Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau.
(1, 0) 192 Dim peryg, diolch.
(Jane) Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb.
 
(Jane) Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft.
(1, 0) 195 Dyna hi, Modryb Tabitha.
(1, 0) 196 Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill.
(Jane) Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg.
 
(Mrs Lloyd) Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni.
(1, 0) 201 Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn.
(1, 0) 202 Pam mae eisiau i bethau newid?
(Tabitha) 'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane.
 
(Jane) Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny.
(1, 0) 212 'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal.
(1, 0) 213 Mae'n gywilydd i chi.
(Jane) 'Ddanodais i erioed.
 
(Jane) Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union.
(1, 0) 231 Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb?
(1, 0) 232 Beth bynnag a all hi wneud, all hi ddim gneud tê.
(1, 0) 233 Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford.
(Jane) Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys.
 
(Jane) Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti.
(1, 0) 236 Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia.
(Mrs Lloyd) Tewch, wir, ferched.
 
(Jane) Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi!
(1, 0) 248 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn.
(Mrs Lloyd) Na, na, Dilys fach.
 
(Mrs Lloyd) Paid â siarad fel yna.
(1, 0) 251 Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc.
(Tabitha) Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys.
 
(Tabitha) A phwy yw Oswald?
(1, 0) 257 Peidiwch gwrando ar 'mam.
(1, 0) 258 'Dyw Oswald yn ddim ond ffrind, a chaiff e ddim dod yn ddim mwy, chwaith.
(1, 0) 259 Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl.
(Mrs Lloyd) 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah.
 
(Tabitha) Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys.
(1, 0) 269 'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen.
(Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen.
 
(Tabitha) Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen.
(1, 0) 271 Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu.
(1, 0) 272 'Rwy'n gwybod y gallwn ei dwyllo ef i briodi pryd y mynnwyf.
(Tabitha) {Yn eiddigeddus.}
 
(Tabitha) Does dim fel bod yn ifanc.
(1, 0) 276 Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon.
(Tabitha) Jane, wir!
 
(Tabitha) Beth yw ei busnes hi?
(1, 0) 279 Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo.
(1, 0) 280 Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs.
(Tabitha) Mae Jane yn afresymol.
 
(Tabitha) Mae Jane yn afresymol.
(1, 0) 282 Ydi.
(1, 0) 283 Mae am fod yn feistres ar bawb.
(1, 0) 284 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd.
(Mrs Lloyd) Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro.
 
(Tabitha) {Chwerthin a mynd at y ffrwythau eto}.
(1, 0) 290 Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno.
(Tabitha) Dyna i chi, wir!
 
(Tabitha) Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir.
(1, 0) 293 Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd,
(Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig?
 
(Mrs Lloyd) Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig?
(1, 0) 295 Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn.
(Mrs Lloyd) Ydi wir.
 
(Tabitha) Bum yn meddwl ei phrynu i chi.
(1, 0) 301 Do fe, wir?
(Tabitha) Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn.
 
(Mrs Lloyd) Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach.
(1, 0) 305 O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
(Tabitha) 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd.
 
(1, 0) 323 Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
(Jane) Gwisg un arall 'te, Dilys.
 
(Jane) Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn...
(1, 0) 327 Te, te!
(1, 0) 328 Pa wahaniaeth am y te?
(1, 0) 329 Beth alla i wisgo heno?
(Jane) Ti ŵyr orau Dilys.
 
(Jane) Ti ŵyr orau Dilys.
(1, 0) 331 Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd.
(1, 0) 332 O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane.
(Jane) Na wna, wir.
 
(Jane) Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg.
(1, 0) 336 Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno.
(Tabitha) A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane.
 
(Jane) Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd!
(1, 0) 351 A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno.
(1, 0) 352 'Rwyf am edrych...
(Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd?
 
(Tabitha) Beth, John Gray y nofelydd?
(1, 0) 354 Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod.
(Jane) "John Gray" wir!
 
(Jane) Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro.
(1, 0) 357 Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser.
(Tabitha) Peidiwch bod fel yna, Jane.
 
(Jane) Chi â'ch John Gray!
(1, 0) 362 Mae Jane yn bychanu pawb.
(Tabitha) Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb.
 
(Jane) Wel dewch at eich te.
(1, 0) 373 Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane?
(Jane) {Gyda gwawd.}
 
(Jane) Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei.
(1, 0) 376 O diolch yn fawr, Jane annwyl.
(1, 0) 377 Mi'ch cofia i chi am hyn eto.
(Tabitha) Dyna rywbeth 'nawr, Jane.
 
(Jane) Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te.
(1, 0) 383 O'r gorau, Jane.
(1, 0) 384 Cymrwch bwyll, Modryb Tabitha.
(1, 0) 385 Dall mam ddim mynd mor gyflym.
(Letitia) Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd?
 
(1, 0) 450 Yes, this is Miss Lloyd speaking.
(Letitia) {Yn tynnu'r receiver oddi-wrthi.}
 
(1, 0) 458 Dewch â hwnna i fi.
(Letitia) {Wrth DILYS.}
 
(Letitia) I will tell her... yes.
(1, 0) 464 Dewch ag e i fi, y groten haerllug!
(Letitia) Caewch 'ceg.
 
(1, 0) 471 Yr hen un wirion â chi!
(1, 0) 472 Mi gewch chi fynd oddi yma ar unwaith.
(1, 0) 473 Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif.
(Tabitha) Be sy'n bod?
 
(Tabitha) Be mae Letitia'n wneud i chi?
(1, 0) 481 Beth y'ch chi'n feddwl?
(1, 0) 482 Fe dynnodd y ffôn oddi wrthyf, a mynnodd siarad ei hunan, ar fy ngwaetha'—y groten ddiwardd; ond 'chaiff hi ddim aros yma—'chaiff hi ddim, tae beth ddywed Jane.
(1, 0) 483 Fe gaiff fynd....
(Letitia) 'Rwy'n golygu mynd.
 
(Letitia) {Yn ei daflu ati.}
(1, 0) 488 O, shwd beth erioed!
(Tabitha) Yr hen sgampen fach!
 
(1, 0) 494 Beth y'ch chi'n feddwl bod, yn enw dyn, os nad morwyn?
(1, 0) 495 Oes priodas i fod?
(Letitia) Oes, oes.
 
(Letitia) Sut oech chi'n gwybod?
(1, 0) 499 A phwy yw'r gwr lwcus?
(Letitia) Yr Athro wrth gwrs.
 
(Letitia) Yr Athro wrth gwrs.
(1, 0) 501 Beth!
(Tabitha) Celwydd golau!
 
(Jane) Be sy'n bod, dwedwch?
(1, 0) 515 Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i.
(Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia.
 
(Tabitha) Mae colled wyllt ar Letitia.
(1, 0) 517 Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith.
(Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro.
 
(Tabitha) Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro.
(1, 0) 519 A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha.
(Jane) Beth sy'n bod, Letitia?
 
(Letitia) Ysgrifennydd John Gray fydda i.
(1, 0) 537 Be' ddwedsoch chi?
(Tabitha) Hawyr bach!
 
(Jane) Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen.
(1, 0) 555 Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi?
(Jane) Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam.
 
(Mrs Lloyd) Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau."
(1, 0) 567 Mi âf i i'r drws, Letitia...
(1, 0) 568 Oswald sydd yna.
(1, 0) 569 Bydd cystal i mi fynd gydag ef i'r Ginio... {wrth y drws} a'r hen ffrog yna mae e'n leicio.
(1, 0) 570 Gellwch chi, Jane, wisgo'ch ffrog newydd wedi'r cyfan.