Nawr Yw Ei Hamser Hi

Ciw-restr ar gyfer Tabitha

(Mrs Lloyd) 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach.
 
(Letitia) Mae hi'n pallu dweud ei henw, ac yn pallu aros allan.
(1, 0) 105 O, dyma hi!
(Dilys) Modryb Tabitha!
 
(Mrs Lloyd) Dewch ymlaen, Tabitha.
(1, 0) 110 Meddyliais i na chawn i ddim dod o gwbl gyda'r creadur bach gwirion 'na.
(Letitia) {Yn chwerthin.}
 
(Dilys) Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot?
(1, 0) 123 Cewch, wir.
 
(1, 0) 125 Wel, sut y'ch chi Mary ers llawer dydd?
(Mrs Lloyd) 'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair.
 
(Mrs Lloyd) Rych chithau'n iawn?
(1, 0) 128 'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch.
 
(1, 0) 130 Dewch ymlaen, Dilys fach.
(1, 0) 131 Rych chi'n bertach nag erioed, beth bynnag.
(1, 0) 132 Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf.
(Dilys) Da iawn, Modryb Tabitha.
 
(Dilys) Pryd ddaethoch chi 'nôl?
(1, 0) 135 Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, {yn chwareus} ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa.
(Letitia) Ho! Dyna i gyd.
 
(Letitia) DILYS: Cer'wch.
(1, 0) 142 Gwyddoch mai chi, Dilys, yw fy ffafret i erioed.
(1, 0) 143 Yr ydych mor debyg i fi.
(Mrs Lloyd) Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi.
 
(Mrs Lloyd) Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf.
(1, 0) 146 O ran golwg, 'rwy'n feddwl.
(Mrs Lloyd) O, efallai!
 
(Mrs Lloyd) O, efallai!
(1, 0) 148 Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte?
(Dilys) Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma.
 
(Dilys) Saith a chwech gostiodd hi.
(1, 0) 155 O, yr Athro, ai e?
(1, 0) 156 Mae e'n dal yn ffyddlon o hyd, ydi e'?
(1, 0) 157 Mae'n dda 'na phrynais i ffrwythau i chi, Mary fach.
(1, 0) 158 Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd.
(Mrs Lloyd) Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn.
 
(Dilys) 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian.
(1, 0) 162 Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny.
(1, 0) 163 Doedd eich tad—ond 'roech chi'n rhy ifanc i'w gofio—'doedd e'n meddwl dim am arian.
(1, 0) 164 Gweithio'n galed ac ennill dim fynnai ef.
(Mrs Lloyd) 'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha.
 
(Mrs Lloyd) Peidiwch...
(1, 0) 167 Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim.
(Mrs Lloyd) 'Dallsai Mostyn ddim help, druan!
 
(Mrs Lloyd) 'Dallsai Mostyn ddim help, druan!
(1, 0) 169 Gallsai help yn iawn—mynnu gadael ei swydd a mynd i bregethu!
(1, 0) 170 Heblaw hynny, faint weithiodd e am ddim, gyda'r hen bapur hynny o dan ei olygiaeth?
(Mrs Lloyd) Mostyn wyddai orau, â...
 
(Mrs Lloyd) Mostyn wyddai orau, â...
(1, 0) 172 Twt!
(Mrs Lloyd) Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom.
 
(Mrs Lloyd) 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb...
(1, 0) 175 Wel, oedd dim disgwyl i mi...
(Mrs Lloyd) Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim.
 
(Dilys) Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau.
(1, 0) 179 Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth."
(1, 0) 180 Gofalwch chi amdanoch eich hunan.
(1, 0) 181 Dyna fydd saffa i chi.
(Dilys) 'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud.
 
(Dilys) Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr.
(1, 0) 184 Gofalwch wneud hynny, 'te.
(Dilys) Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag.
 
(Dilys) Dyma Jane yn dod.
(1, 0) 188 Helo, Jane, sut y'ch chi?
(Jane) Da iawn, diolch, Modryb Tabitha.
 
(Jane) Da iawn, diolch, Modryb Tabitha.
(1, 0) 190 Siarad 'rown i nawr gyda Dilys, ynghylch priodi'n gyfoethog.
(1, 0) 191 Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau.
(Dilys) Dim peryg, diolch.
 
(Dilys) Pam mae eisiau i bethau newid?
(1, 0) 203 'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane.
(1, 0) 204 Mae'n hawdd gweld wrth eich golwg chi, mai i waith y'ch galwyd chi.
(Mrs Lloyd) Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan!
 
(Mrs Lloyd) Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan!
(1, 0) 206 Ie, a mawr les a wnaeth ei holl sgrifennu i chi!
(1, 0) 207 'Chafodd e' ddim dimai goch erioed.
(Mrs Lloyd) Do, do, Tabitha.
 
(Mrs Lloyd) 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a...
(1, 0) 210 Twt!
(Jane) Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny.
 
(Jane) Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf.
(1, 0) 221 Letitia yw enw'r forwyn ofnadwy yna, ai e?
(1, 0) 222 Pam 'rych chi'n cadw rhyw greadur fel yna, Jane?
(1, 0) 223 Rwy'n deall nad yw Dilys na'ch mam am ei chadw.
(Jane) Wel, ydi, druan, mae Letitia dipyn yn lletchwith.
 
(Jane) Dyna pam y cymerais drugaredd arni; ond erbyn hyn y mae wedi dod at fy llaw yn gwmws.
(1, 0) 227 O'n wir!
(Jane) Ydi.
 
(Mrs Lloyd) Bydda' i'n falch i gael cwpanaid.
(1, 0) 241 A finnau hefyd.
(1, 0) 242 'Rych chi, Jane, yn gwneud te blasus bob amser.
(1, 0) 243 Bum yn meddwl prynu rhai o'r teisennod hyfryd o siop y Castell, ond 'rown i'n ofni'ch insyltio chi.
(1, 0) 244 Mae gennych chi rywbeth gwell, 'rwy'n siwr.
(Jane) {dan chwerthin}
 
(Dilys) Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc.
(1, 0) 252 Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys.
(Mrs Lloyd) Na fydd.
 
(Mrs Lloyd) Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt.
(1, 0) 255 O yn wir!
(1, 0) 256 A phwy yw Oswald?
(Dilys) Peidiwch gwrando ar 'mam.
 
(Mrs Lloyd) 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah.
(1, 0) 261 Tewch, Mary!
(1, 0) 262 Gobeithio na fydd Dilys byth fyw fel hynny.
(1, 0) 263 Beth am yr Athro, Dilys?
(1, 0) 264 Mae e'n graig o arian.
(1, 0) 265 Ydi e'n gwneud cymaint ohonoch ag oedd e'?
(Mrs Lloyd) Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd.
 
(Mrs Lloyd) Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr.
(1, 0) 268 Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys.
(Dilys) 'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen.
 
(Dilys) 'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen.
(1, 0) 270 Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen.
(Dilys) Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu.
 
(1, 0) 274 Ha! 'nawr yw eich amser chi, Dilys.
(1, 0) 275 Does dim fel bod yn ifanc.
(Dilys) Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon.
 
(Dilys) Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon.
(1, 0) 277 Jane, wir!
(1, 0) 278 Beth yw ei busnes hi?
(Dilys) Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo.
 
(Dilys) Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs.
(1, 0) 281 Mae Jane yn afresymol.
(Dilys) Ydi.
 
(1, 0) 288 'Run fath â minnau!
 
(Dilys) Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno.
(1, 0) 291 Dyna i chi, wir!
(1, 0) 292 Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir.
(Dilys) Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd,
 
(Mrs Lloyd) Dangos hi i dy fodryb.
(1, 0) 298 Fe welais i ffrog berta fyddai'n eich taro chi i'r dim, pan own i ffwrdd—un sidan binc a rhubanau felfed.
(1, 0) 299 Dim ond tair gini oedd ei phris.
(1, 0) 300 Bum yn meddwl ei phrynu i chi.
(Dilys) Do fe, wir?
 
(Dilys) Do fe, wir?
(1, 0) 302 Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn.
(Mrs Lloyd) Ydyn, wir.
 
(Dilys) O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
(1, 0) 307 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd.
(Jane) Mae te'n barod.
 
(Jane) Dewch 'nawr.
(1, 0) 311 Aroswch funud, nes daw Dilys lawr â'r ffrog sydd ganddi ar gyfer y Ginio, heno.
(1, 0) 312 Mae i fod yn amgylchiad neilltuol heno, 'rwy'n meddwl.
(Jane) Ydi, heno, am fod yr elw tuag at yr Ysbyty.
 
(Jane) Nid wyf byth yn arfer mynd, a byddai'n well gen i beidio mynd heno, hefyd—ond rhaid mynd, er mwyn yr Achos.
(1, 0) 316 'Dyw Dilys ddim yr un fath â chi, Jane.
(1, 0) 317 Mae hi'n ifanc, ac yn bert, ac yn mwynbau ciniawau, a dawnsiau a phethau o'r fath.
(1, 0) 318 Dyw hi ddim yn golygu bod yn hen ferch.
(Jane) Nag ydi, 'rwy'n deall.
 
(Jane) Nag ydi, 'rwy'n deall.
(1, 0) 320 'Nawr yw ei hamser hi, a rhaid i chi ei chefnogi i fanteisio ar ei chyfle.
(Jane) 'Sylwais i ddim fod eisiau cefnogaeth arni, Modryb.
 
(Dilys) Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno.
(1, 0) 337 A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane.
(1, 0) 338 Nawr y dywedsoch hynny'ch hunan.
(Mrs Lloyd) 'Nawr yw ei hamser hi, Jane.
 
(Jane) A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys?
(1, 0) 343 Mi ddweda i wrthych chi, Jane.
(1, 0) 344 Mae gennym ni le i feddwl fod rhywun bach yn mynd i ofyn am law Dilys, heno.
(Jane) O, sut ych chi'n meddwl hynny?
 
(1, 0) 347 Jane fach, mae Dilys a minnau yn deall yr arwyddion.
(1, 0) 348 Os wyf yn ddi-briod, rhaid i chi beidio â meddwl na ches i ddigon o gynhigion i ddeall yr arwyddion.
(1, 0) 349 Ha ha!
(Jane) Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd!
 
(Dilys) 'Rwyf am edrych...
(1, 0) 353 Beth, John Gray y nofelydd?
(Dilys) Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod.
 
(Dilys) Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser.
(1, 0) 358 Peidiwch bod fel yna, Jane.
(1, 0) 359 Bydd yn dipyn o glod i Dilys i ddod i gyffyrddiad â dyn mawr fel John Gray.
(Jane) Clod, wir!
 
(Dilys) Mae Jane yn bychanu pawb.
(1, 0) 363 Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb.
(1, 0) 364 Mae e'n ddibriod hefyd, 'rwy'n deall.
(Jane) Dyna ddigon o reswm dros ei gyfarfod, ynteu!
 
(1, 0) 367 Ydych chi'n jealous, Jane?
(1, 0) 368 Efallai eich bod am fynd i'w weld eich hunan!
(Jane) {Yn codi ei llais.}
 
(Jane) Nag ydw i, nag am glywed gair pellach amdano.
(1, 0) 371 'Does dim eisiau tymer ddrwg, Jane.
(Jane) Wel dewch at eich te.
 
(Dilys) Mi'ch cofia i chi am hyn eto.
(1, 0) 378 Dyna rywbeth 'nawr, Jane.
(1, 0) 379 Dewch Mary.
(1, 0) 380 Pwyswch arnaf i.
(Jane) Tendia di Dilys y te.
 
(Dilys) Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif.
(1, 0) 475 Be sy'n bod?
(1, 0) 476 Be sy'n bod, Dilys fach?
(1, 0) 477 Dyna fe, eisteddwch, Mary.
(1, 0) 478 Be sy'n bod Dilys?
(1, 0) 479 'Dallwn i ddim aros i orffen ein bwyd.
(1, 0) 480 Be mae Letitia'n wneud i chi?
(Dilys) Beth y'ch chi'n feddwl?
 
(Dilys) O, shwd beth erioed!
(1, 0) 489 Yr hen sgampen fach!
(Letitia) {Yn chwerthin a dawnsio.}
 
(Dilys) Beth!
(1, 0) 502 Celwydd golau!
(1, 0) 503 Fe ddywed ei bod yn mynd gyda John Gray nesaf!
(Letitia) Ydw, ydw.
 
(Letitia) 'Rwy'n mynd gyda John Gray hefyd.
(1, 0) 506 Bobol fach!
(1, 0) 507 Nid celwydd ond colled!
(1, 0) 508 Mae colled wyllt arni.
(Jane) {Yn dod i mewn heb ddiosg ei het, etc.}
 
(Dilys) Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i.
(1, 0) 516 Mae colled wyllt ar Letitia.
(Dilys) Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith.
 
(Dilys) Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith.
(1, 0) 518 Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro.
(Dilys) A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha.
 
(Jane) Ond y fi.
(1, 0) 531 Beth, chi... yn priodi... yr Athro?
(Jane) Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd.
 
(Jane) Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd.
(1, 0) 533 Ysgrifennydd i'r Athro?
(Letitia) {Dan chwerthin.}
 
(Dilys) Be' ddwedsoch chi?
(1, 0) 538 Hawyr bach!
(1, 0) 539 Ydi'r ddwy wedi drysu?
(Jane) Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray.
 
(Mrs Lloyd) "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed."
(1, 0) 549 Pwy feddyliai!
(1, 0) 550 Jane, o bawb!
(Jane) Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig.
 
(Mrs Lloyd) Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu?
(1, 0) 553 Oes dim eisiau gofyn wir!