Esther

Ciw-restr ar gyfer Esther

(Negeswyr) Gosteg!
 
(Harbona) Y Frenhines mewn perigl!
(1, 0) 338 Be' sy'n bod, Harbona?
(Harbona) Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes.
 
(Harbona) Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes.
(1, 0) 341 Mordecai'r Iddew?
(Harbona) {Gan godi.}
 
(Harbona) Dyma fo, Arglwyddes.
(1, 0) 345 Beth ydy' ystyr hyn?
(Mordecai) O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau.
 
(Mordecai) O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau.
(1, 0) 347 Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i.
(Harbona) Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi.
 
(Mordecai) 'Glywaist ti'r Proclamasiwn?
(1, 0) 351 'Rydw' i wedi ei ddarllen o.
(Mordecai) Dy genedl di, Esther.
 
(Mordecai) Dy genedl di, Esther.
(1, 0) 353 Fy nghenedl i.
(1, 0) 354 Fy nheulu i.
(1, 0) 355 Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny.
(Mordecai) 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu?
 
(Mordecai) 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu?
(1, 0) 357 Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain?
(1, 0) 358 Ydw', 'rydw' i'n deall.
(Mordecai) Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd.
 
(Mordecai) Mae hwn heddiw yn wahanol iawn.
(1, 0) 362 Ein cenedl |ni|?
(1, 0) 363 Dyna wyt ti'n ei feddwl?
(Mordecai) Nage.
 
(Mordecai) Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw.
(1, 0) 367 Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob.
(1, 0) 368 Duw'r addewid.
(Mordecai) Yr unig Dduw.
 
(Mordecai) Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny.
(1, 0) 376 Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i.
(1, 0) 377 Wele, cyfamod tragwyddol a wnaf i â hwynt.
(1, 0) 378 Dyna oedd dy wers di bob Sabath er bod Jerusalem mor bell.
(1, 0) 379 Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny?
(Mordecai) Pwy all ateb?
 
(Mordecai) Mae'n amhosib ateb.
(1, 0) 382 Mae O'n dibynnu arnon |ni|?
(Mordecai) Cyfamod ydy' hi.
 
(Mordecai) Ni sy'n gyfrifol.
(1, 0) 387 Ti sy'n gyfrifol.
(Mordecai) Fi'n gyfrifol?
 
(Mordecai) Fi'n gyfrifol?
(1, 0) 389 Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn.
(Mordecai) Esther!
 
(Mordecai) Esther!
(1, 0) 391 Morynion y palas sy'n deud hynny.
(1, 0) 392 Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas.
(Mordecai) Sut hynny?
 
(Mordecai) Sut hynny?
(1, 0) 394 Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin.
(Mordecai) Mi wela' i.
 
(Mordecai) Haman?
(1, 0) 397 Prif weinidog y Brenin.
(1, 0) 398 Mae hi'n orchymyn fod pawb o weision y Brenin i ymgrymu iddo.
(1, 0) 399 Fe fu llawer iawn o siarad ers talwm pam nad oeddit ti ddim yn gwneud.
(1, 0) 400 Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn.
(Mordecai) Maen' nhw'n iawn.
 
(Mordecai) Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt.
(1, 0) 406 Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu?
(Mordecai) Be arall y galla' i ddeud?
 
(Mordecai) Be arall y galla' i ddeud?
(1, 0) 408 Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma.
(Mordecai) Er mwyn hynny yr ydw' i yma.
 
(Mordecai) Er mwyn hynny yr ydw' i yma.
(1, 0) 410 Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin.
(Mordecai) Sut?
 
(Mordecai) Sut?
(1, 0) 412 Cymodi â Haman.
(1, 0) 413 Dangos ewyllys da tuag ato; ymgrymu iddo a gofyn am drugaredd i'r Iddewon.
(Mordecai) {Taran o lais.}
 
(Mordecai) 'Wyt ti'n wallgo?
(1, 0) 417 Gwallgo?
(1, 0) 418 Pam?
(Mordecai) Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau?
 
(Mordecai) Ymgrymu i Haman yr Agagiad?
(1, 0) 422 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel?
(Mordecai) 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman?
 
(Mordecai) 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman?
(1, 0) 424 Nid fi sy'n dy gyhuddo di.
(Mordecai) 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel.
 
(Mordecai) 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel.
(1, 0) 426 Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o.
(Mordecai) Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib.
 
(Mordecai) Mi wyddost ti hynny.
(1, 0) 436 Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i.
(Mordecai) lddewes wyt tithau, fy nghyfnither.
 
(Mordecai) lddewes wyt tithau, fy nghyfnither.
(1, 0) 438 Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny.
(1, 0) 439 Ti ddaru fy rhoi i yng ngwely'r dienwaediad.
(1, 0) 440 Ti ddaru wahardd imi ddeud wrth neb i ba genedl 'rydw i'n perthyn.
(1, 0) 441 Os ydw' i wedi fy nhorri oddi wrth fy mhobl, os ydw' i wedi f'esgymuno o Seion, ufuddhau i ti a wnes i, am mai ti a'm magodd i, ac mi fûm i fel merch iti.
(1, 0) 442 Fel merch ufudd, Mordecai.
(Mordecai) A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth.
 
(Mordecai) A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth.
(1, 0) 444 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan.
(1, 0) 445 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin.
(Mordecai) 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl?
 
(Mordecai) 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl?
(1, 0) 447 'Welaist ti fi'n falch?
(1, 0) 448 'Welaist ti fi'n ddihitio?
(1, 0) 449 'Oes angen bod yn greulon?
(1, 0) 450 Petaut ti ond yn gwybod mor unig ydw' i yn y palas yma.
(1, 0) 451 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah.
(Mordecai) 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder?
 
(Mordecai) 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder?
(1, 0) 453 Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau.
(Mordecai) Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth?
 
(Mordecai) Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth?
(1, 0) 455 Be' fedra'i ei wneud?
(Mordecai) Mi gefais i freuddwyd neithiwr.
 
(Mordecai) Mi gefais i freuddwyd neithiwr.
(1, 0) 457 Breuddwyd?
(1, 0) 458 A neges ynddi?
(1, 0) 459 O'r gora', dywed dy freuddwyd.
(Mordecai) 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear.
 
(Mordecai) Dyna fy mreuddwyd i.
(1, 0) 465 'Oes gennyt ti ddawn Joseff?
(1, 0) 466 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd?
(Mordecai) Y ddwy ddraig ydw' i a Haman.
 
(Mordecai) Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau.
(1, 0) 470 A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul?
(Mordecai) Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther.
 
(Mordecai) Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther.
(1, 0) 472 Fi?
(1, 0) 473 Fi sy wedi fy nhorri allan o Israel?
(1, 0) 474 Fi sy wedi f'esgymuno yng ngwely'r di-enwaediad?
(1, 0) 475 Sut y gall hynny fyth fod?
(Mordecai) Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl.
 
(1, 0) 479 Na!... Na!
(Mordecai) Esther!
 
(Mordecai) Esther!
(1, 0) 481 Na!
(Mordecai) Pam na?
 
(Mordecai) Pam na?
(1, 0) 483 Mi wyddost y gyfraith.
(1, 0) 484 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth.
(Mordecai) Ti yw'r Frenhines.
 
(Mordecai) Ti yw'r Frenhines.
(1, 0) 486 Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth.
(Mordecai) Dyna lythyren y gyfraith.
 
(Mordecai) Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad.
(1, 0) 489 Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant?
(1, 0) 490 Eithriad yw hi.
(1, 0) 491 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd.
(Mordecai) Ond mi all ddigwydd.
 
(Mordecai) Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny.
(1, 0) 494 Mi all beidio â digwydd.
(Mordecai) Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron?
 
(Mordecai) Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron?
(1, 0) 496 Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf.
(Mordecai) 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin.
 
(Mordecai) Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr.
(1, 0) 499 Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i.
(Mordecai) 'Fedri di ddim dianc.
 
(Mordecai) Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth.
(1, 0) 502 Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall.
(1, 0) 503 Nid mwy na phawb arall.
(Mordecai) Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant.
 
(Mordecai) 'Chaiff neb Iddew ddianc.
(1, 0) 506 lddew ydw' i.
(Mordecai) Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin.
 
(Mordecai) 'Does gennyt ti ddim i'w golli.
(1, 0) 509 Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti.
(Mordecai) Rhaid iti farw heb fynd ato.
 
(Mordecai) 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw.
(1, 0) 516 Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw.
(Mordecai) Beth ydyn' nhw?
 
(Mordecai) Beth ydyn' nhw?
(1, 0) 518 Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato?
(1, 0) 519 Er pan welais i o?
(1, 0) 520 Deng noson ar hugain.
(Mordecai) 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau?
 
(Mordecai) 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau?
(1, 0) 522 Ydw', yn eu cyfri nhw.
(1, 0) 523 Fel unrhyw wraig briod.
(Mordecai) Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau.
 
(Mordecai) Brenin ac ymerawdwr.
(1, 0) 526 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely.
(Mordecai) Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon.
 
(Mordecai) Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon.
(1, 0) 528 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas.
(1, 0) 529 Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi.
(Mordecai) Cystal i tithau ddygymod.
 
(Mordecai) Cystal i tithau ddygymod.
(1, 0) 531 Ond fi yw ei wraig briod o.
(Mordecai) Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat.
 
(Mordecai) Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat.
(1, 0) 533 A siawns, siawns arswydus, iddo beidio.
(Mordecai) 'Rydw i'n cydnabod hynny.
 
(Mordecai) 'Rydw i'n cydnabod hynny.
(1, 0) 535 Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti.
(Mordecai) 'Dydw i ddim yn gwadu.
 
(Mordecai) Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth.
(1, 0) 538 Nid dyna'r pwynt o gwbwl.
(1, 0) 539 Mi allwn i ddiodde hynny.
(Mordecai) Be sy arnat ti ei ofn?
 
(Mordecai) Beth na fedri di ddim ei ddiodde?
(1, 0) 542 Oes rhaid deud wrthyt ti?
(1, 0) 543 Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm.
(Mordecai) Nid merch ydw' i.
 
(Mordecai) Rhaid deud.
(1, 0) 546 Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
(Mordecai) 'Fedra'i mo'th ddilyn di.
 
(Mordecai) 'Fedra'i mo'th ddilyn di.
(1, 0) 548 Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin.
(1, 0) 549 Ti ddaru fy nhorri i allan o Israel.
(1, 0) 550 Fe fu misoedd o baratoi, wyt ti'n cofio?
(1, 0) 551 'Roeddwn i'n dychryn ac yn ffieiddio.
(1, 0) 552 A dyma fy nhro i'n dwad, ac mi es i mewn ato fo.
(1, 0) 553 A'r funud yr edrych'on ni ar ein gilydd, wel, yr oedd popeth yn iawn.
(1, 0) 554 Mi wyddwn i'r funud honno nad mater o un noson fyddai hi.
(1, 0) 555 Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau.
(Mordecai) A rwan?
 
(Mordecai) A rwan?
(1, 0) 557 Mae mis o nosweithiau er pan welais i o.
(1, 0) 558 'Ddaeth dim un gair oddi wrtho fo.
(1, 0) 559 Dim neges.
(1, 0) 560 Dim arwydd.
(1, 0) 561 A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr.
(Mordecai) 'Wyt ti'n poeni?
 
(Mordecai) 'Wyt ti'n poeni?
(1, 0) 563 Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid.
(1, 0) 564 Rydw i'n cerdded y palas, yn cerdded y gerddi, rhwng y rhos lle y cerddais i gynt gydag yntau, 'rydw i'n cadw fy mhen yn uchel ymhlith y merched, ac yn dal fy nhafod pan wela' i nhw'n cilwenu arna' i.
(1, 0) 565 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll.
(Mordecai) Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl?
 
(Mordecai) Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl?
(1, 0) 567 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll.
(1, 0) 568 Ar goll o Israel.
(1, 0) 569 Ar goll ym mhalas Persia.
(1, 0) 570 Wyt ti'n gweld?
(1, 0) 571 Mi 'rydw i'n ei garu o.
(1, 0) 572 Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi.
(Mordecai) Pam felly nad ei di ato?
 
(Mordecai) Pa raid iti ofni angau ar ei law o?
(1, 0) 575 Nid ofni angau yr ydw' i.
(1, 0) 576 Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
(Mordecai) Angau ydy ystyr hynny.
 
(Mordecai) Angau ydy ystyr hynny.
(1, 0) 578 Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'.
(1, 0) 579 Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio.
(Mordecai) Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin.
 
(Mordecai) Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin.
(1, 0) 581 'Oes gen' i help?
(Mordecai) Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw.
 
(Mordecai) Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw.
(1, 0) 583 Mordecai, paid â bod mor ddwl.
(1, 0) 584 Mi wn i gan gwell na thi am balas y merched.
(1, 0) 585 'Waeth gen'i flewyn amdanyn' nhw.
(1, 0) 586 Pa ots, pa ots o gwbwl, ond iddyn' nhw fynd a dwad.
(1, 0) 587 'Rydw i'n aros.
(1, 0) 588 Fi mae o'n caru.
(Mordecai) Pam na wnei di wynebu ffeithiau?
 
(Mordecai) A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o.
(1, 0) 592 Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o.
(1, 0) 593 Mae o'n wir.
(1, 0) 594 Rhaid iddo fod yn wir.
(1, 0) 595 Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir.
(Mordecai) Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir.
 
(Mordecai) Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir.
(1, 0) 598 Mae o'n fy ngharu i.
(1, 0) 599 'Does dim modd profi peth fel yna.
(1, 0) 600 Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o.
(Mordecai) 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun.
 
(Mordecai) Cariad neu angau.
(1, 0) 605 Angau yw'r ddeddf.
(Mordecai) A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf.
 
(Mordecai) Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf.
(1, 0) 608 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o.
(Mordecai) Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd.
 
(Mordecai) 'Feiddi di ddim.
(1, 0) 613 Taw, y blagard gen' ti.
(1, 0) 614 Paid â'th gablu.
(1, 0) 615 Mi af ato.
(1, 0) 616 Mi dafla'i mywyd wrth ei draed o.
(1, 0) 617 Mi ddweda' i wrtho bopeth, fy nheulu, fy nghenedl, a thithau.
(1, 0) 618 Ac os derfydd amdanaf, darfydded!