Esther

Ciw-restr ar gyfer Haman

(Negeswyr) Gosteg!
 
(Y Dorf) Seren Jwda i'r bedd!
(1, 0) 37 Bendigedig, Harbona!
(1, 0) 38 Campus!
(1, 0) 39 Campus!
(1, 0) 40 Tyrd yma i gael cwpanaid o win.
(1, 0) 41 'Rwyt ti'n ei haeddu o.
(Harbona) Diolch, syr...
 
(Harbona) Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn.
(1, 0) 45 Gwaith sych?
(1, 0) 46 Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i.
(Harbona) Dŵr?
 
(Harbona) Eich gwaith chi, syr?
(1, 0) 52 Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i.
(Harbona) Felly roeddwn i'n meddwl.
 
(Harbona) 'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd.
(1, 0) 55 Beth yw ystyr hynny?
(Harbona) "Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"...
 
(Harbona) Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr.
(1, 0) 59 'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i.
(1, 0) 60 Iddew piau'r geiriau.
(Harbona) Iddew?
 
(Harbona) Iddew?
(1, 0) 62 Ïe, Iddew.
(1, 0) 63 Teigr gwaedlyd o'r enw Samuel.
(1, 0) 64 Un o'u proffwydi nhw.
(Harbona) Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw?
 
(Harbona) Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw?
(1, 0) 66 Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi.
(1, 0) 67 Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron.
(Harbona) Tewch, da chi.
 
(Harbona) Tewch, da chi.
(1, 0) 69 Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas.
(1, 0) 70 Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc.
(Harbona) Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth?
 
(Harbona) Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth?
(1, 0) 72 Fe gaiff pob Iddew byw dalu!
(Harbona) Haman yr Agagiad?
 
(Harbona) Haman yr Agagiad?
(1, 0) 74 Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag.
(Harbona) 'Welsoch chi'r alanas?
 
(Harbona) 'Oeddech chi yno?
(1, 0) 77 Na, doeddwn i ddim yno.
(1, 0) 78 Ar |ryw| ystyr.
(Harbona) Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag?
 
(Harbona) Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag?
(1, 0) 80 Pum canrif yn ôl.
(Harbona) Beth?
 
(Harbona) Beth?
(1, 0) 82 Pum canrif yn ôl.
(Harbona) Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl.
 
(Harbona) Na'r ddinas yma, Susan.
(1, 0) 88 'Roedd Agag yn bod.
(1, 0) 89 'Roedd Samuel yn bod.
(1, 0) 90 Mae'r Iddew'n bod heddiw.
(1, 0) 91 'Rwyf innau'n bod.
(Harbona) Ydy'r Iddew yn cofio hynny?
 
(Harbona) Ydy'r Iddew yn cofio hynny?
(1, 0) 93 Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau.
(1, 0) 94 Ydyn', mae'r Iddewon yn cofio.
(1, 0) 95 Pan glywan' nhw f'enw i, Haman yr Agagiad, yn y proclamasiwn, fe gofian'.
(1, 0) 96 Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog.
(Harbona) All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw?
 
(Harbona) All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw?
(1, 0) 98 Mae'r Iddewon yn fyw.
(1, 0) 99 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw?
(Harbona) Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon.
 
(Harbona) Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid.
(1, 0) 102 Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma.
(1, 0) 103 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal.
(Harbona) Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr.
 
(Harbona) All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn |chi|?
(1, 0) 107 Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i.
(Harbona) Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi.
 
(Harbona) Sut mae o'n meiddio?
(1, 0) 113 Dyna fo, Harbona, ar y gair.
(1, 0) 114 'Wyt ti'n ei weld o?...
(1, 0) 115 Hwnna!...
(1, 0) 116 Hwnna!
(Harbona) Mordecai!
 
(Harbona) Mordecai!
(1, 0) 119 'Wyt ti'n ei nabod o?
(Harbona) Mae pawb yn y llys yn ei nabod o.
 
(Harbona) Mordecai achubodd fywyd y Brenin.
(1, 0) 122 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno?
(Harbona) Chwedl?
 
(Harbona) Chwedl?
(1, 0) 124 Dau was ystafell hanner pan.
(Harbona) Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin.
 
(Harbona) Mordecai ddatguddiodd y brad.
(1, 0) 127 Dan artaith y cyffesodd y ddau.
(Harbona) Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg.
 
(Harbona) Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg.
(1, 0) 129 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu.
(Harbona) Cyn iddyn' nhw enwi neb arall.
 
(Harbona) Cyn iddyn' nhw enwi neb arall.
(1, 0) 131 Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw.
(Harbona) Da iawn.
 
(Harbona) Chi oedd y barnwr yn yr achos.
(1, 0) 134 Wrth gwrs.
(1, 0) 135 'Roedd yr achos yn glir.
(Harbona) Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog.
 
(Harbona) Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog.
(1, 0) 137 Ie, wedyn, yn swyddogol.
(1, 0) 138 Ond fe drefnwyd hynny ers talwm.
(Harbona) Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny?
 
(Harbona) Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny?
(1, 0) 140 Mordecai'n brif weinidog?
(1, 0) 141 Y mochyn yna ar y grisiau?
(Harbona) Ond chi a ddewiswyd.
 
(Harbona) Ond chi a ddewiswyd.
(1, 0) 143 'Rwyf i o waed brenhinoedd.
(Harbona) Gadawyd Mordecai yn y porth.
 
(Harbona) Gadawyd Mordecai yn y porth.
(1, 0) 145 Iddew ym mhorth y Palas.
(1, 0) 146 Mae'r peth yn warth.
(Harbona) A chyfrinach y ddau was ganddo.
 
(Harbona) A chyfrinach y ddau was ganddo.
(1, 0) 148 'Doedd dim cyfrinach.
(1, 0) 149 'Does arna'i ddim o'i ofn o.
(Harbona) Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach.
 
(Harbona) Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach.
(1, 0) 151 'Anghofiais i mono fo.
(1, 0) 152 Rydyn ni'n cofio'n gilydd, Mordecai a minnau.
(1, 0) 153 Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd.
(Harbona) Dirmygu dewis y Brenin.
 
(Harbona) Pam na chosbwch chi o?
(1, 0) 157 Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr.
(1, 0) 158 Fy nghosb i ar Mordecai.
(1, 0) 159 Fe gaiff grogi gydag Israel gyfan.
(1, 0) 160 Fo a'i deulu, os oes ganddo fo deulu, a holl genedl yr Iddewon, fe gân' dalu imi bris ei ddirmyg.
(Harbona) {Dan chwerthin yn ysgafn ddihitio.}
 
(Harbona) Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny.
(1, 0) 165 'Glywaist ti am ddewines Endor?
(Harbona) Naddo fi.
 
(Harbona) Rhyw wrach, ai e?
(1, 0) 168 Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul.
(1, 0) 169 Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses.
(Harbona) Dyna yw bod yn Brif Weinidog?
 
(Harbona) Dyna yw bod yn Brif Weinidog?
(1, 0) 171 Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol!
(Harbona) Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth.
 
(Harbona) Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth.
(1, 0) 173 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona?
(Harbona) Cwestiwn peryglus, syr.
 
(Harbona) Cwestiwn peryglus, syr.
(1, 0) 175 Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau.
(Harbona) O'r gorau.
 
(Harbona) Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho.
(1, 0) 178 Pam?
(Harbona) Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed.
 
(1, 0) 181 Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti.
(Harbona) Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi.
 
(Harbona) Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi.
(1, 0) 183 'Ystyriais i ddim.
(1, 0) 184 Ar ôl gyrru Fasti o'r palas fe gasglwyd y llancesi glana o bob rhan o'r ymerodraeth i'r Brenin i gael dewis ei gariad.
(1, 0) 185 A'r llances yma enillodd.
(Harbona) Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi?
 
(Harbona) Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi?
(1, 0) 187 Beth wn i?
(1, 0) 188 Mae ganddo gariadon eraill.
(1, 0) 189 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis.
(Harbona) Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno.
 
(Harbona) Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi?
(1, 0) 192 Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall.
(1, 0) 193 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith.
(Harbona) 'Wyr neb i ble'r aeth Fasti.
 
(Harbona) 'Wyr neb o ble daeth Esther.
(1, 0) 196 'Welaist ti Fasti?
(Harbona) Mae Esther yn harddach.
 
(Harbona) Mae Esther yn harddach.
(1, 0) 198 Dyna dy farn di?
(1, 0) 199 Edrychais i 'rioed arni lawer.
(Harbona) Druan ohonoch chi, syr.
 
(Harbona) Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi.
(1, 0) 202 'Rwyt ti'n edrych yn uchel?
(Harbona) 'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto.
 
(Harbona) Ychydig newyn a blino?
(1, 0) 206 Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti?
(Harbona) Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi.
 
(Harbona) Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi.
(1, 0) 208 I mi pethau i'w defnyddio yw merched.
(1, 0) 209 'Fedrwn ni ddim cael meibion hebddyn' nhw.
(1, 0) 210 Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus.
(Harbona) 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly?
 
(Harbona) 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly?
(1, 0) 212 Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin.
(1, 0) 213 Mae hynny'n bleser, pleser dwfn.
(1, 0) 214 Mi ddois i Bersia yn estron, yn filwr heb neb yn fy 'nabod i.
(1, 0) 215 Heddiw, fi yw prif weinidog yr ymerodraeth.
(1, 0) 216 Mi fydd fy meibion i ar fy ôl i'n dywysogion.
(1, 0) 217 Cenedl Agag.
(1, 0) 218 'Rydw i wedi herio tynged.
(1, 0) 219 Mae pob grym yn bleser.
(Harbona) Rydych chi'n iawn; syr.
 
(Harbona) Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb.
(1, 0) 222 Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen.
(Harbona) 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin?
 
(Harbona) 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin?
(1, 0) 224 Cenfigennu wrth Ahasferus?
(Harbona) Wrth ei rwysg o, ie?
 
(Harbona) Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o?
(1, 0) 227 Dim oll.
(1, 0) 228 Dim iot.
(1, 0) 229 'Dydw' i'n hitio fawr ddim am rwysg ynddo'i hun.
(1, 0) 230 Ac am awdurdod Ahasferus, fi piau'i awdurdod o.
(1, 0) 231 Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn.
(Harbona) Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny.
 
(Harbona) Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny.
(1, 0) 233 'Does fawr o berig'.
(1, 0) 234 Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall.
(Harbona) Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther.
 
(Harbona) Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther.
(1, 0) 236 Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld.
(Harbona) Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i.
 
(Harbona) Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i.
(1, 0) 238 Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin.
(Harbona) Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres.
 
(Harbona) Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres.
(1, 0) 240 Be wyt ti'n ei awgrymu?
(Harbona) Cellwair, syr, dim ond cellwair.
 
(Harbona) Mae clepian y palas yn ddigon diniwed.
(1, 0) 243 Cenfigen yw clep y palas.
(Harbona) Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu?
 
(Harbona) Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu?
(1, 0) 245 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall.
(Harbona) Rhowch braw arna' i.
 
(Harbona) Rhowch braw arna' i.
(1, 0) 247 Wrth y Duwiau, Harbona.
(1, 0) 248 Wrth y Duw sy'n rheoli angau.
(Harbona) Wel, na.
 
(Harbona) 'Dydw'i ddim yn deall.
(1, 0) 251 Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw.
(1, 0) 252 Angau ydy allwedd y gyfrinach.
(1, 0) 253 Medru defnyddio angau, gorchymyn angau, gwneud angau'n ufudd, yn offeryn yn y llaw, dyna wynfyd y gwleidydd.
(1, 0) 254 'Rydw i heddiw yn Dduw i holl genedl yr Iddewon.
(1, 0) 255 Rydw i'n cyhoeddi drwy'r Proclamasiwn hwn farwolaeth y genedl gyfan, ac fe ddaw hynny'n drefnus i ben.
(1, 0) 256 Dyna sy'n meddwi dyn mewn gwleidyddiaeth.
(1, 0) 257 Mi fedra' i ddychmygu y daw dydd rywbryd y gall rhyw un dyn, prif weinidog neu gadfridog, gymryd pelen o dân yn ei ddwylo ac yna, o'i thaflu hi, ddifa'r ddynoliaeth i gyd, rhoi'r byd ar dân.
(1, 0) 258 Pan ddaw hynny, Harbona, dyna ddiwedd y byd.
(1, 0) 259 Oblegid 'fedrai neb dyn wrthod y demtasiwn.
(1, 0) 260 'Fedrai neb, a thynged pawb byw yn ei law ac yn ei ewyllys, wrthod y profiad, y profiad o fod yn Dduw.
(1, 0) 261 Dyna bêr-lesmair gwleidyddiaeth.
(1, 0) 262 'Rydw i heddiw yn Dduw i Mordecai, i holl genedl Mordecai, i Moses a Samuel a'u hil.
(1, 0) 263 Mae'r gorchymyn wedi mynd allan i gyrrau eithaf yr Ymerodraeth.
(1, 0) 264 Mae gobaith Abraham wedi diffodd.
(1, 0) 265 Mae'r cyfamod tragwyddol wedi ei ddileu.
(1, 0) 266 Mae'r Iddewon yn mynd gyda'i gilydd i wersyll-garchar y nos dragwyddol, y nos a benodais i iddyn nhw.
(1, 0) 267 Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth.
(Harbona) Ie, ias go iawn.
 
(Harbona) Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi.
(1, 0) 271 'Dydw i ddim wedi drysu.
(1, 0) 272 Mi dd'wedais mai |cenfigennu| wrth Dduw yr oeddwn i.
(1, 0) 273 Nid fy mod i wedi cyrraedd.
(Harbona) Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr?
 
(Harbona) Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr?
(1, 0) 275 Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o.
(Harbona) Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr?
 
(Harbona) Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr?
(1, 0) 277 Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis.
(Harbona) Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc?
 
(Harbona) Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc?
(1, 0) 279 Mi wrandawaf yn astud a phwyso.
(Harbona) 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon.
 
(Harbona) 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon.
(1, 0) 281 Hyd y galla' i farnu, dim oll.
(Harbona) Pa angen aros mor hir mewn mater o frys?
 
(Harbona) Pa angen aros mor hir mewn mater o frys?
(1, 0) 283 Cyn crogi'r Iddewon?
(Harbona) Nage.
 
(Harbona) Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres?
(1, 0) 289 Crogi Mordecai?
(Harbona) Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw.
 
(Harbona) Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw.
(1, 0) 291 Sut mae perswadio'r Brenin?
(1, 0) 292 Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol.
(Harbona) Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel.
 
(Harbona) Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel.
(1, 0) 294 Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd.
(Harbona) Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ.
 
(Harbona) Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ.
(1, 0) 296 Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd.
(Harbona) Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely.
 
(Harbona) Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely.
(1, 0) 298 A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn....
(1, 0) 299 Dyro dy law imi, fachgen, mi ofala' i am dy yrfa di.
(1, 0) 300 Mi af am y seiri rhag blaen.