Esther

Ciw-restr ar gyfer Harbona

(Negeswyr) Gosteg!
 
(1, 0) 11 Y Brenin mawr Ahasferus at y Tywysogion, y Rhaglawiaid a'r Llywodraethwyr sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau o'r India hyd at Ethiopia.
(Y Dorf) Gosteg!
 
(Y Dorf) Gosteg!
(1, 0) 13 Gan fy mod i, Ahasferus, yn Arglwydd ar genhedloedd lawer ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi ewyllysiais lywodraethu'n addfwyn, a gosod fy neiliaid oll mewn bywyd llonydd, a rhoi heddwch hyd eithafoedd yr ymerodraeth.
(Y Dorf) Heddwch!
 
(Y Dorf) Heddwch!
(1, 0) 15 Ond mynegodd Haman imi, Haman sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas, Haman ein prif weinidog a'n prif swyddog ni, sy'n rhagorol mewn doethineb a dianwadal ewyllys da─
(Y Dorf) Haman!
 
(Y Dorf) Haman yr Agagiad!
(1, 0) 19 Mynegodd Haman fod cenedl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, cenedl sy'n wrthwynebus ei chyfraith i bob cenedl arall, cenedl sy'n torri'n wastad ein gorchymyn brenhinol ni, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni ddim sefyll.
(Y Dorf) Brad!
 
(Y Dorf) Brad!
(1, 0) 25 Cenedl yr Iddewon.
(Y Dorf) Iddewon!
 
(Y Dorf) Gosteg!
(1, 0) 29 Ninnau'n awr, gan wybod y modd y mae'r genedl hon wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, yr ydym ninnau yn hysbysu ac yn gorchymyn, drwy lythyrau at holl ddugiaid a thywysogion a llywodraethwyr pob talaith o'n hymerodraeth,─
(1, 0) 30 Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon, fod dinistrio a lladd a difetha drwy gleddyf a thrwy grog holl genedl yr Iddewon, yn hen ac yn ieuanc, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, heb ddim trugaredd na thosturi, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern, heb adael un o'u hil yn fyw ar y ddaear.
(1, 0) 31 Yn enw'r Brenin Ahasferus!
(Y Dorf) Angau i'r Iddewon!...
 
(Haman) 'Rwyt ti'n ei haeddu o.
(1, 0) 42 Diolch, syr...
(1, 0) 43 Hir oes i Haman yr Agagiad!...
(1, 0) 44 Ie, gwaith sych yw darllen proclamasiwn.
(Haman) Gwaith sych?
 
(Haman) Roedd o'n tynnu dŵr o'm dannedd i.
(1, 0) 47 Dŵr?
(1, 0) 48 Tybed?
(1, 0) 49 Gwaed, 'ddyliwn i...
(1, 0) 50 Proclamasiwn go waedlyd yn fy marn i....
(1, 0) 51 Eich gwaith chi, syr?
(Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i.
 
(Haman) Sêl y Brenin, ond fy ngwaith i.
(1, 0) 53 Felly roeddwn i'n meddwl.
(1, 0) 54 'Dydy'n harddull ni'r Persiaid ddim mor apocaluptaidd.
(Haman) Beth yw ystyr hynny?
 
(Haman) Beth yw ystyr hynny?
(1, 0) 56 "Yn ieuanc a hen, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, fel y byddo i bob enaid o'r Iddewon ddisgyn i uffern!"...
 
(1, 0) 58 Braidd yn Semitig i'm chwaeth i, sy'n ŵr o Bersia, os ca' i ddweud hynny, syr.
(Haman) 'Rwyt ti'n nes ati nag y gwyddost ti, machgen i.
 
(Haman) Iddew piau'r geiriau.
(1, 0) 61 Iddew?
(Haman) Ïe, Iddew.
 
(Haman) Un o'u proffwydi nhw.
(1, 0) 65 Sut y cawsoch chithau afael arnyn' nhw?
(Haman) Yn y geiriau yna y gorchmynnodd Samuel ddinistrio fy nghenedl i, ac Agag ei Brenin hi.
 
(Haman) Fo, â'i law ei hunan, laddodd y brenin Agag yn garcharor heb arfau, yn sefyll yn ddiniwed ger ei fron.
(1, 0) 68 Tewch, da chi.
(Haman) Felly fe welwch fod gen i reswm dros gofio'r geiriau, dros gofio'r gwaed, dros gofio'r alanas.
 
(Haman) Ychydig weddill o'm cenedl i ddaru ddianc.
(1, 0) 71 Ac yn awr dyma chithau'n talu'r pwyth?
(Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu!
 
(Haman) Fe gaiff pob Iddew byw dalu!
(1, 0) 73 Haman yr Agagiad?
(Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag.
 
(Haman) Yr ydw' i o deulu'r brenin Agag.
(1, 0) 75 'Welsoch chi'r alanas?
(1, 0) 76 'Oeddech chi yno?
(Haman) Na, doeddwn i ddim yno.
 
(Haman) Ar |ryw| ystyr.
(1, 0) 79 Pa bryd y bu hi─pan laddodd Samuel Agag?
(Haman) Pum canrif yn ôl.
 
(Haman) Pum canrif yn ôl.
(1, 0) 81 Beth?
(Haman) Pum canrif yn ôl.
 
(Haman) Pum canrif yn ôl.
(1, 0) 84 Hawyr bach, syr, 'does neb yn dial cam pum canrif yn ôl.
(1, 0) 85 'Does neb yn cofio pum canrif yn ôl.
(1, 0) 86 Pum canrif yn ôl 'doedd ymerodraeth Persia ddim yn bod.
(1, 0) 87 Na'r ddinas yma, Susan.
(Haman) 'Roedd Agag yn bod.
 
(Haman) 'Rwyf innau'n bod.
(1, 0) 92 Ydy'r Iddew yn cofio hynny?
(Haman) Pan laddodd Samuel Agag, dial cam pum canrif cyn hynny 'roedd yntau.
 
(Haman) Fe gofian' wrth ddisgyn i uffern yn genedl grog.
(1, 0) 97 All atgo am bum canrif yn ôl fod mor gythreulig fyw?
(Haman) Mae'r Iddewon yn fyw.
 
(Haman) 'Edrychaist ti 'rioed yn eu llygaid nhw?
(1, 0) 100 Pobl wedi eu concro ydyn' nhw, pobol alltud yn wylo wrth afonydd Babilon.
(1, 0) 101 Pan fydd swyddog o Bersiad yn eu pasio nhw ar yr heol, 'chodan' nhw mo'u llygaid.
(Haman) Mae un ohonyn' nhw yma yn Susan, yn eistedd bob dydd ym mhorth palas y Brenin yma.
 
(Haman) 'Rwy'n edrych ym myw ei lygaid o, ac yn gweld y blewgi Samuel, a'r ewyn a'r llau ar ei farf, yn darnio Agag yn Gilgal.
(1, 0) 104 Haman, Haman, cymerwch bwyll, syr.
(1, 0) 105 'Does gen' i ddim yn erbyn crogi Iddewon, ond chi yw prif weinidog yr Ymerodraeth; mae modrwy'r Brenin ar eich bys chi, a'ch urddas yn ail i urddas Ahasferus ei hunan.
(1, 0) 106 All trempyn o Iddew ym mhorth y palas ddim codi'ch gwrychyn |chi|?
(Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i.
 
(Haman) Mae holl weision y Brenin sydd ym mhorth y palas yn codi ac ymgrymu pan af i heibio, ond mae'r Iddew hwn yn eistedd ar ei stôl, heb gymaint â gostwng ei lygaid, a'i wep yn fy herio i.
(1, 0) 108 Gorchymyn y Brenin yw bod pawb yn ymostwng i chi.
(1, 0) 109 Sut mae o'n meiddio?
(Haman) Dyna fo, Harbona, ar y gair.
 
(Haman) Hwnna!
(1, 0) 118 Mordecai!
(Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o?
 
(Haman) 'Wyt ti'n ei nabod o?
(1, 0) 120 Mae pawb yn y llys yn ei nabod o.
(1, 0) 121 Mordecai achubodd fywyd y Brenin.
(Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno?
 
(Haman) 'Wyt ti'n credu'r chwedl honno?
(1, 0) 123 Chwedl?
(Haman) Dau was ystafell hanner pan.
 
(Haman) Dau was ystafell hanner pan.
(1, 0) 125 Fe gyffesodd y ddau eu bod nhw ar fedr llindagu'r Brenin.
(1, 0) 126 Mordecai ddatguddiodd y brad.
(Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau.
 
(Haman) Dan artaith y cyffesodd y ddau.
(1, 0) 128 Wedyn fe'u crogwyd yn sydyn, heb artaith ychwaneg.
(Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu.
 
(Haman) 'Ellid dim arall a hwythau wedi cyffesu.
(1, 0) 130 Cyn iddyn' nhw enwi neb arall.
(Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw.
 
(Haman) Doedd neb y tu cefn iddyn' nhw.
(1, 0) 132 Da iawn.
(1, 0) 133 Chi oedd y barnwr yn yr achos.
(Haman) Wrth gwrs.
 
(Haman) 'Roedd yr achos yn glir.
(1, 0) 136 Wedyn, aethoch chithau'n brif weinidog.
(Haman) Ie, wedyn, yn swyddogol.
 
(Haman) Ond fe drefnwyd hynny ers talwm.
(1, 0) 139 Wyddech chi, syr, fod rhai yn y llys yn disgwyl mai gwobr Mordecai fyddai hynny?
(Haman) Mordecai'n brif weinidog?
 
(Haman) Y mochyn yna ar y grisiau?
(1, 0) 142 Ond chi a ddewiswyd.
(Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd.
 
(Haman) 'Rwyf i o waed brenhinoedd.
(1, 0) 144 Gadawyd Mordecai yn y porth.
(Haman) Iddew ym mhorth y Palas.
 
(Haman) Mae'r peth yn warth.
(1, 0) 147 A chyfrinach y ddau was ganddo.
(Haman) 'Doedd dim cyfrinach.
 
(Haman) 'Does arna'i ddim o'i ofn o.
(1, 0) 150 Mae o wedi ei adael a'i anghofio bellach.
(Haman) 'Anghofiais i mono fo.
 
(Haman) Mae o'n fy herio i'n fud ym mhorth y palas bob dydd.
(1, 0) 154 Dirmygu dewis y Brenin.
(1, 0) 155 Sarhad ar y Brenin yw hynny.
(1, 0) 156 Pam na chosbwch chi o?
(Haman) Dyna yw'r proclamasiwn a ddarllenaist ti'n awr.
 
(1, 0) 162 Go dda, syr.
(1, 0) 163 'Rwy'n deall dial fel yna.
(1, 0) 164 Ond pan soniwch chi am ddial cam Agag bum canrif yn ôl, 'fedra' i ddeall dim ar hynny.
(Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor?
 
(Haman) 'Glywaist ti am ddewines Endor?
(1, 0) 166 Naddo fi.
(1, 0) 167 Rhyw wrach, ai e?
(Haman) Fe alwodd hi Samuel o uffern i ddarogan angau Saul.
 
(Haman) Mi alwaf innau Samuel ac mi alwaf Agag at drothwy Gehenna i groesawu holl genedl Moses.
(1, 0) 170 Dyna yw bod yn Brif Weinidog?
(Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol!
 
(Haman) Yr ias o ystyried fod yn fy mhwer i ddinistrio cenedl gyfan, cenedl sy'n honni fod iddi addewid am gyfamod tragwyddol!
(1, 0) 172 Rydych chi'n dysgu imi ystyr gwleidyddiaeth.
(Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona?
 
(Haman) 'Fuost ti'n cenfigennu erioed wrth Ahasferus y Brenin, Harbona?
(1, 0) 174 Cwestiwn peryglus, syr.
(Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau.
 
(Haman) Twt,twt, fachgen, fe all dau o swyddogion y palas siarad yn rhydd ac yn ffrindiau.
(1, 0) 176 O'r gorau.
(1, 0) 177 Do, mi fûm i'n cenfigennu wrtho.
(Haman) Pam?
 
(Haman) Pam?
(1, 0) 179 Mae o'n ddeg ar hugain, a dydy'r frenhines Esther ddim eto'n ugain oed.
(Haman) {Dan chwerthin.}
 
(Haman) Chwarae teg iti, fachgen, chwarae teg iti.
(1, 0) 182 Mae hi'n Ymerodres y deyrnas, a 'does neb yn gwybod o ble y daeth hi.
(Haman) 'Ystyriais i ddim.
 
(Haman) A'r llances yma enillodd.
(1, 0) 186 Ydy'r Brenin yn ei hoffi hi?
(Haman) Beth wn i?
 
(Haman) 'Dydw i ddim yn credu ei fod o wedi ei gweld hi ers mis.
(1, 0) 190 Mae hi'n eistedd ar ei gorsedd fel petai hi wedi ei geni yno.
(1, 0) 191 Wyddoch chi rywbeth am ei theulu hi, ei thras hi?
(Haman) Mae Brenin Persia a Media yn rhy gall.
 
(Haman) 'Does ganddo fyth berthnasau yng nghyfraith.
(1, 0) 194 'Wyr neb i ble'r aeth Fasti.
(1, 0) 195 'Wyr neb o ble daeth Esther.
(Haman) 'Welaist ti Fasti?
 
(Haman) 'Welaist ti Fasti?
(1, 0) 197 Mae Esther yn harddach.
(Haman) Dyna dy farn di?
 
(Haman) Edrychais i 'rioed arni lawer.
(1, 0) 200 Druan ohonoch chi, syr.
(1, 0) 201 Does dim arall yn Susan sy'n werth edrych arno wrthi hi.
(Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel?
 
(Haman) 'Rwyt ti'n edrych yn uchel?
(1, 0) 203 'Rydw i'n gweini arni ryw dipyn bron bob dydd, ond 'dydy hi ddim wedi 'ngweld i eto.
(1, 0) 204 Pwy ŵyr?
(1, 0) 205 Ychydig newyn a blino?
(Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti?
 
(Haman) Ydy hi'n ffroen-uchel fel Fasti?
(1, 0) 207 Mae hi'n addfwyn ac araf, ond er hynny, mi fydda' i'n meddwl fod teigres yn cysgu dan ei hamrannau hi.
(Haman) I mi pethau i'w defnyddio yw merched.
 
(Haman) Am wn i ei bod hi'n ffordd reit hwylus.
(1, 0) 211 'Wyddoch chi ddim oll am bleser, felly?
(Haman) Mae gen'i ddeg o feibion, saith ohonyn' nhw'n swyddogion yn y palas neu yn y fyddin.
 
(Haman) Mae pob grym yn bleser.
(1, 0) 220 Rydych chi'n iawn; syr.
(1, 0) 221 Does gennych chi ddim achos i genfigennu wrth neb.
(Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen.
 
(Haman) Mi wn i'n well na thi beth ydy' cenfigen.
(1, 0) 223 'Rych chithau'n cenfigennu wrth y Brenin?
(Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus?
 
(Haman) Cenfigennu wrth Ahasferus?
(1, 0) 225 Wrth ei rwysg o, ie?
(1, 0) 226 Wrth ei fawredd o, ei awdurdod o?
(Haman) Dim oll.
 
(Haman) Rydw i'n ei ddefnyddio fo fel y mynna' i erbyn hyn.
(1, 0) 232 Popeth yn dda ond iddo fo beidio ag amau hynny.
(Haman) 'Does fawr o berig'.
 
(Haman) Mae ei feddwl o, fel dy feddwl dithau, ar Esther neu ryw gariad arall.
(1, 0) 235 Peidiwch â deffro'r teigr yn Esther.
(Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld.
 
(Haman) Swydd Esther fydd cadw'r Brenin rhag gweld.
(1, 0) 237 Mi rown i dipyn am iddi hi ddechrau 'ngweld i.
(Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin.
 
(Haman) Rhaid bod yn ifanc i genfigennu wrth y Brenin.
(1, 0) 239 Neu ynteu'n ddigon hen i ddefnyddio Bigthana a Theres.
(Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu?
 
(Haman) Be wyt ti'n ei awgrymu?
(1, 0) 241 Cellwair, syr, dim ond cellwair.
(1, 0) 242 Mae clepian y palas yn ddigon diniwed.
(Haman) Cenfigen yw clep y palas.
 
(Haman) Cenfigen yw clep y palas.
(1, 0) 244 Wrth bwy'r ydych chi'n cenfigennu?
(Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall.
 
(Haman) 'Rwyt ti'n rhy ifanc i ddeall.
(1, 0) 246 Rhowch braw arna' i.
(Haman) Wrth y Duwiau, Harbona.
 
(Haman) Wrth y Duw sy'n rheoli angau.
(1, 0) 249 Wel, na.
(1, 0) 250 'Dydw'i ddim yn deall.
(Haman) Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, dyn yn ysu am fod yn Dduw.
 
(Haman) Heddiw mae hanes Israel yn cau, trwy benderfyniad a gorchymyn un dyn, fi, Haman yr Agagiad, yr artist mewn gwleidyddiaeth.
(1, 0) 268 Ie, ias go iawn.
(1, 0) 269 Mi fedra'i ddeall.
(1, 0) 270 Ac eto i gyd, y mae'r olwg ar Mordecai ar risiau'r palas, a sach am ei ganol, yn eich cynhyrfu chi.
(Haman) 'Dydw i ddim wedi drysu.
 
(Haman) Nid fy mod i wedi cyrraedd.
(1, 0) 274 Mae Mordecai wedi mynd yn dipyn o hunllef arnoch chi, syr?
(Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o.
 
(Haman) Mi dd'wedais, 'rydw i'n gweld Samuel yn ei lygaid o.
(1, 0) 276 Mae eto dipyn o amser cyn diwrnod y lladd mawr?
(Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis.
 
(Haman) Y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis.
(1, 0) 278 Gymerwch chi gyngor gan ŵr ifanc?
(Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso.
 
(Haman) Mi wrandawaf yn astud a phwyso.
(1, 0) 280 'Does dim y mae'r Brenin yn debyg o'i wrthod i chi ynglŷn â'r Iddewon.
(Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll.
 
(Haman) Hyd y galla' i farnu, dim oll.
(1, 0) 282 Pa angen aros mor hir mewn mater o frys?
(Haman) Cyn crogi'r Iddewon?
 
(Haman) Cyn crogi'r Iddewon?
(1, 0) 284 Nage.
(1, 0) 285 'Rydw i'n deall hynny.
(1, 0) 286 Mater o drefniadaeth...
(1, 0) 287 Ond crogi un arweinydd?
(1, 0) 288 Crogi'ch gelyn arbennig, ysbïwr Bigthana a Theres?
(Haman) Crogi Mordecai?
 
(Haman) Crogi Mordecai?
(1, 0) 290 Mi ellid, 'wyddoch chi, ei grogi o heddiw.
(Haman) Sut mae perswadio'r Brenin?
 
(Haman) Mae o'n rhoi cryn bris ar gyfraith, ond mewn achosion go eithriadol.
(1, 0) 293 Dangoswch y perigl o oedi gormod, perigl rhoi amser i drefnu gwrthryfel.
(Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd.
 
(Haman) Harbona, mae gen'ti 'fennydd gwleidydd.
(1, 0) 295 Ewch adre rwan a chael seiri i godi'r crocbren dan ffenest eich tŷ.
(Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd.
 
(Haman) Wedyn at y Brenin i'w berswadio am y perigl i'w orsedd.
(1, 0) 297 Mi gysgwch yn dawel heno a Mordecai'n troi ar y rhaff nepell o droed eich gwely.
(Haman) A'r brain a'r eryrod yn pigo'r esgyrn....
 
(Haman) Mi af am y seiri rhag blaen.
(1, 0) 301 Wedyn at y Brenin.
(1, 0) 302 Mi fydda' i yno'n gweini.
(Mordecai) Harbona!
 
(Mordecai) Harbona!
(1, 0) 305 Wel, wel!
(1, 0) 306 Mordecai!
(1, 0) 307 Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio.
(Mordecai) 'Synnwn i fawr.
 
(Mordecai) 'Synnwn i fawr.
(1, 0) 309 'Glywaist ti?
(1, 0) 310 Mae sôn fod y Brenin yn paratoi codiad arbennig iti heddiw.
(1, 0) 311 Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd.
(Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona.
 
(Mordecai) Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona.
(1, 0) 313 Un arall eto!
(1, 0) 314 Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn.
(Mordecai) Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn?
 
(Mordecai) Ie, mi all hynny fod.
(1, 0) 317 Pa gymwynas arall a fedra' i?
(Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi.
 
(Mordecai) Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi.
(1, 0) 319 Y Frenhines?
(Mordecai) Ie.
 
(Mordecai) Ie.
(1, 0) 321 Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn?
(1, 0) 322 Y baw ar dy dalcen?
(1, 0) 323 Y sach yna amdanat ti?
(Mordecai) Sachliain a lludw.
 
(Mordecai) Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines.
(1, 0) 327 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna.
(Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi.
 
(Mordecai) Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi.
(1, 0) 329 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines.
(Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin.
 
(Mordecai) Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin.
(1, 0) 331 Ydy'r Brenin mewn perigl eto?
(Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl.
 
(Mordecai) Mae'r Frenhines mewn perigl.
(1, 0) 333 Y Frenhines mewn perigl?
(1, 0) 334 'Wyt ti'n siŵr?
(Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin.
 
(Mordecai) Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin.
(1, 0) 336 Y Frenhines mewn perigl!
(Esther) Be' sy'n bod, Harbona?
 
(Esther) Be' sy'n bod, Harbona?
(1, 0) 340 Mordecai'r Iddew sy'n gofyn am weld fy Arglwyddes.
(Esther) Mordecai'r Iddew?
 
(1, 0) 343 Dyma fo, Arglwyddes.
(Esther) Beth ydy' ystyr hyn?
 
(Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i.
(1, 0) 348 Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi.