Esther

Ciw-restr ar gyfer Mordecai

(Negeswyr) Gosteg!
 
(Harbona) Mi fydda' i yno'n gweini.
(1, 0) 304 Harbona!
(Harbona) Wel, wel!
 
(Harbona) Dyna ryfedd, amdanat ti 'roedden ni'n sgwrsio.
(1, 0) 308 'Synnwn i fawr.
(Harbona) 'Glywaist ti?
 
(Harbona) Mae'r gweinidog yn selog dros y codiad hefyd.
(1, 0) 312 Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona.
(Harbona) Un arall eto!
 
(Harbona) Rydw i newydd ddarllen y Proclamasiwn.
(1, 0) 315 Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn?
(1, 0) 316 Ie, mi all hynny fod.
(Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i?
 
(Harbona) Pa gymwynas arall a fedra' i?
(1, 0) 318 Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi.
(Harbona) Y Frenhines?
 
(Harbona) Y Frenhines?
(1, 0) 320 Ie.
(Harbona) Wyt ti wedi dy weld dy hun, ddyn?
 
(Harbona) Y sach yna amdanat ti?
(1, 0) 324 Sachliain a lludw.
(1, 0) 325 Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i.
(1, 0) 326 Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines.
(Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna.
 
(Harbona) 'Fedra i ddim gofyn i'r Frenhines ddod atat ti fel yna.
(1, 0) 328 Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi.
(Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines.
 
(Harbona) 'Does neb heb achos mawr yn gweld y Frenhines.
(1, 0) 330 Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin.
(Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto?
 
(Harbona) Ydy'r Brenin mewn perigl eto?
(1, 0) 332 Mae'r Frenhines mewn perigl.
(Harbona) Y Frenhines mewn perigl?
 
(Harbona) 'Wyt ti'n siŵr?
(1, 0) 335 Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin.
(Harbona) Y Frenhines mewn perigl!
 
(Esther) Beth ydy' ystyr hyn?
(1, 0) 346 O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau.
(Esther) Harbona, 'rydw i'n dymuno ymddiddan gyda'r Iddew hwn heb i neb ddyfod ar fy nhraws i.
 
(Harbona) Mi drefna'i, Arglwyddes, na ddaw neb oll ar eich cyfyl chi.
(1, 0) 350 'Glywaist ti'r Proclamasiwn?
(Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o.
 
(Esther) 'Rydw' i wedi ei ddarllen o.
(1, 0) 352 Dy genedl di, Esther.
(Esther) Fy nghenedl i.
 
(Esther) Mae'n dda gen' i dy fod ti'n cydnabod hynny.
(1, 0) 356 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu?
(Esther) Angau'n dringo i'n ffenestri ni i ddinistrio'r rhai bychain?
 
(Esther) Ydw', 'rydw' i'n deall.
(1, 0) 359 Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd.
(1, 0) 360 Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod.
(1, 0) 361 Mae hwn heddiw yn wahanol iawn.
(Esther) Ein cenedl |ni|?
 
(Esther) Dyna wyt ti'n ei feddwl?
(1, 0) 364 Nage.
(1, 0) 365 Pa ots am hynny?
(1, 0) 366 Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw.
(Esther) Duw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob.
 
(Esther) Duw'r addewid.
(1, 0) 369 Yr unig Dduw.
(1, 0) 370 Y Duw byw.
(1, 0) 371 Duw Israel.
(1, 0) 372 Ni yw ei dystion o.
(1, 0) 373 Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd.
(1, 0) 374 Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod.
(1, 0) 375 Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny.
(Esther) Ti ddaru fy magu i, Mordecai, ti ddaru fy nysgu i.
 
(Esther) Fedr y Proclamasiwn ddileu hynny?
(1, 0) 380 Pwy all ateb?
(1, 0) 381 Mae'n amhosib ateb.
(Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|?
 
(Esther) Mae O'n dibynnu arnon |ni|?
(1, 0) 383 Cyfamod ydy' hi.
(1, 0) 384 Trwom ni mae O'n gweithredu.
(1, 0) 385 Ein tasg ni yw atal y perig.
(1, 0) 386 Ni sy'n gyfrifol.
(Esther) Ti sy'n gyfrifol.
 
(Esther) Ti sy'n gyfrifol.
(1, 0) 388 Fi'n gyfrifol?
(Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn.
 
(Esther) Dy waith di yw'r Proclamasiwn hwn.
(1, 0) 390 Esther!
(Esther) Morynion y palas sy'n deud hynny.
 
(Esther) Dyna holl sgwrs y gweision ym mhorth y palas.
(1, 0) 393 Sut hynny?
(Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin.
 
(Esther) Oblegid dy fod ti'n anufuddhau i orchymyn y Brenin.
(1, 0) 395 Mi wela' i.
(1, 0) 396 Haman?
(Esther) Prif weinidog y Brenin.
 
(Esther) Dial Haman, mae'r gweision yn deud, ydy'r Proclamasiwn hwn.
(1, 0) 401 Maen' nhw'n iawn.
(1, 0) 402 Dial Haman ydy' hwn.
(1, 0) 403 Hen, hen gas.
(1, 0) 404 Hen, hen ddial.
(1, 0) 405 Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt.
(Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu?
 
(Esther) Wyt ti'n dal i ddeud mai trwom ni y mae O'n gweithredu?
(1, 0) 407 Be arall y galla' i ddeud?
(Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma.
 
(Esther) Os felly, mi fedri di rwystro'r dinistr yma.
(1, 0) 409 Er mwyn hynny yr ydw' i yma.
(Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin.
 
(Esther) Y cwbwl sy raid yw derbyn gorchymyn y Brenin.
(1, 0) 411 Sut?
(Esther) Cymodi â Haman.
 
(1, 0) 415 Esther!
(1, 0) 416 'Wyt ti'n wallgo?
(Esther) Gwallgo?
 
(Esther) Pam?
(1, 0) 419 Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau?
(1, 0) 420 Popeth a ddysgais i iti?
(1, 0) 421 Ymgrymu i Haman yr Agagiad?
(Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel?
 
(Esther) 'Ydy hynny'n ormod i'w ofyn er mwyn achub cenedl Israel?
(1, 0) 423 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman?
(Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di.
 
(Esther) Nid fi sy'n dy gyhuddo di.
(1, 0) 425 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel.
(Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o.
 
(Esther) Mi allai llai na hynny ennill ei gymod o.
(1, 0) 427 Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib.
(1, 0) 428 Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib.
(1, 0) 429 Y Duw byw ydy' ei elyn o.
(1, 0) 430 Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma.
(1, 0) 431 Tewi'r dystiolaeth.
(1, 0) 432 Dial a dileu cosb Duw ar Agag.
(1, 0) 433 Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo.
(1, 0) 434 Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad.
(1, 0) 435 Mi wyddost ti hynny.
(Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i.
 
(Esther) Fy enaid sydd ym mysg llewod: dynion poethion sy'n fy llyncu i.
(1, 0) 437 lddewes wyt tithau, fy nghyfnither.
(Esther) Ddaru 'mi 'rioed wadu hynny.
 
(Esther) Fel merch ufudd, Mordecai.
(1, 0) 443 A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth.
(Esther) 'Does dim coron ar fy mhen i 'rwan.
 
(Esther) 'Fydda' i byth yn ei gwisgo hi ond pan ga' i 'ngalw at y Brenin.
(1, 0) 446 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl?
(Esther) 'Welaist ti fi'n falch?
 
(Esther) 'Rydw i'n alltud ymhlith alltudion Judah.
(1, 0) 452 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder?
(Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau.
 
(Esther) Dy bobl di yw fy mhobl i a'th Dduw di fy Nuw innau.
(1, 0) 454 Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth?
(Esther) Be' fedra'i ei wneud?
 
(Esther) Be' fedra'i ei wneud?
(1, 0) 456 Mi gefais i freuddwyd neithiwr.
(Esther) Breuddwyd?
 
(Esther) O'r gora', dywed dy freuddwyd.
(1, 0) 460 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear.
(1, 0) 461 A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd.
(1, 0) 462 Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi.
(1, 0) 463 Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus.
(1, 0) 464 Dyna fy mreuddwyd i.
(Esther) 'Oes gennyt ti ddawn Joseff?
 
(Esther) 'Fedri di ddeud ystyr dy freuddwyd?
(1, 0) 467 Y ddwy ddraig ydw' i a Haman.
(1, 0) 468 Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw.
(1, 0) 469 Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau.
(Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul?
 
(Esther) A'r ffynnon fechan a aeth yn afon fawr nes dyfod goleuni a chodiad haul?
(1, 0) 471 Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther.
(Esther) Fi?
 
(Esther) Sut y gall hynny fyth fod?
(1, 0) 476 Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl.
(1, 0) 477 Ti'n unig 'fedr ein hachub ni.
(Esther) {Yn bendant.}
 
(Esther) Na!... Na!
(1, 0) 480 Esther!
(Esther) Na!
 
(Esther) Na!
(1, 0) 482 Pam na?
(Esther) Mi wyddost y gyfraith.
 
(Esther) 'Rwyt ti dy hun yn un o weision y Brenin yn y porth.
(1, 0) 485 Ti yw'r Frenhines.
(Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth.
 
(Esther) Mae'r ddeddf yn bendant: pwy bynnag sy'n mynd i mewn at y Brenin heb ei alw, gŵr neu wraig, brenhines neu arall, fe'i rhoir i farwolaeth.
(1, 0) 487 Dyna lythyren y gyfraith.
(1, 0) 488 Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad.
(Esther) Fod y Brenin yn estyn ei deyrn-wialen aur tuag ato mewn maddeuant?
 
(Esther) 'Does neb yn cofio fod yr eithriad erioed wedi digwydd.
(1, 0) 492 Ond mi all ddigwydd.
(1, 0) 493 Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny.
(Esther) Mi all beidio â digwydd.
 
(Esther) Mi all beidio â digwydd.
(1, 0) 495 Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron?
(Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf.
 
(Esther) Mae'r goron ohoni ei hun mor ffiaidd gen' i â chadach misglwyf.
(1, 0) 497 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin.
(1, 0) 498 Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr.
(Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i.
 
(Esther) Nid fi a guddiodd mai Iddewes ydw' i.
(1, 0) 500 'Fedri di ddim dianc.
(1, 0) 501 Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth.
(Esther) Mordecai, mae arna' i ofn marw fel pawb arall.
 
(Esther) Nid mwy na phawb arall.
(1, 0) 504 Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant.
(1, 0) 505 'Chaiff neb Iddew ddianc.
(Esther) lddew ydw' i.
 
(Esther) lddew ydw' i.
(1, 0) 507 Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin.
(1, 0) 508 'Does gennyt ti ddim i'w golli.
(Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti.
 
(Esther) Mwy, mwy nag a freuddwydiaist ti.
(1, 0) 510 Rhaid iti farw heb fynd ato.
(1, 0) 511 O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl.
(1, 0) 512 Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth.
(1, 0) 513 'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli.
(1, 0) 514 'Wyt ti ddim yn gweld?
(1, 0) 515 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw.
(Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw.
 
(Esther) Mordecai, mae 'na bethau nad oes gan neb hawl i'w gofyn gan ferch, hyd yn oed yn enw Duw.
(1, 0) 517 Beth ydyn' nhw?
(Esther) Wyddost ti fod mis cyfan a rhagor er pan alwodd y Brenin fi ato?
 
(Esther) Deng noson ar hugain.
(1, 0) 521 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau?
(Esther) Ydw', yn eu cyfri nhw.
 
(Esther) Fel unrhyw wraig briod.
(1, 0) 524 Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau.
(1, 0) 525 Brenin ac ymerawdwr.
(Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely.
 
(Esther) 'Does neb yn ymerawdwr rhwng llieiniau'r gwely.
(1, 0) 527 Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon.
(Esther) 'Rwyt ti'n siarad fel un o ferched y palas.
 
(Esther) Maen' nhw wrth eu bodd yn edliw hynny imi.
(1, 0) 530 Cystal i tithau ddygymod.
(Esther) Ond fi yw ei wraig briod o.
 
(Esther) Ond fi yw ei wraig briod o.
(1, 0) 532 Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat.
(Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio.
 
(Esther) A siawns, siawns arswydus, iddo beidio.
(1, 0) 534 'Rydw i'n cydnabod hynny.
(Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti.
 
(Esther) Mae'r gyfraith a'r traddodiad o blaid iddo beidio, yn enwedig ar ôl anufudd-dod Fasti.
(1, 0) 536 'Dydw i ddim yn gwadu.
(1, 0) 537 Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth.
(Esther) Nid dyna'r pwynt o gwbwl.
 
(Esther) Mi allwn i ddiodde hynny.
(1, 0) 540 Be sy arnat ti ei ofn?
(1, 0) 541 Beth na fedri di ddim ei ddiodde?
(Esther) Oes rhaid deud wrthyt ti?
 
(Esther) Petaut ti'n ferch, mi fuasit wedi deall ers talwm.
(1, 0) 544 Nid merch ydw' i.
(1, 0) 545 Rhaid deud.
(Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
 
(Esther) Bod yn fyw hyd yn oed am eiliad ar ôl iddo fo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
(1, 0) 547 'Fedra'i mo'th ddilyn di.
(Esther) Mordecai, nid fy newis i oedd priodi'r Brenin.
 
(Esther) Y diwrnod wedyn mi roes o ei law imi'n ffurfiol o flaen y llys, fy mhriodi a rhoi'r goron ar fy mhen, ac fe fu gwledd i'r holl deyrnas am wythnosau.
(1, 0) 556 A rwan?
(Esther) Mae mis o nosweithiau er pan welais i o.
 
(Esther) A rhwng ei balas o a'm palas innau 'does ond hanner canllath o lwybr.
(1, 0) 562 'Wyt ti'n poeni?
(Esther) Lliw nos yn fy ngwely y ceisia' i'r hwn a hoffa fy enaid.
 
(Esther) 'Rydw i'n fy ngorfodi fy hun i edrych yn frenhines, ac mae arna' i eisiau beichio crio fel babi ar goll.
(1, 0) 566 Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl?
(Esther) 'Rydw i ar goll, Mordecai, ar goll.
 
(Esther) Nid ei fawredd o, na dim byd sy'n perthyn iddo fo, ond fo'i hunan, y dyn sy'n ŵr priod imi.
(1, 0) 573 Pam felly nad ei di ato?
(1, 0) 574 Pa raid iti ofni angau ar ei law o?
(Esther) Nid ofni angau yr ydw' i.
 
(Esther) Ond ofni iddo beidio ag estyn y deyrn-wialen tuag ata' i.
(1, 0) 577 Angau ydy ystyr hynny.
(Esther) Yr ail angau, yn dwad cyn yr angau cynta'.
 
(Esther) Angau'r galon, angau enaid, y siom sy'n farwolaeth fyw, y gallai o edrych o'i orsedd arna' i─a pheidio.
(1, 0) 580 Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin.
(Esther) 'Oes gen' i help?
 
(Esther) 'Oes gen' i help?
(1, 0) 582 Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw.
(Esther) Mordecai, paid â bod mor ddwl.
 
(Esther) Fi mae o'n caru.
(1, 0) 589 Pam na wnei di wynebu ffeithiau?
(1, 0) 590 'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun.
(1, 0) 591 A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o.
(Esther) Ydw, mi 'rydw i'n ei gredu o.
 
(Esther) Mac 'mywyd i'n dibynnu ar ei fod o'n wir.
(1, 0) 596 Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir.
(1, 0) 597 Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir.
(Esther) Mae o'n fy ngharu i.
 
(Esther) Rhywbeth rhyngddo fo a minnau ydy o.
(1, 0) 601 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun.
(1, 0) 602 Y mae prawf.
(1, 0) 603 Mi wyddost tithau fod prawf.
(1, 0) 604 Cariad neu angau.
(Esther) Angau yw'r ddeddf.
 
(Esther) Angau yw'r ddeddf.
(1, 0) 606 A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf.
(1, 0) 607 Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf.
(Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o.
 
(Esther) 'Docs gen' i ddim hawl i gamblo ar ei gariad o.
(1, 0) 609 Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd.
(1, 0) 610 Ond 'does gen' ti mo'r ffydd.
(1, 0) 611 'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o.
(1, 0) 612 'Feiddi di ddim.