Estron

Ciw-restr ar gyfer Alun

 
(0, 1) 17 Dyn.
(0, 1) 18 Siwt, tei ac ati.
(0, 1) 19 Ugeiniau hwyr.
 
(0, 1) 23 Hwn yw ALUN.
(0, 1) 24 Mae'n sefyll mewn tawelwch.
(0, 1) 25 Wrth ei draed, tun gwag.
(0, 1) 26 ~
(0, 1) 27 Saib.
 
(0, 1) 29 Mae ALUN yn edrych at y drws.
(Leia) {Llais.}
 
(0, 3) 65 Rydw i am dy roi di ar y bwrdd coffi fan hyn.
(0, 3) 66 Ikea.
(0, 3) 67 Y bwrdd coffi.
(0, 3) 68 Nid bod angen i ti wybod hynny ond mae pobol yn gofyn weithiau.
(0, 3) 69 'Is that a Nornäs?'
(0, 3) 70 Why yes, it is. I assembled it myself. Now use that coaster or I'll shoot your stupid head off.
(0, 3) 71 Fyddi di ddim yn ymwybodol o Ikea.
(0, 3) 72 Y cysyniad o 'Ikea'.
(0, 3) 73 Rydw i'n hoff iawn.
(0, 3) 74 O'r cysyniad.
(0, 3) 75 Popeth yn ei le a lle i bopeth. Aros y tu mewn i'r llinellau. Dilyn yr arwyddion ar hyd y daith er mwyn gweld a phrofi popeth sydd angen.
(0, 3) 76 Dim surprises.
(0, 3) 77 Pawb yn gwybod yn union beth i ddisgwyl.
(0, 3) 78 Profiad effeithlon tu hwnt.
(0, 3) 79 Polished.
(0, 3) 80 Ac mae'r Swedish meatballs yn dda iawn hefyd.
(0, 3) 81 ~
(0, 3) 82 Rydw i am gadw'r caead ar y tun os yw hynny'n iawn?
(0, 3) 83 Mi fydd hi'n galw cyn bo hir. Dydw i ddim eisiau iddi dy weld di.
(0, 3) 84 Ddim 'to.
(0, 3) 85 Dyw hi ddim yn barod.
(0, 3) 86 Mae'r ddynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig tuag at bethau newydd.
(0, 3) 87 Pethau gwahanol.
(0, 3) 88 Dyna sydd yn egluro llwyddiant Ikea.
(0, 3) 89 Pobol yn hoffi'r cyfarwydd.
(0, 3) 90 Hoffi gwybod beth i ddisgwyl.
(0, 3) 91 Y rheswm dros ein hofn o farwolaeth, am wn i.
(0, 3) 92 The unknown.
(0, 3) 93 Pobol yn hoffi gwybod beth sy'n dod.
(0, 3) 94 Predictability.
(0, 3) 95 Yn hoffi pethau wedi'u gwneud mewn ffordd arbennig.
(0, 3) 96 Roedd hen ffrind i fi yn bwyta'r union un frechdan ar yr union un diwrnod bob wythnos yn ysgol. Dydd Llun, ham. Dydd Mawrth, cheddar. Mercher, twrci Bernard Matthews. Iau, caws soft. Dydd Gwener, fish paste. Bob wythnos. Dim eithriadau.
(0, 3) 97 Dim byd annisgwyl.
(0, 3) 98 Well-oiled machine.
(0, 3) 99 Mae gan ddynoliaeth bosibiliadau helaeth, ond mae'r rhan fwyaf ohonom yn cadw ein byd yn fach er mwyn gwneud pethau'n haws.
(0, 3) 100 Dim sialens.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 3) 106 Ti ddim yn meddwl bod e'n gweithio?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O'dd y bit am y meatballs yn eitha doniol.
(0, 3) 110 Ma' pawb yn hoffi meatballs Ikea.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O'n i'n bored yn darllen e.
(0, 3) 116 Dyna'r pwrpas.
(0, 3) 117 Routine.
(0, 3) 118 Dangos diflastod bywyd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Am Owen o't ti'n siarad, ontefe?
(0, 3) 121 Ie, Owen rhywbeth.
(0, 3) 122 Yr un hen frechdanau trwy ysgol gynradd i gyd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 3) 130 Gwranda, fi'n gorfod mynd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Nawr?
(0, 3) 133 Siarada i gyda ti cyn bo hir.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ni'n mynd i'r traeth mewn munud.
(0, 3) 137 Joiwch.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ta-ra.
(0, 3) 141 Ges di'r croissants?
(Han) Wel helo Hanna, sut wyt ti?
 
(Han) Sut o'dd y siwrne?
(0, 3) 144 Sori.
(Han) Ti'n ok?
 
(Han) Ti'n ok?
(0, 3) 147 Iawn. Ti?
(Han) Ges i'r croissants.
 
(Han) Ges i'r croissants.
(0, 3) 149 Diolch, Han.
(Han) Wedes di ddim bod y bakery 'di cau.
 
(Han) Wedes di ddim bod y bakery 'di cau.
(0, 3) 151 Pa un?
(Han) Yr un rownd y gornel.
 
(Han) Yr un rownd y gornel.
(0, 3) 153 Yw e?
(Han) Siop wag arall ar y stryd 'na nawr.
 
(Han) Siop wag arall ar y stryd 'na nawr.
(0, 3) 155 Ble ges di'r croissants, 'te?
(Han) Tesco Metro.
 
(Han) Tesco Metro.
(0, 3) 157 Y bakery 'di cau?
(Han) Ciw ridiculous.
 
(Han) O'dd y self checkout out of order.
(0, 3) 160 Pam gaeodd e?
(Han) Sai'n gwbod.
 
(Han) Ffaelu cystadlu gyda'r siopau mwy?
(0, 3) 163 Ddim yn cynnig Clubcard points.
(Han) Yw'r tegell 'mlan 'da ti, neu –
 
(Han) Yw'r tegell 'mlan 'da ti, neu –
(0, 3) 165 O ie...
(0, 3) 166 Ie, wrth gwrs.
(0, 3) 167 Sori.
(0, 3) 168 Eistedda.
(Han) Ti brynodd rhain?
 
(Han) Ti brynodd rhain?
(0, 3) 171 Beth?
(Han) Y Quality Street.
 
(Han) Y Quality Street.
(0, 3) 173 Na.
(0, 3) 174 Hen dun, 'na'i gyd.
(Han) Pam mae e ar y coffee table?
 
(Han) Rhan o'r ffeng shui?
(0, 3) 177 Wedi'i adael yna am funud.
(Han) Beth sy mewn 'na?
 
(Han) Beth sy mewn 'na?
(0, 3) 179 Dim.
(Han) Dim byd?
 
(Han) Dim byd?
(0, 3) 181 Dim byd o bwys.
(Han) Ti'n od.
 
(Han) Ti'n od.
(0, 3) 183 Mae e yn y genes.
(Han) Speak for yourself.
 
(Han) Ok, ges di bach o'r brains hefyd.
(0, 3) 192 Good save.
(Han) Fi 'di dod â mwy o gardie i ti gael darllen.
 
(Han) Fi 'di dod â mwy o gardie i ti gael darllen.
(0, 3) 194 Maen nhw'n dal i gyrraedd?
(Han) Y tŷ'n llawn ohonyn nhw.
 
(Han) Y tŷ'n llawn ohonyn nhw.
(0, 3) 196 Card factory.
(Han) Meddylia am yr holl goed!
 
(Han) Meddylia am yr holl goed!
(0, 3) 199 Coasters.
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 3) 201 Y coasters.
 
(0, 3) 204 Hang on...
 
(0, 3) 206 Briwsion.
(0, 3) 207 Dydw i ddim eisiau croissant dros y llawr.
(Han) Ti fel un o'r Stepford Wives.
 
(Han) Ti fel un o'r Stepford Wives.
(0, 3) 209 Na.
(0, 3) 210 Trefnus.
(0, 3) 211 Taclus.
(0, 3) 212 Glân.
(Han) Rydw i'n lân hefyd.
 
(Han) Rydw i'n lân hefyd.
(0, 3) 214 Ha!
(Han) Ti sy'n anal, 'na'i gyd.
 
(Han) Ti sy'n anal, 'na'i gyd.
(0, 3) 216 Gwell anal na banal.
(Han) Banál.
 
(Han) Banál.
(0, 3) 218 Fi'n gwbod, ond –
(Han) Pwy wedodd hwnna? Shakespeare?
 
(Han) Pwy wedodd hwnna? Shakespeare?
(0, 3) 222 O le ga i fara nawr?
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 3) 224 Nawr bod y bakery wedi cau?
(Han) Tesco Metros.
 
(Han) Tesco Metros.
(0, 3) 226 Na.
(0, 3) 227 Mass-produced.
(Han) Snob.
 
(Han) Snob.
(0, 3) 229 Fi'n siŵr bod tua chwe siop wag ar y stryd 'na nawr.
(Han) Ma' Ladbrokes yn dod i un ohonyn nhw.
 
(Han) 'Coming soon'.
(0, 3) 233 Siop fetio?
(Han) What are the odds!
 
(Han) So sut wyt ti?
(0, 3) 240 Iawn.
(Han) Really?
 
(Han) Really?
(0, 3) 242 Ie.
(Han) Siŵr?
 
(Han) Siŵr?
(0, 3) 244 Ydw.
(0, 3) 245 Ti?
(Han) Fine.
 
(Han) Fine.
(0, 3) 247 Good.
(Han) Mae'n teimlo'n od.
 
(Han) Fi'n dal i deimlo'n... od.
(0, 3) 251 A fi.
(Han) Wir?
 
(Han) Wir?
(0, 3) 253 Dyw e ddim yn teimlo'n real.
(Han) Fi'n gwbod.
 
(Han) Fi'n gwbod.
(0, 3) 255 Dal i ddisgwyl i bethau...
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 3) 257 ...
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 3) 259 Na.
(Han) Gwêd, Alun.
 
(Han) Gwêd, Alun.
(0, 3) 261 Disgwyl i bopeth fynd nôl i fel roedden nhw.
(Han) Fi'n deall.
 
(Han) Fi'n deall.
(0, 3) 263 Disgwyl... dydw i ddim yn hollol siŵr.
(0, 3) 264 Mae'n teimlo fel ffantasi.
(0, 3) 265 Fel nad yw hyn mewn gwirionedd wedi digwydd.
(0, 3) 266 Methu credu.
(0, 3) 267 Methu derbyn.
(Han) Ie...
 
(Han) Ie...
(0, 3) 272 Felly pryd mae'r cyfarfod?
(Han) Pa gyfarfod?
 
(Han) Pa gyfarfod?
(0, 3) 274 Cyfarfod gwaith.
(Han) Wedes i ddim bod cyfarfod gwaith.
 
(Han) Wedes i ddim bod cyfarfod gwaith.
(0, 3) 276 Ma' 'na wastad gyfarfod.
(0, 3) 277 Pam arall dod yr holl ffordd lawr?
(Han) I dy weld di.
 
(Han) I dy weld di.
(0, 3) 279 Cau dy ben.
(Han) Ma' 'da fi newyddion.
 
(Han) Ma' 'da fi newyddion.
(0, 4) 285 MONOLOG – rwy'n gobeithio dy fod ti'n ei hoffi?
(0, 4) 286 ~
(0, 4) 287 ALUN: Rydw i'n boddi. Rydw i'n teimlo fel bod
 
(0, 4) 289 Rydw i'n teimlo fel bod...
 
(0, 4) 291 Fel bod...
 
(0, 4) 294 Rydw i'n dychmygu fy hun mewn ffilm.
(0, 4) 295 Rydw i'n dychmygu fy hun yn eistedd mewn sinema ac yn gwylio fy hun ar y sgrin fawr. Rydw i'n eistedd mewn sinema yn y ffilm yn gwylio ffilm arall ohona i ar y sgrin. Ffilm o fewn y ffilm.
(0, 4) 296 Ac ar y sgrin, rydw i'n sefyll yn stond. Yn hollol lonydd. Ac mae'r byd yn parhau i symud o 'nghwmpas. Yn gyflym. Yr effaith o bopeth yn symud yn gyflym iawn a fi yn y canol yn llonydd ac yn syllu'n syth at y camera.
(0, 4) 297 Fel petai popeth yn ormod i mi.
(0, 4) 298 Overwhelming.
(0, 4) 299 Fel petai'r fi ar y sgrin yn boddi ym mhrysurdeb y byd.
(0, 4) 300 Yn diflannu.
(0, 4) 301 Yn anweledig.
(0, 4) 302 A'r byd yn parhau i droi.
(0, 4) 303 A'r bobol yn parhau i fyw.
(0, 4) 304 A fi yn methu deall hynny.
(0, 4) 305 Yn methu deall sut mae'r byd yn parhau i droi a'r bobol yn parhau i fyw pan mae popeth i fi wedi newid.
(0, 4) 306 Pan mae popeth wedi dod i ben a dim ffordd bosib o weld y byd eto yn yr un ffordd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ble o't ti?
(0, 5) 319 Pryd?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Pam cymryd mor hir i ateb?
(0, 5) 323 Yh...
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O't ti yn y toilet?
(0, 5) 326 Na.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O't ti ar y toilet, guaranteed.
(0, 5) 329 Nag oeddwn.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Shit of the century.
(0, 5) 332 Paid.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Sut ma' Leia?
(0, 5) 335 Mae hi'n iawn.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ma' hi'n dal i fod 'na, 'te?
(0, 5) 338 Ydy.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O'n i'n meddwl bod ti'n cael help.
(0, 5) 342 Rydw i yn cael help.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Pam ma' hi dal 'na, 'te?
(0, 5) 345 Mae'n cymryd amser.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ti 'di cael amser.
(0, 5) 348 Dwyt ti ddim yn deall.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Wrth gwrs 'y mod i'n deall.
(0, 5) 351 Mae'r ysgrifennu'n helpu.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ti heb ddanfon unrhyw beth i fi am sbel.
(0, 5) 354 Mae'n breifat.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Fi ishe darllen dy stwff di, Alun.
(0, 5) 357 Pam?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Mae e'n helpu fi i ddeall sut ti'n teimlo.
(0, 5) 360 Wir?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ie.
(0, 5) 363 Ok... mi ddanfona i rywbeth i ti.
(0, 5) 364 Monolog.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Pryd?
(0, 5) 367 Pryd?
(Han) Pryd?
 
(0, 5) 374 Pryd wyt ti'n mynd?
(Han) Ma' cwpwl o fisoedd eto.
 
(0, 5) 379 Nes ymlaen. Mi ddanfona i'r monolog draw prynhawn 'ma.
(Han) Fyddwn ni ddim yn mynd yn syth.
 
(0, 5) 384 Pam nawr?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Gwna'n siŵr dy fod ti.
(0, 5) 387 Nid nawr yw'r amser i fynd i ochr arall y byd.
(Han) Fi 'di bod yn meddwl am fynd ers amser.
 
(Han) Fi 'di bod yn meddwl am fynd ers amser.
(0, 5) 389 A hwn yw'r tro cyntaf i fi glywed am y peth?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ni'n meddwl 'i fod e'n amser da i fynd.
(0, 5) 393 Ni?
(Han) Fi a Luke.
 
(Han) Mae e'n gofyn pryd ti'n dod i'n gweld ni.
(0, 5) 397 Ti'n mynd gyda Luke?
(Han) Wrth gwrs.
 
(Han) Wrth gwrs.
(0, 5) 399 Dwyt ti a Luke ddim yn mynd i bara'.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 5) 404 Fydden i'n dwlu dod i'ch gweld chi.
(0, 5) 405 Rydw i eisiau dod.
(Han) Ti'n serious?
 
(0, 5) 410 Na, dydw i ddim yn serious.
(0, 5) 411 Na, ond –
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 5) 415 Na...
(0, 5) 416 ~
 
(0, 5) 418 Na.
(0, 5) 419 ~
 
(0, 5) 421 Na, mae'n ddrud.
(0, 5) 422 Alla i ddim fforddio flights i Australia.
(Han) Sut wyt ti'n gwybod pa fath o berthynas sy 'da Luke a fi?
 
(0, 5) 427 Sai'n gallu delio 'da hwn ar hyn o bryd.
(Han) Fi'n gwbod bod e'n mynd i fod yn anodd, ond –
 
(Han) Fi'n gwbod bod e'n mynd i fod yn anodd, ond –
(0, 5) 429 Paid. Paid mynd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Alun?
(0, 5) 432 Plîs.
(Han) Fi'n gorfod mynd rhywbryd.
 
(Han) Fi'n gorfod mynd rhywbryd.
(0, 5) 434 Beth ma' hwnna i fod i feddwl?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ti'n clywed?
(0, 5) 437 Paid rhedeg i ffwrdd nawr.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 5) 442 Dydw i ddim yn charity case.
(0, 5) 443 ~
 
(0, 5) 445 Wyt.
(Han) Delio â phethe ydw i.
 
(Han) Delio â phethe ydw i.
(0, 5) 447 Wrth droi dy gefn ar bopeth sydd gen ti fan hyn?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ma' Mam wedi mynd, Alun. Ma' hi 'di mynd.
(0, 5) 457 Fi'n gwybod, ond –
(Han) Fydda i ond galwad Skype i ffwrdd.
 
(Han) Fydda i ond galwad Skype i ffwrdd.
(0, 5) 459 Ti yw'r unig un sydd yn yr un sefyllfa â fi.
(0, 5) 460 Pa linc sydd gen i â Mam os wyt ti'n mynd i ochr arall y blincin blaned?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Bob tro.
(0, 5) 500 Iawn.
(Han) Beth ma' hwn yn dal i 'neud 'ma?
 
(Han) Beth ma' hwn yn dal i 'neud 'ma?
(0, 5) 506 Dim.
(Han) Seriously, beth sy mewn 'na?
 
(Han) Seriously, beth sy mewn 'na?
(0, 5) 509 Paid.
(Han) Fi'n intrigued...
 
(Han) Fi'n intrigued...
(0, 5) 512 Paid.
(Han) Jyst ishe pip bach.
 
(Han) Jyst ishe pip bach.
(0, 5) 515 Paid.
(Han) Alun... beth sy'n mynd 'mlan?
 
(Han) Un, dau, tri...
(0, 6) 529 Stop!
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 6) 531 Stop.
(Han) P... pam?
 
(Han) P... pam?
(0, 6) 533 Achos.
(Han) Achos?
 
(Han) Achos?
(0, 6) 535 Achos.
(Han) Achos.
 
(Han) Achos.
(0, 6) 537 'Drych.
 
(0, 6) 539 'Drych.
(Han) 'Drycha arnyn nhw.
 
(0, 6) 543 Helooooo!
(Han) Good looking!
 
(Han) Good looking!
(0, 6) 545 Ti'n galw fi'n g... good looking?
(Han) Nagw.
 
(Han) Na... nagw.
(0, 6) 549 Strangely attractive, falle...
(Han) {Yn cyfeirio at y gynulleidfa.}
 
(Han) Na, nhw.
(0, 6) 552 Nhw?
(Han) Nhw.
 
(Han) Nhw.
(0, 6) 556 Helooooo!
(Han) Shots!
 
(Han) Shots!
(0, 6) 558 Nhw?
(Han) Ie.
 
(Han) I... ie.
(0, 6) 561 Shots!
(Han) Reit.
 
(Han) Ok.
(0, 6) 574 Ok.
(0, 6) 575 Ma' hwn yn cool.
(Han) Ok.
 
(Han) Ar ôl tri.
(0, 6) 581 Un, dau –
(Han) Na, fi sy'n 'neud.
 
(Han) Na, fi sy'n 'neud.
(0, 6) 583 Na.
(Han) Ie.
 
(Han) Ie.
(0, 6) 585 Ok.
(Han) Exactly.
 
(Han) Exactly.
(0, 6) 587 Exactly.
(Han) Barod?
 
(Han) Barod?
(0, 6) 592 Barod.
(Han) Un, dau, tri... go!
 
(Han) Lawr y lôn goch!
(0, 6) 599 Hang on!
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 6) 601 Hang on.
(Han) Ie.
 
(Han) Beth?
(0, 6) 604 Rydw i...
(Han) Ie...?
 
(Han) Ie...?
(0, 6) 606 Rydw...
(Han) Ie...?
 
(Han) Ie...?
(0, 6) 608 Fi'n mynd i fod yn sick.
(Han) Naaaa...
 
(Han) Naaaa...
(0, 6) 612 Paid.
(0, 6) 613 Paid chwerthin.
 
(0, 6) 615 Cau dy ben.
(0, 6) 616 Fi'n sâl.
(0, 6) 617 Fi'n –
 
(0, 6) 620 Coaster!
(0, 6) 621 Rho fe ar y fucking coaster!
 
(0, 6) 623 Beth sy'n anodd am roi drink ar coaster?
(0, 6) 624 Seriously.
(0, 6) 625 Na. Na. Seriously.
(0, 6) 626 Beth sy'n anodd amdano fe?
 
(0, 6) 628 Fi aleidalodd hwnna.
(0, 6) 629 Fi al... alei... buildodd y bwrdd 'na.
(0, 6) 630 Nornäs.
(0, 6) 631 Ti'n deall?
(0, 6) 632 Swedish.
(0, 6) 633 Nornäs.
(0, 6) 634 Mae'n meddwl 'beautiful'.
(Han) Yw e?
 
(Han) Yw e?
(0, 6) 636 Na.
(0, 6) 637 Ond y point yw mai fi greodd y Nornäs 'na.
(0, 6) 638 My own sweat and blood.
(0, 6) 639 Ti'n gweld?
(0, 6) 640 Felly mae angen parch.
(0, 6) 641 "Respect the Nornäs.
(0, 6) 642 Appreciate the Nornäs.
(0, 6) 643 Use a coaster."
(0, 6) 644 Ti'n deall?
(Han) Ti'n really feddw.
 
(Han) Ti'n really feddw.
(0, 6) 646 Shut up.
(0, 6) 647 Nawr gwed e.
(Han) Dweud beth?
 
(Han) Dweud beth?
(0, 6) 649 Dwi'n caru'r Nornäs.
(Han) Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(Han) Dwi'n caru'r Nornäs.
(0, 6) 651 Eto.
(Han) Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(Han) Dwi'n caru'r Nornäs.
(0, 6) 653 Yn uwch.
(Han) Dwi'n caru'r Nornäs.
 
(0, 6) 656 Gwedwch e!
 
(0, 6) 658 Yn uwch!
 
(0, 6) 660 Uwch!
 
(0, 6) 662 Good!
(0, 6) 663 So beth 'yn ni wedi dysgu?
(0, 6) 664 Han?
(Han) Love the Nornäs.
 
(Han) Love the Nornäs.
(0, 6) 666 Ac os wyt ti'n caru'r Nornäs, beth wyt ti'n ddefnyddio?
(Han) Coaster.
 
(Han) Coaster.
(0, 6) 668 Eto.
(Han) Coaster.
 
(Han) Coaster.
(0, 6) 670 Good.
(Han) Fi'n teimlo'n guilty.
 
(Han) Fi'n teimlo'n guilty.
(0, 6) 675 Fel dylet ti.
(Han) Na, ddim am y coaster.
 
(Han) Na, ddim am y coaster.
(0, 6) 677 O.
(Han) Am Mam.
 
(Han) Am Mam.
(0, 6) 679 Mam?
(Han) Achos bod ni'n mwynhau.
 
(Han) Achos bod ni'n mwynhau.
(0, 6) 681 Yn euog?
(Han) Am ein bod ni'n joio a Mam wedi mynd.
 
(Han) Am ein bod ni'n joio a Mam wedi mynd.
(0, 6) 683 Mae'n teimlo'n annaturiol.
(0, 6) 684 Od.
(Han) Ie.
 
(Han) Ie.
(0, 6) 686 Fel nad oes gan bobol sy'n galaru hawl i fwynhau.
(Han) Er na fydde Mam ishe i ni fod yn ddiflas.
 
(Han) Er na fydde Mam ishe i ni fod yn ddiflas.
(0, 6) 688 Gwir.
(Han) Mi fydde Mam ishe i ni gario 'mlan.
 
(Han) Mi fydde Mam ishe i ni gario 'mlan.
(0, 6) 690 Ie.
(0, 6) 691 Fi'n credu.
(Han) Dim doubt.
 
(Han) Ond fi'n dal i deimlo'n ofnadw' o euog.
(0, 6) 694 Capel.
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 6) 696 Capel sydd wedi gwneud i ni deimlo fel 'na.
(0, 6) 697 Magwraeth capel.
(Han) Ti'n meddwl?
 
(Han) Ti'n meddwl?
(0, 6) 699 Ma' ysgol Sul yn magu euogrwydd.
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 6) 701 Euogrwydd yw sail crefydd.
(Han) Na.
 
(Han) Na.
(0, 6) 703 Mae'n bwydo ar euogrwydd.
(Han) Ti'n siarad nonsens.
 
(Han) Ti'n siarad nonsens.
(0, 6) 705 Nac ydw.
(Han) Wyt.
 
(Han) Wyt.
(0, 6) 707 Falle.
(Han) Yn bendant.
 
(Han) Yn bendant.
(0, 6) 709 Ti'n meddwl?
(Han) Y galar sy'n gwneud i ni deimlo'n euog.
 
(Han) Y galar sy'n gwneud i ni deimlo'n euog.
(0, 6) 711 Galaru?
(Han) Ma'r galar yn diffodd rheswm.
 
(Han) Ma'r galar yn diffodd rheswm.
(0, 6) 713 Yr alcohol sy'n diffodd rheswm.
(Han) Rationality.
 
(Han) Ti'n gwbod?
(0, 6) 716 Rationality.
(Han) Does dim byd rational am farwolaeth.
 
(Han) Ma' galaru yn dod ag emosiynau rhyfedd mas mewn pobol.
(0, 6) 719 Ma' Tequila'n dod ag emosiynau rhyfedd allan mewn pobol hefyd.
(Han) Serious.
 
(Han) Gwranda.
(0, 6) 722 Fi yn gwrando.
(Han) Dyna'r rheswm dros yr euogrwydd.
 
(Han) Mae'n anodd egluro achos dyw'r euogrwydd ddim yn rational.
(0, 6) 725 Psych... ti fel psycho... whatever.
(Han) Ni'n teimlo pethe' od.
 
(Han) Pethe sy fel arfer yn annaturiol yn y sefyllfa.
(0, 6) 728 Fi ishe watcho Jeremy Kyle.
(Han) Gweld... annaturiol!
 
(Han) Gweld... annaturiol!
(0, 6) 730 Hang on...
(Han) Sai'n credu bod Jeremy Kyle 'mlan nawr.
 
(Han) Sai'n credu bod Jeremy Kyle 'mlan nawr.
(0, 6) 733 Repeats.
(0, 6) 734 Ma' nhw'n dangos repeats yn y nos.
(Han) Pam wyt ti ishe gweld Jeremy Kyle, anyway?
 
(Han) Pam wyt ti ishe gweld Jeremy Kyle, anyway?
(0, 6) 736 Achos...
(Han) Ie...?
 
(Han) Ie...?
(0, 6) 738 Achos...
(Han) Achos beth?
 
(Han) Achos beth?
(0, 6) 740 Dim syniad.
(0, 6) 741 Fi'n casáu Jeremy Kyle.
(Han) Idiot.
 
(Han) Pam rhoi hwnna mewn?
(0, 6) 748 Ffuglen.
(0, 6) 749 Dyw e ddim yn real.
(Han) Beth? Hwn?
 
(Han) Beth? Hwn?
(0, 6) 751 Jeremy Kyle.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ma'r olygfa meddwi ti 'di danfon draw yn bizarre hefyd...
(0, 6) 754 Fi'n siŵr bod y Jeremy Kyle Show yn scripted. Drama wedi'i seilio ar ryw fath o realiti.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Yr holl beth.
(0, 6) 757 Mae'r gwir yna yn rhywle, ond mae'n anodd gweld lle mae'r ffuglen a'r ffaith yn cwrdd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 6) 768 Pam mae hi dal yma?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Bydd raid i ti gael gwared o'r stwff 'da'r alcohol.
(0, 6) 773 Pam?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(0, 6) 779 Pam mae hi'n dal i fod 'ma?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Pryd wyt ti'n mynd i ddatgelu cynnwys y tun?
(0, 6) 792 Leia.
(Han) Leia?
 
(Han) Ti'n clywed?
(0, 6) 805 Y ddau.
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 6) 807 Rwy'n siarad â Leia.
(0, 6) 808 Leia sydd yn y tun.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Sai'n deall.
(0, 6) 812 Mae angen i mi egluro.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Egluro beth?
(0, 6) 816 Mae'n gymhleth.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Agora fe.
(0, 6) 819 Gad i fi –
(Han) Alun...
 
(Han) Agora'r blydi tun!
(0, 6) 823 Fine! Fine... ok...
(Han) Beth yn y byd...?
 
(Leia) A dyw hynny'n ddim o'i gymharu â thebygolrwydd y blaned ei hun o gynnal bywyd yn y lle cyntaf dros bedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl.
(0, 7) 844 Ni ddylai bywyd fodoli.
(Leia) Mae bywyd yn wyrthiol.
 
(Leia) Yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth.
(0, 8) 849 Mae'r posibilrwydd o fywyd yn eithafol o fach.
(0, 8) 850 Mewn termau ystadegol.
(0, 8) 851 Dylai bywyd ddim bodoli.
(0, 8) 852 Ond mae bywyd yn bodoli.
(0, 8) 853 Paradox.
(0, 8) 854 ~
(0, 8) 855 Paradox? – Han, ai dyna'r gair?
(0, 8) 856 ~
(0, 8) 857 Pam, felly, cymryd bywyd yn ganiataol?
(0, 8) 858 Os mai gwyrth yw bywyd?
(0, 8) 859 Pam ydyn ni'n parhau i fyw bywydau trefnus, rheolaidd, caniataol?
(0, 8) 860 Does dim byd routine am fywyd.
(0, 8) 861 Mae bywyd yn anniben.
(0, 8) 862 Dim... beth yw'r gair... predictability.
 
(0, 8) 864 Beth yw 'predictability' yn Gymraeg?
(0, 8) 865 Rhywun?
(0, 8) 866 Ta beth.
(0, 8) 867 ~
(0, 8) 868 Mae gan fywyd nifer o ochrau.
(0, 8) 869 Onglau.
(0, 8) 870 Nifer o rannau.
(0, 8) 871 Dim rheolau.
(0, 8) 872 Dim ffurf daclus.
(0, 8) 873 Nid trip i Ikea.
(0, 8) 874 Nid dyna yw bywyd.
(0, 8) 875 Popeth ar unwaith ac yna dim byd o gwbl.
(0, 8) 876 Fel daeargryn.
(0, 8) 877 Dyna gyflwr byw.
(0, 8) 878 ~
(0, 8) 879 Ac eto.
(0, 8) 880 Er i ni gymryd bywyd yn ganiataol.
(0, 8) 881 Rydym yn coroni marwolaeth.
(0, 8) 882 Yn parchu.
(0, 8) 883 Yn ofni.
(0, 8) 884 Addoli.
(0, 8) 885 Er mai marwolaeth yw'r un peth y gallwn ei ragweld.
(0, 8) 886 Yr un peth sydd yn hollol ganiataol.
(0, 8) 887 ~
(0, 8) 888 Datganiad...
(0, 8) 889 ~
(0, 8) 890 Mae'r tebygolrwydd o farwolaeth ar y blaned hon yn gant y cant.
(0, 8) 891 100%
(0, 8) 892 I bawb.
(0, 8) 893 Bob tro.
(0, 8) 894 ~
(0, 8) 895 Rhaid agor ein llygaid.
(0, 8) 896 Rhaid cofio byw.
(Han) Alien?
 
(Han) Alien?
(0, 9) 907 Ie.
(Han) Really?
 
(Han)
(0, 9) 910 O fath.
(Han) Fel E.T.?
 
(Han) Fel E.T.?
(0, 9) 912 Ddim fel E.T.
(Han) Sai'n deall.
 
(Han) Sai'n deall.
(0, 9) 914 Deall beth?
(Han) Alien...
 
(Han) Alien...
(0, 9) 916 Ie.
(Han) Alien?
 
(Han) Alien?
(0, 9) 918 Alien.
(Han) Alien yw hwnna?
 
(Han) Alien yw hwnna?
(0, 9) 920 Sawl gwaith wyt ti eisiau dweud 'alien'?
(Han) Ond...
 
(Han) Ond...
(0, 9) 922 Ond?
(Han) Pêl. Pêl yw hwnna.
 
(Han) Pêl. Pêl yw hwnna.
(0, 9) 924 Nage.
(Han) Iege.
 
(Han) Iege.
(0, 9) 926 Dyw iege ddim yn air.
(Han) Dyw aliens ddim yn bodoli.
 
(Han) Dyw aliens ddim yn bodoli.
(0, 9) 928 Ydyn.
(Han) Nadyn.
 
(Han) Nadyn.
(0, 9) 930 Unwaith eto, does dim shwd air â nadyn.
(Han) Unwaith eto, does dim shwd beth ag aliens.
 
(Han) Unwaith eto, does dim shwd beth ag aliens.
(0, 9) 932 Beth, 'te?
(Han) Pêl.
 
(Han) Pêl.
(0, 9) 934 Pa fath o bêl?
(0, 9) 935 Wyt ti wedi gweld pêl fel hyn o'r blaen?
(Han) Na.
 
(Han) Na.
(0, 9) 937 Wel dyna ni.
(Han) O le ges di fe?
 
(Han) O le ges di fe?
(0, 9) 939 Hi.
(Han) Beth?
 
(Han) Beth?
(0, 9) 941 Hi.
(0, 9) 942 'Hi' yw'r bêl.
(Han) Pêl!
 
(Han) Pêl!
(0, 9) 944 Na.
(0, 9) 945 Na, Alien.
(0, 9) 946 'Hi' yw'r alien.
(Han) Sut wyt ti'n gwbod?
 
(Han) Ble ma'r vagina?
(0, 9) 949 Oh my god.
(Han) Beth yw e really, Alun?
 
(Han) Beth yw e really, Alun?
(0, 9) 951 Rydw i wedi dweud –
(Han) Come on.
 
(Han) Bydda'n onest.
(0, 9) 954 Jyst gwranda –
(Han) Rhyw weird sex toy?
 
(Han) Rhyw weird sex toy?
(0, 9) 956 Pod.
(Han) Pod?
 
(Han) Pod?
(0, 9) 958 O'n i'n cerdded trwy'r parc pan ddes i o hyd iddi.
(Han) Na.
 
(Han) Na.
(0, 9) 960 Ie.
(Han) Felly wnes di godi'r peth 'ma o'r llawr?
 
(Han) Felly wnes di godi'r peth 'ma o'r llawr?
(0, 9) 962 Curiosity.
(Han) Beth os yw e'n beryglus?
 
(Han) Beth os yw e'n beryglus?
(0, 9) 964 Hi.
(0, 9) 965 Dyw hi ddim yn beryglus.
(Han) Sut wyt ti'n gwbod?
 
(Han) Sut wyt ti'n gwbod?
(0, 9) 967 Rydw i'n gwybod.
(Han) Falle taw bomb yw e.
 
(Han) Falle taw bomb yw e.
(0, 9) 969 Hi.
(0, 9) 970 Wyt ti wedi gweld bomb fel hyn o'r blaen?
(Han) Pwy sy'n gwbod pa fath o shit 'ma Isis yn iwso dyddie 'ma.
 
(Han) Pwy sy'n gwbod pa fath o shit 'ma Isis yn iwso dyddie 'ma.
(0, 9) 972 Nid bomb yw hi.
(Han) Nid 'hi' yw hi.
 
(Han) Gwrthrych.
(0, 9) 976 Na, mae hi'n fyw.
(Han) Sut yn union wyt ti'n gwbod bod y bêl 'ma'n fyw?
 
(Han) Sut yn union wyt ti'n gwbod bod y bêl 'ma'n fyw?
(0, 9) 978 Rydw i'n gwybod.
(Han) Ac yn gwbod hefyd mai 'hi' yw'r peth 'ma?
 
(Han) Sut wyt ti'n gwbod hyn i gyd?
(0, 9) 981 Hi ddywedodd.
(Han) Hi... ddywedodd?
 
(Han) Hi... ddywedodd?
(0, 9) 984 Ie.
(Han) Mae hi'n siarad 'da ti?
 
(Han) Mae hi'n siarad 'da ti?
(0, 9) 986 Eglurodd Leia bopeth.
(Han) Leia.
 
(Han) Dyna'i henw hi? Really?
(0, 9) 989 Fi roddodd yr enw iddi.
(0, 9) 990 Doedd ganddi ddim enw dynol –
(Han) Wilson syndrome.
 
(Han) Wilson syndrome.
(0, 9) 992 Wilson beth?
(Han) Y bêl.
 
(Han) Wyt ti 'di tynnu llun gwyneb ar yr ochr arall?
(0, 9) 996 Sai 'di gweld Castaway.
(Han) Fi'n gwbod bod ti'n unig, Alun, ond –
 
(Han) Fi'n gwbod bod ti'n unig, Alun, ond –
(0, 9) 998 Unig?
(0, 9) 999 Sut wyt ti'n gwybod os ydw i'n unig?
(Han) Ti 'di treulio dyddie'n begio i mi beidio â symud.
 
(Han) Ti 'di treulio dyddie'n begio i mi beidio â symud.
(0, 9) 1001 Na.
(Han) Wyt.
 
(Han) Wyt.
(0, 9) 1003 Pam wyt ti'n dal i fod 'ma, 'te?
(Han) Gwed ti.
 
(Han) Gwed ti.
(0, 9) 1005 Cer nôl at Luke.
(Han) Danfona fi nôl at Luke.
 
(Han) Danfona fi nôl at Luke.
(0, 9) 1007 Beth?
(Han) Ti sy'n ysgrifennu hwn, ontefe?
 
(Han) Ti sy'n ysgrifennu hwn, ontefe?
(0, 9) 1009 Sai'n deall.
(Han) Ffuglen.
 
(Han) Cymeriadau yn dy ddrama.
(0, 9) 1012 Na, ma' Leia'n real.
(0, 9) 1013 Mae hyn i gyd yn real.
(Han) Profa fe.
 
(Han) Profa fe.
(0, 9) 1015 Profi beth?
(Han) Profa fod Leia'n real.
 
(Han) Deffro'r alien?
(0, 9) 1020 Pod.
(0, 9) 1021 Pod gyfathrebu.
(Han) O le?
 
(Han) O le?
(0, 9) 1023 Ochr arall y bydysawd.
(Han) Bangor?
 
(Han) Bangor?
(0, 9) 1025 Solar system arall ar ochr draw'r bydysawd.
(Han) Gad i fi a hi sgwrsio.
 
(Han) Gad i fi a hi sgwrsio.
(0, 9) 1027 Fydd hi ddim yn siarad â ti.
(Han) Pam?
 
(Han) Pam?
(0, 9) 1029 Achos bod ti'n grac.
(Han) Fi ddim.
 
(Han) Fi ddim.
(0, 9) 1031 Ti'n aggresive iawn ar hyn o bryd.
(Han) Nadw.
 
(Han) Nadw.
(0, 9) 1033 Wyt.
(Han) Na.
 
(Han) Na.
(0, 9) 1035 Wyt.
(Han) Fi ddim yn fucking aggresive!
 
(Han) Beth sy'n mynd 'mlan?
(0, 9) 1040 Rydw i'n ceisio egluro.
(Han) Na.
 
(Han) Mewn gwirionedd.
(0, 9) 1043 O'n i'n gwybod na fyddet ti'n credu...
(Han) Ti'n creu stwff, Alun.
 
(Han) Ma' dy ddychymyg di'n mynd yn wyllt.
(0, 9) 1046 Doeddet ti ddim yn barod.
(Han) Barod am beth?
 
(Han) Barod am beth?
(0, 9) 1048 Am y gwir.
(0, 9) 1049 Mae'r dynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig –
(Han) Dynol ryw?
 
(Han) Shut up, Alun.
(0, 9) 1052 Fi ond yn dweud y gwir.
(Han) Mae angen help...
 
(Han) Mae angen help...
(0, 9) 1054 Mae ein byd ni'n fach.
(0, 9) 1055 Mae yna gymaint sydd eto i'w ddarganfod...
(Han) O'n i ddim yn sylweddoli bod ti fel hyn.
 
(Han) O'n i ddim yn sylweddoli bod ti fel hyn.
(0, 9) 1057 Gymaint allan yn y bydysawd.
(Han) Mi ffonia i'r doctor yn y bore.
 
(Han) Trefnu therapist neu rywbeth.
(0, 9) 1060 Does dim angen.
(Han) Sori...
 
(Han) Sori...
(0, 9) 1062 Beth?
(Han) Fi'n sori.
 
(Han) Fi'n sori.
(0, 9) 1064 Am beth?
(Han) Ma' marwolaeth Mam wedi bwrw ti'n galetach nag o'n i'n meddwl.
 
(Han) Dim ond nawr fi'n sylweddoli.
(0, 9) 1067 Does gan hyn ddim i wneud â Mam.
(Han) Seriously, Alun...
 
(Han) Seriously, Alun...
(0, 9) 1069 Paid dod â Mam mewn i hyn.
(Han) Alun...
 
(Han) Alun...
(0, 9) 1071 Ti fel pawb arall.
(0, 9) 1072 Neb yn deall.
(0, 9) 1073 Neb yn stopio i ddeall a gwrando.
(0, 9) 1074 Jyst barnu.
(0, 9) 1075 Beirniadu.
(0, 9) 1076 Mae'n hawdd i feirniadu, on'd yw e, Hanna?
(0, 9) 1077 Yn haws na gorfod gwrando a trio deall a trio helpu.
(0, 9) 1078 Rwyt ti'n union fel pawb arall.
(0, 9) 1079 Yn union fel yr idiots eraill sy'n nodio a gwenu a beirniadu a ddim yn becso damn amdana i.
 
(0, 9) 1081 Ble wyt ti'n mynd?
(Han) Mas.
 
(Han) Mas.
(0, 9) 1083 I le?
(Han) I glirio 'mhen.
 
(Han) I glirio 'mhen.
(0, 9) 1085 Ble?
(Han) Tesco Metros.
 
(Han) Ma' ishe lla'th.
(0, 9) 1088 Beth am Leia?
(Han) Ffonia i rywun yn y bore.
 
(Han) Ffonia i rywun yn y bore.
(0, 9) 1090 Na, nid dyna –
 
(0, 9) 1095 Mi ddywedais i.
(0, 9) 1096 Doedd hi ddim yn barod.
 
(0, 9) 1098 Wyt ti'n clywed?
 
(0, 9) 1100 Gormod o wybodaeth newydd ar unwaith.
(0, 9) 1101 Dyna'n union beth ddychmygais i fyddai'n digwydd.
(0, 9) 1102 Does dim angen llaeth.
(0, 9) 1103 Esgus i fynd allan.
(0, 9) 1104 'Na'i gyd.
(0, 9) 1105 Mae semi skimmed milk yn fwy o atyniad na bywyd o blaned arall.
(0, 9) 1106 Familiarity.
(0, 9) 1107 Dyna'n union ddywedais i, ontefe?
(0, 9) 1108 ~
(0, 9) 1109 Wyt ti yna?
 
(0, 9) 1111 Mae hi wedi mynd nawr.
(0, 9) 1112 Mae hi wedi ffoi.
 
(0, 9) 1114 Wyt ti'n grac?
(0, 9) 1115 Wyt ti'n grac gyda fi am dy ddangos di i Han?
(0, 9) 1116 Dwed.
(0, 9) 1117 Dwed wrtha i os wyt ti.
 
(0, 9) 1119 Gwranda...
(0, 9) 1120 ~
(0, 9) 1121 Wyt ti yna?
 
(0, 9) 1123 Wyt ti yna, Leia?
(Leia) Rydw i yma, Alun.
 
(Leia) Rydw i yma, Alun.
(0, 10) 1131 Mae gen ti farc arnot ti.
(0, 10) 1132 Dent bach.
(Leia) Ymhle?
 
(Leia) Ymhle?
(0, 10) 1134 Fan hyn.
(Leia) O ganlyniad i'r ergyd.
 
(Leia) O ganlyniad i'r ergyd.
(0, 10) 1136 Ie?
(Leia) Yr ergyd wrth lanio.
 
(Leia) Yr ergyd wrth lanio.
(0, 10) 1138 Wyt ti'n ei deimlo?
(Leia) Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol.
 
(Leia) Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol.
(0, 10) 1140 Rwy'n gweld.
(Leia) Mae'n ymddangos nad yw'r anaf wedi effeithio ar weithrediad y pod.
 
(Leia) Rydw i'n ddiolchgar i ti am sylwi.
(0, 10) 1143 Beth am deimladau emosiynol?
(Leia) Ym mha gyd-destun?
 
(Leia) Ym mha gyd-destun?
(0, 10) 1145 O ran trosglwyddo teimladau.
(0, 10) 1146 Ydy'r pod yn gallu trosglwyddo teimladau emosiynol?
(0, 10) 1147 Wyt ti'n gallu teimlo emosiwn?
(Leia) Ydw.
 
(Leia) Ydw.
(0, 10) 1149 Pob emosiwn?
(Leia) O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt.
 
(Leia) O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt.
(0, 10) 1151 Chwech?
(Leia) Mae gan fodau datblygedig y gallu i deimlo emosiynau sydd yn dod dan chwe changen sylfaenol.
 
(Leia) Gellir dosbarthu pob emosiwn posib i'r chwe chategori hyn.
(0, 10) 1154 Am ffordd o symleiddio teimladau!
(Leia) Ond mae'r canghennau sydd yn deillio o'r chwe emosiwn sylfaenol yn gymhleth tu hwnt.
 
(Leia) Yn ddiddiwedd.
(0, 10) 1157 Felly sut wyt ti'n gallu teimlo?
(Leia) Sut wyt ti'n gallu teimlo?
 
(Leia) Sut wyt ti'n gallu teimlo?
(0, 10) 1159 Mae'n digwydd yn naturiol.
(Leia) Dyna yn union sut yr wyf i'n teimlo hefyd, er mai geiriau yw fy unig ffordd i o fynegiant.
 
(Leia) Mae geiriau yn wyddonol, rhesymegol, ffeithiol.
(0, 10) 1162 Beth am chwerthin?
(0, 10) 1163 Llefen?
(Leia) Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth.
 
(Leia) Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth.
(0, 10) 1165 Cwtsh.
(0, 10) 1166 Allwch chi ddim cwtsho?
(Leia) Mae fy nghronfa ddata yn egluro mai coflaid yw cwtsh.
 
(Leia) Nid yw cofleidio yn rhan o'n hunaniaeth.
(0, 10) 1169 Mae cwtsh yn fwy na coflaid.
(0, 10) 1170 Mae cwtsh yn... special.
(0, 10) 1171 Mae'n... mae'n anodd egluro.
(Leia) Rydw i eisiau profi cwtsh.
 
(Leia) Rydw i eisiau profi cwtsh.
(0, 10) 1173 Wyt ti?
(Leia) Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda.
 
(Leia) Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda.
(0, 10) 1175 Iawn...
(Leia) Na.
 
(Leia) Na.
(0, 10) 1180 Na?
(Leia) Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt.
 
(Leia) Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt.
(0, 10) 1182 Dim byd?
(Leia) Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel.
 
(Leia) Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel.
(0, 10) 1184 Sori.
(Leia) Pam wyt ti'n ymddiheuro?
 
(Leia) Pam wyt ti'n ymddiheuro?
(0, 10) 1186 Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh.
(Leia) Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny.
 
(Leia) Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny.
(0, 10) 1188 Roeddwn i eisiau i ti deimlo'r hyn sydd yn digwydd rhwng dau berson.
(0, 10) 1189 Rhwng pobl ar y blaned yma...
(Leia) Rwyt ti eisiau cwtsh gan dy fam.
 
(Leia) Mae'n brydferth.
(0, 10) 1195 Wyt ti wedi teimlo cariad?
(Leia) Nid ar lefel ddynol.
 
(Leia) Nid ar lefel ddynol.
(0, 10) 1197 Mae'n unigryw, felly?
(Leia) Ydy.
 
(Leia) Er mwyn deall beth sydd yma.
(0, 10) 1205 Ar dy ben dy hun?
(Leia) Ar ôl colli.
 
(Leia) Er mwyn gwella mewn byd iach.
(0, 10) 1208 Dyw'r ddaear ddim yn iach.
(Leia) Mae'n llawn lliw.
 
(Leia) Mae hi'n fyd sydd yn wirioneddol fyw.
(0, 10) 1213 Ond mae emosiwn yn gyrru pethau negatif hefyd.
(0, 10) 1214 Emosiwn yw'r rheswm dros ein dioddefaint.
(0, 10) 1215 Dros y boen rydym yn ei deimlo mewn colled.
(Leia) Mae'n rhaid dysgu i fyw gyda'r boen.
 
(Leia) Fydd e byth yn diflannu.
(0, 10) 1218 Sut, Leia?
(0, 10) 1219 Helpa i fi ddeall.
(Leia) Does dim i ddeall.
 
(Leia) Does dim i ddeall.
(0, 10) 1221 Plîs.
(Leia) Mae'n rhan o fywyd.
 
(Leia) Yn y diwedd, mi fyddi di'n gweld... 'Per ardua ad astra'.
(0, 10) 1224 Lladin?
(0, 10) 1225 Sut mae rhyw hen eiriau mewn Lladin i fod i helpu?
(Leia) Cyfieithiad... "Through adversity to the stars."
 
(Leia) Cyfieithiad... "Through adversity to the stars."
(0, 11) 1233 'Daeargryn'
(0, 11) 1234 ~
(0, 11) 1235 ALUN: Mae profiadau eithafol
 
(0, 11) 1237 Pan mae pethau eithafol yn digwydd,
 
(0, 11) 1239 Yn ystod adegau anodd yn ein bywydau
 
(0, 11) 1241 SHIT
(0, 11) 1242 SHITSHITSHITSHITSHITFUCKSHITSHITSHITTINGSHITTINGFUCKINGSHIT
 
(0, 12) 1248 Daeargryn.
 
(0, 12) 1250 Ar ddiwrnod yr angladd roedd daeargryn.
(0, 12) 1251 Nid yn San Francisco neu Indonesia.
(0, 12) 1252 Na.
(0, 12) 1253 Ar fy stryd i.
(0, 12) 1254 Ar y stryd gyda'r Tesco Metro a'r bakery sydd wedi cau a'r Ladbrokes 'coming soon'.
(0, 12) 1255 Earthquake yng Nghymru.
(0, 12) 1256 Ar ddiwrnod angladd Mam.
(0, 12) 1257 O bob diwrnod posib.
(0, 12) 1258 O bob diwrnod.
(0, 12) 1259 Ond peidiwch â gofidio.
(0, 12) 1260 Cyn i chi, ffrindiau, boeni gormod –
(0, 12) 1261 Rydw i'n gobeithio ein bod ni'n ffrindiau erbyn hyn.
(0, 12) 1262 Ydyn ni?
(0, 12) 1263 Yn ffrindiau?
(0, 12) 1264 Pa beth bynnag, cyn i chi ofidio, doedd hi ddim yn ddaeargryn fawr.
(0, 12) 1265 Dau pwynt tri ar y raddfa Richter.
(0, 12) 1266 Daeargryn gwan.
(0, 12) 1267 "A pensioner's fart" fel dywedodd rhywun ar Twitter.
(0, 12) 1268 Doedd dim anafiadau.
(0, 12) 1269 Cwympodd un shed mewn gardd ar stryd gyfagos.
(0, 12) 1270 A dyna ni.
(0, 12) 1271 Dyna aftermath y ddaeargryn.
(0, 12) 1272 Un shed fach.
(0, 12) 1273 Pathetic.
(0, 12) 1274 Ond mi wnaeth i mi feddwl...
 
(0, 12) 1277 Roedd hi'n arwydd.
(0, 12) 1278 Yn symbol.
(0, 12) 1279 Fel bod y byd yn gwybod bod rhywbeth mawr yn digwydd.
(0, 12) 1280 Fel bod yr holl atomau o fewn ein planed a'r holl atomau o fewn ein solar system a'r holl atomau o fewn ein galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn ein bydysawd – fel eu bod nhw i gyd yn symud mewn ffordd arbennig er mwyn creu'r ddaeargryn hon ar fy stryd i ar ddiwrnod yr angladd.
(0, 12) 1281 Roedd y bydysawd yn gwybod.
(0, 12) 1282 Pob darn o fywyd yn ymwybodol o arwyddocâd y diwrnod hwn.
(0, 12) 1283 Y foment hon.
(0, 12) 1284 Yn deall beth oedd yn digwydd.
(0, 12) 1285 Daeargryn ar y stryd yn cymysgu gyda'r ddaeargryn yn fy mhen er mwyn paratoi ar gyfer y foment enfawr, erchyll hon.
(0, 12) 1286 Y foment rydw i wedi bod yn aros amdani gydag arswyd.
(0, 12) 1287 Y foment nad ydw i am iddi ddigwydd.
(0, 12) 1288 Ac eto y bydysawd yn dweud ei fod am ddigwydd.
(0, 12) 1289 Yn gorfod digwydd.
(0, 12) 1290 Funeral Friday.
(0, 12) 1291 Y bydysawd yn fy ngwthio i'r angladd.
(0, 12) 1292 Yn rhoi cic yn fy mhen ôl ac yn dweud "gwranda gw'boi, os yw'r holl atomau o fewn y blaned a'r holl atomau o fewn y solar system a'r holl atomau o fewn y galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn y bydysawd i gyd yn gallu dod at ei gilydd i greu daeargryn, wel, bloody hell, rwyt ti'n gallu mynd i angladd dy fam."
(0, 12) 1293 Dyna oedd y neges.
(0, 12) 1294 Dyna i fi oedd neges y bydysawd ar y diwrnod enfawr, erchyll hwnnw yn fy hanes.
(0, 12) 1295 Roedd y bydysawd wedi siarad.
(Han) Mae'r ystafell newydd ei pheintio, yr arogl yn frith, yn cymysgu gyda'r bleach a'r air freshener, blas ultrahylendid, gwledd y clinigol, tician y cloc o eiliad i eiliad yn canu rhythm bywyd y dyn sydd yn aros, yn gorfwyta ar baent a bleach ac air freshener, frenzy o Febreze, "take a seat," eistedd ac aros a chyfri'r eiliadau, meddyliau yn mynd i bellteroedd diethr fel trip ysgol Sul i gopa mynydd, yr eira yn blancedu, pobol yn rhewi, yn pydru, bacteria'n ymosod yn araf araf, amhosib, maggots, mould, yn araf, a'r bobol yn chwalu'n friwsion mân wrth i'r dyn neidio, dianc, byth yn glanio, yna'n eistedd yn ôl yn yr ystafell sydd newydd ei pheintio yn aros, maggots a mould a diflannu eto i gopa'r mynydd a'r bobol wedi mynd, neb yno ond y dyn yn neidio, a llais yn galw "you can go in now."
 
(0, 14) 1315 Mae'n bosib rhannu pobol mewn i ddau grŵp.
(0, 14) 1316 Y rhai sy'n llyfu caead iogwrt a'r rhai sydd ddim.
(0, 14) 1317 Mae yna drydydd grŵp hefyd, sef y rhai sydd yn dewis peidio â bwyta iogwrt o gwbwl. Ond mae hynny'n difetha'r naratif.
(0, 14) 1318 O'r ddau grŵp, felly, llyfwr ydw i.
(0, 14) 1319 Rydyn ni'r llyfwyr yn gwneud y gorau o bethau.
(0, 14) 1320 Yn tynnu popeth posib o'n profiadau.
(0, 14) 1321 Pob diferyn bach o iogwrt.
(0, 14) 1322 Dim gwastraff.
(0, 14) 1323 Profi popeth i'r eithaf.
(0, 14) 1324 Dyna'r llyfwyr.
(0, 14) 1325 Dyna oedd Mam.
(0, 14) 1326 Dyna ydw i.
(0, 14) 1327 Oeddwn i.
(0, 14) 1328 Rydw i'n dechrau meddwl bod pethau wedi newid.
(0, 14) 1329 Ai llyfwr fydda i mewn blynyddoedd i ddod?
(0, 14) 1330 Oes posib colli'r elfen lyfu neu ydy llyfu yn y genynnau?
(0, 14) 1331 ~
(0, 14) 1332 Rydw i'n dal i eistedd yn disgwyl iddi gerdded i mewn.
(0, 14) 1333 Fel petai hi ar ei gwyliau ac ar fin dychwelyd.
(0, 14) 1334 Ar fin cyrraedd adre.
(0, 14) 1335 Rydw i'n meddwl am gael plant.
(0, 14) 1336 Plant na fydd yn cwrdd â'u mamgu.
(0, 14) 1337 Mamgu na fydd yn cwrdd â'i hwyrion.
(0, 14) 1338 Rydw i'n meddwl am yr holl brofiadau oedd ganddi i ddod.
(0, 14) 1339 Yr holl iogwrt ar yr holl gaeadau.
(0, 14) 1340 Fy mhriodas.
(0, 14) 1341 Fy mhriodas heb Mam.
(0, 14) 1342 Yr holl benblwyddi.
(0, 14) 1343 Nadoligau.
(0, 14) 1344 A Mam ddim yno.
(0, 14) 1345 Cadair wag.
(0, 14) 1346 Rydw i'n poeni am anghofio.
(0, 14) 1347 Anghofio Mam.
(0, 14) 1348 Yn teimlo'n euog.
(0, 14) 1349 Am fwynhau.
(0, 14) 1350 Am dreulio diwrnod heb feddwl amdani.
(0, 14) 1351 Am chwerthin.
(0, 14) 1352 Am beidio crio.
(0, 14) 1353 Ym mhob darn o hapusrwydd.
(0, 14) 1354 Ym mhob darn o gyffro.
(0, 14) 1355 Euogrwydd.
(0, 14) 1356 ~
(0, 14) 1357 Ac rydw i ofn.
(0, 14) 1358 Ofn y newid.
(0, 14) 1359 Ofn gweld dieithryn yn y drych.
(0, 14) 1360 Y chwerthin.
(0, 14) 1361 Y positifrwydd.
(0, 14) 1362 Hynny'n dod i ben.
(0, 14) 1363 A minnau'n anghofio llyfu.
(0, 14) 1364 Anghofio llyfu caead bywyd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) O's shares 'da ti yn Müller neu rywbeth?
(0, 14) 1371 Beth sy'n bod 'da fe?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ma'r ddrama gyfan yn ofnadw' o self-indulgent.
(0, 14) 1375 Pwy wyt ti i feirniadu?
(0, 14) 1376 Sut wyt ti'n gallu beirniadu fy ysgrifennu i?
(0, 14) 1377 Ti ofynnodd i gael darllen hwn i gyd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Sori.
(0, 14) 1380 Rydw i wedi rhannu pethau personol.
(0, 14) 1381 Wedi ymddiried ynot ti.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Fi'n falch bod ti 'di rhannu.
(0, 14) 1386 Therapi.
(0, 14) 1387 Dyna ddywedaist ti.
(0, 14) 1388 Dyna ddywedon nhw.
(0, 14) 1389 Dyna ddywedodd Leia.
(0, 14) 1390 Ysgrifennu fy nheimladau i lawr.
(0, 14) 1391 'Get it all out.'
(0, 14) 1392 Mae'n helpu.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Yw e?
(0, 14) 1395 Ydy.
(0, 14) 1396 Rydw i wedi creu byd lle mae fy nheimladau'n gallu anadlu.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Fi'n falch am hynny.
(0, 14) 1399 Mae'n anniben, on'd yw e?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Dros y lle i gyd.
(0, 14) 1402 Ond mae'r galaru yn anniben.
(0, 14) 1403 A heb ysgrifennu hwn i lawr, fydde' gen i ddim ffordd o'i fynegi.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Mae'n iach.
(0, 14) 1407 Mae'n anghyson.
(0, 14) 1408 Mae'n gymysglyd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Fydd neb yn hollol siŵr be' sy'n real a beth sydd wedi'i greu.
(0, 14) 1414 Byd o fewn byd o fewn byd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Bydysawd.
(0, 14) 1417 Ehangu ar realiti.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) A beth am Leia?
(0, 14) 1421 Beth amdani?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ble mae hi?
(0, 14) 1424 Fydd hi yma tra 'mod i ei hangen hi.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) A fi?
(0, 14) 1429 Ti?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ie.
(0, 14) 1433 Rydw i'n barod i ti fynd.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Wyt ti?
(0, 14) 1436 Ydw.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ma' hwn yn benderfyniad mawr.
(0, 14) 1439 Fi'n gwybod.
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Grêt.
(0, 14) 1446 Han...?
(Han) {Ar y sgrin.}
 
(Han) Ie?
(0, 14) 1449 Fi ishe dweud diolch...
 
(0, 14) 1451 Ti'n clywed?
 
(0, 14) 1453 Fi ishe diolch i ti am –
(Leia) {Llais.}
 
(Leia) Ac ymlaen i'r sêr.
(0, 16) 1495 Dweud ffarwél.
 
(0, 16) 1499 Un diwrnod.
 
(0, 16) 1503 Un diwrnod swyddogol.
(0, 16) 1504 Cyhoeddus.
(0, 16) 1505 I ddweud –
(0, 16) 1506 Parchus.
(0, 16) 1507 I ddweud hwyl fawr.
(0, 16) 1508 ~
(0, 16) 1509 Ac yna mae'r galaru wedi gorffen.
(0, 16) 1510 Popeth anodd wedi mynd.
(0, 16) 1511 Yn ôl rhai.
(0, 16) 1512 Wedi ei lusgo i'r tywyllwch.
(0, 16) 1513 I fannau pella'r bydysawd.
(0, 16) 1514 Pawb yn anghofio.
(0, 16) 1515 Yn mynd yn ôl.
(0, 16) 1516 Yn diflannu.
(0, 16) 1517 Yn gadael y galarwyr i alaru.
(0, 16) 1518 Yn dawel.
(0, 16) 1519 Diolwg.
(0, 16) 1520 Preifat.
(0, 16) 1521 A'r fish paste Fridays yn parhau.
(0, 16) 1522 Fel petai dim wedi newid.
(0, 16) 1523 Fel petai neb wedi mynd.
(0, 16) 1524 ~
(0, 16) 1525 Golchi'r tristwch lawr y sinc.
(0, 16) 1526 Cario 'mlaen cyn sychu'r inc.
(0, 16) 1527 Neb yn deall.
(0, 16) 1528 Neb yn cofio.
(0, 16) 1529 Oriau'n pasio.
(0, 16) 1530 Cloc yn ticio.
(0, 16) 1531 Ysgrifennu lawr fy mhroblem.
(0, 16) 1532 Rhyddhau enaid.
(0, 16) 1533 Creu fy anthem.
(0, 16) 1534 Darllen.
(0, 16) 1535 'Sgwennu.
(0, 16) 1536 Ysgrifennu.
(0, 16) 1537 Therapi i'r creadigol.
(0, 16) 1538 Inbox. Detox emosiynol.
(0, 16) 1539 Creu. Byd.
(0, 16) 1540 Creu. Gair.
(0, 16) 1541 Creu. Drama.
(0, 16) 1542 Creu. Chwaer.
(0, 16) 1543 Dyma gân i'r bobol unig.
(0, 16) 1544 Rhai di-lais a chatatonig.
(0, 16) 1545 Carcharorion yn eu byd, hyd a lled yr haen atomig.
(0, 16) 1546 Creaf hwn i'r rhai sy'n wylo.
(0, 16) 1547 Dwylo clwm a cwlwm glwyfau.
(0, 16) 1548 Rhai sy'n byw mewn holl-dywyllwch.
(0, 16) 1549 Eraill llwm yn nyfnder düwch.
(0, 16) 1550 Pryder.
(0, 16) 1551 Poenus.
(0, 16) 1552 Pwysau'n palu.
(0, 16) 1553 Pili pala'n methu hedfan.
(0, 16) 1554 Methu deall.
(0, 16) 1555 Methu coelio.
(0, 16) 1556 Methu byw ar sail anghofio.
(0, 16) 1557 Dyn yn crio.
(0, 16) 1558 Dyn yn tagu.
(0, 16) 1559 Atgof.
(0, 16) 1560 Adlais.
(0, 16) 1561 Mam yn magu.
(0, 16) 1562 ~
(0, 16) 1563 Dyn yn boddi mewn trafferthion.
(0, 16) 1564 Cyfansoddi 'Ode i'r Estron'.
 
(0, 16) 1574 Mae'n amser, Leia.
(0, 16) 1575 ~
(0, 16) 1576 On'd yw e?