Noson o Farrug

Ciw-restr ar gyfer Elin

(Jane) Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia.
 
(1, 0) 17 Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud í'n reit anesmwyth.
(Jane) {Yn awdurdodol.}
 
(1, 0) 21 Da ti, Jane, paid a 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.
(Jane) 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn.
 
(Jane) Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.
(1, 0) 24 Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd: fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo."
(1, 0) 25 Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd.
(1, 0) 26 Dyna dy dad─
(Jane) Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.
 
(Jane) Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.
(1, 0) 28 Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i.
(1, 0) 29 Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.
(Jane) O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth |stiff| yn 'y natur i.
 
(Jane) Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.
(1, 0) 32 Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi.
(1, 0) 33 Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.
(Jane) Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith.
 
(Jane) Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.
(1, 0) 36 Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.
(Jane) Wel, mi gadawn hi ar hynyna.
 
(Jane) Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?
(1, 0) 39 Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.
(Jane) Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.
 
(Jane) Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.
(1, 0) 41 Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo.
(1, 0) 42 Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni─ïa, roedd golwg un yn marw arno fo.
(1, 0) 43 Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.
 
(1, 0) 45 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.
(Jane) 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.
 
(Jane) 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.
(1, 0) 47 Gwn, 'ngeneth i─rwyt ti 'run farn a dy dad.
(1, 0) 48 Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma─ anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i.
(Jane) Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr.
 
(Jane) Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr.
(1, 0) 50 Dyna'r noson─yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen.
(1, 0) 51 Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg.
(Jane) {Yn frochus.}
 
(Jane) Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth.
(1, 0) 58 "A anghofia mam ei phlentyn sugno?"
 
(1, 0) 60 Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth.
(1, 0) 61 O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma.
(1, 0) 62 Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt?
(Jane) Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.
 
(Tad) Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan,
(1, 0) 68 Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ' ar noson fel heno.
(Tad) {Yn dal i ymdwymo.}
 
(Tad) Ie.
(1, 0) 78 Pwy ydi'r pregethwr fory, William?
(Tad) Ezra Davis, Llanllios.
 
(Tad) Leiciech chi ddarllen heno, Elin?
(1, 0) 91 Na, mae'n well gen i beidio heno.
(Tad) Pam?
 
(Tad) Ydych chi ddim yn dda heno?
(1, 0) 94 Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.
(Tad) Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?
 
(Tad) Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?
(1, 0) 96 Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.
(Tad) O'r gore.
 
(Jane) {Â at y drws.}
(1, 0) 101 Paid a'i folltio fo 'rwan, ngeneth i.
(Tad) Pam?
 
(Tad) "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."
(1, 0) 112 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
(Tad) Ddylai dim gael torri ar y darllen.
 
(Tad) Ddylai dim gael torri ar y darllen.
(1, 0) 114 Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
(Tad) Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.
 
(1, 0) 123 Pwy sydd 'na, Jane?
(1, 0) 124 Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed?
(1, 0) 125 Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion.
(1, 0) 126 Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.
(Tad) {Yn dreng.}
 
(Tad) Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan.
(1, 0) 129 Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ol blynyddoedd o fod í ffwrdd.
(1, 0) 130 "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."
(Tad) {Yn chwerw.}
 
(Tad) Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni?
(1, 0) 134 O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!
(Dic) {Yn neshau'n wylaidd at y bwrdd ac estyn ei law i'w dad.}
 
(Tad) Na wna.
(1, 0) 139 Wiliam!
(1, 0) 140 Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!
(Tad) Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth.
 
(Tad) Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.
(1, 0) 144 Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd.
(1, 0) 145 Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i?
(Dic) Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane.
 
(Dic) Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane.
(1, 0) 147 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha?
(Dic) Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag.
 
(Jane) {A drwy ddrws y grisiau gyda'r gannwyll.}
(1, 0) 151 Tyrd at y tân, 'machgen i.
 
(1, 0) 153 Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda.
(1, 0) 154 Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i.