Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Antonio

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(Dug) Antonio yma eisoes!
(4, 0) 8 Wyf, eich gras.
(Dug) Gofidiaf trosot; daethost yma i ateb
 
(Dug) O bob dafn o drugaredd.
(4, 0) 13 Clywais i
(4, 0) 14 Fyned o'ch gras trwy drafferth flin er ceisio
(4, 0) 15 Llesteirio'i gwrs. Ond gan mai cyndyn yw,
(4, 0) 16 Ac nad oes modd cyfreithlon fyth i'm dwyn
(4, 0) 17 O gyrraedd ei genfigen, gwrthwynebaf
(4, 0) 18 Gynddaredd ag amynedd; arfog wyf
(4, 0) 19 Ag ysbryd tawel bellach i wrthsefyll
(4, 0) 20 Y llid a'r gormes sy'n ci ysbryd ef.
(Dug) Aed un i alw'r Iddew hwn i'r llys.
 
(Shylock)
(4, 0) 69 Atolwg, a ddadleuech â'r fath ŵr?
(4, 0) 70 Cystal ich fynd i sefyll ar y traeth
(4, 0) 71 Ac erchi i lanw'r môr na chodo'n uwch.
(4, 0) 72 Cystal ich ddechrau dadlau gyda'r blaidd
(4, 0) 73 Paham y brefa'r ddafad am ei hoen.
(4, 0) 74 Cystal ich wahardd prennau pîn yr allt
(4, 0) 75 Rhag siglo'u brigau, a rhag gwneuthur sŵn,
(4, 0) 76 A hwy'n anniddig gan hyrddiadau'r gwynt,
(4, 0) 77 Â cheisio meddalhau peth cletach fyth,
(4, 0) 78 Calon yr Iddew. Felly, erfyniaf arnoch,
(4, 0) 79 —Na wnewch un cynnig pellach na pherswâd,
(4, 0) 80 Ond gyda phob hwylustod di-ymdroi
(4, 0) 81 Rhowch imi'r ddedfryd, ac i hwn ci hawl.
(Bassanio) Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech.
 
(Bassanio) Cyn y cei dithau golli dafn o'th waed.
(4, 0) 113 Nid wyf ond llwdwn gwael o blith y praidd,
(4, 0) 114 Y rheitia' i farw. Onid y gwannaf ffrwyth
(4, 0) 115 A gwymp i'r ddaear gyntaf? Gad im fod.
(4, 0) 116 Mi rof it orchwyl llawcr gwell, Bassanio,
(4, 0) 117 Bydd fyw i ysgrifennu fy meddargraff.
(Dug) A ddaethost ti o Padua, oddi wrth Belario?
 
(Portia) Tydi a saif mewn perygl, onid e?
(4, 0) 181 Felly y dwed.
(Portia) A arwyddaist ti'r cyfamod?
 
(Portia) A arwyddaist ti'r cyfamod?
(4, 0) 183 Do.
(Portia) Felly rhaid i'r Iddew drugarhau.
 
(Shylock) I'm newidi. Safaf ar fy nghyfamod.
(4, 0) 248 Erfyniaf innau'n daer ar fod i'r llys
(4, 0) 249 Roddi ei ddedfryd.
(Portia) Felly, dyma hi,—
 
(Portia) Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim?
(4, 0) 272 Ychydig iawn yn wir, cans parod wyf.
(4, 0) 273 Moes im dy law, Bassanio. Ffrind, ffarwel.
(4, 0) 274 Na phoena weld fy nghyflwr er dy fwyn;
(4, 0) 275 Cans heddiw caredicach ydyw Ffawd
(4, 0) 276 Nag yw ei harfer; ei harferiad yw
(4, 0) 277 Gadael i'r truan gŵr fyw'n hwy na'i gyfoeth
(4, 0) 278 I syllu â llygad gwag a thalcen crych
(4, 0) 279 Ar oes o dlodi; ond rhag y penyd hwn
(4, 0) 280 O lusgo mewn trueni arbedodd fí.
(4, 0) 281 Gorchymyn fi'n garedig at dy wraig:
(4, 0) 282 Mynega iddi'n llawn am dranc Antonio.
(4, 0) 283 Fe'th gerais, dywed; a bâm bur hyd angau.
(4, 0) 284 Ac wedi dweud y stori, barned hi
(4, 0) 285 Oni fu gan Bassanio unwaith ffrind.
(4, 0) 286 Na foed edifar gennyt golli cyfaill,
(4, 0) 287 Yntau ni bydd edifar ganddo'r ddlêd.
(4, 0) 288 Canys os tyrr yr Iddew'n ddigon dwfn
(4, 0) 289 Fe'i talaf ar fy union â'm holl galon.
(Bassanio) Antonio, gyfaill, mi a briodais wraig
 
(Gratiano) Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw!
(4, 0) 389 Pe rhyngai bodd i'm Harglwydd Ddug a'r llys,
(4, 0) 390 Maddeuer y naill hanner iddo o'i eiddo,
(4, 0) 391 A bodlon wyf; rhoed im yr hanner arall
(4, 0) 392 I'w warchod megis tan ymddiriedolaeth
(4, 0) 393 Hyd ei farwolaeth, a'i gyflwyno i'r gŵr
(4, 0) 394 A briododd ferch yr Iddew yn ddiweddar.
(4, 0) 395 Y mae dau amod mwy;—am hyn o ffafr
(4, 0) 396 Rhaid iddo ar eí union droi yn Gristion;
(4, 0) 397 Rhaid iddo hefyd yma, yng ngŵydd y llys
(4, 0) 398 Arwyddo gweithred fod pob peth fydd ganddo
(4, 0) 399 Âr ci farwolaeth i fynd i Lorenzo,
(4, 0) 400 Ei fab-yng-nghyfraith, ac i Jessica.
(Dug) Ac oni wnêl hyn oll, 'r wy'n tynnu'n ôl
 
(Bassanio) Atolwg ichwi eu derbyn am eich poen.
(4, 0) 427 Gadawai hynny ni'n ddyledwyr wedyn
(4, 0) 428 Mewn serch ac mewn gwasanaeth iwch, tra bôm.
(Portia) Talwyd yn helaeth eisoes a foddhawyd,
 
(Portia) Er fy ngwasanaeth. Wel, da bôch chwi'ch dau.
(4, 0) 466 Gyfaill Bassanio, dyro'r fodrwy iddo.
(4, 0) 467 Prisia'i deilyngdod ef a'm cariad innau
(4, 0) 468 Yn erbyn y gorchymyn gan dy wraig.