a4

Marsiandwr Fenis (1950)

William Shakespeare
cyf. Albert Evans-Jones (Cynan)

Ⓗ 1950 Cynan
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 4


Golygfa—Fenis. Llys Barn. Y Llys wedi ymgynnull. Utgyrn. Daw'r Dug a'i swyddogion i mewn. Eistedd y Dug ar ei orsedd, a'i swyddogion o bobtu iddo.

Dug
Antonio yma eisoes!

Antonio
Wyf, eich gras.

Dug
Gofidiaf trosot; daethost yma i ateb
Gelyn o garreg, rhyw annynol gnaf
Na ŵyr dosturio; calon sydd yn wag
O bob dafn o drugaredd.

Antonio
Clywais i
Fyned o'ch gras trwy drafferth flin er ceisio
Llesteirio'i gwrs. Ond gan mai cyndyn yw,
Ac nad oes modd cyfreithlon fyth i'm dwyn
O gyrraedd ei genfigen, gwrthwynebaf
Gynddaredd ag amynedd; arfog wyf
Ag ysbryd tawel bellach i wrthsefyll
Y llid a'r gormes sy'n ci ysbryd ef.

Dug
Aed un i alw'r Iddew hwn i'r llys.

Solanio
Mae'n barod wrth y drws; mae'n dod, eich gras.


Enter SHYLOCK.

Dug
Gwnewch le, a safed yma ger fy mron.
Shylock, fe dybia'r byd, a thybiaf innau
Na wnei ond canlyn y ffug yma o falais
I'r funud olaf; yna, meddant hwy,
Dangosi dy drugaredd yn fwy rhyfedd
Nag yw'r creulondeb rhyfedd hwn yn awr,
A lle yr hawli'n awr y penyd eithaf,—
Sef pwys o gnawd y tlawd farsiandwr hwn,
Ti a faddeui iddo nid yn unig
Y fforffed hon, ond mewn tosturi a serch
Gyfran o'r ddyled hefyd gyda hi.

Disgwyliwn, Iddew, bawb am ateb mwyn.

Shylock
Rhoddais i'ch gras wybodaeth am fy mwriad;
A myn ein Sabath sanctaidd tyngais lw
Y mynnwn hawlio fforffed fy nghyfamod.
Os gwadu hyn a fynnwch, bydded gwarth
Ar siarter Fenis ac ar freiniau'ch dinas.
Diau yr holwch pam y mynnwn i
Ryw bwys o gelain gnawd, yn lle tair mil
O bunnoedd melyn. Nid atebaf hyn.
Bwriwch mai dyna fy mympwy.—A'ch atebwyd?
Pe blinid cartref dyn gan lygoden fawr
Ac yntau'n dewis rhoi deng mil o bunnoedd
Ameigwenwyno! A atebwyd chwi?
Mae dynion na oddefant fochyn rhwth.
Eraill â'n wallgof,—dim ond gweled cath;
A dyma f' ateb i'ch gofyniad chwi.
Megis nad ocs un rheswm teg i'w roddi
Pam na oddefa'r naill weld mochyn rhwth,
Na'r llall y gath ddiniwed, angenrheidiol,
Ni allaf roddi rheswm, ac ni fynnaf,
(Heblaw casineb pendant a ffieidd-dod
At yr Antonio hwn),—dros yrru ymlaen
Ryw achos coll i'w erbyn: A'ch atebwyd?

Bassanio
Nid ateb ydyw hyn, ddidostur ŵr,
Nac esgus chwaith dros ddylif dy greulondeb.

Shylock
Nid rhaid i'm hateb ryngu bodd i ti.


Bassanio
A ladd pob dyn y pethau a'r nis câr?

Shylock
Ai cas gan neb y peth ni fynnai'i ladd?


Bassanio
Ond nid casineb ydyw crud pob tramgwydd.

Shylock
A fynnit frathiad ddwywaith gan 'r un sarff?


Antonio
Atolwg, a ddadleuech â'r fath ŵr?
Cystal ich fynd i sefyll ar y traeth
Ac erchi i lanw'r môr na chodo'n uwch.
Cystal ich ddechrau dadlau gyda'r blaidd
Paham y brefa'r ddafad am ei hoen.
Cystal ich wahardd prennau pîn yr allt
Rhag siglo'u brigau, a rhag gwneuthur sŵn,
A hwy'n anniddig gan hyrddiadau'r gwynt,
 cheisio meddalhau peth cletach fyth,
Calon yr Iddew. Felly, erfyniaf arnoch,
—Na wnewch un cynnig pellach na pherswâd,
Ond gyda phob hwylustod di-ymdroi
Rhowch imi'r ddedfryd, ac i hwn ci hawl.

Bassanio
Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech.

Shylock
Petai pob punt o blith dy chwe mil punnoedd
Yn chwech o ddarnau a phob darn yn bunt,
Ni fynnwn monynt.—Mynnwn fy nghyfamod.

Dug
Pa fodd y cei drugaredd yn y farn?

Shylock
Pa farn sy'n fraw i mi na wneuthum ddrwg?
Mae gennych yn cich dinas gaethion lu,
A'r rhain (yn union fel eich cŵn a'ch mulod),
A ddarostyngwch i bob isel swydd
Am ddarfod ichwi eu prynu.—A ddwedaf fi
"Rhyddhewch hwy'n awr i briodi eich aeresau?
Paham y chwysant o dan feichiau? Boed
Eu gw'lâu yn esmwyth, megis chwi; diwaller
Eu harchwaeth â'r un bwydydd". Oni ddwedech
"Ni biau'n caethion".—Dyna f'ateb i.
Y pwys o gnawd a fynnaf ganddo ef,
'Fi biau hwn. Fe'i prynais, do, yn ddrud.
Ac os gwrthodwch fi, naw wfft i'ch deddf.
Nid erys grym yng nghorff cyfreithiau Fenis.
Tros farn y safaf. Dwedwch—a gaf fi farn?

Dug
O dan fy hawl, gallwn ohirio'r llys
Pe na chyrhaeddai'r doethawr hyddysg heddiw,
Belario, yr anfonais ato wŷs
I farnu'r achos.

Solanio
F'arglwydd, mae tu faes
Gennad yn dwyn llythyrau oddiwrth y doethawr
O Padua; newydd gyrraedd.

Dug
Galwer ef.

Bassanio
Cysur, Antonio! Cod dy galon, ddyn;
Mi rof i'r Iddew 'nghnawd a'm gwaed a'm hesgyrn
Cyn y cei dithau golli dafn o'th waed.

Antonio
Nid wyf ond llwdwn gwael o blith y praidd,
Y rheitia' i farw. Onid y gwannaf ffrwyth
A gwymp i'r ddaear gyntaf? Gad im fod.
Mi rof it orchwyl llawcr gwell, Bassanio,
Bydd fyw i ysgrifennu fy meddargraff.


Enter NERISSA, yng ngwisg clerc cyfreithiwr.

Dug
A ddaethost ti o Padua, oddi wrth Belario?

Nerissa
Yn hollol, f'arglwydd. Ei annerch at eich gras.
(Gan gyflwyno llythyr.)

Bassanio
Paham yr hogi'r gyllell yna'n ddyfal?

Shylock
I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw.

Bassanio
Nid ar dy wadn ond ar dy wydn enaid
Yr hogaist tí ei min; nid ydyw'r metel
Ar fwyell dienyddiwr ddim mor awchus
Â'th lym genfigen.—Ocs un plê a'th gyffwrdd?

Shylock
Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud.

Gratiano
Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon!
Mae'r nef ar gam fod dy fath di'n cael byw.
Bron iawn na wnait im gefnu ar fy ffydd
A derbyn opiniynau'r hen Pythagoras
—Fod enaid bwystfil weithiau yn preswylio
O fewn corff dyn; fe fu dy ysbryd costog
Unwaith yn flaidd a grogwyd am ladd dynion.
Oddi ar y crocbren ffodd ei enaid brwnt
Pan oeddit ti yng nghroth dy fam, a'th larpio
Enaid a chorff; ac felly mae dy nwydau
Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus.

Shylock
Nes tawdd dy ddwrdio'r sêl ar fy nghyfamod,
Ofer it weiddi hyd ddolurio'r 'sgyfaint,
Trwsia dy synnwyr bellach, fachgen glân,
Y mae'n dadfeilio. Safaf ar y ddeddf.

Dug
Mae'r llythyr gan Belario yn cyflwyno
Rhyw ddoethawr ifanc, hyddysg iawn, i'n llys,
P'le mae-o?

Nerissa
F'arglwydd, mae tu faes yn disgwyl.
A ryngai fodd i chwi ei alw i mewn?

Dug
Yn llawen. Aed rhyw ddau neu dri ohonoch
I'w gyrchu'n gwrtais yma at y fainc.
A darllen dithau'r llythyr yng ngŵydd llys.

Clerc

(Yn darllen) "Dealled cich gras fy mod yn bur wael pan dderbyniais eich llythyr; ond pan gyrhaeddodd eich cennad yr oedd doethawr ifanc o Rufain yma ar gariadus ymweliad; ei enw yw Balthasar. Rhoddais wybod iddo am yr achos sydd ar ddadl rhwng yr Iddew ac Antonio'r marsiandwr; ymgyngorasom ynghyd â llyfrau lawer; rhoddais iddo fy marn i, ac fe ddwg honno atoch, ar fy nghais taer, wedi ei gloywi â'i ddysgeidiaeth ei hun (na allaf byth ganmol digon arni), i gyflawni eich grasol ddymuniad yn fy lle.

Na fydded ei ddiffyg blynyddoedd, atolwg, yn un rhwystr iddo rhag derbyn parchus werthfawrogiad; canys ni wybôm i erioed gorff mor ifanc yn dwyn pen mor hen.

Gadawaf ef i'ch grasol dderbyniad, gan wybod y bydd prawf arno yn cyhoeddi ei deilyngdod yn well na dim a allwn i ei sgrifennu amdano".

Dug
Clywsoch dystiolaeth frwd Belario iddo;
—A dyma, dybiaf fi, y gŵr ei hun.


Enter PORTIA yng ngwisg Doctor y Gyfraith.

Dug
Dyro dy law. Oddi wrth Belario yr wyt?

Portia
Ie, f'arglwydd.

Dug
Croeso. Cymer di ei le.
A wyddost ti'r anghydfod sydd yn peri
Yr achos sydd yn awr ger bron y llys?

Portia
Mae gennyf bob gwybodaeth am y ddadl.
Ond pa un yw'r marsiandwr, a ph'run yw'r Iddew?

Dug
Antonio a Shylock, sefwch allan.

Portia
Ai Shylock yw dy enw?


Shylock
Shylock, ie.

Portia
Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt,
Eto mor gaeth, na ddichon cyfraith Fenis
Dy wrthwynebu am ci yrru ymlaen.
Tydi a saif mewn perygl, onid e?

Antonio
Felly y dwed.

Portia
A arwyddaist ti'r cyfamod?

Antonio
Do.

Portia
Felly rhaid i'r Iddew drugarhau.

Shylock
Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im.

Portia
Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb.
Fe ddisgyn fel y tyner law o'r nef
Ar ddaear gras; y mae tan fendith ddeublyg,
Bendithia'r hwn sy'n rhoi a'r hwn sy'n cael.
Cadarnaf yw mewn cedyrn; ac mae'n harddach
Ar deyrn gorseddawg nag yw'r goron aur.
Gallu tymhorol a ddengys ei deyrnwialen,
Teyrnged i fawredd gan barchedig ofn
Ac arni arswyd pob brenhinol rwysg.
Ond mae trugaredd goruwch rhwysg teyrnwialen
Brenhinoedd,—ar orseddfa'u calon hwy.
Mae'n briodoledd i'r Goruchaf Dduw,
Ac ymdebyga gallu'r byd i'r nef
Pan leddfer ei gyfiawnder gan drugaredd.
Wrth bledio am gyfiawnder, cofia hyn,—
Yng nghwrs cyfiawnder ni chai undyn fyth
Weld iachawdwriaeth; "Maddau i ni'n dyledion"
Yw'n gweddi beunydd; a'r un weddi a'n dysg
I faddau i'n dyledwyr. Dwedais hyn
Tan obaith y lliniarwn i dy blê
Am gael cyfiawnder; ond os cyndyn wyt,
Bydd rhaid i lys di-dderbyn-wyneb Fenis
Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn.

Shylock
Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun.
Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren.

Portia
Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae?

Bassanio
Nage; dyma fi'n cyflwyno i'r llys
Ddwywaith y swm; ac onid digon hyn,
Ymrwymaf fi i'w dalu ddengwaith trosodd
Tan benyd colli 'nwylo, 'nhraed, a'm pen.
Ac onid digon hynny, eglur mai
Trech malais nag uniondeb... Ac ymbiliaf
— Gŵyr-drowch y gyfraith unwaith i'ch awdurdod:
Er mwyn uniondeb mawr, gwnewch hynny o gam,
A ffrwyno'r cythraul creulon rhag ei fryd.

Portia
Ni ellir hyn. Nid oes yn Fenis hawl
I newid iod o gyfraith sefydledig,
Cofnodid hynny megis cynsail llys.
A rhuthrai llawer cam trwy ddrwg esiampl
I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn.

Shylock
Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel!
O farnwr ifanc, anrhydeddaf di.

Portia
Atolwg, rhowch im weled y cyfamod.


Shylock
Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo.

Portia
Shylock, cynigir it dair gwaith y swm.

Shylock
Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef;
A dyngaf fi anudon yn eich llys?
Na wnaf er Fenis.

Portia
Fforffed yw'r cyfamod.
Ac yn ôl hwn mae gan yr Iddew hawl
Gyfreithlon, oes, i dorri pwys o gnawd.
Ger calon y marsiandwr.—Bydd drugarog.
Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn.

Shylock
Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren.
Mae'n eglur iawn mai barnwr teilwng wyt.
Gwyddost y gyfraith, ac fe fu d'esboniad -
Yn gywir iawn. Hawliaf ar bwys y ddeddf,
Yr wyt yn golofn mor urddasol iddi,
— Ymlaen â'r ddedfryd! Canys ar fy llw
Nid oes un rhinwedd fyth yn nhafod dyn
I'm newidi. Safaf ar fy nghyfamod.

Antonio
Erfyniaf innau'n daer ar fod i'r llys
Roddi ei ddedfryd.

Portia
Felly, dyma hi,—
Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell.

Shylock
O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych!

Portia
Canys y mae holl amcan grym y ddeddf
Wedi'i gymhwyso at y penyd llawn
Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon.

Shylock
Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da!
A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg!

Portia
Felly di-noetha di dy fron.

Shylock
Ie'i fron,
Medd y cyfamod, farnwr, onid e?
"Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair?

Portia
Yn union. A oes clorian yma i bwyso
Ei gnawd?

Shylock
Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr.

Portia
Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo,
I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth.

Shylock
Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn?

Portia
Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda
Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch.

Shylock
Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod.

Portia
Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim?

Antonio
Ychydig iawn yn wir, cans parod wyf.
Moes im dy law, Bassanio. Ffrind, ffarwel.
Na phoena weld fy nghyflwr er dy fwyn;
Cans heddiw caredicach ydyw Ffawd
Nag yw ei harfer; ei harferiad yw
Gadael i'r truan gŵr fyw'n hwy na'i gyfoeth
I syllu â llygad gwag a thalcen crych
Ar oes o dlodi; ond rhag y penyd hwn
O lusgo mewn trueni arbedodd fí.
Gorchymyn fi'n garedig at dy wraig:
Mynega iddi'n llawn am dranc Antonio.
Fe'th gerais, dywed; a bâm bur hyd angau.
Ac wedi dweud y stori, barned hi
Oni fu gan Bassanio unwaith ffrind.
Na foed edifar gennyt golli cyfaill,
Yntau ni bydd edifar ganddo'r ddlêd.
Canys os tyrr yr Iddew'n ddigon dwfn
Fe'i talaf ar fy union â'm holl galon.

Bassanio
Antonio, gyfaill, mi a briodais wraig
Sy'n annwyl fel fy einioes i fy hun.
Ond nid yw einioes, gwraig, na'r byd yn grwn
I'w prisio gennyf uwch dy einioes di.
Collwn y cyfan,—fe'u haberthwn oll
I'r cythraul hwn yn awr, i'th achub di.

Portia
Diolch go brin a rôi dy wraig am hyn
Pe byddai hi gerllaw yn gwrando'r cynnig.

Gratiano
Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf.
Eto mi fynnwn petai hi'n y nef
I eiriol â rhyw allu i'w feddalhau.

Nerissa
Da iti ddwedyd hyn tu ôl i'w chefn.
Pe amgen, gwelit aelwyd go gythryblus.

Shylock
(O'r neilltu)
Ffyddlondeb gwŷr Cristnogol! Mae gennyf ferch,—
Gan Dduw na byddai un o hil Barabas
Yn briod iddi o flaen gŵr o Gristion!
Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd!

Portia
Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd,
—Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith.

Shylock
O farnwr teg!

Portia
Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron,
—Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith.

Shylock
O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô.

Portia
Aros am ennyd! Y mae un peth mwy.
Ni rydd yr ysgrif hawl i ddafn o waed;
Geiriad yr amod ydyw "pwys o gnawd".
Cymer dy fforffed, cymer bwys o gnawd,
Ond wrth ei dorri, os tywellti ddafn,
Un dafn o waed Cristnogol, mae dy dir
A'th eiddo i gyd, yn ôl cyfreithiau Fenis,
Yng ngafael y llywodraeth.

Gratiano
O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth!

Shylock
Ai dyna'r gyfraith?

Portia
Darllen hi dy hun.
Cyfiawnder a gymhellaist. Rhof fy ngair
Y cei gyfiawnder—fwy nag a ddymuni.

Gratiano
O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth!

Shylock
Derbyniaf ynteu'i gynnig. Telwch im
Deirgwaith y swm, a gedwch iddo fynd.

Bassanio
Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn.

Portia
Yn araf!
Cyfiawnder a fynn yr Iddew. Pwyll! Dim brys:—
Na rodder iddo ddim heblaw y penyd.

Gratiano
O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth!

Portia
Felly ymbaratô i dorri'r cnawd.
Na thywallt waed, ac na thor lai na mwy
Na phwys o gnawd. Ac os cymeri fwy
Neu lai na'r union bwysau, pe na bai
Yn drymach neu'n ysgafnach ddim ond trwch
Ugeinfed rhan y gronyn lleiaf un,
Neu os try'r glorian ond gan drwch y blewyn,
Fe'th grogir, ac â d'eiddo i'r llywodraeth.

Gratiano
Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel!
Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun.

Portia
Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed.

Shylock
Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd.

Bassanio
Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw.

Portia
Gwrthododd hwy ar goedd gerbron y llys.
Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod!

Shylock
Oni chaf hyd yn oed y swm di-log?

Portia
Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd,
A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew.

Shylock
Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno.
Ni thariaf yma i'm holi.

Portia
Eto, arhô!
Mae gafael arall arnat gan y ddeddf::
Yn ôl cyfreithiau Fenis fe ordeiniwyd,
Os profir mewn llys barn yn erbyn estron
Ei fod yn ceisio einioes rhyw ddinesydd,
Yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i
Fod gan y person sydd yn nod i'r cynllwyn
Hawl i feddiannu ci eiddo hyd yr hanner;
Â'r hanner arall i drysorfa'r dref.
Bydd bywyd y troseddwr at drugaredd
Y Dug ei hun yng ngwaethaf pob apêl.
Yn y cyfyngder hwn y sefi, meddaf,
Cans eglur yw, ar goedd gerbron y llys,
Yn uniongyrchol ac anuniongyrchol,
Ddarfod it geisio einioes y diffynnydd
'Trwy gynllwyn; ac am hyn agored wyt
I'r ddirwy a'r gosb a nodais innau'n awr.
Penlinia ac erfyn bardwn gan y Dug.

Gratiano
Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi,
Ac cto, gan mai'r ddinas biau d'eiddo
'D oes gennyt yr un ddimai i brynu rhaff.
Felly bydd rhaid dy grogi ar gost y wlad.

Dug
Ond fel y gwelych ein gwahaniaeth ysbryd,
Maddeuaf it dy einioes cyn it ofyn.
Hanner dy gyfoeth—aed i ran Antonio,
A'r hanner arall i drysorfa'r dref;
Gall gostyngeiddrwydd ostwng hynny'n ddirwy.

Portia
O ran y dref,—ac nid o ran Antonio.

Shylock
Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch!
Aethoch â'm tŷ pan aethoch chwi â'r golofn
Sy'n dal fy nhŷ; do, aethoch chwi â'm bywyd
Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw.

Portia
Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo?

Gratiano
Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw!

Antonio
Pe rhyngai bodd i'm Harglwydd Ddug a'r llys,
Maddeuer y naill hanner iddo o'i eiddo,
A bodlon wyf; rhoed im yr hanner arall
I'w warchod megis tan ymddiriedolaeth
Hyd ei farwolaeth, a'i gyflwyno i'r gŵr
A briododd ferch yr Iddew yn ddiweddar.
Y mae dau amod mwy;—am hyn o ffafr
Rhaid iddo ar eí union droi yn Gristion;
Rhaid iddo hefyd yma, yng ngŵydd y llys
Arwyddo gweithred fod pob peth fydd ganddo
Âr ci farwolaeth i fynd i Lorenzo,
Ei fab-yng-nghyfraith, ac i Jessica.

Dug
Ac oni wnêl hyn oll, 'r wy'n tynnu'n ôl
Y pardwn a gyhoeddais iddo'n awr.

Portia
A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi?

Shylock
'R wy'n fodlon.

Portia
Glerc, tynn allan ffurf o weithred.

Shylock
Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith:
Nid wyf yn dda; danfonwch hi ar f'ôl
Ac fe'i harwyddaf.

Dug
Dos,—ond arwydda di.

Gratiano
Wrth dy fedyddio, ti gei ddau dad-bedydd
Pe bawn i'n farnwr, rhown it ddengwr mwy
I'th hebrwng di i'r crocbren, nid i'r llan.


Exit SHYLOCK.

Dug
Atolwg syr, dowch gyda mi i ginio.

Portia
Pardwn, yn ostyngedig iawn, cich gras.
Rhaid imi heno gyrraedd Padua,
A dylwn gychwyn yno'n ddi-ymdroi.

Dug
Gofidiwn ninnau nad oes gennych hamdden,
Antonio, boddha di'r bonheddwr hwn,
Y mae dy ddyled iddo yn ddifesur.


Exeunt y Dug, ei Swyddogion a'i Osgordd.

Bassanio
Deilyngaf syr, achubwyd fi a'm ffrind
Trwy eich doethineb heddiw rhag penyd tost.
Ar gyfrif hyn, dyma dair mil o bunnoedd,
Y tair mil oedd ddyledus gynnau i'r Iddew,
Atolwg ichwi eu derbyn am eich poen.

Antonio
Gadawai hynny ni'n ddyledwyr wedyn
Mewn serch ac mewn gwasanaeth iwch, tra bôm.

Portia
Talwyd yn helaeth eisoes a foddhawyd,
Ac wrth eich achub, fe'm boddhawyd i.
Cyfrifaf hynny'n ddigon fyth o dâl,
Canys ni bu fy mryd erioed ariangar.
Cofiwch f'adnabod i pan gwrddwn eto.
Mae'n hwyr im gychwyn. Bendith arnoch chwi.

Bassanio
Yn wir, syr, rhaid im wneud un cynnig arall.
Derbyniwch rywbeth gennym megis teyrnged,
Ac nid fel tâl. Syr, caniatewch ddau gais,—
Peidiwch â'm gwrthod a maddeuwch im.

Portia
Wel, gan cich bod yn pwyso, ufuddhaf.
(Wrth ANTONIO.)
Rho im dy fenyg; gwisgaf hwy cr cof;
(Wrth BASSANIO.)
A'th fodrwy gennyt tithau, er dy serch.
Na thynn dy law yn ôl; ni fynnaf fwy,
Ac ni wrthodit tithau byth mo hyn.

Bassanio
Nid yw y fodrwy hon, syr, ddim ond tegan.
Gwarth fyddai arnaf gynnig hon i chwi.

Portia
Ni fynnwn unpeth arall—dim ond hon.
Ac erbyn meddwl, wir, fe aeth â'm bryd.

Bassanio
Dibynna mwy ar hon na'i gwerth masnachol.
Rhoddaf y fodrwy ddruta'n Fenis ichwi,
Fe'i darganfyddaf hi trwy broclamasiwn;
Eithr am hon, syr, esgusodwch fi.

Portia
Gwelaf eich bod yn hael o ran cynigion,
Chwi ddysgodd im gardota, ac yn awr
Fe'm dysgwch sut mae ateb cais cardotyn.

Bassanio
Ond wrda, gan fy ngwraig y cefais hon.
Ac wrth ei rhoi fe wnaeth im gymryd llw
Na werthwn moni byth, na'i rhoi, na'i cholli.

Portia
Esgus pur hwylus i'ch rhyddhau o'ch rhodd.
Onid yw'ch gwraig o'i phwyll, pe gwyddai hi
Fel y teilyngais innau'r fodrwy hon,
Ni ddigiai hi dros byth am ichwi ei rhoi
Er fy ngwasanaeth. Wel, da bôch chwi'ch dau.


Exeunt PORTIA a NERISSA.

Antonio
Gyfaill Bassanio, dyro'r fodrwy iddo.
Prisia'i deilyngdod ef a'm cariad innau
Yn erbyn y gorchymyn gan dy wraig.

Bassanio
Dos, Gratiano. Rhed i'w oddiweddyd.
Rho iddo'r fodrwy, a thyrd ag ef os gelli
I dŷ Antonio.—Brysia, brysia! Rhed!


Exit GRATIANO.

Bassanio
Tyred; awn ninnau acw'n syth.
Ac yn y bore'n gynnar awn ein dau
Ar frys am Belmont. Tyred, Ffrind Antonio.


Exeunt.
LLEN.

a4