Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Bassanio

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(Shylock) Ryw achos coll i'w erbyn: A'ch atebwyd?
(4, 0) 59 Nid ateb ydyw hyn, ddidostur ŵr,
(4, 0) 60 Nac esgus chwaith dros ddylif dy greulondeb.
(Shylock) Nid rhaid i'm hateb ryngu bodd i ti.
 
(Shylock)
(4, 0) 63 A ladd pob dyn y pethau a'r nis câr?
(Shylock) Ai cas gan neb y peth ni fynnai'i ladd?
 
(Shylock)
(4, 0) 66 Ond nid casineb ydyw crud pob tramgwydd.
(Shylock) A fynnit frathiad ddwywaith gan 'r un sarff?
 
(Antonio) Rhowch imi'r ddedfryd, ac i hwn ci hawl.
(4, 0) 82 Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech.
(Shylock) Petai pob punt o blith dy chwe mil punnoedd
 
(Dug) Galwer ef.
(4, 0) 110 Cysur, Antonio! Cod dy galon, ddyn;
(4, 0) 111 Mi rof i'r Iddew 'nghnawd a'm gwaed a'm hesgyrn
(4, 0) 112 Cyn y cei dithau golli dafn o'th waed.
(Antonio) Nid wyf ond llwdwn gwael o blith y praidd,
 
(Nerissa) {Gan gyflwyno llythyr.}
(4, 0) 122 Paham yr hogi'r gyllell yna'n ddyfal?
(Shylock) I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw.
 
(Shylock) I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw.
(4, 0) 124 Nid ar dy wadn ond ar dy wydn enaid
(4, 0) 125 Yr hogaist tí ei min; nid ydyw'r metel
(4, 0) 126 Ar fwyell dienyddiwr ddim mor awchus
(4, 0) 127 Â'th lym genfigen.—Ocs un plê a'th gyffwrdd?
(Shylock) Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud.
 
(Portia) Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae?
(4, 0) 212 Nage; dyma fi'n cyflwyno i'r llys
(4, 0) 213 Ddwywaith y swm; ac onid digon hyn,
(4, 0) 214 Ymrwymaf fi i'w dalu ddengwaith trosodd
(4, 0) 215 Tan benyd colli 'nwylo, 'nhraed, a'm pen.
(4, 0) 216 Ac onid digon hynny, eglur mai
(4, 0) 217 Trech malais nag uniondeb... Ac ymbiliaf
(4, 0) 218 — Gŵyr-drowch y gyfraith unwaith i'ch awdurdod:
(4, 0) 219 Er mwyn uniondeb mawr, gwnewch hynny o gam,
(4, 0) 220 A ffrwyno'r cythraul creulon rhag ei fryd.
(Portia) Ni ellir hyn. Nid oes yn Fenis hawl
 
(Antonio) Fe'i talaf ar fy union â'm holl galon.
(4, 0) 290 Antonio, gyfaill, mi a briodais wraig
(4, 0) 291 Sy'n annwyl fel fy einioes i fy hun.
(4, 0) 292 Ond nid yw einioes, gwraig, na'r byd yn grwn
(4, 0) 293 I'w prisio gennyf uwch dy einioes di.
(4, 0) 294 Collwn y cyfan,—fe'u haberthwn oll
(4, 0) 295 I'r cythraul hwn yn awr, i'th achub di.
(Portia) Diolch go brin a rôi dy wraig am hyn
 
(Shylock) Deirgwaith y swm, a gedwch iddo fynd.
(4, 0) 330 Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn.
(Portia) Yn araf!
 
(Shylock) Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd.
(4, 0) 347 Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw.
(Portia) Gwrthododd hwy ar goedd gerbron y llys.
 
(Dug) Y mae dy ddyled iddo yn ddifesur.
(4, 0) 422 Deilyngaf syr, achubwyd fi a'm ffrind
(4, 0) 423 Trwy eich doethineb heddiw rhag penyd tost.
(4, 0) 424 Ar gyfrif hyn, dyma dair mil o bunnoedd,
(4, 0) 425 Y tair mil oedd ddyledus gynnau i'r Iddew,
(4, 0) 426 Atolwg ichwi eu derbyn am eich poen.
(Antonio) Gadawai hynny ni'n ddyledwyr wedyn
 
(Portia) Mae'n hwyr im gychwyn. Bendith arnoch chwi.
(4, 0) 435 Yn wir, syr, rhaid im wneud un cynnig arall.
(4, 0) 436 Derbyniwch rywbeth gennym megis teyrnged,
(4, 0) 437 Ac nid fel tâl. Syr, caniatewch ddau gais,—
(4, 0) 438 Peidiwch â'm gwrthod a maddeuwch im.
(Portia) Wel, gan cich bod yn pwyso, ufuddhaf.
 
(Portia) Ac ni wrthodit tithau byth mo hyn.
(4, 0) 446 Nid yw y fodrwy hon, syr, ddim ond tegan.
(4, 0) 447 Gwarth fyddai arnaf gynnig hon i chwi.
(Portia) Ni fynnwn unpeth arall—dim ond hon.
 
(Portia) Ac erbyn meddwl, wir, fe aeth â'm bryd.
(4, 0) 450 Dibynna mwy ar hon na'i gwerth masnachol.
(4, 0) 451 Rhoddaf y fodrwy ddruta'n Fenis ichwi,
(4, 0) 452 Fe'i darganfyddaf hi trwy broclamasiwn;
(4, 0) 453 Eithr am hon, syr, esgusodwch fi.
(Portia) Gwelaf eich bod yn hael o ran cynigion,
 
(Portia) Fe'm dysgwch sut mae ateb cais cardotyn.
(4, 0) 457 Ond wrda, gan fy ngwraig y cefais hon.
(4, 0) 458 Ac wrth ei rhoi fe wnaeth im gymryd llw
(4, 0) 459 Na werthwn moni byth, na'i rhoi, na'i cholli.
(Portia) Esgus pur hwylus i'ch rhyddhau o'ch rhodd.
 
(Antonio) Yn erbyn y gorchymyn gan dy wraig.
(4, 0) 469 Dos, Gratiano. Rhed i'w oddiweddyd.
(4, 0) 470 Rho iddo'r fodrwy, a thyrd ag ef os gelli
(4, 0) 471 I dŷ Antonio.—Brysia, brysia! Rhed!
 
(4, 0) 473 Tyred; awn ninnau acw'n syth.
(4, 0) 474 Ac yn y bore'n gynnar awn ein dau
(4, 0) 475 Ar frys am Belmont. Tyred, Ffrind Antonio.