Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Clerc

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(4, 0) 153 "Dealled cich gras fy mod yn bur wael pan dderbyniais eich llythyr;
(4, 0) 154 ond pan gyrhaeddodd eich cennad yr oedd doethawr ifanc o Rufain yma ar gariadus ymweliad;
(4, 0) 155 ei enw yw Balthasar.
(4, 0) 156 Rhoddais wybod iddo am yr achos sydd ar ddadl rhwng yr Iddew ac Antonio'r marsiandwr; ymgyngorasom ynghyd â llyfrau lawer;
(4, 0) 157 rhoddais iddo fy marn i, ac fe ddwg honno atoch, ar fy nghais taer, wedi ei gloywi â'i ddysgeidiaeth ei hun (na allaf byth ganmol digon arni), i gyflawni eich grasol ddymuniad yn fy lle.
(4, 0) 158 ~
(4, 0) 159 Na fydded ei ddiffyg blynyddoedd, atolwg, yn un rhwystr iddo rhag derbyn parchus werthfawrogiad;
(4, 0) 160 canys ni wybôm i erioed gorff mor ifanc yn dwyn pen mor hen.
(4, 0) 161 ~
(4, 0) 162 Gadawaf ef i'ch grasol dderbyniad, gan wybod y bydd prawf arno yn cyhoeddi ei deilyngdod yn well na dim a allwn i ei sgrifennu amdano".