Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Gratiano

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(Shylock) Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud.
(4, 0) 129 Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon!
(4, 0) 130 Mae'r nef ar gam fod dy fath di'n cael byw.
(4, 0) 131 Bron iawn na wnait im gefnu ar fy ffydd
(4, 0) 132 A derbyn opiniynau'r hen Pythagoras
(4, 0) 133 —Fod enaid bwystfil weithiau yn preswylio
(4, 0) 134 O fewn corff dyn; fe fu dy ysbryd costog
(4, 0) 135 Unwaith yn flaidd a grogwyd am ladd dynion.
(4, 0) 136 Oddi ar y crocbren ffodd ei enaid brwnt
(4, 0) 137 Pan oeddit ti yng nghroth dy fam, a'th larpio
(4, 0) 138 Enaid a chorff; ac felly mae dy nwydau
(4, 0) 139 Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus.
(Shylock) Nes tawdd dy ddwrdio'r sêl ar fy nghyfamod,
 
(Portia) Pe byddai hi gerllaw yn gwrando'r cynnig.
(4, 0) 298 Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf.
(4, 0) 299 Eto mi fynnwn petai hi'n y nef
(4, 0) 300 I eiriol â rhyw allu i'w feddalhau.
(Nerissa) Da iti ddwedyd hyn tu ôl i'w chefn.
 
(Portia) Yng ngafael y llywodraeth.
(4, 0) 322 O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
(Shylock) Ai dyna'r gyfraith?
 
(Portia) Y cei gyfiawnder—fwy nag a ddymuni.
(4, 0) 327 O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
(Shylock) Derbyniaf ynteu'i gynnig. Telwch im
 
(Portia) Na rodder iddo ddim heblaw y penyd.
(4, 0) 334 O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth!
(Portia) Felly ymbaratô i dorri'r cnawd.
 
(Portia) Fe'th grogir, ac â d'eiddo i'r llywodraeth.
(4, 0) 343 Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel!
(4, 0) 344 Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun.
(Portia) Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed.
 
(Portia) Penlinia ac erfyn bardwn gan y Dug.
(4, 0) 373 Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi,
(4, 0) 374 Ac cto, gan mai'r ddinas biau d'eiddo
(4, 0) 375 'D oes gennyt yr un ddimai i brynu rhaff.
(4, 0) 376 Felly bydd rhaid dy grogi ar gost y wlad.
(Dug) Ond fel y gwelych ein gwahaniaeth ysbryd,
 
(Portia) Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo?
(4, 0) 388 Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw!
(Antonio) Pe rhyngai bodd i'm Harglwydd Ddug a'r llys,
 
(Dug) Dos,—ond arwydda di.
(4, 0) 410 Wrth dy fedyddio, ti gei ddau dad-bedydd
(4, 0) 411 Pe bawn i'n farnwr, rhown it ddengwr mwy
(4, 0) 412 I'th hebrwng di i'r crocbren, nid i'r llan.