Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Portia

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(Dug) Dyro dy law. Oddi wrth Belario yr wyt?
(4, 0) 167 Ie, f'arglwydd.
(Dug) Croeso. Cymer di ei le.
 
(Dug) Yr achos sydd yn awr ger bron y llys?
(4, 0) 171 Mae gennyf bob gwybodaeth am y ddadl.
(4, 0) 172 Ond pa un yw'r marsiandwr, a ph'run yw'r Iddew?
(Dug) Antonio a Shylock, sefwch allan.
 
(Dug) Antonio a Shylock, sefwch allan.
(4, 0) 174 Ai Shylock yw dy enw?
 
(Shylock) Shylock, ie.
(4, 0) 177 Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt,
(4, 0) 178 Eto mor gaeth, na ddichon cyfraith Fenis
(4, 0) 179 Dy wrthwynebu am ci yrru ymlaen.
(4, 0) 180 Tydi a saif mewn perygl, onid e?
(Antonio) Felly y dwed.
 
(Antonio) Felly y dwed.
(4, 0) 182 A arwyddaist ti'r cyfamod?
(Antonio) Do.
 
(Antonio) Do.
(4, 0) 184 Felly rhaid i'r Iddew drugarhau.
(Shylock) Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im.
 
(Shylock) Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im.
(4, 0) 186 Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb.
(4, 0) 187 Fe ddisgyn fel y tyner law o'r nef
(4, 0) 188 Ar ddaear gras; y mae tan fendith ddeublyg,
(4, 0) 189 Bendithia'r hwn sy'n rhoi a'r hwn sy'n cael.
(4, 0) 190 Cadarnaf yw mewn cedyrn; ac mae'n harddach
(4, 0) 191 Ar deyrn gorseddawg nag yw'r goron aur.
(4, 0) 192 Gallu tymhorol a ddengys ei deyrnwialen,
(4, 0) 193 Teyrnged i fawredd gan barchedig ofn
(4, 0) 194 Ac arni arswyd pob brenhinol rwysg.
(4, 0) 195 Ond mae trugaredd goruwch rhwysg teyrnwialen
(4, 0) 196 Brenhinoedd,—ar orseddfa'u calon hwy.
(4, 0) 197 Mae'n briodoledd i'r Goruchaf Dduw,
(4, 0) 198 Ac ymdebyga gallu'r byd i'r nef
(4, 0) 199 Pan leddfer ei gyfiawnder gan drugaredd.
(4, 0) 200 Wrth bledio am gyfiawnder, cofia hyn,—
(4, 0) 201 Yng nghwrs cyfiawnder ni chai undyn fyth
(4, 0) 202 Weld iachawdwriaeth; "Maddau i ni'n dyledion"
(4, 0) 203 Yw'n gweddi beunydd; a'r un weddi a'n dysg
(4, 0) 204 I faddau i'n dyledwyr. Dwedais hyn
(4, 0) 205 Tan obaith y lliniarwn i dy blê
(4, 0) 206 Am gael cyfiawnder; ond os cyndyn wyt,
(4, 0) 207 Bydd rhaid i lys di-dderbyn-wyneb Fenis
(4, 0) 208 Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn.
(Shylock) Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun.
 
(Shylock) Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren.
(4, 0) 211 Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae?
(Bassanio) Nage; dyma fi'n cyflwyno i'r llys
 
(Bassanio) A ffrwyno'r cythraul creulon rhag ei fryd.
(4, 0) 221 Ni ellir hyn. Nid oes yn Fenis hawl
(4, 0) 222 I newid iod o gyfraith sefydledig,
(4, 0) 223 Cofnodid hynny megis cynsail llys.
(4, 0) 224 A rhuthrai llawer cam trwy ddrwg esiampl
(4, 0) 225 I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn.
(Shylock) Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel!
 
(Shylock) O farnwr ifanc, anrhydeddaf di.
(4, 0) 228 Atolwg, rhowch im weled y cyfamod.
 
(Shylock) Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo.
(4, 0) 231 Shylock, cynigir it dair gwaith y swm.
(Shylock) Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef;
 
(Shylock) Na wnaf er Fenis.
(4, 0) 235 Fforffed yw'r cyfamod.
(4, 0) 236 Ac yn ôl hwn mae gan yr Iddew hawl
(4, 0) 237 Gyfreithlon, oes, i dorri pwys o gnawd.
(4, 0) 238 Ger calon y marsiandwr.—Bydd drugarog.
(4, 0) 239 Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn.
(Shylock) Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren.
 
(Antonio) Roddi ei ddedfryd.
(4, 0) 250 Felly, dyma hi,—
(4, 0) 251 Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell.
(Shylock) O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych!
 
(Shylock) O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych!
(4, 0) 253 Canys y mae holl amcan grym y ddeddf
(4, 0) 254 Wedi'i gymhwyso at y penyd llawn
(4, 0) 255 Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon.
(Shylock) Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da!
 
(Shylock) A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg!
(4, 0) 258 Felly di-noetha di dy fron.
(Shylock) Ie'i fron,
 
(Shylock) "Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair?
(4, 0) 262 Yn union. A oes clorian yma i bwyso
(4, 0) 263 Ei gnawd?
(Shylock) Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr.
 
(Shylock) Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr.
(4, 0) 265 Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo,
(4, 0) 266 I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth.
(Shylock) Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn?
 
(Shylock) Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn?
(4, 0) 268 Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda
(4, 0) 269 Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch.
(Shylock) Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod.
 
(Shylock) Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod.
(4, 0) 271 Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim?
(Antonio) Ychydig iawn yn wir, cans parod wyf.
 
(Bassanio) I'r cythraul hwn yn awr, i'th achub di.
(4, 0) 296 Diolch go brin a rôi dy wraig am hyn
(4, 0) 297 Pe byddai hi gerllaw yn gwrando'r cynnig.
(Gratiano) Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf.
 
(Shylock) Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd!
(4, 0) 308 Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd,
(4, 0) 309 —Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith.
(Shylock) O farnwr teg!
 
(Shylock) O farnwr teg!
(4, 0) 311 Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron,
(4, 0) 312 —Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith.
(Shylock) O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô.
 
(Shylock) O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô.
(4, 0) 314 Aros am ennyd! Y mae un peth mwy.
(4, 0) 315 Ni rydd yr ysgrif hawl i ddafn o waed;
(4, 0) 316 Geiriad yr amod ydyw "pwys o gnawd".
(4, 0) 317 Cymer dy fforffed, cymer bwys o gnawd,
(4, 0) 318 Ond wrth ei dorri, os tywellti ddafn,
(4, 0) 319 Un dafn o waed Cristnogol, mae dy dir
(4, 0) 320 A'th eiddo i gyd, yn ôl cyfreithiau Fenis,
(4, 0) 321 Yng ngafael y llywodraeth.
(Gratiano) O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
 
(Shylock) Ai dyna'r gyfraith?
(4, 0) 324 Darllen hi dy hun.
(4, 0) 325 Cyfiawnder a gymhellaist. Rhof fy ngair
(4, 0) 326 Y cei gyfiawnder—fwy nag a ddymuni.
(Gratiano) O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
 
(Bassanio) Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn.
(4, 0) 331 Yn araf!
(4, 0) 332 Cyfiawnder a fynn yr Iddew. Pwyll! Dim brys:—
(4, 0) 333 Na rodder iddo ddim heblaw y penyd.
(Gratiano) O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth!
 
(Gratiano) O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth!
(4, 0) 335 Felly ymbaratô i dorri'r cnawd.
(4, 0) 336 Na thywallt waed, ac na thor lai na mwy
(4, 0) 337 Na phwys o gnawd. Ac os cymeri fwy
(4, 0) 338 Neu lai na'r union bwysau, pe na bai
(4, 0) 339 Yn drymach neu'n ysgafnach ddim ond trwch
(4, 0) 340 Ugeinfed rhan y gronyn lleiaf un,
(4, 0) 341 Neu os try'r glorian ond gan drwch y blewyn,
(4, 0) 342 Fe'th grogir, ac â d'eiddo i'r llywodraeth.
(Gratiano) Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel!
 
(Gratiano) Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun.
(4, 0) 345 Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed.
(Shylock) Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd.
 
(Bassanio) Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw.
(4, 0) 348 Gwrthododd hwy ar goedd gerbron y llys.
(4, 0) 349 Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod!
(Shylock) Oni chaf hyd yn oed y swm di-log?
 
(Shylock) Oni chaf hyd yn oed y swm di-log?
(4, 0) 351 Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd,
(4, 0) 352 A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew.
(Shylock) Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno.
 
(Shylock) Ni thariaf yma i'm holi.
(4, 0) 355 Eto, arhô!
(4, 0) 356 Mae gafael arall arnat gan y ddeddf::
(4, 0) 357 Yn ôl cyfreithiau Fenis fe ordeiniwyd,
(4, 0) 358 Os profir mewn llys barn yn erbyn estron
(4, 0) 359 Ei fod yn ceisio einioes rhyw ddinesydd,
(4, 0) 360 Yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i
(4, 0) 361 Fod gan y person sydd yn nod i'r cynllwyn
(4, 0) 362 Hawl i feddiannu ci eiddo hyd yr hanner;
(4, 0) 363 Â'r hanner arall i drysorfa'r dref.
(4, 0) 364 Bydd bywyd y troseddwr at drugaredd
(4, 0) 365 Y Dug ei hun yng ngwaethaf pob apêl.
(4, 0) 366 Yn y cyfyngder hwn y sefi, meddaf,
(4, 0) 367 Cans eglur yw, ar goedd gerbron y llys,
(4, 0) 368 Yn uniongyrchol ac anuniongyrchol,
(4, 0) 369 Ddarfod it geisio einioes y diffynnydd
(4, 0) 370 'Trwy gynllwyn; ac am hyn agored wyt
(4, 0) 371 I'r ddirwy a'r gosb a nodais innau'n awr.
(4, 0) 372 Penlinia ac erfyn bardwn gan y Dug.
(Gratiano) Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi,
 
(Dug) Gall gostyngeiddrwydd ostwng hynny'n ddirwy.
(4, 0) 382 O ran y dref,—ac nid o ran Antonio.
(Shylock) Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch!
 
(Shylock) Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw.
(4, 0) 387 Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo?
(Gratiano) Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw!
 
(Dug) Y pardwn a gyhoeddais iddo'n awr.
(4, 0) 403 A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi?
(Shylock) 'R wy'n fodlon.
 
(Shylock) 'R wy'n fodlon.
(4, 0) 405 Glerc, tynn allan ffurf o weithred.
(Shylock) Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith:
 
(Dug) Atolwg syr, dowch gyda mi i ginio.
(4, 0) 415 Pardwn, yn ostyngedig iawn, cich gras.
(4, 0) 416 Rhaid imi heno gyrraedd Padua,
(4, 0) 417 A dylwn gychwyn yno'n ddi-ymdroi.
(Dug) Gofidiwn ninnau nad oes gennych hamdden,
 
(Antonio) Mewn serch ac mewn gwasanaeth iwch, tra bôm.
(4, 0) 429 Talwyd yn helaeth eisoes a foddhawyd,
(4, 0) 430 Ac wrth eich achub, fe'm boddhawyd i.
(4, 0) 431 Cyfrifaf hynny'n ddigon fyth o dâl,
(4, 0) 432 Canys ni bu fy mryd erioed ariangar.
(4, 0) 433 Cofiwch f'adnabod i pan gwrddwn eto.
(4, 0) 434 Mae'n hwyr im gychwyn. Bendith arnoch chwi.
(Bassanio) Yn wir, syr, rhaid im wneud un cynnig arall.
 
(Bassanio) Peidiwch â'm gwrthod a maddeuwch im.
(4, 0) 439 Wel, gan cich bod yn pwyso, ufuddhaf.
 
(4, 0) 441 Rho im dy fenyg; gwisgaf hwy cr cof;
 
(4, 0) 443 A'th fodrwy gennyt tithau, er dy serch.
(4, 0) 444 Na thynn dy law yn ôl; ni fynnaf fwy,
(4, 0) 445 Ac ni wrthodit tithau byth mo hyn.
(Bassanio) Nid yw y fodrwy hon, syr, ddim ond tegan.
 
(Bassanio) Gwarth fyddai arnaf gynnig hon i chwi.
(4, 0) 448 Ni fynnwn unpeth arall—dim ond hon.
(4, 0) 449 Ac erbyn meddwl, wir, fe aeth â'm bryd.
(Bassanio) Dibynna mwy ar hon na'i gwerth masnachol.
 
(Bassanio) Eithr am hon, syr, esgusodwch fi.
(4, 0) 454 Gwelaf eich bod yn hael o ran cynigion,
(4, 0) 455 Chwi ddysgodd im gardota, ac yn awr
(4, 0) 456 Fe'm dysgwch sut mae ateb cais cardotyn.
(Bassanio) Ond wrda, gan fy ngwraig y cefais hon.
 
(Bassanio) Na werthwn moni byth, na'i rhoi, na'i cholli.
(4, 0) 460 Esgus pur hwylus i'ch rhyddhau o'ch rhodd.
(4, 0) 461 Onid yw'ch gwraig o'i phwyll, pe gwyddai hi
(4, 0) 462 Fel y teilyngais innau'r fodrwy hon,
(4, 0) 463 Ni ddigiai hi dros byth am ichwi ei rhoi
(4, 0) 464 Er fy ngwasanaeth. Wel, da bôch chwi'ch dau.