Marsiandwr Fenis

Ciw-restr ar gyfer Shylock

(Dug) Antonio yma eisoes!
 
(Dug) Disgwyliwn, Iddew, bawb am ateb mwyn.
(4, 0) 37 Rhoddais i'ch gras wybodaeth am fy mwriad;
(4, 0) 38 A myn ein Sabath sanctaidd tyngais lw
(4, 0) 39 Y mynnwn hawlio fforffed fy nghyfamod.
(4, 0) 40 Os gwadu hyn a fynnwch, bydded gwarth
(4, 0) 41 Ar siarter Fenis ac ar freiniau'ch dinas.
(4, 0) 42 Diau yr holwch pam y mynnwn i
(4, 0) 43 Ryw bwys o gelain gnawd, yn lle tair mil
(4, 0) 44 O bunnoedd melyn. Nid atebaf hyn.
(4, 0) 45 Bwriwch mai dyna fy mympwy.—A'ch atebwyd?
(4, 0) 46 Pe blinid cartref dyn gan lygoden fawr
(4, 0) 47 Ac yntau'n dewis rhoi deng mil o bunnoedd
(4, 0) 48 Ameigwenwyno! A atebwyd chwi?
(4, 0) 49 Mae dynion na oddefant fochyn rhwth.
(4, 0) 50 Eraill â'n wallgof,—dim ond gweled cath;
(4, 0) 51 A dyma f' ateb i'ch gofyniad chwi.
(4, 0) 52 Megis nad ocs un rheswm teg i'w roddi
(4, 0) 53 Pam na oddefa'r naill weld mochyn rhwth,
(4, 0) 54 Na'r llall y gath ddiniwed, angenrheidiol,
(4, 0) 55 Ni allaf roddi rheswm, ac ni fynnaf,
(4, 0) 56 (Heblaw casineb pendant a ffieidd-dod
(4, 0) 57 At yr Antonio hwn),—dros yrru ymlaen
(4, 0) 58 Ryw achos coll i'w erbyn: A'ch atebwyd?
(Bassanio) Nid ateb ydyw hyn, ddidostur ŵr,
 
(Bassanio) Nac esgus chwaith dros ddylif dy greulondeb.
(4, 0) 61 Nid rhaid i'm hateb ryngu bodd i ti.
 
(Bassanio) A ladd pob dyn y pethau a'r nis câr?
(4, 0) 64 Ai cas gan neb y peth ni fynnai'i ladd?
 
(Bassanio) Ond nid casineb ydyw crud pob tramgwydd.
(4, 0) 67 A fynnit frathiad ddwywaith gan 'r un sarff?
 
(Bassanio) Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech.
(4, 0) 83 Petai pob punt o blith dy chwe mil punnoedd
(4, 0) 84 Yn chwech o ddarnau a phob darn yn bunt,
(4, 0) 85 Ni fynnwn monynt.—Mynnwn fy nghyfamod.
(Dug) Pa fodd y cei drugaredd yn y farn?
 
(Dug) Pa fodd y cei drugaredd yn y farn?
(4, 0) 87 Pa farn sy'n fraw i mi na wneuthum ddrwg?
(4, 0) 88 Mae gennych yn cich dinas gaethion lu,
(4, 0) 89 A'r rhain (yn union fel eich cŵn a'ch mulod),
(4, 0) 90 A ddarostyngwch i bob isel swydd
(4, 0) 91 Am ddarfod ichwi eu prynu.—A ddwedaf fi
(4, 0) 92 "Rhyddhewch hwy'n awr i briodi eich aeresau?
(4, 0) 93 Paham y chwysant o dan feichiau? Boed
(4, 0) 94 Eu gw'lâu yn esmwyth, megis chwi; diwaller
(4, 0) 95 Eu harchwaeth â'r un bwydydd". Oni ddwedech
(4, 0) 96 "Ni biau'n caethion".—Dyna f'ateb i.
(4, 0) 97 Y pwys o gnawd a fynnaf ganddo ef,
(4, 0) 98 'Fi biau hwn. Fe'i prynais, do, yn ddrud.
(4, 0) 99 Ac os gwrthodwch fi, naw wfft i'ch deddf.
(4, 0) 100 Nid erys grym yng nghorff cyfreithiau Fenis.
(4, 0) 101 Tros farn y safaf. Dwedwch—a gaf fi farn?
(Dug) O dan fy hawl, gallwn ohirio'r llys
 
(Bassanio) Paham yr hogi'r gyllell yna'n ddyfal?
(4, 0) 123 I dorri'r fforffed o'r methdalwr acw.
(Bassanio) Nid ar dy wadn ond ar dy wydn enaid
 
(Bassanio) Â'th lym genfigen.—Ocs un plê a'th gyffwrdd?
(4, 0) 128 Dim un y gwyddost ti y ffordd i'w wneud.
(Gratiano) Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon!
 
(Gratiano) Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus.
(4, 0) 140 Nes tawdd dy ddwrdio'r sêl ar fy nghyfamod,
(4, 0) 141 Ofer it weiddi hyd ddolurio'r 'sgyfaint,
(4, 0) 142 Trwsia dy synnwyr bellach, fachgen glân,
(4, 0) 143 Y mae'n dadfeilio. Safaf ar y ddeddf.
(Dug) Mae'r llythyr gan Belario yn cyflwyno
 
(Portia)
(4, 0) 176 Shylock, ie.
(Portia) Rhyw gyngaws rhyfedd ydyw hwn sydd gennyt,
 
(Portia) Felly rhaid i'r Iddew drugarhau.
(4, 0) 185 Yn rhaid? Tan ba orfodaeth, dwedwch im.
(Portia) Nid yw trugaredd tan orfodaeth neb.
 
(Portia) Gyhoeddi barn ar y marsiandwr hwn.
(4, 0) 209 Boed fy ngweithredoedd ar fy mhen fy hun.
(4, 0) 210 Hawliaf y ddeddf, hyd eithaf ei llythyren.
(Portia) Ai methu â thalu'r swm yn ôl y mae?
 
(Portia) I gnoi'r wladwriaeth. Na, ni ellir hyn.
(4, 0) 226 Daniel a ddaeth i'r frawdle, ie, Daniel!
(4, 0) 227 O farnwr ifanc, anrhydeddaf di.
(Portia) Atolwg, rhowch im weled y cyfamod.
 
(Portia)
(4, 0) 230 Ar unwaith, ddoethawr parchus. Dyma fo.
(Portia) Shylock, cynigir it dair gwaith y swm.
 
(Portia) Shylock, cynigir it dair gwaith y swm.
(4, 0) 232 Mae gennyf lw; llw, llw i'r nef;
(4, 0) 233 A dyngaf fi anudon yn eich llys?
(4, 0) 234 Na wnaf er Fenis.
(Portia) Fforffed yw'r cyfamod.
 
(Portia) Cymer dy arian. Gad im rwygo hwn.
(4, 0) 240 Pan delir ef yn gyflawn i'r llythyren.
(4, 0) 241 Mae'n eglur iawn mai barnwr teilwng wyt.
(4, 0) 242 Gwyddost y gyfraith, ac fe fu d'esboniad -
(4, 0) 243 Yn gywir iawn. Hawliaf ar bwys y ddeddf,
(4, 0) 244 Yr wyt yn golofn mor urddasol iddi,
(4, 0) 245 — Ymlaen â'r ddedfryd! Canys ar fy llw
(4, 0) 246 Nid oes un rhinwedd fyth yn nhafod dyn
(4, 0) 247 I'm newidi. Safaf ar fy nghyfamod.
(Antonio) Erfyniaf innau'n daer ar fod i'r llys
 
(Portia) Rhaid it ddinoethi'r fron yn awr i'w gyllell.
(4, 0) 252 O farnwr urddawl! O ŵr ifanc gwych!
(Portia) Canys y mae holl amcan grym y ddeddf
 
(Portia) Sydd yn ddyledus yn yr ysgrif hon.
(4, 0) 256 Cywir, bob gair, O farnwr doeth a da!
(4, 0) 257 A chymaint hŷn yr ydwyt ti na'th olwg!
(Portia) Felly di-noetha di dy fron.
 
(Portia) Felly di-noetha di dy fron.
(4, 0) 259 Ie'i fron,
(4, 0) 260 Medd y cyfamod, farnwr, onid e?
(4, 0) 261 "Gerllaw ei galon", onid dyna'r gair?
(Portia) Yn union. A oes clorian yma i bwyso
 
(Portia) Ei gnawd?
(4, 0) 264 Mae'n barod eisoes gennyf, farnwr.
(Portia) Tâl am wasanaeth meddyg, Shylock, erddo,
 
(Portia) I drin ei glwyf rhag gwaedu i farwolaeth.
(4, 0) 267 Oes sôn yn y cyfamod am wncud hyn?
(Portia) Nac oes, ond beth am hynny? Byddai'n dda
 
(Portia) Pe gwnaethit gymaint o gymwynasgarwch.
(4, 0) 270 Ni wclaf air o sôn yn y cyfamod.
(Portia) Tydi, farsiandwr, oni ddwedi ddim?
 
(4, 0) 304 Ffyddlondeb gwŷr Cristnogol! Mae gennyf ferch,—
(4, 0) 305 Gan Dduw na byddai un o hil Barabas
(4, 0) 306 Yn briod iddi o flaen gŵr o Gristion!
(4, 0) 307 Gwastraff ar amser prin! Ymlaen â'r ddedfryd!
(Portia) Ein dedfryd yw: Ti biau'r pwys o gnawd,
 
(Portia) —Trwy farn y llys, a chaniatâd y gyfraith.
(4, 0) 310 O farnwr teg!
(Portia) Mae'n rhaid it dorri'r cnawd oddi ar ei fron,
 
(Portia) —Trwy farn y llys a chaniatâd y gyfraith.
(4, 0) 313 O farnwr doeth! Tyred, ymbaratô.
(Portia) Aros am ennyd! Y mae un peth mwy.
 
(Gratiano) O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
(4, 0) 323 Ai dyna'r gyfraith?
(Portia) Darllen hi dy hun.
 
(Gratiano) O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth!
(4, 0) 328 Derbyniaf ynteu'i gynnig. Telwch im
(4, 0) 329 Deirgwaith y swm, a gedwch iddo fynd.
(Bassanio) Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn.
 
(Portia) Pam y petrusa'r Iddew? Mynn dy fforffed.
(4, 0) 346 Rhowch imi'r tair mil, a gadewch im fynd.
(Bassanio) Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw.
 
(Portia) Cyfiawnder iddo bellach a'i gyfamod!
(4, 0) 350 Oni chaf hyd yn oed y swm di-log?
(Portia) Ni chei di ddim ond y pwys cnawd fforffediwyd,
 
(Portia) A chymer hwnnw ar boen dy einioes, Iddew.
(4, 0) 353 Os felly, rhoed y diawl hwyl iddo arno.
(4, 0) 354 Ni thariaf yma i'm holi.
(Portia) Eto, arhô!
 
(Portia) O ran y dref,—ac nid o ran Antonio.
(4, 0) 383 Na; ewch â'm heinioes. Ewch â'r cyfan. Ewch!
(4, 0) 384 Aethoch â'm tŷ pan aethoch chwi â'r golofn
(4, 0) 385 Sy'n dal fy nhŷ; do, aethoch chwi â'm bywyd
(4, 0) 386 Pan aethoch chwi â'r modd oedd genny' i fyw.
(Portia) Antonio, pa drugaredd a roit ti iddo?
 
(Portia) A wyt ti'n fodlon, Iddew? Beth a ddwedi?
(4, 0) 404 'R wy'n fodlon.
(Portia) Glerc, tynn allan ffurf o weithred.
 
(Portia) Glerc, tynn allan ffurf o weithred.
(4, 0) 406 Atolwg, caniatewch i mi fynd ymaith:
(4, 0) 407 Nid wyf yn dda; danfonwch hi ar f'ôl
(4, 0) 408 Ac fe'i harwyddaf.