Ffrois

Ciw-restr ar gyfer Ellen

(Martha) {Yn codi ei phen.}
 
(Martha) Ellen.
(1, 0) 15 Martha─wrth dy hunan?
(Martha) Na, ma nhw lan llofft, yn partoi.
 
(Martha) Na, ma nhw lan llofft, yn partoi.
(1, 0) 17 Partoi ar gyfar beth?
(Martha) Ma William yn mynd i'r seiat.
 
(Martha) Ma William yn mynd i'r seiat.
(1, 0) 19 Oti, fe-ginta.
(Martha) A ma Miriam yn mynd i'r "pictures."
 
(Martha) A ma Miriam yn mynd i'r "pictures."
(1, 0) 21 Hm─a John?
(Martha) Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd.
 
(1, 0) 24 A nawr, 'rwyt ti'n dyfalu beth wy'n moyn 'ma heno?
(Martha) {Gan wenu.}
 
(Martha) Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl.
(1, 0) 27 Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal.
(1, 0) 28 Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy?
(Martha) Gwn; y wechad ar ucian o Fai.
 
(Martha) Gwn; y wechad ar ucian o Fai.
(1, 0) 30 Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai?
(Martha) Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna.
 
(Martha) Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna.
(1, 0) 32 'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy |silver wedding| di.
(1, 0) 33 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath?
(Martha) Otw, bid siwr.
 
(Martha) {Egyr gwpwrdd y dresser gan ddangos y ffrois.}
(1, 0) 40 Ffrois!
(1, 0) 41 Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois.
(Martha) Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a?
 
(Martha) Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a?
(1, 0) 43 Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion.
(1, 0) 44 Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar.
(Martha) Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg.
 
(Martha) Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o |fuss|, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno.
(1, 0) 47 Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti?
(Martha) 'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─
 
(Martha) 'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─
(1, 0) 49 Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─
(Martha) Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William.
 
(Martha) Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William.
(1, 0) 51 O'r gora, ond fe weta gymant a hyn.
(1, 0) 52 Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt |silver wedding| geson ni.
(Martha) Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd.
 
(Martha) Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd.
(1, 0) 54 Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano?
(Martha) Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod.
 
(Martha) Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod.
(1, 0) 56 Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma.
(1, 0) 57 A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy |silver wedding| di.
(Martha) Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed.
 
(1, 0) 60 Ia, teulu ryfadd ych-chi, a chreatur ryfadd wyt titha, Martha.
(1, 0) 61 Ond dyna, 'rodd mam wastod yn gwed mai ti odd yr hynota o'r plant.
(1, 0) 62 Wn-i beth wetsa hi tsa hi'n gallu dy weld di heno, acha noswaith fel hon.
(Martha) {Yn syml.}
 
(1, 0) 66 Wyt-ti'n cretu y gall hi'n gweld ni ar y ddaear 'ma heno, tia fi?
(Martha) {Yn hollol ddidaro.}
 
(Martha) Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding.
(1, 0) 70 Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi.
(Martha) {Yn foddhaus.}
 
(Martha) Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam?
(1, 0) 73 Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di.
(1, 0) 74 Pan y byddi di'n edrych arno-i amball waith, 'dwy'n gweld dim ond mam.
(1, 0) 75 Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud.
(Martha) Fydda-i byth yn depyg i mam.
 
(Martha) Menyw dda iawn odd mam.
(1, 0) 78 Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod.
(1, 0) 79 Os yw hi'n gallu'n gweld ni heno, wn-i yn y byd beth ma hi'n feddwl.
(1, 0) 80 All hi ddim bod yn folon iawn.
(Martha) Pam?
 
(Martha) Pam?
(1, 0) 82 Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd.
(1, 0) 83 Y fi gas y bywyd esmwyth, prioti'n dda, a morwn wastod wrth law.
(1, 0) 84 Edrych ar yn nwylo gwynon i, na nethon-nhw ddwarnod o waith calad ariod, a edrych ar dy rai ditha, sy byth yn secur ond pan y byddi di'n cysgu.
(1, 0) 85 'Rwyt ti wedi gwitho dy fêr a d'esgyrn, ddydd ar ol dydd, a thrwy'r dydd, ar hyd y blynydda; fe ddest a phlant i'r byd, a fuast ti ddim heb weld gofid.
(1, 0) 86 Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga.
(Martha) 'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─
 
(1, 0) 89 Paid a sôn, paid a sôn!
(1, 0) 90 Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc.
(Martha) Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen.
 
(1, 0) 93 Ond dyna.
 
(1, 0) 95 Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa?
(Martha) Ia, cystlad ag ariod.
 
(1, 0) 98 A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di!
(Martha) Ia.
 
(Martha) Ia.
(1, 0) 100 Pwy altrodd hi i ti?
(Martha) Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni.
 
(Martha) Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni.
(1, 0) 102 A 'rwy'n câl dod 'ma heno?
(Martha) Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd?
 
(Martha) Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd?
(1, 0) 104 Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma.
(1, 0) 105 Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti?
(Martha) Yn barod i beth?
 
(Martha) Yn barod i beth?
(1, 0) 107 I'r swpar heno, bid siwr.
(Martha) 'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol.
 
(Martha) 'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol.
(1, 0) 109 Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin?
(Martha) Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd.
 
(Martha) Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd.
(1, 0) 111 Y ti wyt ti, a ti fyddi di!
(1, 0) 112 Beth ga-i ddod yn bresant i ti?
(Martha) 'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen.
 
(Martha) 'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen.
(1, 0) 114 Raid i ti gâl rwpath.
(1, 0) 115 Beth licsat-ti gâl?
(Martha) {Yn betrusgar.}
 
(1, 0) 119 Ia.
(Martha) Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─
 
(Martha) Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─
(1, 0) 121 O─chai di ddim o'r llestri.
(1, 0) 122 Chymswn i ddim can punt am rheina.
(Martha) A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis.
 
(Martha) A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis.
(1, 0) 124 Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti.
(Martha) Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i.
 
(Martha) Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i.
(1, 0) 126 O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno.
(1, 0) 127 Ble ma Miriam?
 
(1, 0) 129 Miriam!
(Miriam) Ia, motryb.
 
(Miriam) Ia, motryb.
(1, 0) 131 Ar ol i ti gwpla gwishgo, wy-i am i ti ddod i'n tŷ ni.
(Miriam) I beth?
 
(Miriam) I beth?
(1, 0) 133 Wath i ti beth.
(1, 0) 134 Wyt ti'n diall?
(Miriam) {Yn ufudd.}
 
(Miriam) O'r gora, motryb.
(1, 0) 137 John, dera ditha hefyd.
(John) {Oddiuchod.}
 
(John) Alla-i ddim a dod heno.
(1, 0) 140 Ma'n rhaid i ti ddod.
(1, 0) 141 Cofia nawr.
(John) {Yn anfodlon.}
 
(1, 0) 147 Fydd 'na ddim |fuss|.
(1, 0) 148 On-i'n meddwl ma fel hyn y bydda petha, a 'rwy wedi partoi ryw 'chydig ar dy gyfar di.
(1, 0) 149 Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon.
(Martha) Fe allsa dyn neud llawar i wath peth.
 
(Martha) Fe allsa dyn neud llawar i wath peth.
(1, 0) 151 O, dyna ti eto─
 
(1, 0) 153 Ble ma fa?
(Martha) {Yn ei hafal.}
 
(Martha) Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi.
(1, 0) 156 Fel mynnot-ti.
(1, 0) 157 Dyma fi'n mynd nawr; fe fydda-i 'nol cyn hir.
(William) {Gan esgus sibrwd.}
 
(1, 0) 522 'Rwy i wedi dy weld di lawar i dro yn depyg i mam, ond heno, â'r shôl 'na ar dy war, fuas bron a chretu i bod hi o flan yn llyced i.
(William) Dyna fe, lwchi, am wn i nag yw'r Brenin Mawr yn gofalu am restar o fama da, o genhedlath i genhedlath, a ma nhw i gyd yn ryfadd o depyg.
 
(Miriam) Welwch-chi, mam, beth sy gen-i man hyn?
(1, 0) 539 On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno.
(Martha) Wyt ti'n garetig iawn, Ellen.
 
(1, 0) 545 Dyma fe.
 
(1, 0) 548 Beth wyt-ti'n whilo?
(Martha) On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─
 
(Martha) On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─
(1, 0) 550 O ia, y cŵn oddiar y mamplis.
(1, 0) 551 Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn?
(Martha) Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi!
 
(Martha) Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi!
(1, 0) 554 Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr.
(1, 0) 555 Catw nhw i Miriam.
(John) {Yn codi'r tebot yn drwsgl.}
 
(Martha) 'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa!
(1, 0) 563 Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon.
(Martha) {Yn fwy cymodol.}
 
(1, 0) 573 Ia, raid i ti ishta lawr heno.
 
(William) Nawr!
(1, 0) 589 Os gen-ti ddim gwell cyllath na hon i dorri bara?
(Martha) {Yn codi'n chwim.}
 
(Martha) Gad i fi dorri fa.
(1, 0) 592 Na, rho gyllath arall i fi.
(William) Gadewch iddi; mae wedi torri'r |record|.
 
(William) Fe ishteddws man'na yn secur am funad lawn a phawb arall yn gwitho.
(1, 0) 597 Wel, ma popath yn barod nawr.
(1, 0) 598 (Yn nesu at y bwrdd.)
(1, 0) 599 Ble gaf fì ishta, man hyn?
 
(1, 0) 601 Gadewch i fi fod yn fam am unwaith.