Ffrois

Ciw-restr ar gyfer Martha

 
(1, 0) 14 Ellen.
(Ellen) Martha─wrth dy hunan?
 
(Ellen) Martha─wrth dy hunan?
(1, 0) 16 Na, ma nhw lan llofft, yn partoi.
(Ellen) Partoi ar gyfar beth?
 
(Ellen) Partoi ar gyfar beth?
(1, 0) 18 Ma William yn mynd i'r seiat.
(Ellen) Oti, fe-ginta.
 
(Ellen) Oti, fe-ginta.
(1, 0) 20 A ma Miriam yn mynd i'r "pictures."
(Ellen) Hm─a John?
 
(Ellen) Hm─a John?
(1, 0) 22 Wn-i ddim yn gwmws ble ma John yn mynd.
(Ellen) {Yn eistedd.}
 
(1, 0) 26 Dim ond roi tro i'n gweld ni, 'llwn feddwl.
(Ellen) Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal.
 
(Ellen) Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy?
(1, 0) 29 Gwn; y wechad ar ucian o Fai.
(Ellen) Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai?
 
(Ellen) Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai?
(1, 0) 31 Cofio, wel am otw, dyna ddydd priotas William a finna.
(Ellen) 'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy |silver wedding| di.
 
(Ellen) 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath?
(1, 0) 34 Otw, bid siwr.
 
(1, 0) 36 'Rwy wedi gneud nhw.
 
(1, 0) 38 Wel di?
 
(Ellen) Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois.
(1, 0) 42 Wel, ma silver wedding rwpath yn depyg i ben blwydd, nag-yw-a?
(Ellen) Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion.
 
(Ellen) Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar.
(1, 0) 45 Ellen fach, on-ni'n meddwl dim drwg.
(1, 0) 46 Fe wyddast o'r gora nag wy-i byth am ryw lawar o |fuss|, a 'dos dim isha i fi wed fod croeso calon i ti ddod 'ma heno.
(Ellen) Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti?
 
(Ellen) Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti?
(1, 0) 48 'Dyw-a ddim wedi son dim hyd yn hyn; fe wyddast shwt ma William─
(Ellen) Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─
 
(Ellen) Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─
(1, 0) 50 Nawr Ellen, 'dwy-i ddim yn mynd i wrando arnot ti'n gwed dim yn erbyn William.
(Ellen) O'r gora, ond fe weta gymant a hyn.
 
(Ellen) Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt |silver wedding| geson ni.
(1, 0) 53 Do, fe gesoch-chi |silver wedding| hyfryd.
(Ellen) Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano?
 
(Ellen) Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano?
(1, 0) 55 Nagyn: ond dyna, plant yw plant, wel-di, a 'dwy-i ddim yn cretu y gwyddan nhw'r dwarnod.
(Ellen) Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma.
 
(Ellen) A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy |silver wedding| di.
(1, 0) 58 Bydd wrth gwrs 'ny, ond 'rwy'n bwriatu câl ticyn o ddifyrrwch gita nhw cyn gwed.
(Ellen) {Yn syllu arni.}
 
(1, 0) 64 Mwy na thepyg y gall hi ngweld i.
(Ellen) {Hytrach yn gyffrous.}
 
(1, 0) 68 Pam lai!
(1, 0) 69 Ond 'dwy-i ddim yn cofio i mam ariod gâl silver wedding.
(Ellen) Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi.
 
(1, 0) 72 Ag 'rwyt ti'n cretu mod i'n depyg i mam?
(Ellen) Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di.
 
(Ellen) Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud.
(1, 0) 76 Fydda-i byth yn depyg i mam.
(1, 0) 77 Menyw dda iawn odd mam.
(Ellen) Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod.
 
(Ellen) All hi ddim bod yn folon iawn.
(1, 0) 81 Pam?
(Ellen) Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd.
 
(Ellen) Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga.
(1, 0) 87 'Rwy'n falch iawn mod i'n fam i blant, a 'rwy wedi gofitio lawar na fysat titha─
(Ellen) {Yn bruddaidd.}
 
(Ellen) Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc.
(1, 0) 91 Rwyt ti'n wilia'n ryfadd iawn heno, Ellen.
(Ellen) {Yn ysgwyd ei phen.}
 
(Ellen) Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa?
(1, 0) 96 Ia, cystlad ag ariod.
(Ellen) {Yn manylu ar ei gŵn.}
 
(Ellen) A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di!
(1, 0) 99 Ia.
(Ellen) Pwy altrodd hi i ti?
 
(Ellen) Pwy altrodd hi i ti?
(1, 0) 101 Y fi─ond 'dodd fawr gwaith altro arni.
(Ellen) A 'rwy'n câl dod 'ma heno?
 
(Ellen) A 'rwy'n câl dod 'ma heno?
(1, 0) 103 Wel, am wyt, a falla y daw Robert hefyd?
(Ellen) Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma.
 
(Ellen) Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti?
(1, 0) 106 Yn barod i beth?
(Ellen) I'r swpar heno, bid siwr.
 
(Ellen) I'r swpar heno, bid siwr.
(1, 0) 108 'Don-i ddim wedi meddwl mynd i'r rwm genol.
(Ellen) Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin?
 
(Ellen) Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin?
(1, 0) 110 Wel, man hyn 'rwy wedi bod yn ymdroi, yn mynd a dod, ar hyd y blynydda, dyma lle macson-ni'r plant, a phan daw William 'nol o'r gwaith yn y dwetydd, yn y cornal man'na y bydd a'n byta'i fwyd.
(Ellen) Y ti wyt ti, a ti fyddi di!
 
(Ellen) Beth ga-i ddod yn bresant i ti?
(1, 0) 113 'Dwy-i ddim yn disgwl presant, Ellen.
(Ellen) Raid i ti gâl rwpath.
 
(1, 0) 117 Ma gen-ti rai petha adews mam i ti, fe fysa'n dda gen-i gâl un o rheiny.
(Ellen) {Yn crychu ei thalcen.}
 
(Ellen) Ia.
(1, 0) 120 Dyna'r hen set lestri tê glas a gwyn─
(Ellen) O─chai di ddim o'r llestri.
 
(Ellen) Chymswn i ddim can punt am rheina.
(1, 0) 123 A dyna'r ddou gi |china| sy gen-ti ar y mamplis.
(Ellen) Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti.
 
(Ellen) Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti.
(1, 0) 125 Chai di ddim gwario deg punt ar yn ran i.
(Ellen) O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno.
 
(John) O─o'r gora.
(1, 0) 144 Beth wyt ti'n mynd i neud nawr?
(1, 0) 145 Cofia, 'dwy-i ddim am unrhyw |fuss|.
(Ellen) {Yn dod oddiwrth y grisiau.}
 
(Ellen) Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon.
(1, 0) 150 Fe allsa dyn neud llawar i wath peth.
(Ellen) O, dyna ti eto─
 
(1, 0) 155 Nawr Ellen, 'dwy-i ddim am i ti wed gair wrth William; gad-ti hynna i fi.
(Ellen) Fel mynnot-ti.
 
(William) Oti-ddi wedi mynd?
(1, 0) 163 Oti.
(William) {Yn disgyn.}
 
(William) Fyswn-i wedi dod lawr ond {braidd yn sarhaus} allswn-i ddim dod o hyd i'm |dressing-gown|.
(1, 0) 166 Pam ych-chi wastod yn gwed petha cas am Ellen?
(William) Beth wetas-i'n gas?
 
(William) {Yn gwenu.}
(1, 0) 169 Ma Robert yn gwishgo |dressing-gown|, 'rwy'n cyfadda─ond ma fa ar y |Council|, ag yn |J.P.|, a os na all |J.P.| wishgo |dressing-gown|, ma hi wedi mynd!
(William) {Yn sylwi ar MARTHA.}
 
(William) Otych-chi'n mynd mas?
(1, 0) 172 Nagw-i─pam?
(William) {Yn syllu'n famwl.}
 
(Miriam) Mam, ble ma'm |blouse| las i?
(1, 0) 177 Ble gadewast ti ddi ddwetha?
(Miriam) O─dyw-hi ddim man'ny nawr.
 
(William) Wyr y grotan 'na byth ble ma hi'n gatal dim byd.
(1, 0) 180 Fe'i dotas hi yn y dror cenol.
(William) {Yn edrych ar y cloc.}
 
(William) Ble ma'n scitsha-i, otyn nhw'n lân?
(1, 0) 184 Otyn, ma nhw man'na o dan y sciw.
(John) {Oddiuchod.}
 
(John) Mam, ble ma'r colar odd gen i dwetydd ddo?
(1, 0) 187 Yn y golch; cymar un glan.
(William) 'Rych-chi wedi bratu'r hen blant 'na, Martha.
 
(William) Dos 'ma ddim i'w glwad o fora tan nos ond "Mam, ble ma'r peth hyn?" a "Mam, ble ma'r peth arall?"
(1, 0) 190 Falla mod i yn wir.
(William) {Yn chwilio.}
 
(William) Nawr, ble ma'n spectol i?
(1, 0) 193 Fe'i gadawsoch hi ar ffenast y sculeri; dyna 'i ar y ford fach.
(William) {Yn clymu carrai ei esgidiau.}
 
(William) Seiat bwysig iawn─'dych chi ddim yn dod?
(1, 0) 197 Na, ddim heno, William.
(William) 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha.
 
(William) 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha.
(1, 0) 199 Otw, falla; ond yn ddweddar, ar ddiwadd y dydd, 'rwy wedi blino cymant, wn i ddim p'am, ond ma'n well gen i gymeryd spel man hyn ar yr aelwd.
(William) Henant, 'llwn feddwl, henant.
 
(William) Dyna hi eto!
(1, 0) 204 Ia.
(Miriam) Symudsoch-chi riban y ngwallt-i rwla?
 
(William) Shwt gall dyn feddwl a thrio cofio, a thitha'n gwiddi bob yn ail funad.
(1, 0) 208 Fe'i gadewast a yn y gecin nithwr gita'r cripa.
(1, 0) 209 Ma nhw lawr 'ma.
(William) Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan.
 
(William) Rwy'n cretu i fi ddoti-a yn y llyfyr hymna.
(1, 0) 213 Fe'i gadawsoch-a ar y ford nos Fawrth.
(1, 0) 214 Ma-fa o dan y canhwyllharn bach nawr.
(Miriam) {Yn troi yn chwym oddiwrth y drych.}
 
(Miriam) O─a ble 'r ych chi'n mynd?
(1, 0) 219 'Dwy-i ddim yn mynd i unman.
(Miriam) 'Rych-chi'n |smart| iawn heno.
 
(Miriam) 'Dwy-i ddim wedi gweld hon gita chi o'r blan.
(1, 0) 225 Fe gysgast lawar i awr ar honna pan ot ti'n fabi.
(William) A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant.
 
(William) A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant.
(1, 0) 227 Yn y Beibl mawr ar y ffenast rhwng Matthew a Marc.
(Miriam) Dress newydd hefyd.
 
(Miriam) Dyma wlanen hyfryd, ble prynsoch-chi ddi?
(1, 0) 230 'Dyw hi ddim yn newydd iawn.
(1, 0) 231 William, otych-chi'n napod hon?
(William) 'Dos gen-i ddim amsar i farnu dresses nawr.
 
(1, 0) 236 O, ma-hi gen-i ers cetyn.
(Miriam) On-ni'n mynd i ofyn i chi am bin gwallt.
 
(Miriam) Os un gita chi?
(1, 0) 240 Os, cymar un o'r ochor arall.
(William) Alli-di ddim gatal dy fam yn llonydd?
 
(John) Ble ma'n scitsha i?
(1, 0) 246 Fe'u helas nhw sha'r crydd.
(1, 0) 247 Ma un o nhw'n gillwng dŵr, nag-os-a?
(John) Dim felny.
 
(John) Dim felny.
(1, 0) 249 Gwishg dy scitsha Sul.
(John) {Yn parhau edrych arni.}
 
(John) Mynd i'r capal?
(1, 0) 252 Nagw.
(John) Mynd mas ta?
 
(John) Mynd mas ta?
(1, 0) 254 Nagw-i.
(John) Ma ticyn odwtsh yndo chi heno, nagos-a?
 
(John) Helo!
(1, 0) 267 Beth sy'n bod?
(John) 'Rwy'n gallu gwynto─'rwy'n gallu gwynto ffrois.
 
(1, 0) 274 Falla fod Mrs. Jones drws nesa yn gneud ffrois.
(William) Martha, fe wyddoch o'r gora fod cystlad gen i weld platad o ffrois at y ford a dim.
 
(William) A pheth arall, ma hi'n siwr o fod yn bryd i rywun gâl pen 'i flwydd yn y tŷ 'ma!
(1, 0) 277 O, fe gewch rai, cyn hir.
(William) {Yn sbio ar ei goesau.}
 
(William) Ar bost y gwely y ceso-i a.
(1, 0) 283 Ryfadd iawn, ontefa?
(William) {Yn edrych yn ddrwgdybus.}
 
(William) Beth gynllwn sy'n bod 'ma heno?
(1, 0) 287 Dim byd.
(William) Odd y trwsis hyn ddim ar bost y gwely y bora ma.
 
(William) A mwy na hynny, odd y petha hyn yn yn nrwsis dwetydd i ddo.
(1, 0) 291 Wel─wel ma'ch dillad dwetydd chi dicyn yn gomon nawr, a'rwy wedi bod yn cisho 'u gwella nhw.
(Miriam) A 'dos dim isha i chi fod yn fwy comon na'r aelota erill, John Harris a Shencin Jones.
 
(William) Na 'na.
(1, 0) 299 Wy-i am i chi wishgo rhain heno.
(William) Wel, pam?
 
(1, 0) 302 Dim ond─dim ond am y mod i'n gofyn i chi─dyna i gyd.
(William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno.
 
(William) Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno.
(1, 0) 306 Miriam, 'rwy am i ti fynd â rhain at Mrs. Pwal.
(1, 0) 307 Ma hi'n mynd i Dreforgan yfory, a fe foddlonws fynd a pharsal i Annie dy whar.
(William) Ho─parsal arall!
 
(William) Ho─parsal arall!
(1, 0) 309 'Dych-chi ddim yn folon William?
(1, 0) 310 I'ch merch chi'ch hunan ma fa, neu i'r rhai bach, ta-pun.
(William) Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant.
 
(William) Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant.
(1, 0) 312 Pitwch a wilia mor ffol.
(William) Welas-i ariod o'ch tepyg chi, Martha.
 
(John) Ble ma'r sâm gwydd?
(1, 0) 322 Dos dim isha i ti wherthin ar ben gwlanen goch a sâm gwydd; fe achubson dy fywyd di unwaith, ondofa William?
(William) Do, am wn-i'n wir.
 
(William) Do, am wn-i'n wir.
(1, 0) 324 Do fa, do, ama babi bach Annie yn peswch a pheswch a 'dyw'r doctor yn gneud dim lles iddo fa.
(John) {Yn gafaelyd yn y napcyn ffrois.}
 
(1, 0) 328 Wath i ti beth sy yndo fa.
 
(1, 0) 330 Ma 'na flouse glân i ti yn y rwm genol.
(Miriam) Rwy wedi gwishgo hwn nawr; ma-fa'n itha glân.
 
(Miriam) Rwy wedi gwishgo hwn nawr; ma-fa'n itha glân.
(1, 0) 332 Wyddast-ti yn y byd pwy gwrddi di yn nhŷ dy fotryb.
(1, 0) 333 Newid-a.
 
(1, 0) 336 Titha, John, wy-i am i ti fynd â rhain i'r post.
(William) {Wrth weld y dillad.}
 
(William) Nawr, Martha, fe addawsoch y tro dwetha y celsa Gomar hela'i ddillad i'r golch yn Aberystwyth fel rhyw fachgan arall.
(1, 0) 339 'Dyw'r landris 'na ddim yn crasu'r dillad fel y dylsan-nhw.
 
(1, 0) 341 Dewch, scrifennwch |address| ar hwnna.
(William) Pryd smwddsoch-chi rheina?
 
(William) Pryd smwddsoch-chi rheina?
(1, 0) 343 Pwy waniath pryd?
(1, 0) 344 Ma nhw'n barod nawr.
(William) Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny.
 
(William) Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny.
(1, 0) 346 Wel, odd rhaid 'i gneud nhw, ond odd-a?
(William) {Yn sgrifennu.}
 
(1, 0) 353 Da ti gad betha'n llonydd.
 
(1, 0) 355 Nid dyma'r crys gest-ti yn y drôr gwilod.
(John) Ia.
 
(John) Ia.
(1, 0) 357 Wyt ti'n siwr?
(1, 0) 358 Dangos y llawas i fi.
 
(1, 0) 360 Ia, dyna fe.
(William) A dyma fi'n bratu'm hamsar man hyn pan y dylswn-i fod ar y ffordd i'r capal.
 
(William) Beth odd hwnnw?
(1, 0) 370 Llythyr oddiwrth y Cwrdd Mishol.
(William) O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i.
 
(William) O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i.
(1, 0) 372 Nag-yw, ma-fa yn y got 'na, y bocad frest 'r ochor with.
(William) {Â'r papur yn ei law.}
 
(1, 0) 380 Rych chi'n weddol iawn.
(William) {Yn troi at y tân i gynneu ei bibell.}
 
(William) Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr.
(1, 0) 385 Otych, ond falla na cheso-i ddim gafal arnoch chi miwn pryd.
 
(1, 0) 387 Beth sy'n bod, William?
(William) {Yn ei lywodraethu es hun.}
 
(William) Pam ych-chi'n gwishgo honna heno?
(1, 0) 392 Gwell i fi 'i gwisgho hi na gatal i'r pryfad 'i byta hi.
(John) {Yn parhau i syllu.}
 
(1, 0) 396 la.
(John) Sefwch 'n ol dicyn bach.
 
(John) Dyna fe.
(1, 0) 400 Beth sy'n bod?
(John) {Gydag argyhoeddiad.}
 
(Miriam) Dyna hyfryd ych chi'n dishgwl yn hen shôl mamgu!
(1, 0) 410 Beth sy arnoch chi bobun?
 
(1, 0) 412 Rhowch lonydd i fi.
(William) {Yn lleddf a charedig.}
 
(William) Dim ond hannar gair, ym merch-i, a fe arhosa i yn y tŷ gita chi.
(1, 0) 416 Na, na, wy'n teimlo o'r gora.
(1, 0) 417 Cerwch chi i'r capal.
(Miriam) Ble ma'r parsal 'na?
 
(William) Wn-i beth wetan-nhw yn y seiat pan welan-nhw fi yn y nillad gora acha nos Iou.
(1, 0) 424 Wetan-nhw ddim byd.
(1, 0) 425 Fe gretan ych bod chi wedi bod mewn ryw anglodd.
(John) {Yn gellweirus.}
 
(John) Beth yw-a?
(1, 0) 434 Der di 'nol ar ol bod yn nhŷ dy fotryb: gai di weld wed'ny.
(John) Wy am wpod nawr.
 
(1, 0) 437 Na, ddim nawr.
(John) {Yn mynd allan.}
 
(William) Pwy sy'n câl 'i ben blwydd heddy?
(1, 0) 449 Allwch-chi ddim meddwl, William?
(William) Fe ddylswn fod yn gwpod hefyd.
 
(William) Nid John, na ma John ym mish Hytra.
(1, 0) 452 Na─nid John.
(William) Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam?
 
(William) Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam?
(1, 0) 454 Nid Annie na Miriam.
(William) Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill.
 
(William) Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill.
(1, 0) 456 Ia.
(William) {Yn wyllt.}
 
(1, 0) 462 Otych, William, 'rych chi ym mish Awst.
(William) Wel, 'dos 'ma neb arall.
 
(William) Penblwydd pwy yw-a?
(1, 0) 466 Penblwydd hon, William.
(1, 0) 467 Bum mlynadd ar ucian i heddy fe ddodsoch y fotrw 'na ar ym mys i.
(William) {Braidd yn gloff.}
 
(William) A dyma'n─dyma'n |silver wedding| ni, iefa?
(1, 0) 472 Ma cyfrifon yr Ysgol Sul tu cefan i'r cloc.
(William) {Wedi colli ei lais arferol, rywfodd.}
 
(William) Fysa dim llawar─fysa dim llawar─i chi─i chi─
(1, 0) 476 I fi wed rwpath, William?
(William) Na, nid felna chwaith.
 
(1, 0) 480 Dyna, dyna─on-i ddim yn meddwl rhoi teimlad i chi.
(1, 0) 481 Dych chi byth yn meddwl am betha felna, 'rwy'n gwpod.
(William) Na, fysa'n fawr i fi gofio!
 
(William) Na, fysa'n fawr i fi gofio!
(1, 0) 484 Ma'n ddrwg gen-i, William, mod i heb wed rwpath wrtho-chi.
(William) Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl.
 
(William) Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl.
(1, 0) 487 Fuws eriod wraig fwy hapus na fi, William.
(William) Odd John yn itha iawn; dodd dim glanach crotan na chi yn y cymdogaetha.
 
(William) A fe ddetho-i â chi o genol y wlad, oddiwrth y dolydd a'r caea, i fwg a lluwch du y cwm hyn.
(1, 0) 490 Fe adewsoch chitha'r blatur a'r arad i drafod mandral a rhaw'r pwll glo.
(William) Ia, pum mlynadd ar ucian.
 
(William) A dyna hi!
(1, 0) 495 Ia, dyma hi.
(William) 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio.
 
(William) 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio.
(1, 0) 497 Dyna, dyna─'dos dim raid i chi ofitio.
(William) Tswn i wedi meddwl, fe fysa gen-i ryw bresant bach i chi.
 
(1, 0) 500 'Dos gen i ddim un presant i chi, a 'dwy inna ddim yn disgwl presant oddiwrtho chitha.
(William) Fe rows Robert lestri arian i Ellen.
 
(William) Fe rows Robert lestri arian i Ellen.
(1, 0) 502 Do, do, ond 'dyn ni ddim 'r un peth.
(William) Nagyn, 'dyn ni ddim yr un peth.
 
(William) Ma'ch bocha chi'n welw nawr, ych gwallt yn britho, ych llyced chi'n pylu, a welwch chi'r rhygna 'na sy ar ych gruddia chi─dyna ôl y ddylad sy arnon-ni i chi, y fi a'r plant.
(1, 0) 506 Beth am y creitha glo sy ar ych gwynab chitha, y cymala poenus, a'r peswch aiff â chi i'r bedd yng nghynt na phryd?
(1, 0) 507 Lawr yn y pwll glo y cesoch chi rheina, wrth gisho ennill tamad i ni, i'r plant a fi.
(1, 0) 508 Na William, 'dos dim raid i'n bath ni i brynu presants i'n gilydd.
(Miriam) Mam fach, pam na fysach chi'n gwed rwpath?
 
(1, 0) 515 Os, John, paid roi cusan i fi nawr─heno─cyn 'rai di i'r gwely.
(William) {Wrth weled ELLEN.}
 
(1, 0) 531 Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul?
(William) Gadewch nhw fod tu cefan i'r cloc.
 
(Ellen) On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno.
(1, 0) 540 Wyt ti'n garetig iawn, Ellen.
(William) {Yn dod â'r ffrois i'r bwrdd.}
 
(William) Dewch ymlan, dewch ymlan.
(1, 0) 543 Arhoswch i fi gâl plat arall.
(Ellen) {Yn cymryd un o'r fasged.}
 
(Ellen) Beth wyt-ti'n whilo?
(1, 0) 549 On i'n meddwl─fe wetast─fe wetast y delsat-ti a─
(Ellen) O ia, y cŵn oddiar y mamplis.
 
(Ellen) Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn?
(1, 0) 553 Wyt-ti ddim yn rhoi rheina i fi!
(Ellen) Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr.
 
(1, 0) 559 John, gofala ar dy fywyd!
(1, 0) 560 Ma 'na grac yn y ddolan.
 
(1, 0) 562 'Rwyt ti wedi 'i gwiro fa!
(Ellen) Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon.
 
(1, 0) 565 Ond wrth gwrs, fe fydd yn gryfach.
(John) {Wrth ei fam.}
 
(1, 0) 578 Ma fa ar yr ail |shelf| miwn─
(William) {Â'i ddwylo ar ei hysgwyddau.}
 
(1, 0) 582 ─miwn cwtyn glas.
(John) Yn mh'un o rhain ma'r llath |right|?
 
(1, 0) 586 Hwnna yn dy law dde di.
(William) {Yn ei gorfodi i eistedd.}
 
(1, 0) 591 Gad i fi dorri fa.
(Ellen) Na, rho gyllath arall i fi.
 
(William) Os 'na rwpath yn isha?
(1, 0) 606 Os.
(William) Ag i bwy ma rheina?
 
(William) Ag i bwy ma rheina?
(1, 0) 609 All Gomar a Annie ddim bod 'ma, fe wn, ond 'rwy am weld 'u cwpana nhw ar y ford.
 
(William) Wel?
(1, 0) 613 Ag 'ma 'na un arall.
(William) {Yn lleddf.}
 
(1, 0) 617 Mwy na thepyg 'i bod hi 'ma.
(1, 0) 618 Synnwn-i fawr na ddath mam â hi.