Ffrwd Ceinwen

Ciw-restr ar gyfer Barry

(Dei) {Ar y ffôn.}
 
(Dwynwen) Be ar wynab y ddaear ydi'r holl sŵn 'ma?
(1, 1) 832 'I glywad o o dop lôn myn diawl.
(Dwynwen) {Wrth MEILIR.}
 
(Meilir) Ydw.
(1, 1) 839 Gest ti siwrna go lew?
(Meilir) Di-fai.
 
(Dwynwen) A 'dan ni'n gwbod pwy, tydan?
(1, 1) 845 Rhwbath bach i ti.
(Dona) Chwara teg.
 
(Dona) Chwara teg.
(1, 1) 848 Agor o.
(Dwynwen) Barry ddaru 'i dewis hi.
 
(Dwynwen) Barry ddaru 'i dewis hi.
(1, 1) 852 Gweld hi yn y boutique newydd 'na wrth ymyl capal Pen-dre.
(Dwynwen) Dos i fyny i thrio hi, inni ga'l 'i gweld hi amdanat ti.
 
(Dona) Rŵan 'lly?
(1, 1) 855 Wel ia, siŵr dduw...
(1, 1) 856 Ydi Tudur yma?
(Dona) Nac 'di.
 
(Dona) Ca'l 'i warchod.
(1, 1) 859 Eto?
(1, 1) 860 Pryd ddiawl geith 'i daid 'i weld o?
(Dona) A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma?
 
(Dona) A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma?
(1, 1) 863 Hon, 'mechan i.
(Dona) Ddylach chi ddim.
 
(Dona) Ddylach chi ddim.
(1, 1) 865 Dos i newid a paid â chwyno.
(Dwynwen) Pam na 'nei di gyfadda?
 
(Dwynwen) Chdi dy hun o'dd isio hi, te?
(1, 1) 869 Pawb hawl i ga'l ail blentyndod mechan i.
(1, 1) 870 Y?
 
(1, 1) 872 Be ti'n ddeud?
(Meilir) Oes, ma' siŵr.
 
(Dwynwen) Gofyn i Barry 'ma.
(1, 1) 878 Pam gofyn i mi?
(Dwynwen) Dy faes carafan di ydi o.
 
(Dwynwen) Dy faes carafan di ydi o.
(1, 1) 880 Oreit, oreit.
(1, 1) 881 Gwario 'dw i.
(1, 1) 882 Pawb isio steil dyddia yma, tydyn?
(1, 1) 883 Y?
(1, 1) 884 Showers a ballu.
(1, 1) 885 'Neith pobol ddim mo'i ryffio hi heddiw.
(1, 1) 886 Isio'u blydi cysuron.
(1, 1) 887 Y job lot.
(1, 1) 888 Gwahanol iawn i fel bydda hi stalwm.
(1, 1) 889 'Dw i'n cofio Mair a finna pan o'dd Arthur yn fabi...
(Dwynwen) {Yn gwenu.}
 
(Dwynwen) 'Dw i ddim isio'i chlywad hi.
(1, 1) 892 Pam?
(Dwynwen) Ma 'hi'n ffia'dd.
 
(Dwynwen) Ma 'hi'n ffia'dd.
(1, 1) 894 Dydi o ddim 'di chlywad hi, nac 'di?
(1, 1) 895 Mair a finna yn penderfynu rhentu carafan tu allan i Aberaeron.
(1, 1) 896 Do'ddan ni ddim isio mynd yn bell.
(1, 1) 897 Babi o'dd Arthur.
(1, 1) 898 Cyrraedd yno'n hwyr ryw nos Sadwrn.
(1, 1) 899 Sôn am uffar o le.
(1, 1) 900 Dim toilets.
(1, 1) 901 Dim showers.
(1, 1) 902 Bygyr ôl.
(1, 1) 903 Aethon ni adra ar ôl tridia.
(1, 1) 904 Pwy welis i ond Elis Huws Plas.
(1, 1) 905 Fo a'i wraig, newydd fod ar cruise o gwmpas Jamaica.
(1, 1) 906 "Sut a'th yr holidays Wilias?" medda fo.
(1, 1) 907 "Uffernol", medda fi.
(1, 1) 908 Dyma fi'n disgrifio'r twll lle 'ma gaethon ni yn Aberaeron.
(1, 1) 909 Ti'n gwbod be ddeudodd o?
(Meilir) Na wn i.
 
(Meilir) Na wn i.
(1, 1) 911 "Ylwch, Wilias bach", medda fo, "dach chi'n ddyn sy'n gweithio fath â slaf drw'r flwyddyn.
(1, 1) 912 Pam ddiawl 'dach chi'n mynd i ffwrdd i rwla am wsnos jest i gachu mewn pwcad?"
 
(Dwynwen) Twt lol, Barry.
(1, 1) 915 Deud y gwir, toedd?
(1, 1) 916 Y?
(1, 1) 917 Sbiis i ddim ar garafan wedyn.
(1, 1) 918 Sbaen fuo hi bob blwyddyn ar ôl hynny.
(1, 1) 919 Ond ma' rhei o'r petha Lerpwl ma'n ciwio i fynd iddyn nhw.
(1, 1) 920 "Iawn", medda fi, "os ma' dyna be 'dach chi isio, pob croeso ichi'r ffernols."
(1, 1) 921 Ond ma' hyd yn oed y diawlad rheini 'di dechra molchi rŵan.
(1, 1) 922 Isio'r job lot ar blât...
(1, 1) 923 A be ydi dy hanas di dyddia yma?
(1, 1) 924 Dal yng Nghaerdydd 'na?
(Meilir) Ydw.
 
(Meilir) Ydw.
(1, 1) 926 Fydda' i yng Nghaerdydd yn amal, 'bydda Dwynwen?
(Dwynwen) Byddi.
 
(Dwynwen) Byddi.
(1, 1) 928 Blydi cyfarfodydd.
(1, 1) 929 'Nes i alw heibio'r coleg 'cw fythefnos nôl ond do'ddat ti ddim ar gyfyl y lle.
(1, 1) 930 Yr ysgrifenyddes 'na sy gynnoch chi'n cau deud wrtha'i ble ro'ddat ti.
(1, 1) 931 Lle ro'ddat ti felly?
(Meilir) Yn y labordy ma' siŵr.
 
(Meilir) Yn y labordy ma' siŵr.
(1, 1) 933 Pam na fasa hi wedi deud hynny wrtha'i, ta?
(1, 1) 934 Hulpan.
(1, 1) 935 Peth hyll ar y diawl hefyd.
(1, 1) 936 Do's 'na ddim genod del o gwmpas Caerdydd 'na, d'wad?
(Meilir) Ma' hi'n ysgrifenyddes ardderchog.
 
(Meilir) Ma' hi'n ysgrifenyddes ardderchog.
(1, 1) 938 Pan fydda i'n chwilio am rywun i deipio imi, mi fydda i'n chwilio am rywun del, yli.
(1, 1) 939 Uffar ots be sy'n i phen hi.
(1, 1) 940 Peth braf ydi cerddad i mewn i swyddfa yn y bora a rhywun del yn dy wynebu di hefo gwên.
(1, 1) 941 Gneud gwahania'th, sti?
(1, 1) 942 Pobol yn gweithio'n well.
(1, 1) 943 Hapusach yli.
(1, 1) 944 Mi faswn i'n ca'l gwarad â honna ffordd gynta.
(1, 1) 945 Rhoid y lôn i'r garglan.
 
(1, 1) 947 Ydan ni wedi dwad â bob dim o'r car, d'wad?
(Dwynwen) Do, heblaw am y taflenni ar gyfar heno.
 
(Dwynwen) Do, heblaw am y taflenni ar gyfar heno.
(1, 1) 949 Lle ma'n nhw?
(Dwynwen) Mewn bocs yn y bŵt.
 
(1, 1) 952 Picia i nôl nhw, gwael.
 
(1, 1) 956 Handi.
(Meilir) Ydi, handi ar y naw.
 
(Meilir) Ydi, handi ar y naw.
(1, 1) 958 D'rofun prynu un o'r rhein.
(1, 1) 959 Petha drud?
(Meilir) Tua mil.
 
(Meilir) Tua mil.
(1, 1) 961 Drytach na'r petha mawr 'ma, 'lly?
(Meilir) Costio mwy i 'gneud nhw meddan nhw i mi.
 
(Meilir) Peidiwch â twtsiad hwnna!
(1, 1) 966 Pam?
(Meilir) 'Dw i ar ganol gneud rhwbath.
 
(Meilir) 'Dw i ar ganol gneud rhwbath.
(1, 1) 968 Sori, sori.
 
(1, 1) 970 Sych ar y diawl, tydi?
(Dwynwen) Mae o wedi dreifio o Gaerdydd, cofia.
 
(Dwynwen) Mae o wedi dreifio o Gaerdydd, cofia.
(1, 1) 972 Gneud hynny yn 'y nghwsg, 'chan.
(Dwynwen) Bora bach hyfryd.
 
(Dwynwen) Bora bach hyfryd.
(1, 1) 974 Joio dy hun?
(Dwynwen) Do.
 
(Dwynwen) Y petha 'ma... do'dd dim rhaid gwario'n wirion arnan ni.
(1, 1) 979 Tara'r gôt 'na brynis i iti amdanat.
(Dwynwen) Aros inni ga'l panad, wir.
 
(Dwynwen) Aros inni ga'l panad, wir.
(1, 1) 981 Ty'd laen.
(1, 1) 982 'Dw i isio 'i gweld hi.
(Dwynwen) {Wedi blino.}
 
(Dwynwen) Barry.
(1, 1) 985 Ma' gin i hawl i weld be ges i am ddau gan punt.
(Dwynwen) Mi welist ti hi amdana' i yn y siop.
 
(Dwynwen) Mi welist ti hi amdana' i yn y siop.
(1, 1) 987 Ddim yn iawn.
(1, 1) 988 Rhyw hen ola rhyfadd yna.
 
(1, 1) 990 Ia...
(1, 1) 991 Du ydi hi, te?
(Dwynwen) Ia, du.
 
(Dei) Ma' hi'n rhy wlyb.
(1, 1) 997 Chdi sy 'di bod yn stompio, te?
(1, 1) 998 Y?
(Dei) Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid?
 
(Dei) Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid?
(1, 1) 1000 Gad hi tan fory.
(1, 1) 1001 Ella sychith hi...
(1, 1) 1002 Lecio hi?
(1, 1) 1003 Y?
(Dei) Be?
 
(Dei) Be?
(1, 1) 1005 'I chôt hi.
(Dwynwen) {Yn flin.}
 
(Dei) Del iawn, Mrs Davies.
(1, 1) 1010 Dau gant, washi.
(Dei) {Mewn syndod.}
 
(Dei) {Mae DEI ar fin mynd.}
(1, 1) 1014 Paid â mynd.
(1, 1) 1015 Paid â mynd.
(Dei) Pam?
 
(Dei) Pam?
(1, 1) 1017 Gin i rwbath i ddangos iti.
(Dei) Be?
 
(Dei) Be?
(1, 1) 1019 Aros am funud.
 
(1, 1) 1021 Ddeudis i wrthat ti mod i am brynu un i Tudur, do?
(Dwynwen) Lle ti'n mynd?
 
(Dwynwen) Lle ti'n mynd?
(1, 1) 1023 I' thrio hi, te?
 
(1, 1) 1025 Caria hi imi, gwael.
(Dei) Ew.
 
(Dei) Cwch bach handi 'chan.
(1, 1) 1029 Ydi dy facha di'n lân?
 
(1, 1) 1031 Ty'd â hi yma...
(1, 1) 1032 Sglyfa'th!...
(1, 1) 1033 Gneud diawl o ddim ond mocha yn y lle 'ma...
(Dwynwen) O, ma' hi'n hyfryd, Dona.
 
(Meilir) A be wedyn, mam?
(1, 1) 1129 Dydi'r diawl peth ddim yn gweithio.
(Dwynwen) Be ddim yn gweithio?
 
(Dwynwen) Be ddim yn gweithio?
(1, 1) 1131 Hwn, te?
 
(1, 1) 1133 Does na ddim blydi batris yn'o fo.
 
(1, 1) 1135 Sbia, yli...
(Meilir) {Yn ddiamynedd.}
 
(1, 1) 1139 Ti'n wyddonydd?
(1, 1) 1140 Be 'dw i fod i 'neud?
(1, 1) 1141 Presant ydi hwn i fod.
 
(1, 1) 1143 Oes 'na fatris yn y blydi lle 'ma?
(Dwynwen) Duw a ŵyr.
 
(Dwynwen) Duw a ŵyr.
(1, 1) 1145 Pam ti 'di tynnu'r gôt 'na?
(Dwynwen) Ro'n i'n mynd i' hongian hi.
 
(1, 1) 1148 Lecio hi?
(Dwynwen) {Ar y ffôn.}
 
(1, 1) 1155 'Nest ti mo f'atab i.
(Meilir) Be ddaru chi ofyn imi?
 
(1, 1) 1161 Wyt ti'n lecio'r gôt?
(Meilir) Anghyffredin.
 
(Dwynwen) Ma'r cyfarfod coffa 'ma gynnon ni heno, tydi?
(1, 1) 1166 Du.
(Meilir) Ia, du...
 
(Dwynwen) Hwyl, Iwan.
(1, 1) 1172 Mi fydd yn gyfarfod champion...
(1, 1) 1173 |Degannwy|.
(1, 1) 1174 Tôn bach hyfryd, 'chan.
(1, 1) 1175 Fydda Mair wrth 'i bodd hefo |Degannwy|.
(1, 1) 1176 Rhwbath glân, syml yn'i hi, toes?
(1, 1) 1177 Y?...
 
(1, 1) 1179 ~
(1, 1) 1180 "Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw
(1, 1) 1181 Lle daw im help wyllysgar."
(Meilir) Well imi nôl petrol.
 
(Meilir) Mi fydd rhaid imi gychwyn ben bora.
(1, 1) 1185 Be ydi'r brys?
(Meilir) Gwaith.
 
(Meilir) Gwaith.
(1, 1) 1187 Y busnas geneteg 'ma?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) Y busnes geneteg 'ma.
(1, 1) 1190 Ydi o'n wir, 'lly?
(Meilir) Be'n wir?
 
(Meilir) Be'n wir?
(1, 1) 1192 Y byddwch chi a'ch tebyg, mhen rhyw 'chydig flynyddo'dd yn medru, be ddiawl ydi'r gair, tra-arglwyddiaethu ar yr hen fyd 'ma?
(1, 1) 1193 Rhoid trefn ar y dam lle unwaith ac am byth.
(Meilir) 'Dw i ddim yn meddwl.
 
(Meilir) 'Dw i ddim yn meddwl.
(1, 1) 1195 Papura 'ma'n deud c'lwydda felly?