Ffrwd Ceinwen

Ciw-restr ar gyfer Dei

 
(1, 1) 35 Helo?...
(1, 1) 36 Dei.
(1, 1) 37 Dei Edwards.
(1, 1) 38 Ffonio chi o Sir Fôn...
(1, 1) 39 Ia, isio record...
(1, 1) 40 Rŵan 'lly?...
(1, 1) 41 Ia, iawn.
(Radio) John ac Alun...
 
(Radio) Ti 'na?
(1, 1) 57 Ydw.
(Radio) Meddwl bo chdi 'di rhedag yn ôl i dy dwll 'chan.
 
(Radio) O le ti'n ffonio, Dei?
(1, 1) 60 O Sir Fôn.
(Radio) Un arall o wlad y medra.
 
(Radio) Un arall o wlad y medra.
(1, 1) 62 Ia...
(1, 1) 63 Isio record 'dw i.
(Radio) Newydd fod yn siarad hefo Gloria.
 
(Radio) Nabod hi?
(1, 1) 66 Nac'dw.
(Radio) Hogan ar y diawl, Gloria.
 
(Radio) Ti'n lecio jam riwbob, Dei?
(1, 1) 70 Nac'dw.
(Radio) Pa jam ti'n lecio?
 
(Radio) Pa jam ti'n lecio?
(1, 1) 72 Fydda i ddim yn lecio jam.
(Radio) O'n i'n meddwl fod pawb yn lecio jam.
 
(Radio) Ti'n dal yna?
(1, 1) 81 Ydw.
(Radio) O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio?
 
(Radio) O ble'n union yn Sir Fôn ti'n ffonio?
(1, 1) 83 Rhosceinwen.
(Radio) Lle ma' fanno?
 
(Radio) Lle ma' fanno?
(1, 1) 85 Ddim yn bell o Niwbwrch.
(Radio) Hen le go lew, 'lly?
 
(Radio) Hen le go lew, 'lly?
(1, 1) 87 Ma' siŵr.
(Radio) Ydyn nhw'n lecio jam cwsberis yna?
 
(1, 1) 90 'D wn i'm duw.
(Radio) Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei?
 
(Radio) Be fasat ti'n lecio'i glywad Dei?
(1, 1) 92 Rhwbath gin Islwyn Davies.
(Radio) Ma'n ddrwg gin i?
 
(Radio) Ma'n ddrwg gin i?
(1, 1) 94 Islwyn Davies.
(1, 1) 95 Cyfansoddwr o'r sir 'ma.
(1, 1) 96 Fuo fo farw bum mlynadd nôl.
(1, 1) 97 Ma'n nhw'n dadorchuddio plac er co' amdano fo yn y pentra 'ma heno.
(1, 1) 98 A deud y gwir, y darn faswn i'n lecio'i glywad fasa 'i drefniant o o |Gob Malltraeth|.
(Radio) Cob lle?
 
(Radio) Cob lle?
(1, 1) 100 Cob Malltraeth.
(Radio) O, Malltraeth.
 
(1, 1) 130 Chwilio am dy fam.
(Dona) Dydi hi ddim yma.
 
(Dona) Be sy 'lly?
(1, 1) 135 Gwlyb ydi hi yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 136 Dydw i ddim isio stompio'r lle efo'r JCB 'na.
(1, 1) 137 Ond be arall 'na i?
(Dona) Paid â gofyn i mi.
 
(Dona) Mi fyddan nhw'n ôl munud, ma' siŵr.
(1, 1) 141 Be 'dw i fod i 'neud?
(1, 1) 142 Bwrw mlaen?
(1, 1) 143 Stomp fydd hi.
(1, 1) 144 Y pridd yn rhy feddal.
(1, 1) 145 I 'neud job iawn ma' gofyn rhoid llwythi o goncrit yna, sti?
(1, 1) 146 Stompio diawl ydi peth fel hyn.
(Dona) Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di?
 
(Dona) A'r lle 'ma ar fin ca'l 'i werthu.
(1, 1) 150 Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o?
(Dona) Duw a ŵyr.
 
(Dona) Rhyw syndicate o'r Wirral.
(1, 1) 153 Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi?
(Dona) Wn i'm.
 
(Dona) Dallt dim.
(1, 1) 157 Pa flwyddyn o'dd hi?
(Dona) Be?
 
(Dona) Be?
(1, 1) 159 Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|?
(Dona) Rhywbryd yn niwadd y chwe dega.
 
(Dona) Rhywbryd yn niwadd y chwe dega.
(1, 1) 162 Pan o'dd o'n darlithio ym Mangor.
(1, 1) 163 Mi ddoth yno yn 1969, do?
(1, 1) 164 Do, bendant...
(1, 1) 165 Be sy?
(1, 1) 166 'Di synnu wyt ti?
(Dona) Synnu?
 
(Dona) Synnu?
(1, 1) 168 Synnu mod i'n gwbod y petha ma?
(Dona) Pawb at y peth y bo.
 
(Dona) Pawb at y peth y bo.
(1, 1) 170 Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn?
(Dona) Na wn i.
 
(Dona) Na wn i.
(1, 1) 172 Picio ben bora i Gaer.
(1, 1) 173 Parcio'r car wrth yr afon a'i gneud hi'n syth bin am HMV.
(1, 1) 174 Mi arhosa i yno am ryw ddwyawr, jest yn gwrando ar weithia'r mawrion.
(1, 1) 175 Ia 'chan, y mawrion.
(1, 1) 176 Tua'r un ar ddeg 'ma mi a' i am goffi i ryw le bach Italian wrth ymyl yr eglw's gadeiriol.
(1, 1) 177 Boi o Verona sy' bia fo.
(1, 1) 178 Ti 'di bod yn Verona?
 
(1, 1) 180 Rhaid i ti fynd.
(1, 1) 181 Uffar o amffitheatr fawr yno.
(1, 1) 182 Operâu drwy'r ha' yn yr awyr agorad.
(1, 1) 183 O'n i yno llynadd.
(1, 1) 184 Welis i |Aida|.
(1, 1) 185 Iawn.
(1, 1) 186 Gormod o sbloets i mi ond ro'dd hi'n noson braf ar y diawl.
(1, 1) 187 Jest pobol yn enjoio'u huna'n.
(1, 1) 188 Tu allan i'r amffitheatr ma' 'na piazza mawr.
(1, 1) 189 Caffis a ballu.
(1, 1) 190 Ar ôl y perfformiad fues i yno'n ista am oria...
(1, 1) 191 Lle o'n i?
(1, 1) 192 O, ia, ca'l panad yng Nghaer.
(1, 1) 193 Ar ôl llyncu'r banad mi a' i'n ôl i'r siop.
 
(1, 1) 196 Be ydi hon?
(1, 1) 197 Cân newydd?
(Dona) Ia.
 
(Dona) Ia.
(1, 1) 199 Fawr o siâp arni, nac oes?...
(1, 1) 200 Rhei pobol yn medru chwara honna'n iawn, sti?...
(1, 1) 201 Am faint fuost ti yn y Guildhall na?
 
(1, 1) 204 Be ddeudis i?...
(1, 1) 205 Dim ond gofyn 'nes i...
(Meilir) Cob Malltraeth.
 
(Meilir) Cob Malltraeth.
(1, 1) 217 'Dw i'n gwella ma' raid.
(Meilir) Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi.
 
(Meilir) Peidwch â gada'l imi'ch styrbio chi.
(1, 1) 219 Potsian o'n i.
(1, 1) 220 Disgwl i'ch mam ddwad nôl o Fangor...
(1, 1) 221 Gneud rhyw joban 'dw i iddi.
(Meilir) Chi pia'r...?
 
(Meilir) Chi pia'r...?
(1, 1) 223 JCB.
(1, 1) 224 Ia...
(1, 1) 225 Dei.
(1, 1) 226 Dei Edwards.
(1, 1) 227 Mi fydda nhad yn cadw'r garej stalwm.
(1, 1) 228 Cofio?
(Meilir) Tomi.
 
(Meilir) Tomi.
(1, 1) 230 Ia, Tomi...
(1, 1) 231 Meilir, te?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) Ia.
(1, 1) 233 Y darlithydd?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) Ia.
(1, 1) 235 Caerdydd?
(Meilir) Ar hyn o bryd beth bynnag.
 
(Meilir) Ar hyn o bryd beth bynnag.
(1, 1) 237 Braf arnach chi.
(Meilir) Pam 'dach chi'n deud hynna?
 
(Meilir) Pam 'dach chi'n deud hynna?
(1, 1) 239 Digon o gyngherdda 'na, toes?
(Meilir) Oes, ma' siŵr.
 
(Meilir) Oes, ma' siŵr.
(1, 1) 241 Diawl o ddim byd rownd ffor'ma, chi?
(1, 1) 242 Weithia, ma' 'na rwbath go lew ymlaen yn y coleg.
(1, 1) 243 Ond yn y sir 'ma?
(1, 1) 244 Diawl o ddim.
(1, 1) 245 Bygyr ôl.
(1, 1) 246 Dim ond pensionïars yn puo emyna mewn steddfoda a karaoke yn y Crown nos Sadwrn.
(Meilir) Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna?
 
(Meilir) Be'n union dach chi'n 'neud allan yn fanna?
(1, 1) 248 Cwestiwn da ar y diawl.
(Meilir) Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo?
 
(Meilir) Y ffrwd 'na sy 'di gorlifo?
(1, 1) 251 Ia a naci.
(1, 1) 252 Pryd fuoch chi yma ddwytha, d'wch?
(Meilir) Dolig?
 
(Meilir) Dolig?
(1, 1) 254 O'n i'n ama.
(1, 1) 255 Mi benderfynodd ych mam 'i bod hi isio creu llyn yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 256 Atal lli'r ffrwd drw' godi argae bridd.
(Meilir) I be?
 
(Meilir) I be?
(1, 1) 258 Fydda i ddim yn gofyn cwestiyna, dim ond gneud fel ma' pobol yn ddeud wrtha'i.
(1, 1) 259 Job ydi job, ond, myn diawl, ma' hon yn mynd yn drech na rhywun.
(1, 1) 260 Rhy wlyb tydi?
(1, 1) 261 Pridd yn rhy feddal.
(1, 1) 262 Ma'r dŵr 'di dechra torri trwadd wrth y clawdd 'na.
(1, 1) 263 Mi fydd Lôn Bacsia 'na'n llifo pan ddoith hi'n law.
(1, 1) 264 Ac mi fydd Jac Tŷ Gwyn yn chwara'r diawl.
(1, 1) 265 Rhyngthoch chi a fi, mocha diawl ydi peth fel hyn a dim byd arall.
(1, 1) 266 Lluchio pres.
(Meilir) E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu.
 
(Meilir) E'lla bod nelo fo rwbath â'r gwerthu.
(1, 1) 268 E'lla.
(Meilir) Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn?
 
(Meilir) Rhyw betha fel hyn yn codi gwerth llefydd, tydyn?
(1, 1) 270 Ma' siŵr.
(Meilir) Ond mae o'n beth hurt ar y naw i' ga'l, a chitha'n gwynebu'r môr, tydi?
 
(Meilir) Neb adra 'lly?
(1, 1) 274 Ma' Dona 'ma.
(Meilir) Lle ma' hi?
 
(Meilir) Lle ma' hi?
(1, 1) 276 Fyny grisia.
(Meilir) Ydi 'mrawd wedi cyrraedd?
 
(Meilir) Ydi 'mrawd wedi cyrraedd?
(1, 1) 278 'Dw i ddim yn meddwl...
(1, 1) 279 Gewch chi ddewis ych llofft felly.
(Meilir) Wel caf, caf?
 
(Meilir) Wel caf, caf?
(1, 1) 281 Thâl hyn ddim.
(1, 1) 282 Mi fedra i fwrw mlaen hefo'r peipia 'na, medra?
 
(1, 1) 285 Ges i uffar o feirniada'th dda gynno fo, 'chi?
(Meilir) Gin bwy?
 
(Meilir) Gin bwy?
(1, 1) 287 Ych tad.
(1, 1) 288 Ga'th o wahoddiad i feirniadu yn steddfod 'r ysgol.
(1, 1) 289 Unawd bechgyn dan bymthag.
(1, 1) 290 Un o'i ganeuon o'i hun o'dd y darn.
(1, 1) 291 'Llyn Cerrig Bach'.
(1, 1) 292 Hen ddarn digon anodd i lais ifanc ond, myn diawl, ges i gynta gynno fo.
(1, 1) 293 A beirniada'th.
(1, 1) 294 Mi fynnodd draddodi'r feirniada'th.
(1, 1) 295 Yr unig un draddododd o drw' gydol y steddfod.
(1, 1) 296 Isio imi fynd am wersi canu...
(1, 1) 297 Mynd i goleg cerdd a ballu.
(1, 1) 298 Uffar o hwb i rywun ar y pryd.
(1, 1) 299 Oedd 'chan.
(1, 1) 300 Hwb ar ar y diawl.
(Meilir) Pam na fasach chi wedi mynd?
 
(Meilir) Pam na fasach chi wedi mynd?
(1, 1) 302 A'th nhad yn giami, do?
(1, 1) 303 Rhwbath ar yr iau.
(1, 1) 304 Naethon nhw ddim byd ond 'i agor o fath â macrall a'i gau o.
(1, 1) 305 Blydi doctoriad.
(1, 1) 306 Cofio un ohonyn nhw'n galw mam a finna' i ryw 'stafall.
(1, 1) 307 "Ma'n ddrwg gynnon ni Mrs.Edwards.
(1, 1) 308 'Fedrwn i 'neud dim byd iddo fo."
(1, 1) 309 dyma fo'n troi ar i sowdwl a'i gluo hi allan.
(1, 1) 310 Y peth nesa' o'n i'n 'i glywad o'n chwerthin ar y coridor hefo rhyw ddoctor arall.
(1, 1) 311 Sais.
(1, 1) 312 Sôn am Baron Hill a rhyw golff a ballu.
(1, 1) 313 'I weld o'n beth rhyfadd i neud a mam o fewn deg llath iddo fo'n beichio crio.
(1, 1) 314 Ia, blydi doctoriad.
(1, 1) 315 Arglwydd, rhaid imi watsiad be 'dw i'n ddeud.
(1, 1) 316 'Dach chi'n ddoctor, tydach?
(Meilir) Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes.
 
(Meilir) Nac 'dw, ond gweithio'n yr un maes.
(1, 1) 318 Be 'lly?
(Meilir) Geneteg.
 
(Meilir) Geneteg.
(1, 1) 320 'Genes' a ballu, ia?
(Meilir) 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly?
 
(Meilir) 'Dach chi wedi clywad am y petha 'ma felly?
(1, 1) 322 Uffar o ddim byd arall yn y papura ma' dyddia yma, nac o's?...
(1, 1) 323 Ta waeth, ro'dd rhaid i rywun gymryd y garej, toedd?
(1, 1) 324 Fel 'a ma' hi, ond myn diawl ro'dd o'n beth braf gwbod bod o ynach chi...
(1, 1) 325 Yn yr hen 'genes' 'ma, te?
(Meilir) Wel, ia.
 
(Meilir) {Mae MEILIR yn edrych ar y piano am ennyd.}
(1, 1) 328 |Cob Malltraeth|.
(1, 1) 329 Uffar o gân.
(Meilir) Claire?...
 
(Meilir) O.
(1, 1) 587 Dwad yma i dwtio 'nes i, ddim i blydi 'redig.
(1, 1) 588 Ylwch?
(1, 1) 589 Lawnt ydi honna i fod.
(Dona) Isio panad?
 
(Dona) Isio panad?
(1, 1) 591 Wna'i ddim gwrthod.
(Dona) Meilir.
 
(Dona) Dowch i mewn.
(1, 1) 595 Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw.
(Dona) Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna.
 
(Dona) Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna.
(1, 1) 597 Fedri di ddiodda'r ogla?
(Dona) {Wrth DEI.}
 
(Dona) Coffi 'ta te?
(1, 1) 600 Coffi.
(1, 1) 601 A gwna fo'n gry'.
 
(1, 1) 605 Stomp fel hyn ddim yn mynd i godi gwerth y lle 'ma, nac 'di?
(1, 1) 606 Y?
(1, 1) 607 Blydi syniad lloerig.
(1, 1) 608 Ffrydia.
(1, 1) 609 Petha rhyfadd ar y diawl.
(1, 1) 610 Fel tasa gynnyn nhw'u hewyllys 'u huna'n.
 
(1, 1) 612 Betia i chi, pan ddo'i yma ben bora fory, mi fydd 'na dros droedfadd o ddŵr ar y blydi lôn 'na.
(1, 1) 613 'Dw i 'di cario tunelli at y clawdd 'na'n barod.
(1, 1) 614 Gneud diawl o ddim gwahania'th.
(1, 1) 615 Be 'dach chi'n chwara?
(Meilir) |Ffrwd Ceinwen|.
 
(Meilir) |Ffrwd Ceinwen|.
(1, 1) 617 Gwaith ych tad 'lly?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) Ia.
(1, 1) 619 'Chlywis i 'rioed amdani.
(Meilir) 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi.
 
(Meilir) 'Nath o rioed 'i chyhoeddi hi.
(1, 1) 621 Gwahanol rywsut, tydi?
(1, 1) 622 Hynny ydi, gwahanol i'r petha er'ill gyfansoddodd o.
 
(1, 1) 624 Sori...
(1, 1) 625 Cariwch ymlaen.
(Meilir) Na.
 
(Meilir) Fedra i ddim yn 'y myw gofio'r gweddill.
(1, 1) 628 Pam?
(Meilir) Wn i'm.
 
(Meilir) Y cwbwl ar chwâl, rywsut.
(1, 1) 632 'Sgynnoch chi gopi ohoni?
(Meilir) Oes, yn y stydi 'cw'n rhwla.
 
(Meilir) Yng nghanol y nialwch.
(1, 1) 635 'Dach chi'n un blêr?
(Meilir) Gythreulig.
 
(Meilir) Be sy' mor ddoniol?
(1, 1) 639 Ddim yn disgwl i chi ddeud gair fel 'na.
(Meilir) Pam?
 
(Meilir) Pam?
(1, 1) 641 Wn i'm.
(1, 1) 642 Swnio mor, be fasa'r gair, gartrefol?
(1, 1) 643 Hen ffasiwn?
(1, 1) 644 Fath â tasach chi rioed wedi gada'l y lle 'ma.
(Meilir) Ges i 'magu yma.
 
(Meilir) Ges i 'magu yma.
(1, 1) 646 Do...
(1, 1) 647 O'dd o'n siomedig?
(Meilir) Pwy?
 
(Meilir) Pwy?
(1, 1) 649 Ych tad.
(Meilir) Ynglŷn â be?
 
(Meilir) Ynglŷn â be?
(1, 1) 651 Na 'naethoch chi ddim mynd yn gerddor?
(Meilir) Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed.
 
(Meilir) Os o'dd o, ddeudodd o 'rioed.
(1, 1) 653 Meindio i mi ofyn 'lly... sut geuthoch chi afa'l ar y diwn 'ma, ta?
(Meilir) Fo roth hi imi.
 
(Meilir) Fo roth hi imi.
(1, 1) 655 Pryd?
(Meilir) Rhyw fis cyn iddo fo farw.
 
(Meilir) Duw a ŵyr lle taris i hi.
(1, 1) 676 E'lla ma yn yr anorac 'na mae hi?
(Meilir) E'lla...
 
(Meilir) Barry Williams?
(1, 1) 679 Be amdano fo?
(Meilir) Nabod o?
 
(Meilir) Nabod o?
(1, 1) 681 'Dw i'n gweithio iddo fo, tydw?
(Meilir) Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona.
 
(Meilir) Mam a fynta'n dipyn o lawia, medda Dona.
(1, 1) 683 Dyna ddeudodd madam?
(Meilir) Ma 'na fwy iddi na hynny, toes?
 
(Meilir) Ma 'na fwy iddi na hynny, toes?
(1, 1) 685 Ylwch, dim ond dwad yma i weithio 'dw i.
(Meilir) Syniad pwy o'dd gwerthu'r lle 'ma?
 
(Meilir) Fo ta hi?
(1, 1) 688 Ylwch, do's 'nelo fo'm byd â fi...
(1, 1) 689 Ond, os cewch chi hyd i'r darn 'na, fasach chi'n fodlon anfon copi ata' i?
(Meilir) Atab 'y nghwestiwn i!
 
(Meilir) Ma'n ddrwg gin i.
(1, 1) 694 Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl.
(Dona) 'Ma chdi.
 
(Dwynwen) Ia, du.
(1, 1) 995 Fedra i 'neud dim byd yn y gwaelodion 'na.
(1, 1) 996 Ma' hi'n rhy wlyb.
(Barry) Chdi sy 'di bod yn stompio, te?
 
(Barry) Y?
(1, 1) 999 Ma'n rhaid inni ga'l at y llyn, rhaid?
(Barry) Gad hi tan fory.
 
(Barry) Y?
(1, 1) 1004 Be?
(Barry) 'I chôt hi.
 
(Dwynwen) Barry.
(1, 1) 1008 Del.
(1, 1) 1009 Del iawn, Mrs Davies.
(Barry) Dau gant, washi.
 
(1, 1) 1012 Arglwydd...
 
(Barry) Paid â mynd.
(1, 1) 1016 Pam?
(Barry) Gin i rwbath i ddangos iti.
 
(Barry) Gin i rwbath i ddangos iti.
(1, 1) 1018 Be?
(Barry) Aros am funud.
 
(Barry) Caria hi imi, gwael.
(1, 1) 1027 Ew.
(1, 1) 1028 Cwch bach handi 'chan.