Ffrwd Ceinwen

Ciw-restr ar gyfer Dona

(Dei) {Ar y ffôn.}
 
(Radio) Hogan a hannar Doreen.
(1, 1) 128 Be ti'n 'neud?
(Dei) {Yn llawn ffwdan.}
 
(Dei) Chwilio am dy fam.
(1, 1) 131 Dydi hi ddim yma.
(1, 1) 132 Ma' hi 'di picio i Fangor hefo Barry i nôl rhyw betha at heno.
(1, 1) 133 Pam?
(1, 1) 134 Be sy 'lly?
(Dei) Gwlyb ydi hi yn y gwaelodion 'na.
 
(Dei) Ond be arall 'na i?
(1, 1) 138 Paid â gofyn i mi.
(1, 1) 139 'Dw i'n dallt dim.
(1, 1) 140 Mi fyddan nhw'n ôl munud, ma' siŵr.
(Dei) Be 'dw i fod i 'neud?
 
(Dei) Stompio diawl ydi peth fel hyn.
(1, 1) 148 Gneud fawr o wahaniaeth, nac 'di?
(1, 1) 149 A'r lle 'ma ar fin ca'l 'i werthu.
(Dei) Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o?
 
(Dei) Pwy ydi'r bobol 'ma sy'n mynd i' brynu o?
(1, 1) 151 Duw a ŵyr.
(1, 1) 152 Rhyw syndicate o'r Wirral.
(Dei) Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi?
 
(Dei) Barry yn un ohonyn nhw ma' siŵr, tydi?
(1, 1) 154 Wn i'm.
(1, 1) 155 Fydda i byth yn holi.
(1, 1) 156 Dallt dim.
(Dei) Pa flwyddyn o'dd hi?
 
(Dei) Pa flwyddyn o'dd hi?
(1, 1) 158 Be?
(Dei) Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|?
 
(Dei) Pa flwyddyn cyfansoddodd o |Cob Malltraeth|?
(1, 1) 161 Rhywbryd yn niwadd y chwe dega.
(Dei) Pan o'dd o'n darlithio ym Mangor.
 
(Dei) 'Di synnu wyt ti?
(1, 1) 167 Synnu?
(Dei) Synnu mod i'n gwbod y petha ma?
 
(Dei) Synnu mod i'n gwbod y petha ma?
(1, 1) 169 Pawb at y peth y bo.
(Dei) Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn?
 
(Dei) Wyddost ti be fydda i'n 'neud ar ddydd Sadwrn?
(1, 1) 171 Na wn i.
(Dei) Picio ben bora i Gaer.
 
(Dei) Cân newydd?
(1, 1) 198 Ia.
(Dei) Fawr o siâp arni, nac oes?...
 
(Meilir) {Mae'n rhoi'r ffôn i lawr ac edrych ar DONA yn ymbalfalu yng nghanol y crynoddisgiau.}
(1, 1) 364 'Chlywis i mohonat ti'n cyrra'dd.
(Meilir) Newydd landio.
 
(Meilir) Newydd landio.
(1, 1) 366 Dy hun wyt ti?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) 'Nes i ddim dallt yn iawn.
(1, 1) 373 Mi faswn i 'di lecio'u gweld nhw.
(Meilir) Ia, wel, fel 'a ma' hi...
 
(Meilir) Faint o'r gloch ma'r cyfarfod 'ma?
(1, 1) 376 Tua'r saith 'ma.
(Meilir) Syniad gwallgo' pwy o'dd trefnu peth fel hyn?
 
(Meilir) Syniad gwallgo' pwy o'dd trefnu peth fel hyn?
(1, 1) 378 Rhyw bwyllgor placia ne' rwbath.
(Meilir) Be?
 
(Meilir) Be?
(1, 1) 380 Ma'n nhw'n rhoid plac ar gartrefi enwogion yr ynys 'ma.
(Meilir) Ond yn y capal ma'n nhw'n rhoid y plac er cof am dad.
 
(Meilir) Ond yn y capal ma'n nhw'n rhoid y plac er cof am dad.
(1, 1) 382 Dyna o'dd dymuniad mam.
(Meilir) Gwasanaeth crefyddol.
 
(Meilir) Gwasanaeth crefyddol.
(1, 1) 384 Ma' siŵr y medrat ti 'i alw fo'n hynny.
(Meilir) Pwy fydd yn cymryd y gwasanaeth 'ma?
 
(Meilir) Pwy fydd yn cymryd y gwasanaeth 'ma?
(1, 1) 386 Rhys.
(Meilir) Ydi o 'di cytuno 'lly?
 
(Meilir) Ydi o 'di cytuno 'lly?
(1, 1) 388 Am wn i...
(Meilir) Diddorol.
 
(Meilir) Diddorol.
(1, 1) 390 Pam?
(1, 1) 391 Pryd welist ti o ddwytha?
(Meilir) Rhys?
 
(Meilir) Ar 'i ffordd i weld rhyw sioe neu'i gilydd.
(1, 1) 404 O'dd o'n edrach yn hapus?
(Meilir) Edrach yn ddigon bodlon 'i fyd.
 
(1, 1) 410 Bydd, weithia.
(Meilir) Faint 'neith Tudur rŵan?
 
(Meilir) Faint 'neith Tudur rŵan?
(1, 1) 412 Pedair Dolig nesa.
(Meilir) Llond llaw?
 
(Meilir) Llond llaw?
(1, 1) 414 Ydi.
(Meilir) Mynd i'r ysgol feithrin?
 
(Meilir) Mynd i'r ysgol feithrin?
(1, 1) 416 Nac 'di.
(Meilir) Pam?
 
(Meilir) Pam?
(1, 1) 418 Ca'l 'i hel o'no, y tinllach bach drwg.
(Meilir) Lle mae o rŵan?
 
(Meilir) Lle mae o rŵan?
(1, 1) 420 Ca'l 'i warchod.
(Meilir) Gin bwy?
 
(Meilir) Gin bwy?
(1, 1) 422 Mrs Ashfield.
(1, 1) 423 Byw yn Tŷ Calch.
(1, 1) 424 Athrawes ydi hi ond yn methu ca'l gwaith.
(1, 1) 425 Dim Cymraeg gynni hi.
(1, 1) 426 Tudur wrth 'i fodd yna.
(1, 1) 427 Mi geith aros 'na heno.
(1, 1) 428 Ma' hi'n dda fel 'na.
(1, 1) 429 Dim byd yn ormod o draffarth iddi...
 
(Meilir) Dal i 'meio i twyt?
(1, 1) 446 Nac 'dw.
(Meilir) Ti'n dal i 'meio i am y busnas Arthur 'na twyt?
 
(Meilir) Ti'n dal i 'meio i am y busnas Arthur 'na twyt?
(1, 1) 448 Nac 'dw.
(Meilir) Trio achub dy groen di o'n i.
 
(Meilir) Trio achub dy groen di o'n i.
(1, 1) 450 Do'dd gin ti ddim hawl i 'myrryd.
(Meilir) Ro'dd o 'di hannar malu'r lle 'ma.
 
(Meilir) Ro'dd o 'di hannar malu'r lle 'ma.
(1, 1) 452 Dim hawl i fysnesu.
(Meilir) Ac wedi dy gicio di'n ddu las a chditha'n disgwl i blentyn o.
 
(Meilir) Be ddiawl o'n i fod i 'neud?
(1, 1) 455 Ddylat ti ddim fod wedi gada'l iddo fo ddreifio'r car.
(1, 1) 456 'Nest ti ddim hyd yn oed trio dal pen rheswm hefo fo.
(Meilir) Fedra neb ddal pen rheswm hefo fo.
 
(Meilir) Ro'dd o wedi meddwi, toedd?
(1, 1) 459 Duw, Duw.
(1, 1) 460 Hogia'r lle 'ma i gyd yn chwil rownd y rîl.
 
(1, 1) 462 'Nest ti sylwi ar y bloda?
(Meilir) Pa floda?
 
(Meilir) Pa floda?
(1, 1) 464 Ar y groeslon Pen Ffridd 'na, lle a'th Arthur ar 'i ben i'r wal.
(Meilir) Naddo.
 
(Meilir) Naddo.
(1, 1) 466 Bob dydd Sadwrn ma' Barry yn mynd â bloda yna.
(1, 1) 467 Parcio'r car wrth Ben Ffridd, croesi'r lôn a'u gosod nhw'n dwt wrth fôn y clawdd.
(1, 1) 468 Mi sefith yna am tua hannar awr yn gneud dim ond rhythu arnyn nhw...
(1, 1) 469 O'n i'n mynd heibio diwrnod o'r blaen...
(1, 1) 470 Rhwbath... gwag yn yr holl beth...
(1, 1) 471 Ond dyna fo... ro'dd o'n dad i Arthur, toedd?
(Meilir) Ydi Barry yn gwbod?
 
(Meilir) Ydi Barry yn gwbod?
(1, 1) 473 Am y noson honno?
(1, 1) 474 Nac 'di.
(1, 1) 475 Mae o'n dal i feddwl ma' ar y ffordd adra o'r Crown o'dd o.
(Meilir) Ŵyr o ddim ma' yma o'dd o?
 
(Meilir) Ŵyr o ddim ma' yma o'dd o?
(1, 1) 477 Na, a cheith o'm gwbod chwaith bellach.
(1, 1) 478 'Dw i ddim isio cynhyrfu'r dyfroedd.
(1, 1) 479 Ma' mam a fynta yn gymaint o lawia tydyn?
(Meilir) Be ti'n feddwl, 'llawia'?
 
(Meilir) Be ti'n feddwl, 'llawia'?
(1, 1) 481 I helpu hi i ga'l caniatâd cynllunio ar yr hen sgubor 'na a ballu.
(1, 1) 482 Barry yn ddyn go bwysig erbyn hyn.
(1, 1) 483 Nabod pawb.
(1, 1) 484 Rhan o sefydliad y twll lle 'ma.
(1, 1) 485 Dydi o ddim yn ddrwg i gyd.
(1, 1) 486 Rhwbath reit ffeind yn'o fo.
(1, 1) 487 Eith â Tudur ar wylia i rwla bob hyn a hyn...
(1, 1) 488 Ma' hynny'n rhoid cyfla i mi roid mwy o sylw i'r band...
(1, 1) 489 A fydda i ddim yma mewn chydig fisoedd, na fydda'?
(Meilir) O?
 
(Meilir) A lle ti'n mynd, 'lly?
(1, 1) 492 Brighton.
(Meilir) Brighton?
 
(Meilir) Brighton?
(1, 1) 494 Fanno ma'r rhan fwya o hogia'r band yn coleg.
(1, 1) 495 Ma'n nhw'n gorffan 'leni.
(1, 1) 496 'Dan ni wedi penderfynu byw yno.
(1, 1) 497 'Neith betha'n haws i bawb.
(Meilir) Petha ar i fyny?
 
(Meilir) Petha ar i fyny?
(1, 1) 499 Ydyn.
(Meilir) Ei di â Tudur hefo chdi?
 
(Meilir) Ei di â Tudur hefo chdi?
(1, 1) 501 E'lla gwna'i ada'l o hefo mam.
(1, 1) 502 Ga'i weld sut eith hi.
(Meilir) 'Dach chi wedi trafod y peth?
 
(Meilir) 'Dach chi wedi trafod y peth?
(1, 1) 504 Do...
(1, 1) 505 Fydd hi ddim yn broblem fawr a deud y gwir.
(1, 1) 506 Mi fydd Tudur yn dechra'n 'r ysgol gyda hyn...
(1, 1) 507 Ysgol breifat yn rhwla.
(Meilir) Ti'n sylweddoli faint 'neith hynny gostio?
 
(Meilir) Ti'n sylweddoli faint 'neith hynny gostio?
(1, 1) 509 Barry fasa'n talu.
(1, 1) 510 Isio gneud medda fo.
(Meilir) Lle eith o felly?
 
(Meilir) Lle eith o felly?
(1, 1) 512 Duw a ŵyr...
(1, 1) 513 A be ydi dy hanas di dyddia yma?
(Meilir) Newydd 'neud cais am gadair.
 
(Meilir) Newydd 'neud cais am gadair.
(1, 1) 515 Yng Nghaerdydd?
(Meilir) Naci.
 
(Meilir) Llundain.
(1, 1) 518 Meddwl cei di hi?
(Meilir) Siawns reit dda.
 
(Meilir) Siawns reit dda.
(1, 1) 520 Be ma' Eleri'n ddeud?
(Meilir) Cefnogol, fel arfar.
 
(Meilir) Cefnogol, fel arfar.
(1, 1) 522 Be tasa ti'n i cha'l hi?
(Meilir) Ia?
 
(Meilir) Wel?
(1, 1) 525 Wnâ' hi symud?
(Meilir) Ma' siŵr.
 
(Meilir) Ma' siŵr.
(1, 1) 527 Prinder athrawon yn Llundain meddan nhw.
(Meilir) Felly ma'n nhw'n deud.
 
(Meilir) Felly ma'n nhw'n deud.
(1, 1) 529 A'r plant?
(Meilir) Fydd hynny ddim problem.
 
(Meilir) Fydd hynny ddim problem.
(1, 1) 531 Pam?
(Meilir) O'n inna wedi bwriadu gyrru rhei 'cw i ysgol breswyl hefyd.
 
(Meilir) O'n inna wedi bwriadu gyrru rhei 'cw i ysgol breswyl hefyd.
(1, 1) 533 Tydan ni fel teulu'n codi'n y byd?
(Meilir) Ydan, tydan?
 
(Meilir) Be o'dd 'i henw hi d'wad?
(1, 1) 541 Yr 'Horse and Jockey'.
(Meilir) Gardd fawr yn y cefn i blant.
 
(Meilir) I have drunk, and seen the spider."
(1, 1) 556 The Winter's Tale.
(1, 1) 557 Leontes, Brenin Sisilia.
(Meilir) Gwybodaeth yn llwyr newid y byd.
 
(1, 1) 572 Helo?...
(1, 1) 573 O, Iwan, sut ma hi?...
(1, 1) 574 Be?
(1, 1) 575 Sori?...
(1, 1) 576 Pleidleisio?...
(1, 1) 577 Naddo...
(1, 1) 578 Ddo'i heibio nes ymlaen, reit?...
(1, 1) 579 Na, na...
(1, 1) 580 Pobol ddiarth sy gynnon ni...
(1, 1) 581 Hwyl.
(Meilir) Pwy o'dd 'na?
 
(Meilir) Pwy o'dd 'na?
(1, 1) 584 Rhyw foi yn gofyn o'ddwn i wedi pleidleisio.
(Meilir) O.
 
(Dei) Lawnt ydi honna i fod.
(1, 1) 590 Isio panad?
(Dei) Wna'i ddim gwrthod.
 
(Dei) Wna'i ddim gwrthod.
(1, 1) 592 Meilir.
(Meilir) Ia, iawn.
 
(Meilir) Ia, iawn.
(1, 1) 594 Dowch i mewn.
(Dei) Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw.
 
(Dei) Na, ma'n nhraed i'n drybola o faw.
(1, 1) 596 Tynna dy sgidia a gad nhw'n fanna.
(Dei) Fedri di ddiodda'r ogla?
 
(1, 1) 599 Coffi 'ta te?
(Dei) Coffi.
 
(Dei) Well gin i stomp 'dw i'n gyfarwydd â hi, myn diawl.
(1, 1) 700 'Ma chdi.
(Meilir) O... diolch.
 
(Meilir) {Mae'n mynd i gyfeiriad y patio gan dybio fod DEI yno.}
(1, 1) 703 Yn enw'r nefo'dd, tynna'r sgidia 'na a ty'd i mewn 'nei di.
 
(1, 1) 705 Lle me o 'di mynd?
(Meilir) I'r gwaelodion 'na i rwla.
 
(Meilir) I'r gwaelodion 'na i rwla.
(1, 1) 707 Ydi o'n dwad nôl?
(Meilir) Wn i'm...
 
(Meilir) Pryd ddechreuodd y ddau ddwad yn llawia?
(1, 1) 710 Pwy?
(Meilir) Barry a mam.
 
(Meilir) Barry a mam.
(1, 1) 712 'Dw i ddim yn siŵr.
(1, 1) 713 Llynadd rywbryd...
(Meilir) Be o'dd enw'i wraig o?
 
(Meilir) Be o'dd enw'i wraig o?
(1, 1) 715 Mam Arthur?
(Meilir) Ia.
 
(Meilir) Ia.
(1, 1) 717 Mair.
(Meilir) Pam 'naethon nhw ysgaru?
 
(Meilir) Pam 'naethon nhw ysgaru?
(1, 1) 719 'Naethon nhw ddim.
(1, 1) 720 Mi fuo hi farw ddwy flynadd yn ôl.
(Meilir) Ond ro'ddan nhw wedi gwahanu, toeddan?
 
(Meilir) Ond ro'ddan nhw wedi gwahanu, toeddan?
(1, 1) 722 Oeddan.
(Meilir) O'dd o'n potsian hefo rhywun?
 
(Meilir) O'dd o'n potsian hefo rhywun?
(1, 1) 724 Ddim i mi wbod.
(1, 1) 725 Pam ti isio gwbod y petha 'ma?
(Meilir) Yr haf y buo nhad farw fues i gartra am bythefnos.
 
(Meilir) Ma' nhw'n fwy na llawia, tydyn?
(1, 1) 743 Ma'n nhw'n bobol yn 'u hoed a'u hamsar, Meilir.
(Meilir) Pam ddeudist ti g'llwydda wrtha'i?
 
(Meilir) Pam ddeudist ti g'llwydda wrtha'i?
(1, 1) 745 'Nes i ddim deud c'lwydda wrthat ti.
(Meilir) Do'ddat ti ddim isio imi ga'l gwbod am hyn, nac o'ddat?
 
(Meilir) Do'ddat ti ddim isio imi ga'l gwbod am hyn, nac o'ddat?
(1, 1) 747 Mam ofynnodd imi beidio deud.
(Meilir) Pam?
 
(Meilir) Pam?
(1, 1) 749 Do'dd hi ddim isio rhyw hen annifyrdod.
(1, 1) 750 Y cyfarfod 'ma 'di drefnu a ballu, toedd?
(1, 1) 751 Be ydi o'r ots?
(1, 1) 752 Neno'r nefo'dd ma' gynnon ni'n tri yn bywyda'n hunan rŵan.
(1, 1) 753 Rhyngthyn nhw a'u petha.
(Meilir) Be?
 
(Meilir) Dydyn nhw 'rioed yn bwriadu...?
(1, 1) 756 'D wn i'm.
(1, 1) 757 Diawl o ots gin i chwaith.
(1, 1) 758 Paid â chymryd arnat dy fod ti'n ama dim, reit?
(1, 1) 759 Ges i siars i gau ngheg...
(1, 1) 760 Ti'n gaddo imi?...
(1, 1) 761 Wel?
(1, 1) 762 Wyt ti?
(Meilir) Iawn.
 
(Meilir) Iawn.
(1, 1) 765 Ydi hwn isio'r coffi 'ma ta be?
 
(1, 1) 770 Newid dim, nac wyt?
(Meilir) Mm?
 
(Meilir) Mm?
(1, 1) 773 Dyna'r co' sy gin i amdanat ti.
(Meilir) Be?
 
(Meilir) Be?
(1, 1) 775 Dy drwyn mewn rhyw lyfr ne' rwbath rownd y rîl.
 
(1, 1) 777 Cofio ca'l uffar o beltan gin mam pan o'ddat ti'n gneud dy Lefel "A'.
(1, 1) 778 Ro'ddat ti'n gweithio ar gyfer rhyw bapur ffiseg yn y llofft.
(1, 1) 779 Ro'dd pawb i fod i gadw'n dawal.
(1, 1) 780 Ond y noson honno mi ddoth Gwenda Cae Llys adra o'r ysgol hefo fi.
(1, 1) 781 Ro'dd hi 'di prynu rhyw dâp.
(1, 1) 782 |Duran Duran| ne' rwbath, os 'dw i'n cofio'n iawn.
(1, 1) 783 Mi fynnodd 'i chwara fo'n llofft.
(1, 1) 784 Argo, dyma mam i mewn.
(1, 1) 785 Diffod y peth a rhoid peltan iawn imi.
(1, 1) 786 Ro'dd Gwenda wedi dychryn cymaint mi redodd adra heb 'i thâp.
(1, 1) 787 Mae o yma o hyd yn rhwla...
 
(1, 1) 789 Ges di lonydd, 'do?...
(1, 1) 790 Châi neb dy strybio di...
(1, 1) 791 Be ti'n 'neud pan ma'r hogia 'cw'n dy strybio di?
(1, 1) 792 Peltio nhw?...
 
(1, 1) 794 Be ti'n 'neud?
(Meilir) Tsiecio rhyw ystadega.
 
(Meilir) Tsiecio rhyw ystadega.
(1, 1) 796 Ystadega be?
(Meilir) Am funud, Dona, plîs...
 
(Meilir) Am funud, Dona, plîs...
(1, 1) 798 Sori.
(Meilir) Diffa hwnna, 'nei di?
 
(Meilir) Diffa hwnna, 'nei di?
(1, 1) 805 Pam?
(Meilir) Fedra'i ddim canolbwyntio.
 
(Meilir) Fedra'i ddim canolbwyntio.
(1, 1) 807 Dos i'r llofft.
(Meilir) 'Dw i ddim isio mynd i'r llofft.
 
(Meilir) 'Dw i ddim isio mynd i'r llofft.
(1, 1) 809 'Dw i isio clywad hon!
(Meilir) O's rhaid iti?
 
(Meilir) O's rhaid iti?
(1, 1) 811 Rhaid.
(Meilir) Ti ddim yn gweld?
 
(Meilir) 'Dw i'n trio gweithio!
(1, 1) 814 Pam ma' rhaid iti weithio rŵan?
(Meilir) 'Cha' i ddim cyfla heno!
 
(Meilir) 'Cha' i ddim cyfla heno!
(1, 1) 816 "Cha' inna ddim cyfla i wrando ar hon heno chwaith!
(Meilir) Tro hi i lawr ta!
 
(Meilir) Tro hi i lawr ta!
(1, 1) 818 Na 'na!
 
(1, 1) 824 Paid 'nei di!
(1, 1) 825 Ma' gin i hawl i' chlywad hi!
(Meilir) Be ddiawl haru ti, d'wad!
 
(Meilir) Di-fai.
(1, 1) 841 Rhywun wedi bod yn gwario eto?
(Dwynwen) {Yn edrych ar BARRY.}
 
(Barry) Rhwbath bach i ti.
(1, 1) 846 Chwara teg.
(Barry) Agor o.
 
(Dwynwen) Dos i fyny i thrio hi, inni ga'l 'i gweld hi amdanat ti.
(1, 1) 854 Rŵan 'lly?
(Barry) Wel ia, siŵr dduw...
 
(Barry) Ydi Tudur yma?
(1, 1) 857 Nac 'di.
(1, 1) 858 Ca'l 'i warchod.
(Barry) Eto?
 
(Barry) Pryd ddiawl geith 'i daid 'i weld o?
(1, 1) 861 A be dach chi 'di brynu iddo fo tro 'ma?
(Barry) Hon, 'mechan i.
 
(Barry) Hon, 'mechan i.
(1, 1) 864 Ddylach chi ddim.
(Barry) Dos i newid a paid â chwyno.
 
(Dwynwen) Ydi ma' hi.
(1, 1) 1039 Ma' hi'n uffernol.
(Dwynwen) Be haru ti?
 
(Dwynwen) Be haru ti?
(1, 1) 1041 Dach chi ddim yn disgwl i mi wisgo peth fel hyn, debyg?
(Dwynwen) Ydw.
 
(Dwynwen) Heno.
(1, 1) 1044 Be?
(Dwynwen) Paid â gneud lol.
 
(1, 1) 1048 Fo ddewisodd honna i chitha hefyd?
(Dwynwen) Naci tad.
 
(Meilir) 'Nes ti dwtsiad o?
(1, 1) 1071 Naddo.
(Dwynwen) O'dd 'na rwbath pwysig arno fo?
 
(Dwynwen) Hefo Dei, wrth y Llyn.
(1, 1) 1077 'Dw i ddim yn gwisgo hon heno, reit?