Buchedd Garmon

Ciw-restr ar gyfer Paulinus

(Hlin) Y RHAN GYNTAF
 
(Illtud) |Sursum corda|, fy mrawd Paulinus.
(1, 0) 4 |Habeo ad Dominum|. Nid fy nghalon sy'n drom,
(1, 0) 5 Ond er pan lusgodd Adda ei ddeudroed oediog drwy borth Eden,
(1, 0) 6 Ni bu gan bechadur draed trymach.
(Illtud) Dyma ninnau drwy borth Auxerre,
 
(Illtud) A'r teithio blinderus dros fôr a thros diroedd ar ben.
(1, 0) 9 I Dduw y bo'r diolch;
(1, 0) 10 Mae'r cyrn yn gori ar fy nhraed.
(Illtud) Ai gardd yw pob dinas yng Ngâl?
 
(Illtud) Dirion gyfannedd Duw.
(1, 0) 15 Nid oes neb ar yr heol, a gweigion yw'r gwinllannoedd.
(1, 0) 16 Ai cysgu mae ciwdod Auxerre dan haul canol dydd?
(1, 0) 17 Neu a oes heddiw ŵyl, neu angladd tywysog,
(1, 0) 18 Neu wledd, a dynnodd y trefwyr i neuadd neu eglwys?
(Illtud) Arhoswn. Wele lidiart y clas.
 
(Illtud) Arhoswn. Wele lidiart y clas.
(1, 0) 20 A drws y fynachlog.
(1, 0) 21 Penliniwn. Cusanwn y trothwy a droedia'r saint.
(Y Ddau) {pob eilwers}
 
(Y Ddau) A phreswylfa dy ogoniant.
(1, 0) 27 Enaid, dyma derfyn y daith:
(1, 0) 28 Pan glywom y barrau'n symud ar y drws draw,
(1, 0) 29 Bydd tynged gwlad y Brythoniaid yn ein haros ni yma.
(Illtud) Ond pam y mae'r llwch yn llonydd a'r heolydd yn ddistaw?
 
(Illtud) 'Rwy'n ofni'r distawrwydd.
(1, 0) 32 Gwrando.
 
(1, 0) 34 Fy mrawd, ar frys: dyro sbonc ar y drws.
 
(1, 0) 36 A adweini di'r llais?
(Illtud) Clywais gân esgob, sy newydd ei dywys i'w orsedd,
 
(Illtud) Yn cyfarch y gwŷr a'i cysegrodd.
(1, 0) 40 A'r funud hon rhoir iddo gusan tangnefedd
(1, 0) 41 A'i arwain â halelwia o'r gangell i'r clas.
(1, 0) 42 Bydd yno esgobion Gâl a llond ffair o offeiriaid;
(1, 0) 43 Trefnwyd awr dda inni ddyfod.
(Illtud) Mihangel, y santaidd archangel, sy â'i gleddyf tros Gymru.
 
(Porthor) Croeso i chwi, eneidiau. Pwy ydych chwi?
(1, 0) 52 Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist.
(Porthor) Bendigedig yw'r neb sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd.
 
(Porthor) O ba wlad y daethoch, wŷr da?
(1, 0) 55 Tros fôr a thiroedd o eithaf yr ymerodraeth,
(1, 0) 56 Cenhadon o wlad y Brythoniaid.
(Porthor) Undod yw gwledydd cred.
 
(Garmon) Holaf eich neges a'ch helynt, ac ymddiddanwn dro.
(1, 0) 97 Fy arglwydd a'm tad, taled Duw iti'r pwyth;
(1, 0) 98 Iawn yw i ninnau roi iti hynaws ufudd-dod,
(1, 0) 99 Ond yn y peth hwn a erchaist, erfyniaf faddeuant.
(Garmon) Ai dan adduned yr ydych, fy mrodyr?
 
(Garmon) Ai dan adduned yr ydych, fy mrodyr?
(1, 0) 101 Llw a dyngasom ar sgrin yng Nghaerlleon ar Ŵysg,
(1, 0) 102 Ar feddrod Alban ferthyr, ein seren fore.
(Garmon) Bendigedig fo Duw yn ei ferthyron:
 
(Garmon) A ellir gwybod y llw?
(1, 0) 105 Llw na phrofem saig na thorri ympryd
(1, 0) 106 Ond unwaith y dydd, ar fara a dŵr, cyn noswylio,
(1, 0) 107 Oni thraddodem i esgobion Gâl
(1, 0) 108 Druenus gri ffyddloniaid Crist yng Nghymru.
(Garmon) Llefared fy arglwydd Lupus.
 
(Garmon) Fy mrodyr, yn enw'r Drindod fendigaid, traethwch eich neges.
(1, 0) 122 Fy arglwydd a'm tadau,
(1, 0) 123 Yr wyf i, Paulinus, yn hen, yn hanner cant oed,
(1, 0) 124 Â phan edrychaf o'm blaen, nid i'r byd hwn yr edrychaf,
(1, 0) 125 Byr fydd fy nyddiau yma,
(1, 0) 126 Digon im' yma mwy yw ufuddhau ac aros.
(1, 0) 127 A phan edrychaf yn ôl, yn ofer y llafuriais,
(1, 0) 128 Blin fu fy nyddiau yma,
(1, 0) 129 Ac nid oes a garaf oddieithr atgofion mebyd:
(1, 0) 130 Pedair oed oeddwn i ar fraich fy nhad yng Nghaerlleon
(1, 0) 131 Yn gwylio byddinoedd Macsen Wledig ac Elen, ymerodres Arfon,
(1, 0) 132 Yn rhodio allan o'm dinas,
(1, 0) 133 Allan dan lygaid y ddinas,
(1, 0) 134 Allan ar gerrig Sarn Elen o glyw y ddinas,
(1, 0) 135 A dywedodd fy nhad, dyma'r byd a wyddom yn darfod,
(1, 0) 136 Darfod hir hwyl yr haul,
(1, 0) 137 Darfod sefydlogrwydd,
(1, 0) 138 Darfod y naddu meini i'r tai parhaol,
(1, 0) 139 Darfod di-ddarfod ganrifoedd Rhufain a'i heddwch;
(1, 0) 140 Ac wylodd fy nhad.
(1, 0) 141 Ond atebodd fy mam:
(1, 0) 142 Pan ddarffo heddwch Rhufain fe saif tangnefedd ein Harglwydd;
(1, 0) 143 Offrwm beunyddiol offeiriaid Crist yw meini saernïaeth ein dinas,
(1, 0) 144 A chredo ddisyflyd yr Eglwys balmanta undod gwareiddiad.
(1, 0) 145 Gwir fu ei gair. Canys wedyn,
(1, 0) 146 Wedi cilio o'r canwriaid a'r llengoedd a baneri'r eryr,
(1, 0) 147 A'n gado'n weiniaid i gadw'r ffin,
(1, 0) 148 A'r barbariaid yn tynnu'n nes dros y tir,
(1, 0) 149 A'r Sgotiaid yn hyach o hyd dros y môr,
(1, 0) 150 Wele, er hynny, y pryd y blagurodd dysg a dwyfoldeb
(1, 0) 151 Fel gwanwyn hwyr yn ein gwlad.
(1, 0) 152 Atom yn gyson, i Ddyfed a Gwent a Morgannwg,
(1, 0) 153 Y ffoes ac y ffy athrawon gramadeg a dysgodron y gyfraith
(1, 0) 154 O barthau'r goresgynwyr ac o'r dinasoedd llosg,
(1, 0) 155 Ac megis blodau'r pren ceirios yw'n llannau a'n hysgolion,
(1, 0) 156 A brwd y croesewir gan Emrys, Gwledig Caerlleon a'r Deau,
(1, 0) 157 Etifeddion huodledd Quintilianus a Fferyll
(1, 0) 158 A duwiol ddilynwyr Sierôm o Fethlehem.
(Garmon) Bendigedig fo Duw yn ei feudwyaid a'i saint.
 
(Y Cwmni Oll) |Laudate eum, omnes populi|.
(1, 0) 163 Wylwch, fy nhadau, wylwch.
(1, 0) 164 Troes ein golau yn dwyll.
(1, 0) 165 Un ohonom ni, mynach o'r clas ym Mangor,
(1, 0) 166 Thuser dysgeidiaeth,
(1, 0) 167 Y tafod aur,
(1, 0) 168 Treisiwr y nefoedd
(1, 0) 169 A'i ympryd a'i einioes yn un,
(1, 0) 170 Hwnnw, Pelagius y Brython, a beryglodd undod cred.
(Garmon) Adwaenwn ef, Paulinus,
 
(Garmon) Rhyfeddwn ddwyfoldeb athrylith, a gweddïwn dros yr enaid.
(1, 0) 177 Gweddiwch hefyd, fy arglwydd, dros gyfyngder fy ngwlad.
(1, 0) 178 Tra na bo ond rhuthr y barbariaid o barthau'r rhew a'r dwyrain
(1, 0) 179 Yn cau arnom ni a chwithau a'r Rhufeiniaid oll,
(1, 0) 180 Gallwn, â chalon ddur, amddiffyn ein hetifeddiaeth;
(1, 0) 181 Canys Crist yw ein Rhufain mwy, ac Ef biau dysg y Groegiaid,
(1, 0) 182 Ac undod yr Ysbryd Glân yn ei Eglwys fydd sail dinasyddiaeth cred.
(1, 0) 183 Ond pallodd ein dewredd a'n pwyll;
(1, 0) 184 Daeth atom ddysgawdwr,
(1, 0) 185 Glân ei fuchedd a nerthol o air,
(1, 0) 186 Disgybl Pelagius, Agricola,
(1, 0) 187 A denodd, o'n myneich ac o deulu'r Ffydd, dorf ar ei ôl.
(1, 0) 188 Pa gwrs a gymerem, fy mrodyr?
(1, 0) 189 Nid rhydd yw i ni ddadwreiddio'r efrau o'r cae.
(1, 0) 190 A rwygwn ni unwe'r Eglwys yng ngŵydd y paganiaid,
(1, 0) 191 Neu ddatod rhwyd y Pysgotwr cyn cyrraedd glan?
(1, 0) 192 Na ato Duw;
(1, 0) 193 Ymbil mewn amynedd sy'n gweddu'n well.
(1, 0) 194 Ond unpeth, nis medrwn chwaith─
(1, 0) 195 Gweld nodd y Winwydden,
(1, 0) 196 Y Wir Winwydden sy â'i cheinciau drwy wledydd cred,
(1, 0) 197 A'r nodd sy'n undod ei cheinciau,
(1, 0) 198 Y nodd sy'n sug y grawnsypiau,
(1, 0) 199 Ei weld yn diffygio, a diffrwytho cainc y Brythoniaid,
(1, 0) 200 A gwywo o gainc y Brythoniaid,
(1, 0) 201 A'r gangen yn pydru o'r pren.
(1, 0) 202 ~
(1, 0) 203 Yn fab, fy mrodyr, mi wylais fod Rhufain fy nhadau
(1, 0) 204 Yn bradwyo, a'i braich yn byrhau;
(1, 0) 205 Ond Rhufain newydd, ysbrydol, Dinas ein Duw,
(1, 0) 206 Etifedd ei thegwch a'i dysg,
(1, 0) 207 A welais yn llamu o'i llwch;
(1, 0) 208 Ac iddi gwrogodd fy ngwlad,
(1, 0) 209 Ynddi mae iechyd fy ngwlad,
(1, 0) 210 Yn undod un ffydd, un bedydd, un offrwm, un Arglwydd.
(1, 0) 211 A welaf i yn fy mhenwynni ein deol o hon?
(Y Cwmni Oll) Na ato Duw.
 
(Y Cwmni Oll) Na ato Duw.
(1, 0) 213 Am hynny, fy nhadau,
(1, 0) 214 Yn eisteddfod abadau fy ngwlad,
(1, 0) 215 'Nôl ympryd a phenyd ac offeren a chymuno ynghyd
(1, 0) 216 Dewiswyd Illtud a minnau i erchi i grefyddwyr Gâl:
(1, 0) 217 Deuwch drosodd i'n cymorth,
(1, 0) 218 Gyrrwch inni esgob i gyhoeddi i'n gwerin y ffydd a ddaliasom erioed,
(1, 0) 219 Fel na bo na sect nac ymraniad yng ngwlad y Brythoniaid,
(1, 0) 220 Eithr pawb o'r ffordd hon,
(1, 0) 221 Yn cerdded wrth yr un rheol, yn synio'r un peth.
(1, 0) 222 Wele, traddodais i chwi apêl fy mhobl;
(1, 0) 223 A'r awron, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd,
(1, 0) 224 Yn ôl dy air.