|
|
|
(Hlin) Y RHAN GYNTAF |
|
|
|
(Illtud) Mae'r ddôr yn agor. |
(1, 0) 49 |
|Dominus vobiscum|. |
|
(Y Ddau) |Et cum spiritu tuo|. |
|
|
|
(Y Ddau) |Et cum spiritu tuo|. |
(1, 0) 51 |
Croeso i chwi, eneidiau. Pwy ydych chwi? |
|
(Paulinus) Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist. |
|
|
|
(Paulinus) Dinasyddion Rhufain a chaethion ein Harglwydd Crist. |
(1, 0) 53 |
Bendigedig yw'r neb sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd. |
(1, 0) 54 |
O ba wlad y daethoch, wŷr da? |
|
(Paulinus) Tros fôr a thiroedd o eithaf yr ymerodraeth, |
|
|
|
(Paulinus) Cenhadon o wlad y Brythoniaid. |
(1, 0) 57 |
Undod yw gwledydd cred. |
(1, 0) 58 |
Cyd-ddinasyddion yw gwerin Crist. |
(1, 0) 59 |
Derbyniwch gusan tangnefedd. |
|
(Y Tri) {dan ymgofleidio} |
|
|
|
(Illtud) Yn deisyf am hir flynyddoedd i abadau Crist. |
(1, 0) 65 |
I Dduw y bo'r clod: heddiw'r bore |
(1, 0) 66 |
Cysegrwyd Lupus offeiriad yn esgob Troyes. |
(1, 0) 67 |
Garmon ein tad a'i cysegrodd. |
(1, 0) 68 |
Daeth yma breladiaid Gâl yn gôr gorseddog, |
(1, 0) 69 |
A'r awron eisteddant i ginio ar lawnt y clas. |
(1, 0) 70 |
Chwithau, westeion, a roddaf i yno i eistedd |
(1, 0) 71 |
Ar ddeheulaw Esgob Auxerre, |
(1, 0) 72 |
Deuwch i'r byrddau. Mae'r cwmni ar hir gythlwng. |
(1, 0) 73 |
Nid oes ond croesi'r hiniog i ymuno â hwy ar y lawnt. |
|
|
(1, 0) 79 |
Gosteg. |
|
|
(1, 0) 81 |
Fy arglwydd esgob, f'arglwyddi a'm tadau oll, |
(1, 0) 82 |
Dygaf i chwi westeion o gyrrau pella'r Gristnogaeth, |
(1, 0) 83 |
Myneich o wlad y Brythoniaid a gurodd yn awr ar ein porth. |