Geraint Llywelyn

Ciw-restr ar gyfer Gŵr

(Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd
 
(Gwraig 3) Be' ddeudwch chi, Mr Rowlands?
(1, 2) 63 Mae hi'n chwith meddwl.
(1, 2) 64 Ydi.
(1, 2) 65 Yn chwith meddwl.
(Gwraig 3) Mor ddifyr fydda' hi.
 
(1, 2) 69 'R Hendra, Foty.
(1, 2) 70 Hendy Mawr.
(1, 2) 71 Creigle Ucha'.
(1, 2) 72 Hogia i gyd.
(1, 2) 73 Cofio?
(Gwraig 3) Yr hen gôr ers talwm?
 
(Gwraig 3) Fel ddoe.
(1, 2) 77 Y gangell yn orlawn.
(Gwraig 2) Côr o ddeg ar hugain.
 
(Gwraig 3) A tada wrth yr organ.
(1, 2) 81 A'r hen ganon yn ei morio hi.
(Gwraig 2) Tenor da oedd o.
 
(Gwraig 3) Chwith ar ei ôl o.
(1, 2) 84 Dynion da oedd rheini.
(1, 2) 85 Dynion da.
(Gwraig 3) Difyr fydda hi, on'd e?
 
(Gwraig 2) Yr hen garola' rheini.
(1, 2) 91 Cofio'r hen Ddafydd Owen yn dyrnu'r sêt efo'i ddwrn i gadw amser.
 
(1, 2) 93 "Odlau tyner engyl/O'r ffurfafen glir."
(1, 2) 94 Be' ddoth o'i ferch o, 'dwch?
(Gwraig 2) Mi briododd efo'r boi RAF hwnnw.
 
(Gwraig 2) Mi briododd efo'r boi RAF hwnnw.
(1, 2) 96 Duw.
(1, 2) 97 Do?
(Gwraig 2) Byw yn Gloucester.
 
(Gwraig 2) Mae'i gwreiddia hi yn Lloegr erbyn hyn, on'd ydi?
(1, 2) 113 Chwith meddwl.
(1, 2) 114 Chwith meddwl.
(Gwraig 3) Ydi.
 
(Gwraig 3) Difyr.
(1, 2) 119 Ddon nhw byth yn ôl.
(Gwraig 1) Ddim tra mae hwn yma.
 
(Gwraig 1) Digrì Cambridge neu beidio.
(1, 2) 122 Mewn coleg mae'i le o.
(Gwraig 2) Pobol y wlad ydan ni.
 
(Gwraig 2) Pobol y wlad ydan ni.
(1, 2) 124 Pobol y pridd...
 
(1, 2) 126 Be' sy'n digwydd inni 'dwch?
(Gwraig 3) Wn i ddim be sy'n digwydd inni wir.
 
(Gwraig 1) Eisio nôl papur i'r gŵr.
(1, 2) 132 Mwy na thebyg.
(Gwraig 1) Ga'i ddwad efo chi?
 
(Gwraig 1) Ga'i ddwad efo chi?
(1, 2) 134 Ydy'ch traed chi'n lân?
(Gwraig 1) Be' 'dach chi'n feddwl?
 
(1, 2) 137 Lecio fo?
(Gwraig 1) Chi pia fo.
 
(Gwraig 2) Newydd sbon?
(1, 2) 142 Newydd sbon ddydd Iau.
(1, 2) 143 Mi 'neith imi tra bydda' i.
(Gwraig 3) Hen bryd i'r gŵr 'cw brynu'n newydd hefyd.
 
(Gwraig 3) Hen bryd i'r gŵr 'cw brynu'n newydd hefyd.
(1, 2) 145 Mi es i Lerpwl efo fo ddoe i edrach am y ferch a'r gŵr.
(1, 2) 146 Mynd fel ruban.
(1, 2) 147 Car gora' ges i 'rioed.
(Gwraig 2) Sut mae'r babi?
 
(Gwraig 2) Sut mae'r babi?
(1, 2) 149 Siort ora'.
(1, 2) 150 Wel.
(1, 2) 151 Be' am ei throi hi?
(1, 2) 152 Dwad?
(Gwraig 1) {Yn bryfoclyd.}
 
(Gwraig 2) Mr Rowlands!
(1, 2) 161 Mm?
(Gwraig 2) Be' mae nhw am ei galw hi?
 
(Gwraig 2) Be' mae nhw am ei galw hi?
(1, 2) 163 Pwy?
(Gwraig 2) Yr hogan bach?
 
(Gwraig 2) Yr hogan bach?
(1, 2) 165 O.
(1, 2) 166 Mandy.