a1, g1a1, g2
Ⓗ 1975 Willam R Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 1


Yr Act Gyntaf

GOLYGFA 1

Tu mewn i eglwys wledig yng Ngogledd Cymru.

Ar y cychwyn y mae'r llwyfan yn gwbl dywyll

Clywir cynulleidfa eglwys yn llefaru, a hynny'n ddieneiniad, y darn canlynol o'r cymun bendigaid...

Cynulleidfa
Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd
Ein hunain, ein heneidiau a'n cyrff,
I fod yn aberth rhesymol, sanctaidd, a bywiol i ti,
Gan ddeisyf arnat ein cadw trwy dy ras
Yn y gymdeithas sanctaidd hon.



Yn araf, cyfyd un golau ar wyneb offeiriad, sef Huw Williams. Saif yng nghanol y llwyfan. Fel yr â'r weddi ymlaen mae ei wyneb yn aflonyddu. Mae rhyw gryndod yn ei wedd sy'n awgrymu ing a phoen. Edrycha ar y gynulleidfa ddychmygol sydd o'i flaen...

Cynulleidfa
A'n galluogi i gyflawni'r gweithredoedd da hynny
Y darperaist i ni rodio ynddynt;
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
Y bo iddo gyda thi a'r Ysbryd Glân
Bob anrhydedd a gogoniant,
Yn oes oesoedd.
Amen.



Saib. Mae tensiwn yn yr wyneb. Cyfyd ei law yn araf, araf i gyflwyno'r fendith ond y mae'n ei chael hi'n anodd mynd yn ei flaen.

Huw

Ta... Tangnefedd Duw... sydd uwchlaw pob deall a... a... gadwo eich calonnau a'ch meddyliau... yng ngwybodaeth a chariad Duw,... a'i fab Iesu Grist ein Harglwydd: A... a bendith Duw... a bendith Duw Hollalluog, y Tad... y Mab... a'r Ysbryd Glan... a fo i'ch plith, ac a drigo gyda chwi yn wastad...

Cynulleidfa

(Efo'r organ.) Amen.

a1, g1a1, g2