Geraint Llywelyn

Ciw-restr ar gyfer Warden

(Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd
 
(Huw) Fedra i ddim.
(1, 2) 233 Pam?
(Huw) Am mai dyna ydi dymuniad y Corff Llywodraethol.
 
(Huw) Am mai dyna ydi dymuniad y Corff Llywodraethol.
(1, 2) 235 Be' am ddymuniad y bobl?
(Huw) Mae 'na bobol ar y Corff Llywodraethol.
 
(Huw) Mae 'na bobol ar y Corff Llywodraethol.
(1, 2) 237 Dydw i ddim.
(Huw) Nid fy mai i ydi hynny.
 
(Huw) Dydw i ddim arno fo fy hun.
(1, 2) 240 Nid fy mai i ydi hynny.
(1, 2) 241 Ylwch.
(1, 2) 242 Yn y festri 'na mae 'na dri dwsin o Lyfra Gweddi.
(1, 2) 243 Dydyn nhw ddim gwaeth.
(Huw) Ond nid...
 
(Huw) Ond nid...
(1, 2) 245 Mi es i.
(1, 2) 246 Nid 'mod i'n edliw cofiwch.
(1, 2) 247 Mi es i, yn un swydd i Gaerdydd i nhôl nhw.
(1, 2) 248 Yr holl ffordd.
(1, 2) 249 Ei prynu nhw efo f'arian fy hun.
(1, 2) 250 Nid 'mod i'n edliw cofiwch.
(1, 2) 251 Mi wna'i rywbeth i'r hen eglwys 'ma.
(1, 2) 252 'Dach chi'n gwybod hynny.
(1, 2) 253 Rhywbeth.
(1, 2) 254 Ond mae pobol y plwy' 'ma'n...
(Huw) {Wedi gwylltio.}
 
(Huw) Ydach chi?
(1, 2) 258 Lle ma'ch asgwrn cefn chi?
(Huw) Dyna un peth na ch'es i mo ngeni efo fo.
 
(Huw) Rŵan os wnewch chi...
(1, 2) 261 Magu asgwrn cefn ydach chi.
(1, 2) 262 Byw yn yr hen fyd 'ma roith hwnnw ichi.
(Huw) Felly.
 
(Huw) Felly.
(1, 2) 264 Mae'i Gymraeg o'n warthus.
(Huw) O.
 
(Huw) O.
(1, 2) 266 Yn merwino clustia' eglwyswr o'r iawn ryw.
(Huw) Tybed.
 
(Huw) Tybed.
(1, 2) 268 Mae'n rhaid moderneiddio popeth heddiw.
(1, 2) 269 Sgubo'r hen betha' fel tasa nhw'n faw.
(Huw) Mae'n rhaid inni symud efo'r oes.
 
(Huw) Mae'n rhaid inni symud efo'r oes.
(1, 2) 271 Symud i le?
(Huw) Mae hynny i fyny i ni.
 
(Huw) Faint o'r...
(1, 2) 274 Yn onest rŵan.
(1, 2) 275 Ydach chi'n hapus efo Cymraeg y gwasanaeth newydd 'ma?
(Huw) A bod yn onest?
 
(Huw) Mae'n well gen i Gymraeg y Llyfr Gweddi.
(1, 2) 279 Ewch yn ôl at yr hen Lyfr Gweddi 'ta?
(Huw) Ond dydi'r gwasanaeth newydd 'ma ddim yn ddrwg i gyd, cofiwch.
 
(Huw) Ac nid son am yr iaith 'rydw i.
(1, 2) 282 Mae'n rhaid i iaith crefydd...
(Huw) Mae iddo fo'i ragoriaethau.
 
(Huw) Mae iddo fo'i ragoriaethau.
(1, 2) 284 Pa ragoriaethau?
(Huw) Rhagoriaethau diwinyddol.
 
(Huw) Pan oedd Cranmer yn...
(1, 2) 287 Pwy?
(Huw) Cranmer.
 
(Huw) Yfo oedd yn gyfrifol am...
(1, 2) 290 Ylwch.
(1, 2) 291 Dyn cyffredin ydw i.
(1, 2) 292 Peidiwch â dechra' lluchio llwch i fy ll'gada i,
(Huw) {O'r neilltu.}
 
(Huw) Roeddwn i'n meddwl fod y werin Gymraeg yn diwinyddion o'r groth?
(1, 2) 295 Be?
(Huw) Dim byd.
 
(Huw) Dim byd.
(1, 2) 299 Be' amdani.
(Huw) Be' amdani, be?
 
(Huw) Be' amdani, be?
(1, 2) 301 Be' am wasanaeth y Llyfr Gweddi.
(1, 2) 302 Sul nesa'?
(Huw) Mi feddylia'i dros y peth.
 
(Huw) Mi feddylia'i dros y peth.
(1, 2) 305 Be aeth o'i le bore 'ma?
(Huw) Be' ydach chi'n feddwl?
 
(Huw) Be' ydach chi'n feddwl?
(1, 2) 307 Mwydro tipyn, on'd oeddach?
(1, 2) 308 Tua'r diwedd.
(1, 2) 309 Be' sy?
(Huw) Rhyw ben'sgafnder ddoth drosta i.
 
(Huw) Dyna'r cwbl,.
(1, 2) 312 Gormod â'ch trwyn yn yr hen lyfra 'na ydach chi.
(Huw) {Yn goeglyd.}
 
(Huw) Mae'n rhaid cael pregeth yn barod ichi, bydd?
(1, 2) 315 Rhywbeth syml mae'n nhw eisio yma.
(Huw) Ond 'dydi popeth ddim yn syml, yn nac ydi?
 
(Huw) Ond 'dydi popeth ddim yn syml, yn nac ydi?
(1, 2) 317 Yn yr ochra' yma; ydyn.
(1, 2) 318 'Dydi syniada Awstin Sant am amser yn golygu dim i ni.
(1, 2) 319 Dim.
(Huw) {O'r neilltu.}
 
(Huw) "Duw gadwo y werin."
(1, 2) 322 Mae 'na fawredd mewn symlrwydd cofiwch.
(Huw) {Yn edrych arno.}
 
(Huw) Mae'n well imi...
(1, 2) 326 O.
(1, 2) 327 Un peth arall.
(1, 2) 328 Dowch yma.
(1, 2) 329 'Drychwch.
(1, 2) 330 Mae'r fynwent 'ma'n friw i lygaid rhywun.
(1, 2) 331 Welis i rioed y fath sgrwff.
(1, 2) 332 Ddaru chi dd'eud wrth y Wil Huws 'na am ddwad yma efo'i bladur?
(1, 2) 333 Ddaru chi?
(Huw) Mi a'i weld o 'fory.
 
(Huw) Beth bynnag...
(1, 2) 336 Ewch heno nesa'.
(Huw) A'i wraig o'n cwyno?
 
(Huw) A'i wraig o'n cwyno?
(1, 2) 338 Pa wahaniaeth wneith hynny?
(Huw) Mae ganddo fo ddigon ar ei blat.
 
(Huw) Mwy na digon.
(1, 2) 341 Y felan eto m'wn, Duw annw'l Dad.
(Huw) Mae hi'n ddynes wael.
 
(Huw) Mae hi'n ddynes wael.
(1, 2) 343 Cwyno fuo hanes honno 'rioed.
(Huw) Mae hi'n dioddef oddi wrth ei nerfau.
 
(Huw) Mae hi'n dioddef oddi wrth ei nerfau.
(1, 2) 345 Nerfa'.
(1, 2) 346 Twt lol.
(1, 2) 347 Hen bryd iddi dynnu'i hun at 'i gilydd.
(1, 2) 348 Wn i ddim be ydi nerfa'.
(Huw) Gwyn eich byd chi.
 
(Huw) Gwyn eich byd chi.
(1, 2) 350 A wyddoch chi pam?
(Huw) Mae gen i syniad.
 
(Huw) Mae gen i syniad.
(1, 2) 352 Am fod gen i Ffydd.
(1, 2) 353 Ffydd yn yr Hollalluog.
(Huw) Ffydd, ia?
 
(Huw) Hy.
(1, 2) 356 Ac 'neith eich holl bregethu modern chi ddim siglo mymryn arni hi.
(Huw) Dim hyn'na oedd fy mwriad i.
 
(Huw) Dim hyn'na oedd fy mwriad i.
(1, 2) 358 Naci?
(Huw) Naci.
 
(1, 2) 362 Dyna be' cadwodd hi i fynd.
(1, 2) 363 Ffydd,
(Huw) Pwy?
 
(Huw) Pwy?
(1, 2) 365 Y musus.
(Huw) Ia.
 
(Huw) Ia.
(1, 2) 367 Ffydd syml.
(1, 2) 368 At y diwedd.
(1, 2) 369 Roedd o'n gysur iddi.
(Huw) Mae ffydd yn fwy na chysur.
 
(Huw) Mae ffydd yn fwy na chysur.
(1, 2) 371 Meidrol ydan ni cofiwch, Dysgwch dderbyn hynny.
(1, 2) 372 Bodlonwch.
(Huw) Be ydach chi'n feddwl?
 
(Huw) Be ydach chi'n feddwl?
(1, 2) 374 Lladdwch o.
(1, 2) 375 Rwan.
(1, 2) 376 Ne' mi lladith o chi.
(Huw) Lladd be?
 
(Huw) Lladd be?
(1, 2) 378 Wyddoch chi ddim?
(Huw) Na wn i.
 
(Huw) Na wn i.
(1, 2) 380 Petha' mawr o'ch blaen chi felly, on'd oes?
(Huw) Petha' mawr?
 
(Huw) Petha' mawr?
(1, 2) 382 Am ddwad nos Ferchar?
(Huw) Mm?
 
(Huw) Mm?
(1, 2) 384 Nos Ferchar.
(1, 2) 385 I'r Steddfod?
(Huw) {Braidd yn sbeitlyd.}
 
(Huw) Go brin.
(1, 2) 388 Glyw'is i eich bod chi'n englynwr o fri.
(Huw) Lle clywsoch chi'r fath lol?
 
(Huw) Lle clywsoch chi'r fath lol?
(1, 2) 390 'Roeddwn i'n meddwl mai tynnu 'nghoes i 'roeddan nhw.
(Huw) I ddweud y lleia'.
 
(Huw) I ddweud y lleia'.
(1, 2) 393 Mae 'na le i betha' felly cofiwch.
(1, 2) 394 Rhan o fywyd, on'd ydi?
(1, 2) 395 Hwyl, syml, pobol... gyffredin.
(Huw) Hy.
 
(Huw) Hy.
(1, 2) 398 Ugain punt.
(Huw) Be?
 
(Huw) Be?
(1, 2) 400 Peidiwch a chynnig mwy nag ugain punt i Wil Huws.
(1, 2) 401 Llawn ddigon i ddyn am waith tridia'.
(1, 2) 402 A chofiwch Sul nesa'.
(Huw) Sul nesa',
 
(Huw) Sul nesa',
(1, 2) 404 Cymun o'r Llyfr Gweddi.