Geraint Llywelyn

Ciw-restr ar gyfer Ymwelydd

(Cynulleidfa) Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O! Arglwydd
 
(Huw) Y... y...
(1, 2) 565 Mae hi'n hardd.
(Huw) Mm?
 
(Huw) {Yn troi ato.}
(1, 2) 568 Chweched ganrif?
(Huw) Chweched ganrif?
 
(Huw) Chweched ganrif?
(1, 2) 570 Yr eglwys.
(1, 2) 571 Chweched ganrif ydi hi?
(Huw) Felly mae'n nhw'n dweud.
 
(Huw) Felly mae'n nhw'n dweud.
(1, 2) 573 Ond 'dydach chi ddim mor siwr.
(Huw) Chweched?
 
(Huw) Maddeuwch i mi, mae'n rhaid imi...
(1, 2) 580 Huw Williams?
(Huw) Be?
 
(Huw) Be?
(1, 2) 582 Dyna'ch enw chi, on'd e?
(1, 2) 583 Huw Williams?
(Huw) Sut gwyddoch chi?
 
(1, 2) 586 Rheithor, Y Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab.)
(Huw) O.
 
(Huw) Hy.
(1, 2) 590 Caergrawnt.
(Huw) Ia.
 
(Huw) Ia.
(1, 2) 592 Pa goleg?
(Huw) Ioan Sant.
 
(Huw) Ioan Sant.
(1, 2) 594 Yr un coleg a fi.
(Huw) {Yn meirioli tipyn.}
 
(Huw) Tybed.
(1, 2) 597 Blynyddoedd?
(Huw) Pum deg chwech hyd at bum deg wyth.
 
(Huw) A ch'tha?
(1, 2) 600 Gorffen ddwy flynedd yn ôl.
(Huw) Dal ar ei draed, felly.
 
(Huw) Dal ar ei draed, felly.
(1, 2) 602 Cystal ag erioed.
(1, 2) 603 Ydi.
(Huw) Coleg difyr.
 
(Huw) Coleg difyr.
(1, 2) 605 Dyddiau difyr.
(Huw) Bendigedig.
 
(Huw) Bendigedig.
(1, 2) 607 Coleg Edmwnd Prys.
(Huw) A'r Esgob William Morgan.
 
(Huw) A'r Esgob William Morgan.
(1, 2) 609 Glywsoch chi'r côr yn ddiweddar?
(Huw) Do,.
 
(Huw) Yn enwedig ei dehongliad nhw o'r salmau cân.
(1, 2) 615 "Dy babell di mor hyfryd yw
(1, 2) 616 O Arglwydd byw y lluoedd."
(Huw) {Yn edrych ar y porth.}
 
(Huw) Rhag mor dra thirion... ydoedd."
(1, 2) 620 Ydoedd?
(Huw) Hyfryd oedd byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
 
(Huw) Hyfryd oedd byw yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
(1, 2) 622 Sinicaidd iawn ar fore Sul.
 
(1, 2) 624 Yr haul 'ma fel fynno fo bore 'ma.
(1, 2) 625 Rŵan, 'ta.
(Huw) Ar eich gwyliau?
 
(1, 2) 628 Bwrw'r Sul...
(1, 2) 629 Dyna ni.
(Huw) Yma?
 
(Huw) Yma?
(1, 2) 631 Ym Mangor.
(1, 2) 632 Y ddarpar wraig yn y coleg.
(1, 2) 633 Gorffen 'leni hefyd...
(1, 2) 634 Daria!
(Huw) Ac wedi cael swydd?
 
(Huw) Ac wedi cael swydd?
(1, 2) 636 Be?
(Huw) Ydi hi wedi cael gwaith?
 
(Huw) Ydi hi wedi cael gwaith?
(1, 2) 638 Do.
(Huw) Ymhle?
 
(Huw) Ymhle?
(1, 2) 640 Yn y Rhondda.
(1, 2) 641 Athrawes.
(Huw) Swydd galed i ferch.
 
(Huw) Swydd galed i ferch.
(1, 2) 643 Dibynnu.
(Huw) Dibynnu ar be'?
 
(Huw) Dibynnu ar be'?
(1, 2) 645 Dibynnu ar yr ysgol.
(1, 2) 646 Ches i 'rioed le i gwyno.
 
(1, 2) 648 Dyna ni.
(1, 2) 649 Sefwch yn llonydd.
(Huw) Ond...
 
(Huw) Ond...
(1, 2) 651 Sefwch yn llonydd...
(1, 2) 652 Dyna ni.
(1, 2) 653 Llun lliw o'r Parchedig Huw Williams, M.A. (Cantab) yn sefyll tu allan i borth ei eglwys Geltaidd ar fore Sul yn nhymor y Grawys.
(Huw) {Yn gwenu.}
 
(Huw) Hyddysg iawn yn y flwyddyn eglwysig.
(1, 2) 656 Diolch yn fawr,
(Huw) Dylanwad Caergrawnt.
 
(Huw) Dylanwad Caergrawnt.
(1, 2) 658 Coeliwch neu beidio, 'roeddwn inna' ar fin mynd i'r barchus arswydus swydd.
(Huw) Be' ddigwyddodd?
 
(Huw) Be' ddigwyddodd?
(1, 2) 660 Wel...
(Huw) Difaru?
 
(Huw) Difaru?
(1, 2) 662 Weithia'.
(1, 2) 663 Gan amlaf ar fore Llun.
(1, 2) 664 Mae plant yn swnllyd iawn ar fore Llun.
(Huw) Athro ydach chitha?
 
(Huw) Athro ydach chitha?
(1, 2) 666 Ia.
(Huw) Pwnc?
 
(1, 2) 669 Ysgrythur.
(Huw) Difyr?
 
(Huw) Difyr?
(1, 2) 671 Dim llei gwyno.
(1, 2) 672 Mae'r cyflog yn iawn a'r gwyliau'n hir.
(1, 2) 673 Diddordeb?
(Huw) Wn i ddim,
 
(Huw) Wn i ddim,
(1, 2) 675 Efo gradd o Gaergrawnt chaech chi ddim trafferth i gael swydd.
 
(1, 2) 677 Damia.
(1, 2) 678 Ffilm wedi darfod.
(1, 2) 679 Mi ddylwn i fod wedi prynu ffilm arall.
(1, 2) 680 'Ryda ni ar ganol project ar eglwysi Celtaidd.
(1, 2) 681 A dyma fi, yma o bob man, heb ffilm.
(1, 2) 682 Hurt 'te?
(Huw) Ydi hi'n bosib dysgu Sgrythur bellach?
 
(Huw) Ydi hi'n bosib dysgu Sgrythur bellach?
(1, 2) 684 Dibynnu be 'dach chi'n feddwl wrth Ysgrythur.
(Huw) Wel.
 
(Huw) Yr eglwys fore...
(1, 2) 689 Ydi.
(1, 2) 690 Ond nid dyna'r gwaith pwysica' i athro 'Sgrythur.
(Huw) Dydw i ddim yn eich dilyn chi.
 
(Huw) Dydw i ddim yn eich dilyn chi.
(1, 2) 692 Mae'n rhaid imi fod yn fugail yn ogystal ag athro.
(Huw) Dwyn gwaith yr eglwys?
 
(Huw) Dwyn gwaith yr eglwys?
(1, 2) 694 Mae'r eglwys wedi methu.
 
(1, 2) 696 Sut mae hi, yma?
(Huw) Hy.
 
(Huw) Hy.
(1, 2) 698 Mor ddrwg â hynny.
(Huw) 'Dydyn nhw'n gwybod dim.
 
(Huw) A dydyn nhw ddim eisiau deall dim.
(1, 2) 702 Yng nghanol y Cymry Cymraeg?
(1, 2) 703 Wel wir.
(Huw) Wyddoch chi mai Cymru ydi'r wlad fwyaf anghrefyddol yn Ewrop?
 
(Huw) Drosodd.
(1, 2) 712 Ac mi fyddwch chitha' yma i gau'r drws?
(Huw) Emosiwn.
 
(Huw) 'Does neb efo'r arfau meddyliol i wrthsefyll dim.
(1, 2) 717 Ac mi gan nhw ei llyncu gan seciwlariaeth.
(Huw) Mae o'n digwydd eisoes.
 
(Huw) Mae o'n digwydd eisoes.
(1, 2) 719 Pam gwastraffu'ch amser a'ch talent yma, felly?
(Huw) Pa ddewis arall sy gen i?
 
(Huw) Pa ddewis arall sy gen i?
(1, 2) 721 Gwrand'wch.
(1, 2) 722 I achub cymdeithas, i achub y byd seciwlar mae'n rhaid i'r bobl orau dreiddio i'w ganol o.
(1, 2) 723 Bod wrth law yn y mannau tyngedfennol.
(1, 2) 724 Lle mae'r penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.
(1, 2) 725 Mewn gwleidyddiaeth, mewn llywodraeth leol, yn y byd addysg.
(1, 2) 726 Yn y byd.
(1, 2) 727 Yn y byd.
(1, 2) 728 Yno mae'n lle ni.
(1, 2) 729 Yn arwain pethau ac yn creu cymdeithas Gristnogol.
(1, 2) 730 Cymdeithas wâr.
(1, 2) 731 Cymdeithas dda.
(Huw) A dyma fi.
 
(Huw) Yn edwino ar gyrion cymdeithas.
(1, 2) 735 Yn ddyn deallus.
(1, 2) 736 Yn ddyn efo rhywbeth mawr i'w gynnig.
(Huw) Rhywbeth mawr?
 
(Huw) Rhywbeth mawr?
(1, 2) 738 Ia.
(1, 2) 739 Rhywbeth mawr.
(1, 2) 740 Mawr.
(Huw) Mi olygai fynd yn ôl i'r coleg.
 
(Huw) Mi olygai fynd yn ôl i'r coleg.
(1, 2) 743 Dim o angenrheidrwydd.
(Huw) Braidd yn hen i ddechrau eto, on'd ydw?
 
(Huw) Braidd yn hen i ddechrau eto, on'd ydw?
(1, 2) 745 Mae'r dewis yn glir.
(1, 2) 746 Cael byw yn y byd neu farw, yma.
(1, 2) 747 Gogoniant neu ebargofiant.
(1, 2) 748 Rydach chi'n haeddu gogoniant.
 
(Huw) Gogoniant.
(1, 2) 751 Anfarwoldeb.
(Huw) Anfarwoldeb.
 
(Huw) Anfarwoldeb.
(1, 2) 753 Mi fedra' i 'nabod mawredd.
(Huw) {Yn edrych i'w wyneb.}
 
(Huw) Cinio?
(1, 2) 757 Mm?
(Huw) Ddowch chi am damaid o ginio?
 
(Huw) Ddowch chi am damaid o ginio?
(1, 2) 759 Rhyw dro eto.
(1, 2) 760 Hynny ydi, os byddwch chi yma.
(Huw) Mi fydd eich cariad chi'n...
 
(Huw) Mi fydd eich cariad chi'n...
(1, 2) 763 Cariad?
(Huw) Ym Mangor.
 
(Huw) Ym Mangor.
(1, 2) 765 O.
(1, 2) 766 Ia.
(1, 2) 767 Wrth gwrs.
 
(1, 2) 769 Huw.
(Huw) Huw?
 
(Huw) Huw?
(1, 2) 771 Enw gwael.
(1, 2) 772 Rhy gyffredin o lawer.
(Huw) Ella.
 
(Huw) Ella.
(1, 2) 774 Mae hogia' Ioan Sant yn haeddu gwell?
(Huw) Ydyn nhw?
 
(Huw) Ydyn nhw?
(1, 2) 776 Ydyn!
(1, 2) 777 Maen nhw.
(1, 2) 778 Llawer gwell.