Y Glöyn Byw

Ciw-restr ar gyfer Miss Jones

(Gwladys) Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
 
(Gwladys) A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg!
(1, 0) 161 Ac wedi mynd allan y mae Mrs. Owen felly?
(Marged) le, ma'm.
 
(Marged) Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar.
(1, 0) 165 O.
(1, 0) 166 Ac i ba le yr aeth Mr. Owen, ynteu?
(Marged) Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd.
 
(Marged) Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl.
(1, 0) 169 Wel, ni welais i erioed beth rhyfeddach na bod y ddau wedi mynd allan fel hyn, a minnau wedi gyrru i ddywedyd fy mod yn dyfod.
(1, 0) 170 Wrth gwrs, mi gyrhaeddais yma yn gynt nag yr oeddwn yn disgwyl fy hun.
(1, 0) 171 Ac y mae arnaf eisiau bwyd.
(1, 0) 172 A fyddech chwi cystal a gwneud cwnaned o de i mi?
(Marged) Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs.
 
(Marged) Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm.
(1, 0) 189 O, diolch i chwi!
 
(1, 0) 191 Arhoswch funud, Ers pa faint yr ydych chwi yma?
(1, 0) 192 Yr wyf yn credu fy mod wedi eich gweled pan oeddwn i yma ryw ddeufis yn ol?
(Marged) Do, ma'm.
 
(Marged) Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf.
(1, 0) 195 O, da iawn.
(1, 0) 196 Yr ydych yn fodlon ar eich lle felly?
(1, 0) 197 Y mae'n anodd cael merched i aros yn hir yn yr un lle yn awr.
(Marged) O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle.
 
(Marged) Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael.
(1, 0) 202 Y mae'n dda gennyf glywed hynny.
(1, 0) 203 Y mae Mr. Owen yn gweithio yn galed onid yw?
(Marged) Yn galed iawn ma'm.
 
(Marged) Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo.
(1, 0) 214 Felly yn wir.
(1, 0) 215 Wel, y mae'n sicr fod Mr. Owen yn ennill arian mawr, gan ei fod mor brysur o hyd?
(Marged) {Gan ysgwyd ei phen.}
 
(Marged) Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed.
(1, 0) 219 O, pam, tybed, nad ydynt yn leicio 'i baent o?
(Marged) Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod.
 
(Marged) O! un digri ydi o!
(1, 0) 225 Wel, feddyliwn i mai e!
(1, 0) 226 Yr ydych yn forwyn werthfawr iddynt, ac y mae'n sicr eich bod yn cael cyflog da.
(Marged) {Gan ysgwyd eí phen.}
 
(Marged) Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn!
(1, 0) 233 Wel, wel.
(1, 0) 234 Hwyrach mai chwi sydd yn iawn yn wir.
(1, 0) 235 Peth ardderchog ydyw bod yn hapus ac yn fodlon.
(1, 0) 236 Diolch i chwi.
(Marged) Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn.
 
(Marged) Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn.
(1, 0) 242 Beth sydd?
(Marged) Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen.
 
(Marged) Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm.
(1, 0) 249 A oes yma ddim ystafell arall y gallech ei droi iddi i aros?
(Marged) Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm.
 
(Marged) Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm.
(1, 0) 251 O, wel, os ydyw yn ddyn a golwg parchus arno, dowch ag ef i mewn yma, wrth gwrs─nid oes gennyf i ddim yn erbyn.
(Marged) Diolch yn fawr i chi, ma'm.
 
(1, 0) 260 Peidiwch â son.
(1, 0) 261 Am weled Mr. Owen yr oeddych chwithau, y mae'n debyg?
(Morgan) Ie, ma'm.
 
(Morgan) Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw?
(1, 0) 271 Ydyw.
 
(1, 0) 274 Ah! diolch i chwi, syr.
(1, 0) 275 Ni chlywais i mo'r miwsig yna ers llawer blwyddyn!
(Morgan) Wel, na minnau chwaith.
 
(Morgan) Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio.
(1, 0) 281 Popeth yn iawn.
(1, 0) 282 Daw miwsig â phob math o bethau i gof dyn, oni ddaw?
(Morgan) Pob math.
 
(Morgan) Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm.
(1, 0) 285 Ychydig.
(1, 0) 286 Mi fyddwn gynt yn hoff ryfeddol o ganu ac o'r piano hefyd.
(Morgan) Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau.
 
(Morgan) Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni.
(1, 0) 302 Doniol iawn!
 
(1, 0) 304 Ac felly, John Morgan yw eich henw chwi?
(Morgan) {Gan gyfodi.}
 
(1, 0) 309 le!
(Morgan) {Yn estyn ei law.}
 
(Morgan) Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn.
(1, 0) 315 Ydwyf, yr wyf yn cofio.
(Morgan) A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau.
 
(Morgan) Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir.
(1, 0) 318 Fel yr oeddych yn canu'r piano daeth y cwbl yn ol i'm cof innau, ond ni feddyliais ddim unwaith mai chwi oedd yna hyd nes i chwi ddechreu dywedyd yr hanes.
(Morgan) Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd!
 
(Morgan) A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano?
(1, 0) 322 Pwy ŵyr?
(Morgan) le, pwy ŵyr!
 
(Morgan) Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt.
(1, 0) 325 Digon tebyg.
(1, 0) 326 Pwy ŵyr?
(Morgan) {Yn fyfyrgar.}
 
(Morgan) Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd?
(1, 0) 330 Nage.
(1, 0) 331 Yr wyf yn byw yn Llundain ers blynyddoedd, ond fy mod yn digwydd bod yng Nghymru ers tro, ac wedi dyfod yma i edrych am fy nith cyn mynd yn f'ôl.
(Morgan) Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi?
 
(Morgan) Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi?
(1, 0) 333 Ydyw, merch Dafydd fy mrawd.
(Morgan) Dyn byw!
 
(Morgan) A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled.
(1, 0) 338 Nag ydyw─wedi ei gladdu ers blynyddoedd, druan.
(Morgan) Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes.
 
(Morgan) A! yr hen amser gynt!
(1, 0) 344 Dowch i mewn!
(Marged) Maddeuwch i mi ma'm.
 
(Marged) Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─
(1, 0) 348 le─
(Morgan) O, myfi yw hwnnw.
 
(Morgan) Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt.
(1, 0) 352 Wrth reswm, Morgan.
 
(1, 0) 355 Marged!
(Marged) Wel, ma'm.
 
(Marged) Wel, ma'm.
(1, 0) 357 Dau funud!
(1, 0) 358 Dywedwch y gwir wrthyf yn awr─raid i chwi ddim ofni, cofiwch, ond dywedwch y gwir plaen wrthyf.
(Marged) le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─
 
(Marged) le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─
(1, 0) 360 Beth yw'r helynt?
(1, 0) 361 Dywedasoch wrthyf fod Mr. Morgan─y dyn a aeth allan yn awr─wedi gofyn i chwi a oedd yma biano yn y ty?
(Marged) Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─
 
(Marged) Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─
(1, 0) 363 Wel, pwy sydd wrth y drws yn awr?
(Marged) Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan.
 
(Marged) Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan.
(1, 0) 365 Rhywbeth arall?
(Marged) {Yn edrych yn gymysglyd.}
 
(Marged) Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 369 O, mi welaf.
(1, 0) 370 Diolch i chwi, Marged.
(1, 0) 371 Gellwch fynd yn awr, ac ni raid i chwi boeni dim eich bod wedi dywedyd i gwir wrthyf i.
(Marged) Diolch i chi, ma'm.
 
(1, 0) 375 Wel, wel!
(1, 0) 376 Yr oeddwn i yn ofni, yn wir!
(Morgan) Maddeuwch i mi am eich gadael chwi.
 
(Morgan) Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud.
(1, 0) 382 Ai siop fiwsig sydd gennych, Morgan?
(Morgan) Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi.
 
(Morgan) Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi.
(1, 0) 384 Ac yn eich siop chwi, y mae'n ddiameu, y prynodd Mr. a Mrs. Owen y piano yna?
(Morgan) Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd.
 
(Morgan) Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir.
(1, 0) 393 Wel, diolch yn fawr i chwi, Morgan.
(1, 0) 394 Ni waeth i mi heb ddisgwyl yn y fan yma am wn i.
(1, 0) 395 Dont yn eu holau cyn y nos hwyrach.
(1, 0) 396 A bydd yn hyfryd cael sôn am yr hen amser, oni bydd?
(Morgan) Bydd, yn wir.
 
(Gwladys) Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn!
(1, 0) 543 Merfyn!
(Merfyn) {Yn neidio ar ei draed yn sydyn.}
 
(Merfyn) {Gan rwbio ei lygaid.}
(1, 0) 547 A ydych yn sal, Merfyn?
(1, 0) 548 Y mae golwg wael arnoch, fy machgen i.
(Merfyn) {Gan dynnu ei law dros ei dalcen.}
 
(Merfyn) Maddeuwch i mi.
(1, 0) 561 Ble y mae Gwladys?
(Merfyn) Wedi mynd allan ar neges.
 
(Merfyn) Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl.
(1, 0) 566 O, na phoenwch am hynny; digwyddais daro ar Mr. Morgan, sy'n hen gydnabod i mi, a chefais ginio gydag ef..
(1, 0) 567 Buom yn son am yr hen amser, onid do, Morgan?
(Morgan) Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer!
 
(Morgan) Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer!
(1, 0) 569 Wel, na minnau chwaith, dywedyd y gwir.
(1, 0) 570 Felly, ni raid i chwi boeni dim, Merfyn.
(1, 0) 571 Yr wyf yn gobeithio bod Gwladys yn iach─
(Gwladys) {Yn rhedeg i mewn.}
 
(Gwladys) O! O! 'modryb!
(1, 0) 579 Beth sydd wedi digwydd?
(1, 0) 580 Y mae rhywbeth o'i le amoch eich dau, goeliaf i?