Owain Glyndwr

Ciw-restr ar gyfer Grey

(Gruffydd) A wnewch chwi ddwedyd wrthyf fi fy nhad,
 
(Brenin) I chwi wynebu Owen de Glendore?
(1, 2) 140 Fy Arglwydd Frenin! tawel ydwyf fi,
(1, 2) 141 A chryf yn nerth fy iawn a'th ffafr di.
(1, 2) 142 Fy iawn rydd imi fuddugoliaeth lwyr
(1, 2) 143 A'th ffafr di, O Frenin! rydd i mi
(1, 2) 144 Y nerth i sefyll ar fy hawl yn dyn.
(Brenin) Ai nid wyt ti yn teimlo iasau oer
 
(Brenin) Fel y darluniaist ti Glyndwr imi?
(1, 2) 150 Raid i'r bytheuad ofni gwel'd y pryf?
(1, 2) 151 A raid i'r heliwr ofni ei ysglyfaeth?
(Tywysog) Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn
 
(Brenin) Ryw adeg eto.
(1, 2) 182 Gall eich mawrhydi
(1, 2) 183 Anrhegu 'r gwylltddyn troednoeth, difoes hwn,
(1, 2) 184 A rhyw ychydig eifr. Ofni yr wyf,
(1, 2) 185 Fodd bynag, y bydd i'w amlwg ddiffyg moes,
(1, 2) 186 Ei anadl gan dawch cenin yn dromlwythog,
(1, 2) 187 A rhestr ei gyndeidiau cy'd a barf
(1, 2) 188 Ei wylltion eifr, wneyd i chwi deimlo 'n flin
(1, 2) 189 (Cyn darfod i'ch hynawsedd wneyd y rhodd)
(1, 2) 190 I chwi erioed fwriadu gwneyd y rhodd.
(1, 2) 191 A syn fydd genyf, os na ddengys ef
(1, 2) 192 Ei ddiffyg dysg a moes o fewn y llys.
(Kendal) Fy Arglwydd Grey, eich amheu raid imi,
 
(Brenin) Yn gyntaf oll i nodi i'n ei hawl.
(1, 2) 228 Fy Arglwydd Frenin! chwithau 'm cyd arglwyddi:
(1, 2) 229 Fy nghwyn yn fyr yw hyn,—Fy hawl i'r tir
(1, 2) 230 Dan sylw, brofwyd eisioes ddwywaith lawn
(1, 2) 231 Mewn llys cyfreithlawn, yn ol deddf y wlad.
(1, 2) 232 Y cyntaf dro, er profi 'm hawl yn glir,
(1, 2) 233 Fe ddallwyd llygaid tegwch, gwyrwyd barn,
(1, 2) 234 Gan law y teyrn ei hun.—Melldigaid fo
(1, 2) 235 Risiart Plantagenet, yr hwn o ffafr
(1, 2) 236 I'm gwrthwynebydd hwn, yn ddirym wnaeth
(1, 2) 237 Fy nghyfiawn hawl. Ond dan gyfreithiau teg
(1, 2) 238 Fy Arglwydd Frenin Harri y Pedwerydd,
(1, 2) 239 Fy hawl ge's 'nol. Ond darfu i Glyndwr
(1, 2) 240 (Pan y danfonais Swyddog dros y ffin,
(1, 2) 241 I hawlio tir y Croesau, fel y rho'dd
(1, 2) 242 Teg lys y Gyfraith imi berffaith hawl,)
(1, 2) 243 Nacau fy hawl, a gyru'm Swyddog 'nol,
(1, 2) 244 Dan fygwth erch, y gyrai ef a mi
(1, 2) 245 Fel cwn yn ol i'w ffau, os deuem byth
(1, 2) 246 Dros ffin y Croesau. Felly, deddf y wlad
(1, 2) 247 Ddirmygwyd, ac a wawdiwyd ganddo ef.
(1, 2) 248 A minau'n awr wyf yn apelio'n hy,
(1, 2) 249 At deyrn, a phenarglwyddi doeth y tir,
(1, 2) 250 Am anrhydeddu cyfraith deg y wlad,
(1, 2) 251 A rhoddi imi hawl i'r tir yn ol,
(Brenin) Syr Owen de Glendore! beth ddwedwch chwi?
 
(Glyndwr) Oddi arnaf.
(1, 2) 276 Fy Arglwydd Frenin:
(1, 2) 277 Tybiais i nad oedd un dyn yn bod
(1, 2) 278 A feiddiai yn y presenoldeb hwn
(1, 2) 279 Ddyrchafu mawl a chlod Plantagenet.
(1, 2) 280 Ond aros, mae teyrnfradwr fu yn Flint,
(1, 2) 281 Yn ysgwyd cledd o blaid y trawsfeddianwr,
(1, 2) 282 A daw yn hyf i ysgwyd yma 'i dafod.
(Brenin) Ha! fuost ti Glyndwr a'th gledd o'r wain,
 
(Gascoigne) Ganlynodd Risiart.
(1, 2) 300 Felly, 'n eofn mae
(1, 2) 301 Y bradwr hwn yn beiddio codi ei lais
(1, 2) 302 Yn ngwydd ei well.
(Glyndwr) Mae genyf eto'i wel'd
 
(1, 2) 307 Tywysogion geifr!
(Glyndwr) Myn bedd fy nhad,
 
(Brenin) 'Nawr aed y prawf yn mlaen.
(1, 2) 333 Urddasol deyrn:
(1, 2) 334 Deisyfaf genad i ofyn cwestiwn teg
(1, 2) 335 I'm gwrthwynebydd.
(Brenin) Cenad wyf yn ro'i.
 
(Brenin) Cenad wyf yn ro'i.
(1, 2) 337 Syr Owen do Glendore, A wnei di ddweyd
(1, 2) 338 Pa un a'i Cymro, ynte Sais wyt ti?
(Glyndwr) 'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn
 
(Glyndwr) Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf!
(1, 2) 343 D'wed eto, Wyt ti'n hawlio bod yn Sais?
(Glyndwr) A'i Sais wyt ti?
 
(Glyndwr) A'i Sais wyt ti?
(1, 2) 345 Ie, Sais o waed wyf fi.
(Glyndwr) Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais!
 
(Glyndwr) Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais!
(1, 2) 347 Os felly, mae y prawf yn wir ar ben.
(1, 2) 348 Fy Arglwydd Farnwr Gascoigne, wnewch chwi
(1, 2) 349 Hysbysu'r llys, a ellir derbyn llw
(1, 2) 350 Un Cymro i orbwyso llw un Sais,
(1, 2) 351 'Nol ysbryd a llythyren deddf y wlad.
(Gascoigne) Rhaid i'm gydnabod, er cywilydd, fod
 
(Gascoigne) I wrthwynebu ei hawl.
(1, 2) 357 Mae de Glendore
(1, 2) 358 Yn hawlio'n hyf mai Cymro ydyw ef:
(1, 2) 359 'Rwyf |fi|'n ymfalchu yn yr enw Sais;
(1, 2) 360 Mae ef yn hawlio'r Croesau ar ei lw;
(1, 2) 361 'Rwyf finau'n hawlio'r Croesau ar fy llw,
(1, 2) 362 Ac yn ol deddf y wlad, 'rwyf fi fel Sais
(1, 2) 363 Yn gwrthwynebu hawl Glyndwr, i ro'i
(1, 2) 364 Ei lw fel Cymro heddyw, ger eich bron.
(Gascoigne) Mae eto gan Syr Owen de Glendore
 
(Brenin) Anghofio eto wnaf dy eiriau llym.
(1, 2) 387 Ond nid anghofiaf i!
(Glyndwr) Fy maneg gwel,
 
(Glyndwr) {Yn myned allan.}
(1, 2) 392 Fy Arglwydd Frenin doeth, apelio 'rwyf
(1, 2) 393 Am ddedryd i'w chyhoeddi o fy mhlaid.