Glyndwr, Tywysog Cymru

Ciw-restr ar gyfer Brenin

(Oll) {Yn canu.}
 
(Hotspur) Ie, a'i spaniel bach gydag ef.
(1, 2) 288 Arglwyddi Lloegr!
(1, 2) 289 Gwysiais chwi i'r llys i glywed achos Arglwydd Grey yn erbyn Syr Owen de Glendore.
(1, 2) 290 Ein doeth Brif Farnwr Gascoigne!
(1, 2) 291 Y chwi raid ddweyd sut saif y gyfraith o'r naill du a'r llall.
(1, 2) 292 Fy Arglwydd Grey, a ydych chwi'n barod i wynebu Syr Owen de Glendore?
(Grey) {Yn moesgrymu.}
 
(Tywysog) Mae parch i lys dy deyrn, heb son am glod Glyndwr fel un o brif farchogion dewra'i oes, yn gwahardd i ti ddweyd iddo gael ei alw yma i'w hela gennyt ti na'r un ci arall.
(1, 2) 301 Fy mab!
(1, 2) 302 Gwnaf fi amddiffyn fy anrhydedd a'm llys pan welaf raid!
(1, 2) 303 Ymlaen, fy Arglwydd
(Grey) Fy Arglwydd Frenin.
 
(Glyndwr) {Yn taflu ei faneg wrth draed Grey.}
(1, 2) 314 Beth!
(1, 2) 315 A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys?
(Glyndwr) Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny.
 
(1, 2) 318 Beth a ddwedaist ti?
(1, 2) 319 Wyt ti'n dannod imi yr hyn a wnes flynyddoedd maith yn ol?
 
(1, 2) 327 Ymlaen, De Grey!
(Grey) Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn.
 
(Grey) {Yn moesgrymu i'r Brenin.}
(1, 2) 330 Dos yn dy flaen, De Grey!
(Grey) {Yn troi at Glyndwr.}
 
(Grey) Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais.
(1, 2) 346 Fy Arglwydd Farnwr, a yw De Grey yn iawn?
(Barnwr) Er cywilydd i gyfreithiau Lloegr, felly y mae.
 
(Barnwr) Gall hawlio rhoi ei lw fel un o bendefigion Lloegr.
(1, 2) 374 Aed y prawf felly ymlaen.
(1, 2) 375 Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di?
(Glyndwr) Fy Arglwydd Frenin.
 
(1, 2) 387 Adgofiaist fi iti ymladd wrth fy ystlys gynt mewn cad; gwna'r atgo hwnnw imi anghofio'r geiriau gwyllt a lefarwyd heddyw gennyt ger fy mron mewn llys.
(Grey) Ond nid anghofiaf fi!
 
(Esgob) Ac er mwyn heddwch gwlad apelio 'rwyf na fydded i ti gynhyrfu pob ryw ysbryd drwg trwy roi dyfarniad yn yr achos hwn ar sail deddf mor anghyfiawn─deddf sy'n sarhad ar degwch Lloegr ac ar hunanbarch pob Cymro!
(1, 2) 408 Fy Arglwydd Esgob!
(1, 2) 409 Mae dy wisg a'th swydd yn esgus dros i ti ddadleu heddwch yn fy llys.
(1, 2) 410 Ond nid yw bygwth Cymru arnaf, fel y gwnei, yn debyg o fy nhroi o'i phlaid.
(1, 2) 411 Ac, wedi'r cwbl, deddf yw deddf, a rhaid i'r neb a drosedda hon, ddwyn ei chosb.
(1, 2) 412 Ac yn ol deddf y tir, fel y'i dehonglwyd yma'n glir, nid oes un llw yn erbyn hawl De Grey.
(1, 2) 413 Rhaid i mi felly gyhoeddi fod tir y Croesau yn eiddo Arglwydd Grey.