Glyndwr, Tywysog Cymru

Ciw-restr ar gyfer Glyndwr

(Oll) {Yn canu.}
 
(1, 1) 31 Dyma Dir y Croesau y soniais am dano neithiwr.
(1, 1) 32 Tir yw a ddylasai fod yn ffrwythlon o ran ei fod wedi ei fwydo â gwaed dewrion dwy wlad gyfa.
(Llywelyn) Pob un at ei chwaeth, gefnder mwyn.
 
(Rhys) Mi gostiodd y gyfraith yn ddrud oni do?
(1, 1) 57 Gwell colli arian na gwaed─ond mi golla'm gwaed cyn colli'm tir.
(Llywelyn) Prin 'rwy'n gweld y lle yn werth ymladd am dano mewn na llys barn na chad waedlyd.
 
(Iolo) Be sy'n iawn sy o bwys i ni!
(1, 1) 61 Cofia dithau hynny, Gruff.
(1, 1) 62 Mae'r Sais, a'i drais, a'i draha yn Grey o'r Castell Coch yn bygwth helynt newydd.
(1, 1) 63 Mi gefais air yn ddistaw y gallem ddisgwyl rhuthr ar y Croesau eto.
(Iolo) Twt! lol wirion!
 
(Iolo) Tra bo cyfraith a gwaith gwir!
(1, 1) 70 Ie, tra bo cyfraith a gwaith gwir.
(1, 1) 71 Ond chydig geir o rheiny tra b'o Harri ar ei orsedd a Grey o Ruthin yn ei lawes.
(Iolo) Onid wyt tithau cyn belled yn llawes y brenin ag ydyw Grey?
 
(Iolo) A be wnai Grey, greadur truan, mewn lleoedd felly, amgen beichio fel llo neu ffoi am ei hoedl!
(1, 1) 76 Mae pethau wedi newid er hynny, Iolo bach!
(1, 1) 77 Cof byr yw cof cymwynas, ond hir yw atgo digter.
(Oll) Wele hai am yr helfa drwy'r coed!
 
(Iolo) {Yn ymosod.}
(1, 1) 165 Pa beth yw hyn?
(1, 1) 166 Ha!
 
(1, 1) 168 Lifre Grey o Ruthyn!
(1, 1) 169 Pam y troseddwch ar dir Glyndwr?
(Marglee) {Yn gweinio eí gledd.}
 
(Marglee) {Yn cyfeirio at y faner ar y llumanbren.}
(1, 1) 173 Myn fy einioes!
(1, 1) 174 Oni bae fod gennyf fwy o barch i mi fy hun nag i ti a'th feistr, mi dy grogwn y funud hon, tydi a'th wyr, am y sarhad a wnest.
(1, 1) 175 Pa le mae fy manner?
(Milwr 1) {Yn cerdded yn gloff tuag ato.}
 
(Milwr 1) Dyma hi, fy Arglwydd.
(1, 1) 178 Yn ol a hi i'w lle!
(1, 1) 179 I lawr â lluman Grey!
 
(1, 1) 181 Na!
(1, 1) 182 Ca'r dwylaw a daflasant laid ar luman Cymru ei olchi eto i ffwrdd!
(1, 1) 183 Chwi filwyr Grey, â'ch dwylaw eich hun gwnewch hyn!
 
(1, 1) 186 Yn ol a chwi i'ch ffau!
(1, 1) 187 A dywed wrth dy feistr Grey os beiddia ef, neu ti, neu neb o'i wyr, roi troed ar dir y Croesau mwy heb ganiatad Glyndwr, mai'r crogbren a fydd rhan y neb a wna.
(Iolo) Da iawn, Glyndwr.
 
(Iolo) Ond un peth a anghofiaist.
(1, 1) 190 Pa beth yw hynny?
(Iolo) Mae'r fanner yn ei lle─ond ble mae'r parch?
 
(Syr Rhys a'r Cymry Oll) Gwir! Gwir!
(1, 1) 195 Wel, dyna ddechreu'r storm.
(Tywysog) {Wrth yr Esgob.}
 
(1, 2) 229 Diolch i'ch Huchelder Brenhinol.
(1, 2) 230 Mae eich croesaw yn anrhydedd a'ch cwmni yn ddywenydd bob amser i Gymro tlawd fel myfi!
(Tywysog) {Yn chwerthin.}
 
(Grey) Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth.
(1, 2) 295 Da gwnaeth yr Arglwydd Grey i alw'i hun yn gi, canys hynny yw, a hynny a fu erioed.
(1, 2) 296 Ond, p'run a fydd Glyndwr yn 'sglyfaeth iddo sy'n gwestiwn arall!
(Tywysog) Ie'n bwyllog, Arglwydd Grey!
 
(Grey) Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well.
(1, 2) 306 Ei well!
(1, 2) 307 P'le gwelir gwell o waed neu fonedd na'r sawl a olrheinia linach glir ei waed o Dywysogion Cymru?
(Grey) Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr!
 
(1, 2) 310 Myn bedd fy nhad, cei lyncu'th air dy hun neu'm cleddyf i!
(1, 2) 311 Rhof her iti!
(1, 2) 312 A dyna'm maneg i lawr!
 
(Brenin) A feiddi di roi her i neb ym mhresenoldeb y brenin yn ei lys?
(1, 2) 316 Nid myfi yw'r cyntaf a wnaeth hynny.
(Brenin) {Yn codi ar ei draed.}
 
(Grey) Ai Cymro ynte Sais wyt ti?
(1, 2) 333 Ni wedais i erioed ac ni wadaf byth fy ngwlad, fy iaith, na'm cenedl.
(1, 2) 334 Yn Gymro y'm ganed i, ac yn Gymro y'm cleddir, pan welo Duw yn dda.
(Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais?
 
(Grey) Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais?
(1, 2) 336 Pa beth wyt ti, De Grey?
(Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon.
 
(Grey) Sais ydwyf fi o waed a chalon.
(1, 2) 338 Wel dyna ddigon!
(1, 2) 339 Os wyt ti'n Sais, a thra bo Saeson yn ymfalchio'th fod yn Sais, ni allaf, gyda hunan barch, fyth chwennych hawlio fy mod i yn Sais.
(Grey) Wel, felly yn fyr.
 
(Brenin) Syr Owen de Glendore, pa beth a ddywedi di?
(1, 2) 376 Fy Arglwydd Frenin.
(1, 2) 377 Mi ddeuthym yma i geisio'r hyn oedd gyfiawn imi fel dyn, a pherchen tir.
(1, 2) 378 Dim mwy na llai na hynny.
(1, 2) 379 Gwrthodwyd hyn i mi, nid am nad oedd fy hawl yn deg a chyfiawn, ond am fy mod yn Gymro.
(1, 2) 380 Cymhellir fi i'w geisio 'nawr fel Sais.
(1, 2) 381 Ond os gwrthodir cyfiawnder i mi fel Cymro, ni fyn olynydd syth y Brenin Arthur Fawr ei gael trwy ddweyd ei fod yn Sais!
(1, 2) 382 Na!
(1, 2) 383 Pe bai'r Croesau'n Gymru, a phe bai Cymru'n fyd!
(1, 2) 384 Ond gwae i'r wlad a wnelo gam mewn llys!
(1, 2) 385 A gwae i'r teyrn a wyro farn ar sedd!
(Brenin) {Gydag urddas.}
 
(1, 2) 390 Tydi!
(1, 2) 391 Y gwron gwych sy'n llechu'n nghysgod teyrn.
(1, 2) 392 Gwel fy maneg!
(1, 2) 393 Mae honno eto ar lawr!
(1, 2) 394 Os wyt ti'n ddyn, ti wyddost beth i'w wneud!