|
|
|
(Oll) {Yn canu.} |
|
|
|
(Tywysog) {Yn troi ymaith.} |
(1, 2) 356 |
Fy Arglwydd Frenin, 'rwyf finnau'n dweyd mai cywilydd yw i ni fod y fath ddeddf yn bod. |
|
|
(1, 2) 358 |
A chywilydd mwy i'r neb a fanteisia, er ei les ei hun, ar gyfraith mor anheg. |
|
|
(1, 2) 360 |
Ond, f'Arglwydd Farnwr, nid oes raid er hyn ddyfarnu'n erbyn De Glendore. |
|
(Grey) {Yn wawdlyd.} |
|
|
|
(Grey) A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai? |
(1, 2) 363 |
Na, nid felly chwaith, ond erys Mortimer fel cynt yn foneddwr syml, yn parchu ei wlad a'i chlod. |
(1, 2) 364 |
'Rwy'n deall fod y Barnwr doeth yn gwrthod llw Syr Owen de Glendore fel Cymro? |
|
(Barnwr) Ie. |
|
|
|
(Barnwr) Dyna'r ddeddf. |
(1, 2) 367 |
Ond er mai Cymro yw Syr Owen de Glendore, mae ef yn fwy na Chymro, am ei fod yn un o bendefigion Lloegr. |
(1, 2) 368 |
Ac er na all y Barnwr dderbyn llw y Cymro, yn sicr ni all wrthod llw yr un pendefig? |
|
(Yr Arglwyddi) Clywch! |
|
|
|
(Grey) Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid. |
(1, 2) 397 |
Apeliaf finnau, er mwyn anrhydedd Lloegr, am i'r achos hwn gael gwrandawiad llawn a theg ar ffeithiau gwir, ac nid ei benderfynu ar lythyren deddf. |