Golff

Ciw-restr ar gyfer Arwyn

(Gwyneth) {Yn gweiddi.}
 
(Morris) Arglwydd, ma' hi'n brimin yma.
(1, 0) 363 'Dw i ddim yn codi bwganod.
(Morris) Fydd 'na ddim gwrthwynebiad.
 
(Morris) Bydda'n amyneddgar.
(1, 0) 536 Chytunan nhw byth, Morris.
(Morris) Y?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 538 Ro'n nhw byth dragwyddol sêl bendith ar y fath beth.
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Yli, am y tro dwytha, 'nes i ddim gofyn iti ddwad yma i godi bwganod, Arwyn.
(1, 0) 541 Wnân nhw ddim.
(1, 0) 542 Coelia di fi.
(Morris) Wedi gneud ma'n nhw.
 
(Morris) A dyna ddiwadd arni.
(1, 0) 548 Cwrs golff drws nesa i fynwant?
(Morris) Pa wahania'th 'neith hynny?
 
(Morris) Dydi'r ffernols sy'n y fynwant 'na ddim yn mynd i falio rhyw lawar nac ydyn?
(1, 0) 554 Paid â rhygyfu.
(Morris) Be ti'n feddwl, rhyfygu?
 
(Morris) Cofia di hynny.
(1, 0) 562 Mi dynni di nyth cacwn yn dy ben.
(Morris) A phwy sy'n mynd i wrthwynebu?
 
(Morris) Twt lol!
(1, 0) 574 A hogia'r iaith 'ma.
(1, 0) 575 Be am rheini?
(Morris) Pa fusnas ydi o iddyn nhw?
 
(Morris) Pa fusnas ydi o iddyn nhw?
(1, 0) 577 Traddodiad.
(1, 0) 578 Treftadaeth a ballu.
(Morris) Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw?
 
(Morris) Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw?
(1, 0) 580 A'r boi 'na sy'n sgwennu yn Y Tŵr.
(1, 0) 581 Mi fydd yn fêl ar fysadd hwnnw bydd?
(Morris) Pwy sy'n darllan rwts hwnnw?
 
(Morris) Pwy sy'n darllan rwts hwnnw?
(1, 0) 583 Mwy nag wyt ti'n feddwl.
(1, 0) 584 Cofio'r helynt gaethon ni efo'r parc 'na bum mlynadd yn ôl?
(Morris) Ia, ia...
 
(Morris) Ia, ia...
(1, 0) 586 Fo wthiodd y cwch i'r dŵr.
(1, 0) 587 Llythyru, deisebu, protestio a hynny am fisoedd dallta.
(Morris) Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te?
 
(Morris) Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te?
(1, 0) 589 Ia, e'lla.
(Morris) Y twll cynta?
 
(Morris) Mi fydd y tee wrth y giât bella'.
(1, 0) 598 Pam wyt ti wedi marcio fan'ma?
(1, 0) 599 Pa dwll fydd hwn?
(Morris) Y pedwerydd.
 
(Morris) Wel, na dim problem chwaith.
(1, 0) 606 Pam?
(1, 0) 607 Be sy?
(Morris) 'Dw isio'i lle hi i'r green.
 
(Morris) 'Dw isio'i lle hi i'r green.
(1, 0) 609 Fedri di ddim statu honno?
(Morris) Ma' hi ar y ffordd, tydi?
 
(Morris) Ma' hi ar y ffordd, tydi?
(1, 0) 611 Ydi hynny o dragwyddol bwys?
(Morris) Lle arall roi'r green?
 
(Morris) Mi 'dan ni'n dallt yn gilydd?
(1, 0) 626 'Dw i'n gaddo dim.
(Morris) Wyt, gobeithio.
 
(Morris) Mi fydda' i'n dy ffonio di o Leamington nos Ferchar.
(1, 0) 629 O, ia, wrth gwrs.
(1, 0) 630 Mi fyddi di'n fanno, byddi?
(Morris) Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd.
 
(Morris) Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd.
(1, 0) 632 Ia, wel, rhyw feddwl o'n i ma'r peth calla' fydda iti...
(Morris) ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân?
 
(Morris) ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân?
(1, 0) 634 Rhaid bod yn ddoeth, rhaid?
(Morris) O, rhaid.
 
(Gwyneth) Be ti'n da 'ma rŵan?
(1, 0) 659 Rhyw bicio draw.
(1, 0) 660 Dyna'r cwbwl.
(Joyce) {Wrth MORRIS.}
 
(Morris) Fasa ots gin ti?
(1, 0) 665 Be?
(Morris) Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na.
 
(Morris) Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na.
(1, 0) 667 Dim o gwbwl.
(Joyce) {Wrth ARWYN.}
 
(Joyce) {Exit JOYCE.}
(1, 0) 672 Rhy falch o ga'l gneud rwbath.
 
(Gwyneth) Edrach ymlaen at weld Nans...
(1, 0) 676 Be?
(Gwyneth) Nans.
 
(Gwyneth) Ma' hi'n dwad heno gobeithio?
(1, 0) 679 O, ia.
(1, 0) 680 Mi ddylwn i fod wedi deud wrth Morris 'ma.
(Morris) Deud be?
 
(Morris) Deud be?
(1, 0) 682 Na fydd hi yma.
(Gwyneth) Pam?
 
(Gwyneth) Pam?
(1, 0) 684 Wedi gorfod rhuthro i Warrington.
(Gwyneth) At Karen?
 
(Gwyneth) At Karen?
(1, 0) 686 Ia.
(1, 0) 687 Yr hogan 'cw.
(Gwyneth) Ma'n ddrwg gin i Arwyn.
 
(Gwyneth) Y babi.
(1, 0) 691 Ia.
(1, 0) 692 Y babi.
(Gwyneth) Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud?
 
(Gwyneth) Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud?
(1, 0) 694 Ydi.
(Gwyneth) O.
 
(Gwyneth) Be sy'n digwydd?
(1, 0) 711 Dim, hyd y gwn i.
(Gwyneth) Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd?
 
(Gwyneth) Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd?
(1, 0) 713 'Dw i ddim yn meddwl.
(Gwyneth) Arwyn?
 
(Gwyneth) Arwyn?
(1, 0) 715 Na fydd.
(1, 0) 716 Wir rŵan.
(Gwyneth) Wy'st ti be?
 
(Gwyneth) Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn?
(1, 0) 725 Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na?
(1, 0) 726 Y rhiwal ia?
(Gwyneth) Yn tydi, Arwyn?
 
(Gwyneth) Yn tydi, Arwyn?
(1, 0) 728 Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn.
(Gwyneth) Y champagne?
 
(Gwyneth) Ma' rhywun wedi bod wrthi.
(1, 0) 917 Y gist 'na.
(1, 0) 918 Ma' hi'n llawn o ryw hen gelfi.
 
(Gwyneth) Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi.
(1, 0) 922 Fi?
(Gwyneth) Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di.
 
(1, 0) 929 Yli, fel hen ffrind, 'dw i am roid gair o gyngor iti.
(1, 0) 930 Taswn i'n dy le di mi faswn i'n anghofio am hyn.
(1, 0) 931 'Dan ni'n dau'n rhy hen i dynnu rhyw hen helynt i'n penna.
(1, 0) 932 Ro'dd Nans a finna'n ca'l rhyw sgwrs bach noson o'r blaen.
(1, 0) 933 'Dan ni'n dau wedi bod bum mlynadd ar hugain ar ryw gyngor ne'i gilydd.
(1, 0) 934 Nans druan wedi cyfri'r blynyddo'dd.
(1, 0) 935 E'lla y dylan ni'n dau ga'l rhyw hoe bach.
(1, 0) 936 Rhoid lle i rywun fengach...
(1, 0) 937 Ca'l tawelwch yn y tŷ.
(1, 0) 938 Dim ffôn yn canu o fora gwyn tan nos.
(1, 0) 939 'Dw i 'di gofyn am ymddeoliad cynnar o'r ysgol 'na.
(1, 0) 940 Ma'n nhw'n rhoi tua deng mlynadd dyddia yma.
(1, 0) 941 Ydyn, rhyw ddeng mlynadd.
(1, 0) 942 Yr hen gwricwlwm cenedlaethol 'ma.
(1, 0) 943 Poen enaid a dim byd arall.
(1, 0) 944 Melltith.
(1, 0) 945 Symud yn nes at Karen e'lla.
(1, 0) 946 Mi fydd hi angen help efo'r babi 'ma.
(1, 0) 947 Am gario mlaen i nyrsio medda hi...
(1, 0) 948 Helpu efo'r mortgage a ballu, wy'st ti?...
(1, 0) 949 na, 'dw isio i'r peth bach ddwad i 'nabod i...
(1, 0) 950 Ma' rhywun yn haeddu tawelwch, tydi?
(1, 0) 951 Tawelwch yn rhwbath...
(1, 0) 952 Be fydda'r gair hwnnw y bydda Wilias sgŵl yn 'i ddysgu inni stalwm.
(1, 0) 953 Amheuthun?
(1, 0) 954 Ia.
(1, 0) 955 Amheuthun.
(1, 0) 956 Tawelwch yn rhwbath amheuthun.
(Morris) Da i rwbath?
 
(Morris) Da i rwbath?
(1, 0) 958 Mm?
(Morris) Hon?
 
(Morris) Hon?
(1, 0) 961 O...
(1, 0) 962 Ydi...
(1, 0) 963 Siŵr o fod.
(Morris) Cystal â'r Glenmorangie?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 966 Ydi... meddan nhw.
(Morris) Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly?
 
(Morris) Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly?
(1, 0) 968 Be ddeuda i wrthi?
(Morris) Pwy?
 
(Morris) Pwy?
(1, 0) 970 Gwyneth.
(Morris) Ynglŷn â be?
 
(Morris) Ynglŷn â be?
(1, 0) 972 Y boncan.
(Morris) Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto?
 
(Morris) Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto?
(1, 0) 974 Does dim rhaid ca'l gwarad ohoni, nac oes?
(Morris) {Yn ddig.}
 
(Morris) Wel, wel.
(1, 0) 981 Mi cornelith fi.
(1, 0) 982 Ti'n 'i nabod hi'n ddigon da.
(1, 0) 983 Be ddeuda i?
(Morris) Tywallt olew ar y dyfroedd yn ôl dy arfar.
 
(1, 0) 996 Ro'dd hwn yn yr hen gist 'na...
(1, 0) 997 I be mae o'n da?
(Morris) Cwpan dena.
 
(Morris) Fydda'r hen wraig 'y mam yn 'i hiwsio hi i drin menyn ers talwm.
(1, 0) 1000 O, ia.
(1, 0) 1001 Cofio rŵan.
(1, 0) 1002 Be haru mi?
(Morris) Dos â'r diawl peth o'ma.
 
(Morris) Presant bach i Nans.
(1, 0) 1005 Na, na chwara teg.
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Be ma' hi'n da i mi?
(1, 0) 1008 Yma ma'u lle nhw.
(1, 0) 1009 Creiria'r hen gyff.
(Morris) {Yn ddig.}
 
(Joyce) Lle ma'r byrdde 'na?
(1, 0) 1016 Ma'n ddrwg gin i Joyce.
(Morris) {Wrth JOYCE.}
 
(Morris) Pwyll!
(1, 0) 1087 Iawn.
(1, 0) 1088 Iawn.
(Morris) Gafa'l ynddyn nhw!
 
(Morris) Gafa'l ynddyn nhw!
(1, 0) 1090 Tydw i'n gneud.
(Morris) A rho dy law dano fo!
 
(Morris) A rho dy law dano fo!
(1, 0) 1092 Be arall ti'n feddwl 'dw i'n drio'i 'neud?
(Morris) Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad?
 
(Morris) Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad?
(1, 0) 1094 Lle ma' hi isio fo?
(Morris) 'D wn i'm duw.
 
(Morris) Tara fo yn fan'ma.
(1, 0) 1097 Yn lle?
(Morris) Fan'ma.
 
(Morris) Pwy uffar ma' hwnna'n feddwl ydi o?
(1, 0) 1106 Pwy?
(Morris) Hwnna'n fan'cw.
 
(Morris) Yli arno fo.
(1, 0) 1110 O.
(1, 0) 1111 Hwnna.
(Morris) Sefyll yn fanna'n rhythu ar bawb.
 
(Morris) Be mae o isio?
(1, 0) 1114 Rhywun wedi colli'i ffordd e'lla.
(Morris) Drw'r chwaral 'na ma'n nhw dwad.
 
(Morris) Y?
(1, 0) 1124 Ddo' i heibio tua'r saith 'ma, ia?
(Morris) Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan.
 
(Morris) Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan.
(1, 0) 1126 Rhaid imi ffonio Nans gynta.
(1, 0) 1127 Holi sut ma' pawb a ballu.
(Morris) Cofia fi ati...
 
(Morris) A Karen hefyd.
(1, 0) 1130 Siŵr o 'neud.
(Morris) A ffonia'n criw ni heno hefyd tra wyt ti wrthi.
 
(Ceinwen) Yncl Arwyn.
(1, 0) 1155 Falch o dy weld di 'mechan i.