a1

Golff (2000)

William R Lewis

Ⓗ 2000 William R Lewis
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1


YR ACT GYNTAF

Y tu allan i ffermdy ym Môn. Mae'r tŷ fferm wedi ei foderneiddio'n raenus ond yn ddi-chwaeth. Gwelwn ddrws yn arwain i'r tŷ ac o'i flaen gwelir patio ac arno gadeiriau plastig, tybiau plastig a'r rheini'n llawn o flodau tymhorol. Ar ongl, yn wynebu'r tŷ a'r patio y mae'r beuddi; eto wedi eu moderneiddio. Ffenestri gwynion UPVC sydd iddynt. O'u blaenau mae ambell i hen beiriant fferm. Mae gwŷdd yn un ohonynt. Mae'r rhain wedi cael eu peintio. Gwelir hen bwmp dŵr wedi ei beintio hefyd. Mae talcen y beuddi yn wynebu'r gynulleidfa. Wrth ochr y talcen y mae cilbost a hen giât, eto wedi cael ei pheintio, yn arwain i'r caeau. Rhwng v ffermdy a'r beuddi mae cowt tarmac. Mae'r cyfan yn wynebu caeau a maes golff (range) dychmygol.

Clywir peli golff yn yr awditoriwm yn cael eu taro gydag undonedd hunllefus. Yn araf, cyfyd y golau a gwelwn gadair olwyn wag ac wrth ei hochr ar y llawr y mae GWYNETH. O'i chwmpas mae blodau gwylltion ar lawr yn flêr. Mae JOYCE, sydd â llwyth o flodau gwylltion yn ei hafflau, yn sefyll o olwg GWYNETH wrth y porth sy'n arwain at y caeau. Mae'n amlwg fod GWYNETH mewn poen. Nid yw JOYCE yn ymateb am ennyd, dim ond gwrando arni yn hunanfeddiannol yr olwg.

Gwyneth

(Yn gweiddi.) Joyce! Joyce! Joyce!



Mae JOYCE yn ei thynnu ei hun at ei gilydd a rhedeg at GWYNETH a dechrau rhoi help llaw iddi godi.

Joyce

(Yn oeraidd.) Be drioch chi 'neud rŵan?

Gwyneth

(Yn flin.) Rhein syrthiodd. Mi 'nes i drio'u pigo nhw.

Joyce

Ddeudes wrthach chi am ddisgwl amdana'i.

Gwyneth

Wn i. Wn i.



Mae JOYCE yn ei helpu'n ôl i'w chadair gan osod ei choesau'n ofalus ar waelod y gadair.

Joyce

Pwyll rŵan. Cyfforddus?

Gwyneth

Am wn i. (Mae GWYNETH yn edrych ar y blodau o'i chwmpas.) Cod nhw.

Joyce

Mi a'i hel rhei er'ill yn 'u lle nhw. Fydda i ddim chwinciad.

Gwyneth

Cod nhw.



Mae JOYCE yn gwneud yn ddiamynedd. Ma'r cloddie 'na'n pwyso ohonyn nhw.

Gwyneth

Dim ots. Rhein 'dw i isio. Rhein o Bonc yr Onnan. (Mae GWYNETH yn cynhyrfu.) Do, daria unwaith! 'Drycha be ti 'di 'neud!

Joyce

Be?

Gwyneth

Sathru'r bloda llefrith 'na.

Joyce

Yn lle?

Gwyneth

Fanna! Drycha! Ma'n nhw'n un slwts.

Joyce

Twt lol, nac ydyn. (Mae'n pigo'r blodau.) Ma'n nhw'n iawn. Drychwch.

Gwyneth

Yli llipa ydyn nhw.

Joyce

Pethe fel hyn yn dechra gwywo'n syth bin, tydyn? Ca'l 'u tynnu o'u cynefin.



Mae JOYCE yn edrych ar y blodau y mae hi ei hun wedi eu casglu.

Gwyneth

Be ydi hwnna sy gin ti?

Joyce

(Cyfyd flodyn gwyddfid.) Hwn? Clywed 'i ogla fo 'nes i. (Yn ei arogli.) Hyfryd, tydi?

Gwyneth

Gwyddfid.

Joyce

Dyna ydi o? Wel, wel.

Gwyneth

Tafla fo.

Joyce

Pam?

Gwyneth

Anlwcus.

Joyce

Pwy ddedodd ffasiwn beth?

Gwyneth

Yr hen bobol.

Joyce

(Yn ei arogli eto.) Twt lol.

Gwyneth

Gwna be 'dw i'n 'i ddeud. 'Dw i ddim isio fo ar gyfyl y lle 'ma. Tafla fo! Tafla fo!



Mae JOYCE yn ufuddhau.

Joyce

Fodlon?

Gwyneth

(Yn ochneidio.) Ma'n ddrwg gin i, Joyce.

Joyce

Ia, wel, ych parti chi ydi o, te?

Gwyneth

Naci. Parti Ceinwen. Pan fydda hi'n hogan bach, mi fyddwn i'n mynd â hi am bicnic ar Bonc yr Onnan 'cw. Ro'dd yna borfa yna ers talwm. Un fras, felys. Ro'dd gofyn ca'l nerth march i fustachu trwyddi. Ac, o, mi fydda hi'n cwyno. Strancio weithia. Ond munud y gwela' hi'r bonc, gwên fawr a'i gneud hi am a welat ti at y bonc a sefyll fel sowldiwr ar yr hen graig lwyd 'na. Rhuthro'n ôl ata'i wedyn. Cythru yn y fasgiad o'n llaw i. Tynnu'r lliain allan a'i osod o'n dwt ar y bonc. Rhedag at Pwll Gasag, hel tusw bach o rhein, blodau llefrith, a'u gosod nhw'n gylch ar y lliain... Dyna lle byddan ni, yn ista am oria yno. Dim ond y ddwy ohonan ni.

Joyce

Pryd o'dd hi'n bwriadu cychwyn o Aberystwyth?

Gwyneth

Yn syth bin ar ôl 'i harholiad dwytha medda hi. Deuda'i bod hi'n cychwyn am un... Faint 'neith hi rŵan?



Mae JOYCE yn edrych ar ei horiawr.

Joyce

Wedi troi tri.

Gwyneth

Tân dani felly, te?



Mae JOYCE yn mynd at GWYNETH a pharatoi i'w rowlio.

Gwyneth

Tair blynedd, felly.

Joyce

Be?

Gwyneth

Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma.

Joyce

Ydi hi, 'dwch?

Gwyneth

Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth.

Joyce

Ia, te?

Gwyneth

Cythral bach dan din.

Joyce

Pwy?

Gwyneth

Morris. Ro'n i wedi bod am y profion 'ma y dydd Gwenar. Adag Royal Welsh o'dd hi, cofio'n iawn. Morris, fel arfar, yn torri'i fol i fynd efo'i giwad ddydd Sadwrn. Ac mi a'th. Ddydd Llun mi ddoth 'na lythyr yn deud wrtha'i 'u bod nhw isio 'ngweld i fora dydd Merchar. Fedrwn i ddim gofyn i Ceinwen ddwad efo fi. Ro'dd hi yng nghanol 'i harholiada. Ffonio pob tŷ tafarn yn ochra Llanelwedd 'na. Prin y medrwn i glywad 'i lais o. Ffarmwrs chwil yn morio canu yn y cefndir. Ond mi lwyddis i i egluro y bydda'n rhaid iddo fo ddwad adra i fynd â fi. Yn lle dwad adra'n syth ma'n rhaid i fod o wedi picio i Sbyty Gwynedd. Gwadu 'nath o. Ond ro'dd 'i wynab o'n wyn fel y galchan. Deud dim na bw na be am oria. Cerdded y caea. Dim golwg ohono fo. Ar ôl magu plwc, dyma fo'n rhuthro i'r parlwr 'na fath â dyn gwyllt. "Nyrs," medda fo. "Rhaid ca'l nyrs." Do'n i ddim isio nyrs. O'n i'n ddigon 'tebol ar y pryd. Ond mi fynnodd ga'l 'i faen i'r wal, fel arfar. Ro'dd Arwyn wedi sôn am ryw asiantaeth nyrsio... Ac mi ddoist ti o rwla, do?



Dim ymateb gan JOYCE.

Joyce

Fydd Nigel yn dwad efo Ceinwen?

Gwyneth

Bydd, m'wn. Eith hi i le'n byd y dyddia yma heb hwnnw. (Mae GWYNETH yn rhythu i'r pellter.) Rhyw hen darth ar y morfa 'na. Hidio dim ar 'i olwg o.

Joyce

Y bwrdd arall 'ma. Ble'n union dach chi isio fo?

Gwyneth

Gest ti afa'l arnyn nhw. Bob dim yn lluch i dafl hyd y lle 'ma ers i Morris ddechra stwnsian.

Joyce

Do, do. Ma'n nhw yn y rhiwal.

Gwyneth

Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma.

Joyce

Chi ŵyr.

Gwyneth

Ia. Rown ni'r buffet yn fan'ma, iawn?

Joyce

Ie. Iawn. Rhwle. Dim ots gen i. Dim ond imi ga'l gwbod yn ddigon buan.

Gwyneth

Naci. Mi rown ni'r bwyd yn fan'cw. Y diodydd a ballu yn fan'ma. Haws rywsut, bydd? Bydd... Bydd. Y bloda 'ma. Mi fydd raid 'u taro nhw mewn dŵr.

Joyce

Dewch â nhw i mi.

Gwyneth

Rho di drefn ar y byrdda 'ma.

Joyce

Triwch orffwys am ryw awr fach.

Gwyneth

'Dw i'n iawn. 'Dw i ddim wedi teimlo cystal ers wsnosa dallta... A ffrog.

Joyce

Ffrog?

Gwyneth

Gwisga ffrog. 'Dw i 'di laru dy weld di yn yr hen drowsus hyll 'na. Gwisga honna brynist ti pan o'ddat ti'n aros hefo dy chwaer...



Nid yw JOYCE yn ymateb.

Gwyneth

... ac mi gei di hel mwy o floda ysgo imi... Rhaid inni roid digon o liw i'r lle 'ma. Drycha oes 'na bunting ar ôl y carnifal dwytha yn rhwla.



Mae JOYCE yn dechrau rowlio GWYNETH yn ei chadair i'r tŷ.

Gwyneth

Mi ddyla fod mewn bocs yn y twll dan grisia... yn y pen pella... mi ddangosa'i iti...



Â'r ddwy i mewn. Ymddengys GRUFF yn hynod flin yr olwg. Mae'n cario belt peiriant yn ei law. Mae'n edrych i gyfeiriad y maes golff a dechrau gweiddi.

Gruff

I'll be with you now, right?... Carry on! Carry on, you're doing fine! Mi fyddi di wedi agor bedd bach digon twt i ti dy hun cyn chwech. Dal ati i dyrchu washi... Mynci mul!



Ymddengys JOYCE efo 'bunting' yn ei dwylo. Mae GRUFF yn ei gweld.

Gruff

Arglwydd, ydi hi'n garnifal eto 'leni?

Joyce

Cau geg 'nei di.

Gruff

Ges i gam llynadd, sti. O, do, cam ar y diawl. Ma' gin i well syniad 'leni. 'Dw i am daro fy hen beth yn 'y nghlust a mynd fath â pwmp petrol.

Joyce

Oes rhaid bod mor fudur dy dafod?

Gruff

Ble uffar mae o, d'wad?

Joyce

Pwy?

Gruff

Morris, te? Yn giaffar ni oll. Y dyn mawr 'i hun.

Joyce

Yn dre. Wedi picio i ryw bwyllgor cynllunio ne' rwbath.

Gruff

Ma' olwyn y blydi medelwr wedi torri.

Joyce

A be di peth felly?

Gruff

Harvester. Yr hen beth 'na brynodd o i hel peli, te?

Joyce

Deall dim.

Gruff

Wast ar bres, yli. 'Dw i'n edrach rêl tw-lal yn tynnu hwnna o gwmpas lle. Pawb yn y lle 'ma yn 'y nghymyd i'n giâm.

Joyce

(Yn codi'r 'bunting'.) Helpa fi efo hwn 'nei di?

Gruff

(Yn cydio yn un pen i'r 'bunting'.) la?

Joyce

Be?

Gruff

Be 'dw i fod i 'neud efo'r diawl peth? I lapio fo am fy...

Joyce

I hongian o, te? Ma' hi isio rhoi dipyn o liw i'r lle 'ma, medde hi.

Gruff

Hi o'dd wrthi gynna? O'n i'n 'i chlywad hi'n udo o'r gwaelodion 'na. Pobol yn dechra methu'u siots wrth glywad y fath balafar.

Joyce

Wedi cwmpo o'dd hi.

Gruff

A lle ro'ddat ti yn lle cadw golwg arni? Dyna pam ti yma... gobeithio?

Joyce

Galla'i ddim 'i dal hi ymhob man.

Gruff

Digon gwir.

Joyce

Ar biga'r drain ers ben bore. Isio pob dim yn barod at y parti ddiawl 'ma. Dyna'r unig beth 'dw i "di glywed o fora gwyn tan nos. Parti. Parti. Blydi parti.

Gruff

Oes rhaid i ti aros yma?

Joyce

Rhaid.

Gruff

'Dw i'n rhyw feddwl picio i'r hen Ship te? Ffansïo dwad? Ca'l rhyw fwrdd bach wrth ffenast yn gwynebu'r gorwal? Potal o win. Sgwrs. Dipyn o ordor efo'r hogia. Be amdani?

Joyce

Do'dd Morris ddim isio rhyw lol fel hyn. Hi fynnodd. Be tase hi'n dwad yn law ne' rwbeth?

Gruff

A be o'dd o, Morris, isio felly?

Joyce

Sut gwn i?

Gruff

Wel, ia, te.



Mae JOYCE yn dal i glymu'r 'bunting'.

Gruff

Ro'dd Morris efo'r hen ddyn 'cw'n 'r ysgol, sti.

Joyce

Ti 'di deud wrtha'i o'r blaen, ganwaith.

Gruff

O'dd, duw. Morus yn ista ar 'i ben 'i hun yn cefn bob amsar medda fo. Wyddost ti pam?... Drewi.

Joyce

Y byrdde 'na sy'n y rhiwal... 'Nei di 'u tynnu nhw allan imi?

Gruff

Moi menyn pot.

Joyce

Y?

Gruff

Drewi fath â menyn pot.

Joyce

Be 'di peth felly 'mwyn tad?

Gruff

Rhyw sgôth ddiawl fydda gin yr hen bobol. Mi fyddan nhw'n llenwi pot llaeth efo menyn. Rhoid soltpitar am ben o a'i wasgu o'n seitan i ga'l gwarad â phob diferyn o leithdar yno' fo. Mi gadwa am fiso'dd, medden nhw. Y peth mwya ffiaidd welist ti yn dy fywyd. Unwaith y blasis i o. Ca'l 'y ngyrru cyn Dolig, gin mam, i nôl wya at yr hen ledi, mam hwn. Y beth fwya plaen welist ti yn dy fywyd. Rhyw hen gôt armi gynni hi a beret du am 'i phen. Rhedag i'r cowt munud gwela hi rywun. 'Châi neb dwllu'r tŷ gynni hi. Gorfod sefyll yn fan'ma yn disgwl. Cofio unwaith, ar ôl talu am yr wya, mi ofynnodd imi o'n i isio brechdan siwgwr. Rhyw drît bach cyn Dolig. Dyma hi'n rhedag i'r tŷ i 'neud un imi, a dwad â hi allan ar ryw hen blât enamyl. Anfarth o frechdan dew fath â gwadan a honno'n un o'r sgôth ddiawl. Ro'dd edrach arni hi'n ddigon. Mi fynnodd mod i yn 'i byta hi. Y crystyn a'r cwbwl. Pob blydi briwsionyn. Ac mi ddechreuis i grio 'chan. Wyddost ti be 'nath hi? Sychu ngwep i efo'i barclod. Ro'dd ogla'r sglyfa'th peth ar hwnnw hefyd. Mi redis i o'ma, heb yr wya, a'i gneud hi gynta medrwn i am y rhyddid 'na tu ôl i'r ardd ŷd i chwdu mherfadd allan... Dyna'r co sy gin i am fan'ma. Ogla menyn pot. A wy'st ti be? Am flynyddo'dd fues i'n methu dallt...

Joyce

Deall be?

Gruff

Sut o'ddan nhw'n medru, wy'st ti... Yn y fath ogla. Ond gneud 'naethon nhw. Mi landiodd hwn o rwla, do?... Pan fydd y gwynt o ryw gyfeiriad, o ochra'r Iard 'cw, mi fydda' i'n dal i glywad o. Mi fydd yn fy ffroena i. Glywa' i o'r munud 'ma. Yn yr aer, yn y muria felltith 'ma. Yn y ddaear.

Joyce

Mi allet ad'el.

Gruff

Mi fedrat titha hefyd, 'mechan i.



Saib. Edrychant ar ei gilydd. Mae JOYCE yn edrych ar y 'bunting'.

Joyce

Dyna ni. Hyll, te?

Gruff

Ydi'r hogyn 'na'n dwad adra hefo Ceinwen?

Joyce

Nigel?

Gwyneth

Ia. Hwnnw.

Joyce

Siŵr o fod.

Gruff

Damia. Mi fydd y sinach bach wrth 'y nhin i drwy'r ha'.

Joyce

Braf ca'l help, bydd?

Gruff

Help, o ddiawl. Gostiodd ffortiwn imi llynadd. Pan ma' hi'n dwad yn gil-dwrn am roid rhei o'r tacla 'ma ar ben ffordd, 'u helpu nhw efo'u swing a ballu, pwy sy'n 'i fachu o? Hwnna. Punno'dd hefyd dallta di. Cym'yd trugaradd arno fo. Meddwl ma' rhyw stiwdant bach tlawd ydi o.

Joyce

Cer i moyn y byrdde' 'na imi, 'nei di?

Gruff

(Yn chwerw.) Tlawd, o ddiawl. Ma' gin 'i dad o y ffyrm twrneiod fwya yn Warwick. Meddan nhw, meddan nhw, te? Gyda llaw, ydi'r giaffar wedi deud wrthat ti? Ffyrm tad Nigel fydd yn handlio'r busnas cwrs golff newydd 'na.

Joyce

Fydda i ddim yn busnesu yn i bethe fo.



Mae GRUFF yn edrych i fyw ei llygaid. Clywir sŵn car yn cyrraedd.

Joyce

Yn y rhiwal ma'n nhw. Yn y pen pella. Ar ben y sgolion, os 'dw i'n cofio. Cer i' moyn nhw. Fyddi di ddim chwinciad. Ma'n rhaid i mi fynd i bigo mwy o'r hen flode 'ma iddi.

Gruff

Fedra i ddim rŵan. Ma' rhaid imi drwsio'r medelwr, rhaid?



Mae JOYCE yn edrych allan.

Joyce

Cyn gynted â galli di, te.

Gruff

Joyce?



Mae JOYCE yn aros am ennyd.

Gruff

Ca'l rhyw gongl bach wrth y ffenast...



Mae JOYCE yn mynd allan. Ymddengys MORRIS ac ARWYN.

Morris

'Neno'r nefo'dd, paid â dechra codi bwganod rŵan 'nei di. (Mae'n gweld y "bunting'.) Arglwydd, ma' hi'n brimin yma.

Arwyn

'Dw i ddim yn codi bwganod.

Morris

Fydd 'na ddim gwrthwynebiad. Does gin y ffernols ddim sail i wrthwynebiad. (Mae MORRIS yn tynnu cynllun o'i boced.) Yli. Ty'd yma. Dos i'r caea 'na. Stydia hwn yn iawn. Ma' pob twll wedi'i farcio, reit? Dos. Seria fo ar dy go' iti ga'l rhoid taw arnyn nhw yn y pwyllgor 'na. Ma'r twll cynta ar y range 'i hun.



Exit ARWYN a daw wyneb yn wyneb â GRUFF. Rhythant ar ei gilydd am ennyd.

Morris

Gwrthwynebiad o ddiawl. (Mae'r ffôn symudol yn canu.) Helo! Ashgrove Golf Range...

Gruff

'Dw i 'di bod yn chwilio amdanach chi.



Gwna MORRIS ystum i'w dewi.

Morris

Sorry about that... You've been ringing all afternoon? (Wrth GRUFF.) Lle uffar ti 'di bod?... (Ar y ffôn.) Opening times... From eight in the morning until the last person leaves. It's floodlit so there's no problem... No, no, no need to book. Just come round. (Mae'n diffodd y ffôn a throi at GRUFF.) Dy le di ydi atab petha fel hyn yn yr offis 'na. Pam wyt ti'n porthi bendro'n fan'ma? Dos i hel y peli 'na ne' rwbath.

Gruff

Sut medra' i?

Morris

Be ti'n feddwl?



Mae'n dangos yr olwyn i MORRIS.

Gruff

Drychwch.

Morris

Wel?

Gruff

Olwyn yr harvester. Y darn haearn 'ma sy'n 'i dal hi. Wedi torri'n gratsian.

Morris

Sut?

Gruff

Wrth glawdd y fynwant 'na. Mynd dros graig ne' rwbath.

Morris

Does 'na ddim craig i fod 'na.

Gruff

Mi ro'dd 'na un.

Morris

Fedra 'na ddim bod.

Gruff

E'lla syrthio oddi ar wal y fynwant 'nath hi.

Morris

Ma' isio chwalu'r diawl wal 'na. Mi wna'i hefyd un o'r diwrnodia 'ma. A ma'n siŵr dy fod titha yn mynd fath â rhwbath o'i go'.

Gruff

Nag o'n, wir rŵan.

Morris

Paid â malu awyr. 'Dw i 'di dy weld ti washi. Mynd nôl a mlaen ar y range fel tasa rhwbath yn dy gnoi di. 'Dw i ddim wedi talu arian am beth fel 'na i ryw dw-lal fath â chdi 'i falu o y cyfla cynta geith o.

Gruff

Be wna'i?

Morris

Be ti'n feddwl, be 'nei di?

Gruff

Rhaid 'i drwsio fo.

Morris

Gneud te?

Gruff

'S gen i ddim weldar.

Morris

Picia i Bedfords.

Gruff

Oes 'na rywun yn weldio yn fanno?

Morris

Sut gwn i? Mynd yno a holi, te washi?

Gruff

Rŵan, 'lly?

Morris

Ia. Rŵan. Munud 'ma... Be sy?

Gruff

Ga'i fenthyg y car?

Morris

Be sy o'i le ar y fan?

Gruff

Clutch 'di mynd.

Morris

Be ti'n mynd i falu nesa? Hwdia. (Rhydd oriad ei gar iddo.) A chym' bwyll wir dduw...



Exit GRUFF.

Morris

Lembo.



Mae'r ffôn symudol yn canu eto. Mae MORRIS yn ei ateb yn hynod flin.

Morris

Ashgrove Golf Range... O... Na, ma'n ddrwg gin i. Llawn dop wsnos yma. Rhaid bwcio o flaen llaw, rhaid... A'r un fath i titha hefyd. washi... Damia nhw! Blydi locals. (Mae'n diffodd y ffôn a gweiddi i gyfeiriad y range at ARWYN.) Arwyn? Dos at yr ail dwll yn Cae Ffynnon. Cym'a d'amsar!



Ymddengys JOYCE yn llawn ei ffwdan gyda'r blodau. Nid yw wedi gweld MORRIS am ennyd.

Joyce

Ti byth 'di moyn y bwrdd 'na? (Mae'n gweld MORRIS.) O'n i'n meddwl fod Gruff yma... Isio help o'n i... efo'r byrdde... Lle mae o?

Morris

Wedi picio i Bedfords.

Joyce

Be wna'i rŵan? Ma'n rhaid imi ga'l y lle ma'n barod.

Morris

O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi. (Mae'n edrych ar y blodau.) Be ar wynab y ddaear ydi petha fel 'na?

Joyce

Blode'r sgawen.

Morris

Debycach i floda crachod.

Joyce

Hi ofynnodd imi'u pigo nhw.

Morris

I be? Ydi hi'n fain arnan ni ne' rwbath? Ydan ni ar y blydi grindil? Mi fasan ni wedi medru ordro rhei go iawn, bysan? Llwythi ohonyn nhw. Mi faswn i wedi medru ca'l rhei am ddim gin y boi 'na sy 'di agor market garden yn Rhos. Arglwydd Mawr! Fi ga'th blanning iddo fo.

Joyce

Peidiwch â deud dim byd wrthi.

Morris

Ddeudis i ddigon do? Pawb call yn mynd allan am bryd o fwyd i rwla os oes gynnyn nhw rwbath i' ddathlu. Ond na, rhaid i hon ga'l rhyw sioe bin yn fan'ma.



Mae JOYCE yn cychwyn am y tŷ.

Morris

Ble ti'n mynd?

Joyce

I roi rhein mewn dŵr. Ma' hi'n disgwl amdana i.

Morris

Triw ar y diawl iddi, twyt?

Joyce

Diolch bod rhywun. (Mae Joyce ar fin mynd.)

Morris

Joyce? 'Dw i'n mynd i Leamington Spa ddydd Mercher... Cynrychioli'r pwyllgor cynllunio... Rhyw gonsortiwm o'r ochra yna wedi dangos diddordab yn yr hen bictiwrs 'na yn dre... Isio troi'r lle'n ganolfan siopio. 'Dw i'n rhyw feddwl lladd dau dderyn efo un garrag. E'lla picia' i i Warwick. Sortio un ne' ddau o betha allan efo Peter tad Nigel ynglŷn â'r cwrs golff 'ma. Twrna da, Peter. Peter yn ddyn sy'n mynnu ca'l 'i faen i'r wal... Rhyw feddwl aros noson yn rhwla.

Joyce

Ie, pam lai.

Morris

Ochra braf, 'r ochra yna. Enwa'r llefydd. Swyno rhywun. Be o'dd 'u henwa nhw d'wad? Y pentrefi 'na... Morton Morrell. Norton Lindsey.

Joyce

Honeybourne, Evesham. (Mae'n mynd ati.)

Morris

Evesham. Gest ti dy swyno os 'dw i'n cofio'n iawn?



Clywir llais GWYNETH o'r tŷ yn gweiddi 'Joyce! Joyce!'. Mae JOYCE yn cychwyn am y tŷ. Mae MORRIS yn gafael yn ei braich.

Morris

Y ffrog 'na brynis i iti yn Evesham. 'Dwyt ti byth yn 'i gwisgo hi... Gwisga hi heno...



Clywir GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!' eto.

Joyce

Mi fydd rhaid chwilio am rywbeth i roi rhein yn'o fo.

Morris

Mi fydd Ceinwen gartra... yli... Chwilia am ryw esgus. Deuda fod y chwaer 'na sy gin ti ym Machynlleth wedi ffonio. Y gŵr 'na sy gynni hi wedi ca'l pwl go ddrwg ar 'i galon eto. Mi ddalltith.



Clywir GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!' eto.

Joyce

Morris... plîs... Ddim heno o bob noson.

Morris

Bydda'n amyneddgar.



Nid yw JOYCE yn ymateb. Mae Morris yn flin. Mae ARWYN yn ymddangos. Mae JOYCE yn rhuthro i'r tŷ.

Arwyn

Chytunan nhw byth, Morris.

Morris

Y?

Arwyn

Ro'n nhw byth dragwyddol sêl bendith ar y fath beth.

Morris

(Yn flin.) Yli, am y tro dwytha, 'nes i ddim gofyn iti ddwad yma i godi bwganod, Arwyn.

Arwyn

Wnân nhw ddim. Coelia di fi.

Morris

Wedi gneud ma'n nhw. Hynny ydi, wedi gneud ydach chi ar hyd y beit. 'Dw i isio fo trwadd ddydd Merchar heb na thwrw bach na thwrw mawr. Sêl bendith. A dyna ddiwadd arni.

Arwyn

Cwrs golff drws nesa i fynwant?

Morris

Pa wahania'th 'neith hynny? Ma' rhei o'r cyrsiau mwya enwog wrth ymyl mynwant. Ballybunion? Glywist ti am fanno? Dydi'r ffernols sy'n y fynwant 'na ddim yn mynd i falio rhyw lawar nac ydyn?

Arwyn

Paid â rhygyfu.

Morris

Be ti'n feddwl, rhyfygu? Duw, duw, tydi fy nheulu i fy hun wedi'u claddu tu ôl i'r clawdd terfyn 'na. Yr hen ddyn, mam, y giwad i gyd hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm blydi casânt yno. (Mae'n mynd at ARWYN a'i bwnio.) Y byw sy'n bwysig, was. Y byw. Cofia di hynny.

Arwyn

Mi dynni di nyth cacwn yn dy ben.

Morris

A phwy sy'n mynd i wrthwynebu? Tacla'r eglwys 'na ym Mangor? Does 'na ddim person yma ers dros ugain mlynadd. Now bach? Jini? Harri clochydd? Trindod ar y naw i godi dani. Pum mlynadd arall ac mi fyddan nhw'n cau drws y lle a lluchio'r goriad. Unwaith y mis ma'n nhw'n cynnal gwasana'th yno... Nyth cacwn, o ddiawl. Twt lol!

Arwyn

A hogia'r iaith 'ma. Be am rheini?

Morris

Pa fusnas ydi o iddyn nhw?

Arwyn

Traddodiad. Treftadaeth a ballu.

Morris

Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw?

Arwyn

A'r boi 'na sy'n sgwennu yn Y Tŵr. Mi fydd yn fêl ar fysadd hwnnw bydd?

Morris

Pwy sy'n darllan rwts hwnnw?

Arwyn

Mwy nag wyt ti'n feddwl. Cofio'r helynt gaethon ni efo'r parc 'na bum mlynadd yn ôl?

Morris

Ia, ia...

Arwyn

Fo wthiodd y cwch i'r dŵr. Llythyru, deisebu, protestio a hynny am fisoedd dallta.

Morris

Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te?

Arwyn

Ia, e'lla.



Mae MORRIS yn agor y cynlluniau.

Morris

Y twll cynta? Fan'cw, ar y range. Yr ail? Cae Ffynnon. Y trydydd? Yn fan'cw, Cae Fedwan. Mi fydd y tee wrth y giât bella'.

Arwyn

Pam wyt ti wedi marcio fan'ma? Pa dwll fydd hwn?

Morris

Y pedwerydd. Cae'r Onnan. Fan'cw. Lle ma'r hen bonc 'na. A honno ydi'r broblem. Wel, na dim problem chwaith.

Arwyn

Pam? Be sy?

Morris

'Dw isio'i lle hi i'r green.

Arwyn

Fedri di ddim statu honno?

Morris

Ma' hi ar y ffordd, tydi?

Arwyn

Ydi hynny o dragwyddol bwys?

Morris

Lle arall roi'r green? Na. Mi fydd raid statu'r job lot... Mi fydd rhaid saethu. Edrach ymlaen at hynny. Mi awn ni at y bonc 'na ryw ben bora pan fydd tacla'r pentra 'ma yn rhochian yn 'u gwlâu. A... (Mae'n curo ei ddwylo yn uchel.) Mi fyddan nhw'n meddwl y bydd hi'n armablydigedon yma. Y dyddia wedi dwad i ben... Mi fydd yn ordor ar y diawl. Ffonia' i di pan fyddwn ni wrthi, iti ga'l dwad draw i weld y sioe... Ond fydd 'na ddim sioe i neb, na fydd, os nad eith hwn drwadd, a hynny'n reit handi? Mi 'dan ni'n dallt yn gilydd?

Arwyn

'Dw i'n gaddo dim.

Morris

Wyt, gobeithio. Mi fydda' i'n dy ffonio di o Leamington nos Ferchar.

Arwyn

O, ia, wrth gwrs. Mi fyddi di'n fanno, byddi?

Morris

Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd.

Arwyn

Ia, wel, rhyw feddwl o'n i ma'r peth calla' fydda iti...

Morris

... beidio â bod yma pan eith hi'n dân?

Arwyn

Rhaid bod yn ddoeth, rhaid?

Morris

O, rhaid. Rhaid bod yn ddoeth.



Mae MORRIS yn dechrau anesmwytho a cherdded o gwmpas y cowt yn nerfus. Mae'n gweld rhyw chwynnyn yn tyfu yn y tarmac. Mae'n gwylltio a dechrau crafu'r chwynnyn allan o'r tarmac efo'i esgid.

Morris

Damia! Yli'r rhein. Mi dyfan drwy rwbath... 'Dw i di deud a deud wrth yr hogyn Gruff 'ma am roid dôs iawn o sodium chlorate i'r lle 'ma. Mae o'n deud i fod o wedi gneud. Dangos rhyw dynia gwag a ballu. Synnwn i ddim nad ydi o'n bachu 'i hannar o a'i werthu o i'r tacla 'na yn y Ship... 'Dw i'n deud wrthat ti was, ma'n well ca'l estron i weithio iti. Llai o stryffîg o beth diawl. Ond dyna fo, ma' fy llafur i bron ar ben. Ymhen rhyw bum mlynadd, ga' i roid 'y nhraed i fyny. Mi redith y lle 'ma 'i hun. Ca'l rhyw hoe bach myn diawl. Gweld dipyn ar yr hen fyd 'ma cyn iddi fynd yn rhy hwyr.



Ymddengys JOYCE a GWYNETH.

Gwyneth

Ydi Gruff wedi dwad nôl?... (Mae'n gweld ARWYN.) O, Arwyn. Be ti'n da 'ma rŵan?

Arwyn

Rhyw bicio draw. Dyna'r cwbwl.

Joyce

(Wrth MORRIS.) Morris, 'dw i'n methu symud y sgolion i ga'l y byrdde 'na allan.

Morris

(Wrth ARWYN.) Fasa ots gin ti?

Arwyn

Be?

Morris

Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na.

Arwyn

Dim o gwbwl.

Joyce

(Wrth ARWYN.) Ma'n ddrwg gin i am hyn. Yn y rhiwal ma'n nhw. (Exit JOYCE.)

Arwyn

Rhy falch o ga'l gneud rwbath. (Mae ARWYN ar fin mynd allan.)

Gwyneth

(Wrth ARWYN.) Edrach ymlaen at weld Nans...

Arwyn

Be?

Gwyneth

Nans. Ma' hi'n dwad heno gobeithio?

Arwyn

O, ia. Mi ddylwn i fod wedi deud wrth Morris 'ma.

Morris

Deud be?

Arwyn

Na fydd hi yma.

Gwyneth

Pam?

Arwyn

Wedi gorfod rhuthro i Warrington.

Gwyneth

At Karen?

Arwyn

Ia. Yr hogan 'cw.

Gwyneth

Ma'n ddrwg gin i Arwyn. Yng nghanol y prysurdeb 'ma o'n i wedi anghofio'n lân. Y babi.

Arwyn

Ia. Y babi.

Gwyneth

Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud?

Arwyn

Ydi.

Gwyneth

O. Mi fydd Nans a chditha wedi mopio'ch penna. Cofia di ddeud wrthi am ddwad â fo yma, yntê Morris?

Morris

Dwad â phwy yma rŵan?

Gwyneth

Wel y babi, te?

Morris

Ia, ia. Mi fydd croeso iddo fo bob amsar yn fan'ma. Mi geith yr un croeso â'i daid. Ac mi fydd yn esgus am uffar o sbri arall. Y? Hynna'n f'atgoffa i...

Gwyneth

Lle ti'n mynd?

Morris

Ma' gin i lond bŵt o ddiod.



Exit MORRIS.

Gwyneth

Y cais cynllunio 'ma. Be sy'n digwydd?

Arwyn

Dim, hyd y gwn i.

Gwyneth

Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd?

Arwyn

'Dw i ddim yn meddwl.

Gwyneth

Arwyn?

Arwyn

Na fydd. Wir rŵan.

Gwyneth

Wy'st ti be? Fawr o ots gin i bellach. Geith o 'neud be lecith o i'r lle 'ma. Heblaw un peth. Cheith o ddim rhoid i hen facha ar y bonc 'na yn fan'cw. 'Dw i wedi deud wrthat ti droeon cymaint ma' hi'n i olygu imi. Ceinwen a finna pia honna a neb arall... Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn?

Arwyn

Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na? Y rhiwal ia?

Gwyneth

Yn tydi, Arwyn?

Arwyn

Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn.



Exit ARWYN. Mae GWYNETH ar ei phen ei hun. Mae'n rhythu i gyfeiriad y caeau. Mae fel petai ar dorri í lawr ond y mae'n gallu ei rheoli ei hun. Daw Morris drwy'r porth yn y cefn yn cario bocs o siampaen a bag yn llawn o boteli.

Gwyneth

Y champagne? Gest ti o?

Morris

Wele!... (Mae'n taro'r bocs i lawr.)

Gwyneth

Mi fydd rhaid 'i oeri o.



Mae MORRIS fel pe bai'n chwilio am chwyn yn y tarmac.

Morris

Rhyw hannar awr yn y ffrisar yn ddigon... (Yn crafu chwyn â'i droed.) Rhaid lladd y gwreiddia.

Gwyneth

Cadw olwg arno fo, ta.

Morris

Mi wna' i , gwna?... Os na roi di ddôs i'r gwraidd, dwad eto 'neith y sglyfa'th petha.

Gwyneth

Cofia di rŵan.

Morris

Iawn. Iawn.

Gwyneth

Mi fydda i'n dy atgoffa di.

Morris

Dim rhaid iti.

Gwyneth

Pryd roi di o i mewn?

Morris

Tua'r chwech 'ma.

Gwyneth

A'i estyn o allan, te?

Morris

Ia. Ia.

Gwyneth

'Dw i ddim isio stomp.

Morris

Fydd 'na ddim stomp.

Gwyneth

Gwydyr ym mhob man.

Morris

(Yn gwylltio.) Duw duw, rho'r gora i...

Gwyneth

Fedra' i mo'i glirio fo.

Morris

Mi stedda i ar ben y blydi ffrisar efo cloc larwm yn 'y llaw os leci di?

Gwyneth

'Dw i ddim isio i ddim byd ddrysu petha heno, dyna'r cwbwl.

Morris

(Yn flin.) Mi fydd hi'n noson orfoleddus, fythgofiadwy, ddedwydd, lawen. Iawn?



Mae GWYNETH yn gweld bag arall.

Gwyneth

Be sy'n hwnna?

Morris

Yn be?

Gwyneth

Y bag 'na?

Morris

Pa fag?

Gwyneth

Rhyw hen wisgi eto m'wn.

Morris

Wisgi ma' Arwyn yn 'i yfad.

Gwyneth

Arwyn yn medru cadw'i ben tydi?

Morris

'Dw inna hefyd.

Gwyneth

Hy!

Morris

Medra!

Gwyneth

'Dw i ddim isio iti ddechra rhochian tua'r deg 'ma.

Morris

Wna' i ddim.

Gwyneth

A rhyw hen ganu a ballu.

Morris

Fedra i ddim blydi canu.

Gwyneth

Hollol.

Morris

Rwbath arall 'lly? Tra 'ti wrthi?

Gwyneth

Yr hogan Joyce 'ma.

Morris

Y?

Gwyneth

'Dw i wedi erfyn arni i wisgo ffrog heno. Rhyw ffrog bach ysgafn. Ma' gynni hi un ddigon o ryfeddod. 'Dw i 'di 'i gweld hi.



Mae MORRIS yn tynnu un o'r poteli wisgi o'r bag ac edrych arni.

Morris

Do dam las! Be 'nei di?

Gwyneth

Be?

Morris

(Yn flin.) Glenmorangie ddeudis i wrth yr het. Wn i ddim be gebyst ydi hwn ma' hi wedi'i roid imi. Gwrando dim ar rywun, te? Dim. Duw duw, pan wyt ti'n gneud tsiec i rywun am bron i gant a hannar ti'n disgwl rwbath gwell na rhyw lol fel hyn, twyt? O'n i isio Glenmorangie yn un swydd i Arwyn. Hwnnw mae o'n yfad. Ond dyna fo. Be sy i' ddisgwl?

Gwyneth

Pam ma' Arwyn yma rŵan?

Morris

(Yn edrych ar ei oriawr.) 'S gin i amsar i fynd â nhw'n ôl dwad? Faint 'neith hi? Oes duw.

Gwyneth

Arwyn. Pam mae o yma rŵan?

Morris

(Yn flin.) Damia! Ma'r car gin Gruff, tydi?

Gwyneth

Atab rhywun, 'nei di?

Morris

Y?

Gwyneth

Be sy ar y gweill rŵan?

Morris

Dim byd dylat ti fwydro dy ben yn 'i gylcho... (Mae'n chwarae efo'r botel.) Gwrando dim, te. Gwrando dim.

Gwyneth

Mi gei 'neud be leci di hefo'r caea 'na ond ma'r bonc 'na yn mynd i ga'l llonydd dallta.

Morris

Hogan Dei Pandy.

Gwyneth

'Nest ti addo imi, Morris.

Morris

Fedra i ddim dallt neb yn cyflogi'r hulpan dwp.

Gwyneth

'Nest ti addo imi.



Mae MORRIS yn bwrw mlaen heb gymryd sylw ohoni.

Morris

Y cwrs naw twll 'na welis i yn y Wirral. Ro'dd y boi wedi plannu tua thri dwsin o goed. Wedi dewis pob un ohonyn nhw'n ofalus.

Gwyneth

Lliain gwyn.

Morris

Wedi marcio ar y cynllunia ble o'dd pob un wân jac yn ca'l 'i phlannu.

Gwyneth

Cylch o floda llefrith arno fo.

Morris

Dim rwla-rwla. O naci. Ro'dd 'na batrwm, sti? Trefn, rheolaeth. Y fo o'dd i ddeud. Neb arall.

Gwyneth

Rhedag at Pwll Gaseg.

Morris

A fel 'na bydd hi'n fan'ma dallta. Fel'na'n union.



Daw JOYCE i mewn.

Joyce

Ma'n amhosib ca'l gaf'el arno fo.



Mae MORRIS yn ei hanwybyddu a throi at GRUFF sydd newydd gyrraedd.

Gruff

Pam na fasach chi 'di deud wrtha' i?



Mae MORRIS yn troi at GRUFF.

Morris

A mi fydd raid i hwn ga'l dipyn o help yn y lle 'ma, rhaid? Ca'l swyddfa bach dwt. Nid rhyw gwt sinc fel sy gynno fo rŵan. Ysgrifenyddas bach e'lla. Gwbod am rywun? Be am rei o'r petha 'ma sy'n dwad i lawr i'r Ship nos Wenar? Clywad dy fod ti'n rêl hwyliwr ar rei ohonyn nhw. (Try at JOYCE.) Prynu rownd ar ôl rownd, hwn. Dyna lle ma' mhres i'n mynd sti. I lawr corn gyddfa hŵrs o Lerpwl.

Gruff

Pam na fasach chi wedi deud?

Morris

Deud be d'wad?

Gruff

Fod Bedfords 'di mynd yn ffliwt?

Morris

Ers pryd?

Gruff

Receivers i mewn ers wsnos. Dim ond Arthur o'dd yna.

Morris

Gest ti ddarn i'r olwyn 'na?

Gruff

Sut medrwn i? Do'dd 'na ddim weldar ar gyfyl y lle.

Morris

Be 'nei di rŵan?

Gruff

'D wn i'm duw.

Morris

Fedri di dynnu un oddi ar rwbath arall? Ma' 'na ddigon o ryw 'nialwch yn y rhiwal 'na.

Gruff

E'lla medra' i.

Morris

Wel, gneud ta te, yn lle porthi bendro yn fan'ma.



Wrth fynd allan, mae GRUFF yn troi at GWYNETH.

Gruff

O ia, welis i Ceinwen yn dre.

Gwyneth

(Wedi cynhyrfu.) O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi. Lle ma'r bwrdd 'na Joyce?

Gruff

Gwrandwch, mi ddyla chi ga'l gwbod...

Joyce

Methu ca'l ato fo ydan ni te? (Wrth GRUFF.) Mi fydd raid inni ga'l dy help di. Ty'd!

Gruff

(Yn flin.) 'Dw i fod mewn dau le ar unwaith, ydw?

Gwyneth

Y llieinia gwynion? Lle ar wynab y ddaear ma'n nhw?

Joyce

(Wrth GRUFF.) Ma' 'na gist dderw fawr wedi 'i gwthiad yn erbyn y byrdde yn llawn o ryw hen gelfi a ballu.

Morris

(Wrth GRUFF.) A dos i chwilio am ddarn i'r olwyn 'na. Ma'r cae 'na'n un o beli. Drycha!

Gruff

(Yn ddiamynedd.) Iawn! Iawn!



Mae GRUFF ar fin cychwyn.

Joyce

(Wrth GRUFF.) Ca'l y byrdde 'na allan gynta, iawn?

Morris

(Wrth GRUFF.) Na! Trin yr olwyn 'na gynta. 'Dw i ddim isio fflyd o bobol yn hewian wrth y drws 'na. Dos wir dduw.



Exit GRUFF i gyfeiriad y range.

Gwyneth

(Wrth JOYCE.) Lle ma'r llieinia gwynion?

Joyce

Yn y dreser.

Gwyneth

Nac ydyn.

Joyce

Wel ydyn.

Gwyneth

'Dw i newydd edrach.

Joyce

Ma'n nhw dan y cantîn.

Gwyneth

Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i.

Joyce

'Nes i mo'r ffasiwn beth.

Gwyneth

Ma' rhywun wedi bod wrthi.



Daw ARWYN i mewn.

Arwyn

Y gist 'na. Ma' hi'n llawn o ryw hen gelfi. (Mae'n cario 'cwpan denau' yn ei law.)

Gwyneth

(Wrth ARWYN.) Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi.

Arwyn

Fi?

Gwyneth

Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di. (Mae'n troi at JOYCE.) Dangos imi lle ma'n nhw.



Mae GWYNETH a JOYCE yn mynd i'r tŷ gan adael MORRIS ac ARWYN ar eu pennau eu hunain. Mae ARWYN yn edrych ar y 'gwpan denau'.

Arwyn

(Yn anesmwyth.) Yli, fel hen ffrind, 'dw i am roid gair o gyngor iti. Taswn i'n dy le di mi faswn i'n anghofio am hyn. 'Dan ni'n dau'n rhy hen i dynnu rhyw hen helynt i'n penna. Ro'dd Nans a finna'n ca'l rhyw sgwrs bach noson o'r blaen. 'Dan ni'n dau wedi bod bum mlynadd ar hugain ar ryw gyngor ne'i gilydd. Nans druan wedi cyfri'r blynyddo'dd. E'lla y dylan ni'n dau ga'l rhyw hoe bach. Rhoid lle i rywun fengach... Ca'l tawelwch yn y tŷ. Dim ffôn yn canu o fora gwyn tan nos. 'Dw i 'di gofyn am ymddeoliad cynnar o'r ysgol 'na. Ma'n nhw'n rhoi tua deng mlynadd dyddia yma. Ydyn, rhyw ddeng mlynadd. Yr hen gwricwlwm cenedlaethol 'ma. Poen enaid a dim byd arall. Melltith. Symud yn nes at Karen e'lla. Mi fydd hi angen help efo'r babi 'ma. Am gario mlaen i nyrsio medda hi... Helpu efo'r mortgage a ballu, wy'st ti?... na, 'dw isio i'r peth bach ddwad i 'nabod i... Ma' rhywun yn haeddu tawelwch, tydi? Tawelwch yn rhwbath... Be fydda'r gair hwnnw y bydda Wilias sgŵl yn 'i ddysgu inni stalwm. Amheuthun? Ia. Amheuthun. Tawelwch yn rhwbath amheuthun.

Morris

Da i rwbath?

Arwyn

Mm?

Morris

Hon?



Mae ARWYN yn edrych ar y botel.

Arwyn

O... Ydi... Siŵr o fod.

Morris

Cystal â'r Glenmorangie? Y?

Arwyn

Ydi... meddan nhw.

Morris

Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly?

Arwyn

Be ddeuda i wrthi?

Morris

Pwy?

Arwyn

Gwyneth.

Morris

Ynglŷn â be?

Arwyn

Y boncan.

Morris

Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto?

Arwyn

Does dim rhaid ca'l gwarad ohoni, nac oes?

Morris

(Yn ddig.) Oes!... Pa wahania'th 'neith o iddi hi; mi fydd hi... (Mae MORRIS yn byseddu'r botal wisgi.) A ma' hwn yn stwff go lew ydi? Wel, wel.

Arwyn

Mi cornelith fi. Ti'n 'i nabod hi'n ddigon da. Be ddeuda i?

Morris

Tywallt olew ar y dyfroedd yn ôl dy arfar. Ti'n giamstar ar hynny bellach. Giamstar arni 'rioed, Arwyn bach. Y meistr ar eiria. Ro'ddat ti'n dipyn o fardd un adag, toeddat? Be ddigwyddodd? Be 'nest ti? Hudo'r hen awen i borfeydd mwy gwelltog? Ca'l dy dywys gerllaw'r llygredd tawel... Ac ni ddychwel yr enaid, ia? (Mae MORRIS yn chwerthin.)

Arwyn

(Yn byseddu'r cwpan denau.) Ro'dd hwn yn yr hen gist 'na... I be mae o'n da?

Morris

Cwpan dena. Fydda'r hen wraig 'y mam yn 'i hiwsio hi i drin menyn ers talwm.

Arwyn

O, ia. Cofio rŵan. Be haru mi?

Morris

Dos â'r diawl peth o'ma. Presant bach i Nans.

Arwyn

Na, na chwara teg.

Morris

(Yn flin.) Be ma' hi'n da i mi?

Arwyn

Yma ma'u lle nhw. Creiria'r hen gyff.

Morris

(Yn ddig.) Dwi i wedi deud a deud wrth Gruff 'na am roid matsian i'r job lot. 'Dw i isio clirio'r lle 'ma, Arwyn. A does 'na ddiawl o neb yn dallt hynny!



Ymddengys JOYCE.

Joyce

Lle ma'r byrdde 'na?

Arwyn

Ma'n ddrwg gin i Joyce.



 ARWYN allan gan adael MORRIS a JOYCE ar eu pennau eu hunain.

Morris

(Wrth JOYCE.) Wel? Be amdani?

Joyce

Well inni roid help llaw i Arwyn.



Exit JOYCE ac, ar ôl ennyd, â MORRIS ar ôl ARWYN. Ymddengys GRUFF gydag olwyn yn ei law. Mae'n sylweddoli nad oes neb o gwmpas. Mae'n syllu ar y range. Mae'n anesmwytho fel petai'n ffieiddio wrtho'i hun. Mae'n dechrau crynu trwyddo. Clywir clecian peli golff. Graddol dawela'r clecian. Mae car yn cyrraedd. Clywir sŵn chwerthin. Ymddengys CEINWEN yn y porth. Y mae'n cario bag a thusw o flodau.)

Ceinwen

Mam! Dad!



Mae CEINWEN yn gweld GRUFF. Mae'r ddau'n edrych ar ei gilydd am ennyd.

Ceinwen

Lle ma' pawb?... Yn tŷ ma'n nhw?

Gruff

Am wn i.

Ceinwen

Syniad pwy o'dd hyn? Mam?



Dim ymateb gan GRUFF.

Ceinwen

Wy'st ti be? Am y tro cynta 'rioed yn 'y mywyd, mi ges i gip iawn ar Gorad Goch. Wy'st ti y tŷ 'na sy reit yng nghanol afon Menai. Hannar awr fuon ni'n trio croesi'r bont newydd 'na. Mi neidis i o'r car i ga'l cip ar yr afon. Lle bach digon o ryfeddod, tydi? Oes 'na rywun yn byw yna? Oes ma' siŵr, toes?... Ma'n nhw'n trin y lôn 'na ers chwe mis a mwy. Pawb yn diawlio. Canu cyrn. Ydyn nhw ar fin gorffan? Gobeithio y g'nan nhw cyn yr ha' ne' mi fydd hi'n draed moch, bydd. Be ti'n 'neud? Be ydi hwnna sy gin ti?

Gruff

Olwyn.

Ceinwen

Olwyn be?



Mae GRUFF yn cychwyn mynd.

Gruff

'D wn i'm duw... Ffitith o byth.

Ceinwen

'Nest ti?



Mae GRUFF yn ysgwyd ei ben a mynd allan gan adael CEINWEN. Ymddengys JOYCE. Mae'n gweld CEINWEN. Mae'r ddwy'n rhythu ar ei gilydd am ennyd.

Joyce

Ceinwen.

Ceinwen

Joyce. (Saib annifyr.) Lle ma' hi?

Joyce

Yn tŷ.

Ceinwen

Yn gorffwys?

Joyce

Duw a ŵyr.



Mae CEINWEN yn cychwyn mynd i mewn i'r tŷ.

Joyce

Ceinwen?

Ceinwen

Ia?

Joyce

Siwrne iawn?

Ceinwen

Hyfryd.



Clywir llais GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!'. Â'r ddwy i mewn. Ymddengys MORRIS ac ARWYN yn cario bwrdd.

Morris

Gwylia'r blydi coesa 'na! Pwyll! Pwyll!

Arwyn

Iawn. Iawn.

Morris

Gafa'l ynddyn nhw!

Arwyn

Tydw i'n gneud.

Morris

A rho dy law dano fo!

Arwyn

Be arall ti'n feddwl 'dw i'n drio'i 'neud?

Morris

Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad?

Arwyn

Lle ma' hi isio fo?

Morris

'D wn i'm duw. Tara fo yn fan'ma.

Arwyn

Yn lle?

Morris

Fan'ma. Rhwla.



Mae ARWYN yn bustachu efo'r bwrdd.

Morris

Ty'd â fo i mi 'nei di? 'Dw i 'di dysgu bellach 'i bod hi'n haws o lawar gneud petha dy hun yn yr hen fyd 'ma. Llai o draffarth o beth diawl. (Mae MORRIS yn gweld EUROS ar y maes golff.) Pwy uffar ma' hwnna'n feddwl ydi o?

Arwyn

Pwy?

Morris

Hwnna'n fan'cw. Ar y range. Yli arno fo.

Arwyn

O. Hwnna.

Morris

Sefyll yn fanna'n rhythu ar bawb. Be mae o isio?

Arwyn

Rhywun wedi colli'i ffordd e'lla.

Morris

Drw'r chwaral 'na ma'n nhw dwad. Ma' gofyn ffensio'r lle. Rhwbath i Nigel i' 'neud dros yr ha'. O gofio sut cafodd o'i fagu ma' rwbath digon ffetus yn'o fo. O, oes. Fo beintiodd hwn yli. (Gan bwyntio at y gwŷdd.) Edrach yn siort ora, tydi? Y?

Arwyn

Ddo' i heibio tua'r saith 'ma, ia?

Morris

Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan.

Arwyn

Rhaid imi ffonio Nans gynta. Holi sut ma' pawb a ballu.

Morris

Cofia fi ati... A Karen hefyd.

Arwyn

Siŵr o 'neud.

Morris

A ffonia'n criw ni heno hefyd tra wyt ti wrthi. 'Dw i ddim isio dim lol ddydd Merchar. Rhoid sêl bendith arno fo. A dyna ddiwadd arni... Y babi 'ma, pan gyrhaeddith o... Pwy fydd y tad bedydd?



Ymddengys CEINWEN a'r tu ôl iddi GWYNETH a JOYCE. Mae JOYCE yn cario llieiniau.

Ceinwen

Dad.

Morris

Ceinwen.



Mae CEINWEN yn rhedeg i'w freichiau. Cofleidiant a chusanant.

Morris

(Wrth JOYCE.) Pam na fasat ti wedi deud wrtha' i 'u bod nhw wedi cyrra'dd?



Mae JOYCE yn dechrau rhoi'r lliain ar y bwrdd.

Gwyneth

'I thiwtor hi wedi 'i blesio'n arw.

Morris

Wir?

Ceinwen

(Yn anesmwyth.) Mam. Twt lol.

Gwyneth

Mi fydd gynnon ni dwrna bach yn y teulu gyda hyn.

Morris

Rhywun i roid trefn arna' i Arwyn?

Ceinwen

Yncl Arwyn.



Mae CEINWEN yn rhoi cusan i ARWYN.

Arwyn

Falch o dy weld di 'mechan i.

Ceinwen

Diolch.



Mae MORRIS yn mynd at y bocs a thynnu potel o siampaen allan.

Morris

Joyce? Gwydr, y munud 'ma!

Joyce

Be?

Morris

Gwydra champagne te!



Mae JOYCE yn rhuthro i'r tŷ.

Gwyneth

Dydi o ddim 'di oeri.

Morris

Digon da byth.

Gwyneth

Gad o tan heno.



Mae MORRIS yn ymbalfalu yn y bocs.

Morris

Ro'th yr hulpan y poteli iawn imi tro 'ma tybad? (Mae'n tynnu potel allan.) Be welodd hi?

Gwyneth

Newydd gyrra'dd ma' hi.

Morris

"Am hynny, cadwn ŵyl", yntê, Arwyn? Y?



Mae ARWYN yn anesmwytho.

Gwyneth

Gad inni roid trefn iawn ar y byrdda 'ma gynta.

Morris

(Wrth CEINWEN.) Gwranda ar hon yn rhefru. E'lla ca' i dipyn o lonydd a chditha gartra. Rhoid 'y nhraed i fyny dros yr ha'. Gweld yr hen le 'ma'n dwad i drefn. Fyddi di ddim yn nabod y lle 'ma mhen chydig fisoedd 'mechan i. O, na fyddi. Mi fydd hi fel ail Eden yma 'bydd Arwyn? Y? (Mae'n ddi-hid wrth agor y botel.)

Gwyneth

Ara' deg. Ma' gwaith yn'o fo.

Morris

Oes, gobeithio, am igain punt y botal.



Ymddengys JOYCE efo gwydrau.

Ceinwen

Callio dim, nac 'di?

Gwyneth

Dim.



Ymddengys EUROS wrth y porth yn cario bocs o lyfrau.

Morris

(Wrth CEINWEN.) A lle ma'r Nigel 'ma sy gin ti? Wedi picio i'r range ia? Euros Ble 'dw i fod i roid hwn?



Mae MORRIS yn ei weld.

Morris

Hei! O'ma! Lôn! Lle preifat ydi fan'ma! Glywist ti fi? Euros Mae o braidd yn drwm. Ga' i 'i daro fo'n fan'ma?



Mae'n rhoi'r bocs i lawr wrth ymyl MORRIS. Mae pawb yn rhythu arno.

Ceinwen

Dad?... Euros.

Morris

Y?



Daw GRUFF i mewn.

Gruff

Rhaid ichi ffonio'r ffyrm. 'Neith hwn ddim blydi ffitio.



Tywyllwch a sŵn peli golff yn cael eu taro.

DIWEDD YR ACT GYNTAF

a1