Golff

Ciw-restr ar gyfer Gruff

(Gwyneth) {Yn gweiddi.}
 
(Gwyneth) Mi ddyla fod mewn bocs yn y twll dan grisia... yn y pen pella... mi ddangosa'i iti...
(1, 0) 195 I'll be with you now, right?...
(1, 0) 196 Carry on!
(1, 0) 197 Carry on, you're doing fine!
(1, 0) 198 Mi fyddi di wedi agor bedd bach digon twt i ti dy hun cyn chwech.
(1, 0) 199 Dal ati i dyrchu washi...
(1, 0) 200 Mynci mul!
 
(1, 0) 203 Arglwydd, ydi hi'n garnifal eto 'leni?
(Joyce) Cau geg 'nei di.
 
(Joyce) Cau geg 'nei di.
(1, 0) 205 Ges i gam llynadd, sti.
(1, 0) 206 O, do, cam ar y diawl.
(1, 0) 207 Ma' gin i well syniad 'leni.
(1, 0) 208 'Dw i am daro fy hen beth yn 'y nghlust a mynd fath â pwmp petrol.
(Joyce) Oes rhaid bod mor fudur dy dafod?
 
(Joyce) Oes rhaid bod mor fudur dy dafod?
(1, 0) 210 Ble uffar mae o, d'wad?
(Joyce) Pwy?
 
(Joyce) Pwy?
(1, 0) 212 Morris, te?
(1, 0) 213 Yn giaffar ni oll.
(1, 0) 214 Y dyn mawr 'i hun.
(Joyce) Yn dre.
 
(Joyce) Wedi picio i ryw bwyllgor cynllunio ne' rwbath.
(1, 0) 217 Ma' olwyn y blydi medelwr wedi torri.
(Joyce) A be di peth felly?
 
(Joyce) A be di peth felly?
(1, 0) 219 Harvester.
(1, 0) 220 Yr hen beth 'na brynodd o i hel peli, te?
(Joyce) Deall dim.
 
(Joyce) Deall dim.
(1, 0) 222 Wast ar bres, yli.
(1, 0) 223 'Dw i'n edrach rêl tw-lal yn tynnu hwnna o gwmpas lle.
(1, 0) 224 Pawb yn y lle 'ma yn 'y nghymyd i'n giâm.
(Joyce) {Yn codi'r 'bunting'.}
 
(1, 0) 228 la?
(Joyce) Be?
 
(Joyce) Be?
(1, 0) 230 Be 'dw i fod i 'neud efo'r diawl peth?
(1, 0) 231 I lapio fo am fy...
(Joyce) I hongian o, te?
 
(Joyce) Ma' hi isio rhoi dipyn o liw i'r lle 'ma, medde hi.
(1, 0) 234 Hi o'dd wrthi gynna?
(1, 0) 235 O'n i'n 'i chlywad hi'n udo o'r gwaelodion 'na.
(1, 0) 236 Pobol yn dechra methu'u siots wrth glywad y fath balafar.
(Joyce) Wedi cwmpo o'dd hi.
 
(Joyce) Wedi cwmpo o'dd hi.
(1, 0) 238 A lle ro'ddat ti yn lle cadw golwg arni?
(1, 0) 239 Dyna pam ti yma... gobeithio?
(Joyce) Galla'i ddim 'i dal hi ymhob man.
 
(Joyce) Galla'i ddim 'i dal hi ymhob man.
(1, 0) 241 Digon gwir.
(Joyce) Ar biga'r drain ers ben bore.
 
(Joyce) Parti. Parti. Blydi parti.
(1, 0) 246 Oes rhaid i ti aros yma?
(Joyce) Rhaid.
 
(Joyce) Rhaid.
(1, 0) 248 'Dw i'n rhyw feddwl picio i'r hen Ship te?
(1, 0) 249 Ffansïo dwad?
(1, 0) 250 Ca'l rhyw fwrdd bach wrth ffenast yn gwynebu'r gorwal?
(1, 0) 251 Potal o win.
(1, 0) 252 Sgwrs.
(1, 0) 253 Dipyn o ordor efo'r hogia.
(1, 0) 254 Be amdani?
(Joyce) Do'dd Morris ddim isio rhyw lol fel hyn.
 
(Joyce) Be tase hi'n dwad yn law ne' rwbeth?
(1, 0) 258 A be o'dd o, Morris, isio felly?
(Joyce) Sut gwn i?
 
(Joyce) Sut gwn i?
(1, 0) 260 Wel, ia, te.
 
(1, 0) 262 Ro'dd Morris efo'r hen ddyn 'cw'n 'r ysgol, sti.
(Joyce) Ti 'di deud wrtha'i o'r blaen, ganwaith.
 
(Joyce) Ti 'di deud wrtha'i o'r blaen, ganwaith.
(1, 0) 264 O'dd, duw.
(1, 0) 265 Morus yn ista ar 'i ben 'i hun yn cefn bob amsar medda fo.
(1, 0) 266 Wyddost ti pam?...
(1, 0) 267 Drewi.
(Joyce) Y byrdde 'na sy'n y rhiwal...
 
(Joyce) 'Nei di 'u tynnu nhw allan imi?
(1, 0) 270 Moi menyn pot.
(Joyce) Y?
 
(Joyce) Y?
(1, 0) 272 Drewi fath â menyn pot.
(Joyce) Be 'di peth felly 'mwyn tad?
 
(Joyce) Be 'di peth felly 'mwyn tad?
(1, 0) 274 Rhyw sgôth ddiawl fydda gin yr hen bobol.
(1, 0) 275 Mi fyddan nhw'n llenwi pot llaeth efo menyn.
(1, 0) 276 Rhoid soltpitar am ben o a'i wasgu o'n seitan i ga'l gwarad â phob diferyn o leithdar yno' fo.
(1, 0) 277 Mi gadwa am fiso'dd, medden nhw.
(1, 0) 278 Y peth mwya ffiaidd welist ti yn dy fywyd.
(1, 0) 279 Unwaith y blasis i o.
(1, 0) 280 Ca'l 'y ngyrru cyn Dolig, gin mam, i nôl wya at yr hen ledi, mam hwn.
(1, 0) 281 Y beth fwya plaen welist ti yn dy fywyd.
(1, 0) 282 Rhyw hen gôt armi gynni hi a beret du am 'i phen.
(1, 0) 283 Rhedag i'r cowt munud gwela hi rywun.
(1, 0) 284 'Châi neb dwllu'r tŷ gynni hi.
(1, 0) 285 Gorfod sefyll yn fan'ma yn disgwl.
(1, 0) 286 Cofio unwaith, ar ôl talu am yr wya, mi ofynnodd imi o'n i isio brechdan siwgwr.
(1, 0) 287 Rhyw drît bach cyn Dolig.
(1, 0) 288 Dyma hi'n rhedag i'r tŷ i 'neud un imi, a dwad â hi allan ar ryw hen blât enamyl.
(1, 0) 289 Anfarth o frechdan dew fath â gwadan a honno'n un o'r sgôth ddiawl.
(1, 0) 290 Ro'dd edrach arni hi'n ddigon.
(1, 0) 291 Mi fynnodd mod i yn 'i byta hi.
(1, 0) 292 Y crystyn a'r cwbwl.
(1, 0) 293 Pob blydi briwsionyn.
(1, 0) 294 Ac mi ddechreuis i grio 'chan.
(1, 0) 295 Wyddost ti be 'nath hi?
(1, 0) 296 Sychu ngwep i efo'i barclod.
(1, 0) 297 Ro'dd ogla'r sglyfa'th peth ar hwnnw hefyd.
(1, 0) 298 Mi redis i o'ma, heb yr wya, a'i gneud hi gynta medrwn i am y rhyddid 'na tu ôl i'r ardd ŷd i chwdu mherfadd allan...
(1, 0) 299 Dyna'r co sy gin i am fan'ma.
(1, 0) 300 Ogla menyn pot.
(1, 0) 301 A wy'st ti be?
(1, 0) 302 Am flynyddo'dd fues i'n methu dallt...
(Joyce) Deall be?
 
(Joyce) Deall be?
(1, 0) 304 Sut o'ddan nhw'n medru, wy'st ti...
(1, 0) 305 Yn y fath ogla.
(1, 0) 306 Ond gneud 'naethon nhw.
(1, 0) 307 Mi landiodd hwn o rwla, do?...
(1, 0) 308 Pan fydd y gwynt o ryw gyfeiriad, o ochra'r Iard 'cw, mi fydda' i'n dal i glywad o.
(1, 0) 309 Mi fydd yn fy ffroena i.
(1, 0) 310 Glywa' i o'r munud 'ma.
(1, 0) 311 Yn yr aer, yn y muria felltith 'ma.
(1, 0) 312 Yn y ddaear.
(Joyce) Mi allet ad'el.
 
(Joyce) Mi allet ad'el.
(1, 0) 314 Mi fedrat titha hefyd, 'mechan i.
(Joyce) Dyna ni.
 
(Joyce) Hyll, te?
(1, 0) 320 Ydi'r hogyn 'na'n dwad adra hefo Ceinwen?
(Joyce) Nigel?
 
(Joyce) Siŵr o fod.
(1, 0) 325 Damia.
(1, 0) 326 Mi fydd y sinach bach wrth 'y nhin i drwy'r ha'.
(Joyce) Braf ca'l help, bydd?
 
(Joyce) Braf ca'l help, bydd?
(1, 0) 328 Help, o ddiawl.
(1, 0) 329 Gostiodd ffortiwn imi llynadd.
(1, 0) 330 Pan ma' hi'n dwad yn gil-dwrn am roid rhei o'r tacla 'ma ar ben ffordd, 'u helpu nhw efo'u swing a ballu, pwy sy'n 'i fachu o?
(1, 0) 331 Hwnna.
(1, 0) 332 Punno'dd hefyd dallta di.
(1, 0) 333 Cym'yd trugaradd arno fo.
(1, 0) 334 Meddwl ma' rhyw stiwdant bach tlawd ydi o.
(Joyce) Cer i moyn y byrdde' 'na imi, 'nei di?
 
(1, 0) 337 Tlawd, o ddiawl.
(1, 0) 338 Ma' gin 'i dad o y ffyrm twrneiod fwya yn Warwick.
(1, 0) 339 Meddan nhw, meddan nhw, te?
(1, 0) 340 Gyda llaw, ydi'r giaffar wedi deud wrthat ti?
(1, 0) 341 Ffyrm tad Nigel fydd yn handlio'r busnas cwrs golff newydd 'na.
(Joyce) Fydda i ddim yn busnesu yn i bethe fo.
 
(Joyce) Ma'n rhaid i mi fynd i bigo mwy o'r hen flode 'ma iddi.
(1, 0) 351 Fedra i ddim rŵan.
(1, 0) 352 Ma' rhaid imi drwsio'r medelwr, rhaid?
(Joyce) Cyn gynted â galli di, te.
 
(Joyce) Cyn gynted â galli di, te.
(1, 0) 355 Joyce?
 
(1, 0) 357 Ca'l rhyw gongl bach wrth y ffenast...
(Morris) 'Neno'r nefo'dd, paid â dechra codi bwganod rŵan 'nei di.
 
(Morris) Ashgrove Golf Range...
(1, 0) 381 'Dw i 'di bod yn chwilio amdanach chi.
(Morris) Sorry about that...
 
(Morris) Dos i hel y peli 'na ne' rwbath.
(1, 0) 397 Sut medra' i?
(Morris) Be ti'n feddwl?
 
(Morris) Be ti'n feddwl?
(1, 0) 400 Drychwch.
(Morris) Wel?
 
(Morris) Wel?
(1, 0) 402 Olwyn yr harvester.
(1, 0) 403 Y darn haearn 'ma sy'n 'i dal hi.
(1, 0) 404 Wedi torri'n gratsian.
(Morris) Sut?
 
(Morris) Sut?
(1, 0) 406 Wrth glawdd y fynwant 'na.
(1, 0) 407 Mynd dros graig ne' rwbath.
(Morris) Does 'na ddim craig i fod 'na.
 
(Morris) Does 'na ddim craig i fod 'na.
(1, 0) 409 Mi ro'dd 'na un.
(Morris) Fedra 'na ddim bod.
 
(Morris) Fedra 'na ddim bod.
(1, 0) 411 E'lla syrthio oddi ar wal y fynwant 'nath hi.
(Morris) Ma' isio chwalu'r diawl wal 'na.
 
(Morris) A ma'n siŵr dy fod titha yn mynd fath â rhwbath o'i go'.
(1, 0) 415 Nag o'n, wir rŵan.
(Morris) Paid â malu awyr.
 
(Morris) 'Dw i ddim wedi talu arian am beth fel 'na i ryw dw-lal fath â chdi 'i falu o y cyfla cynta geith o.
(1, 0) 420 Be wna'i?
(Morris) Be ti'n feddwl, be 'nei di?
 
(Morris) Be ti'n feddwl, be 'nei di?
(1, 0) 422 Rhaid 'i drwsio fo.
(Morris) Gneud te?
 
(Morris) Gneud te?
(1, 0) 424 'S gen i ddim weldar.
(Morris) Picia i Bedfords.
 
(Morris) Picia i Bedfords.
(1, 0) 426 Oes 'na rywun yn weldio yn fanno?
(Morris) Sut gwn i?
 
(Morris) Mynd yno a holi, te washi?
(1, 0) 429 Rŵan, 'lly?
(Morris) Ia.
 
(Morris) Be sy?
(1, 0) 434 Ga'i fenthyg y car?
(Morris) Be sy o'i le ar y fan?
 
(Morris) Be sy o'i le ar y fan?
(1, 0) 436 Clutch 'di mynd.
(Morris) Be ti'n mynd i falu nesa?
 
(Joyce) Ma'n amhosib ca'l gaf'el arno fo.
(1, 0) 846 Pam na fasach chi 'di deud wrtha' i?
(Morris) A mi fydd raid i hwn ga'l dipyn o help yn y lle 'ma, rhaid?
 
(Morris) I lawr corn gyddfa hŵrs o Lerpwl.
(1, 0) 859 Pam na fasach chi wedi deud?
(Morris) Deud be d'wad?
 
(Morris) Deud be d'wad?
(1, 0) 861 Fod Bedfords 'di mynd yn ffliwt?
(Morris) Ers pryd?
 
(Morris) Ers pryd?
(1, 0) 863 Receivers i mewn ers wsnos.
(1, 0) 864 Dim ond Arthur o'dd yna.
(Morris) Gest ti ddarn i'r olwyn 'na?
 
(Morris) Gest ti ddarn i'r olwyn 'na?
(1, 0) 866 Sut medrwn i?
(1, 0) 867 Do'dd 'na ddim weldar ar gyfyl y lle.
(Morris) Be 'nei di rŵan?
 
(Morris) Be 'nei di rŵan?
(1, 0) 869 'D wn i'm duw.
(Morris) Fedri di dynnu un oddi ar rwbath arall?
 
(Morris) Ma' 'na ddigon o ryw 'nialwch yn y rhiwal 'na.
(1, 0) 872 E'lla medra' i.
(Morris) Wel, gneud ta te, yn lle porthi bendro yn fan'ma.
 
(Morris) Wel, gneud ta te, yn lle porthi bendro yn fan'ma.
(1, 0) 875 O ia, welis i Ceinwen yn dre.
(Gwyneth) {Wedi cynhyrfu.}
 
(Gwyneth) Lle ma'r bwrdd 'na Joyce?
(1, 0) 879 Gwrandwch, mi ddyla chi ga'l gwbod...
(Joyce) Methu ca'l ato fo ydan ni te?
 
(1, 0) 885 'Dw i fod mewn dau le ar unwaith, ydw?
(Gwyneth) Y llieinia gwynion?
 
(1, 0) 895 Iawn!
(1, 0) 896 Iawn!
(Joyce) {Wrth GRUFF.}
 
(Ceinwen) Yn tŷ ma'n nhw?
(1, 0) 1040 Am wn i.
(Ceinwen) Syniad pwy o'dd hyn?
 
(Ceinwen) Be ydi hwnna sy gin ti?
(1, 0) 1059 Olwyn.
(Ceinwen) Olwyn be?
 
(Ceinwen) Olwyn be?
(1, 0) 1062 'D wn i'm duw...
(1, 0) 1063 Ffitith o byth.
(Ceinwen) 'Nest ti?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 1212 Rhaid ichi ffonio'r ffyrm.
(1, 0) 1213 'Neith hwn ddim blydi ffitio.