Golff

Ciw-restr ar gyfer Gwyneth

 
(1, 0) 24 Joyce! Joyce! Joyce!
(Joyce) {Yn oeraidd.}
 
(1, 0) 29 Rhein syrthiodd.
(1, 0) 30 Mi 'nes i drio'u pigo nhw.
(Joyce) Ddeudes wrthach chi am ddisgwl amdana'i.
 
(Joyce) Ddeudes wrthach chi am ddisgwl amdana'i.
(1, 0) 32 Wn i. Wn i.
(Joyce) Pwyll rŵan.
 
(Joyce) Cyfforddus?
(1, 0) 36 Am wn i.
 
(1, 0) 38 Cod nhw.
(Joyce) Mi a'i hel rhei er'ill yn 'u lle nhw.
 
(Joyce) Fydda i ddim chwinciad.
(1, 0) 41 Cod nhw.
 
(1, 0) 44 Dim ots.
(1, 0) 45 Rhein 'dw i isio.
(1, 0) 46 Rhein o Bonc yr Onnan.
 
(1, 0) 48 Do, daria unwaith!
(1, 0) 49 'Drycha be ti 'di 'neud!
(Joyce) Be?
 
(Joyce) Be?
(1, 0) 51 Sathru'r bloda llefrith 'na.
(Joyce) Yn lle?
 
(Joyce) Yn lle?
(1, 0) 53 Fanna!
(1, 0) 54 Drycha!
(1, 0) 55 Ma'n nhw'n un slwts.
(Joyce) Twt lol, nac ydyn.
 
(Joyce) Drychwch.
(1, 0) 60 Yli llipa ydyn nhw.
(Joyce) Pethe fel hyn yn dechra gwywo'n syth bin, tydyn?
 
(Joyce) Ca'l 'u tynnu o'u cynefin.
(1, 0) 64 Be ydi hwnna sy gin ti?
(Joyce) {Cyfyd flodyn gwyddfid.}
 
(Joyce) Hyfryd, tydi?
(1, 0) 70 Gwyddfid.
(Joyce) Dyna ydi o?
 
(Joyce) Wel, wel.
(1, 0) 73 Tafla fo.
(Joyce) Pam?
 
(Joyce) Pam?
(1, 0) 75 Anlwcus.
(Joyce) Pwy ddedodd ffasiwn beth?
 
(Joyce) Pwy ddedodd ffasiwn beth?
(1, 0) 77 Yr hen bobol.
(Joyce) {Yn ei arogli eto.}
 
(Joyce) Twt lol.
(1, 0) 80 Gwna be 'dw i'n 'i ddeud.
(1, 0) 81 'Dw i ddim isio fo ar gyfyl y lle 'ma.
(1, 0) 82 Tafla fo!
(1, 0) 83 Tafla fo!
(Joyce) Fodlon?
 
(1, 0) 87 Ma'n ddrwg gin i, Joyce.
(Joyce) Ia, wel, ych parti chi ydi o, te?
 
(Joyce) Ia, wel, ych parti chi ydi o, te?
(1, 0) 89 Naci.
(1, 0) 90 Parti Ceinwen.
(1, 0) 91 Pan fydda hi'n hogan bach, mi fyddwn i'n mynd â hi am bicnic ar Bonc yr Onnan 'cw.
(1, 0) 92 Ro'dd yna borfa yna ers talwm.
(1, 0) 93 Un fras, felys.
(1, 0) 94 Ro'dd gofyn ca'l nerth march i fustachu trwyddi.
(1, 0) 95 Ac, o, mi fydda hi'n cwyno.
(1, 0) 96 Strancio weithia.
(1, 0) 97 Ond munud y gwela' hi'r bonc, gwên fawr a'i gneud hi am a welat ti at y bonc a sefyll fel sowldiwr ar yr hen graig lwyd 'na.
(1, 0) 98 Rhuthro'n ôl ata'i wedyn.
(1, 0) 99 Cythru yn y fasgiad o'n llaw i.
(1, 0) 100 Tynnu'r lliain allan a'i osod o'n dwt ar y bonc.
(1, 0) 101 Rhedag at Pwll Gasag, hel tusw bach o rhein, blodau llefrith, a'u gosod nhw'n gylch ar y lliain...
(1, 0) 102 Dyna lle byddan ni, yn ista am oria yno.
(1, 0) 103 Dim ond y ddwy ohonan ni.
(Joyce) Pryd o'dd hi'n bwriadu cychwyn o Aberystwyth?
 
(Joyce) Pryd o'dd hi'n bwriadu cychwyn o Aberystwyth?
(1, 0) 105 Yn syth bin ar ôl 'i harholiad dwytha medda hi.
(1, 0) 106 Deuda'i bod hi'n cychwyn am un...
(1, 0) 107 Faint 'neith hi rŵan?
(Joyce) Wedi troi tri.
 
(Joyce) Wedi troi tri.
(1, 0) 110 Tân dani felly, te?
 
(1, 0) 112 Tair blynedd, felly.
(Joyce) Be?
 
(Joyce) Be?
(1, 0) 114 Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma.
(Joyce) Ydi hi, 'dwch?
 
(Joyce) Ydi hi, 'dwch?
(1, 0) 116 Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth.
(Joyce) Ia, te?
 
(Joyce) Ia, te?
(1, 0) 118 Cythral bach dan din.
(Joyce) Pwy?
 
(Joyce) Pwy?
(1, 0) 120 Morris.
(1, 0) 121 Ro'n i wedi bod am y profion 'ma y dydd Gwenar.
(1, 0) 122 Adag Royal Welsh o'dd hi, cofio'n iawn.
(1, 0) 123 Morris, fel arfar, yn torri'i fol i fynd efo'i giwad ddydd Sadwrn.
(1, 0) 124 Ac mi a'th.
(1, 0) 125 Ddydd Llun mi ddoth 'na lythyr yn deud wrtha'i 'u bod nhw isio 'ngweld i fora dydd Merchar.
(1, 0) 126 Fedrwn i ddim gofyn i Ceinwen ddwad efo fi.
(1, 0) 127 Ro'dd hi yng nghanol 'i harholiada.
(1, 0) 128 Ffonio pob tŷ tafarn yn ochra Llanelwedd 'na.
(1, 0) 129 Prin y medrwn i glywad 'i lais o.
(1, 0) 130 Ffarmwrs chwil yn morio canu yn y cefndir.
(1, 0) 131 Ond mi lwyddis i i egluro y bydda'n rhaid iddo fo ddwad adra i fynd â fi.
(1, 0) 132 Yn lle dwad adra'n syth ma'n rhaid i fod o wedi picio i Sbyty Gwynedd.
(1, 0) 133 Gwadu 'nath o.
(1, 0) 134 Ond ro'dd 'i wynab o'n wyn fel y galchan.
(1, 0) 135 Deud dim na bw na be am oria.
(1, 0) 136 Cerdded y caea.
(1, 0) 137 Dim golwg ohono fo.
(1, 0) 138 Ar ôl magu plwc, dyma fo'n rhuthro i'r parlwr 'na fath â dyn gwyllt.
(1, 0) 139 "Nyrs," medda fo.
(1, 0) 140 "Rhaid ca'l nyrs."
(1, 0) 141 Do'n i ddim isio nyrs.
(1, 0) 142 O'n i'n ddigon 'tebol ar y pryd.
(1, 0) 143 Ond mi fynnodd ga'l 'i faen i'r wal, fel arfar.
(1, 0) 144 Ro'dd Arwyn wedi sôn am ryw asiantaeth nyrsio...
(1, 0) 145 Ac mi ddoist ti o rwla, do?
(Joyce) Fydd Nigel yn dwad efo Ceinwen?
 
(Joyce) Fydd Nigel yn dwad efo Ceinwen?
(1, 0) 148 Bydd, m'wn.
(1, 0) 149 Eith hi i le'n byd y dyddia yma heb hwnnw.
 
(1, 0) 151 Rhyw hen darth ar y morfa 'na.
(1, 0) 152 Hidio dim ar 'i olwg o.
(Joyce) Y bwrdd arall 'ma.
 
(Joyce) Ble'n union dach chi isio fo?
(1, 0) 155 Gest ti afa'l arnyn nhw.
(1, 0) 156 Bob dim yn lluch i dafl hyd y lle 'ma ers i Morris ddechra stwnsian.
(Joyce) Do, do.
 
(Joyce) Ma'n nhw yn y rhiwal.
(1, 0) 159 Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma.
(Joyce) Chi ŵyr.
 
(Joyce) Chi ŵyr.
(1, 0) 161 Ia.
(1, 0) 162 Rown ni'r buffet yn fan'ma, iawn?
(Joyce) Ie.
 
(Joyce) Dim ond imi ga'l gwbod yn ddigon buan.
(1, 0) 168 Naci.
(1, 0) 169 Mi rown ni'r bwyd yn fan'cw.
(1, 0) 170 Y diodydd a ballu yn fan'ma.
(1, 0) 171 Haws rywsut, bydd?
(1, 0) 172 Bydd... Bydd.
(1, 0) 173 Y bloda 'ma.
(1, 0) 174 Mi fydd raid 'u taro nhw mewn dŵr.
(Joyce) Dewch â nhw i mi.
 
(Joyce) Dewch â nhw i mi.
(1, 0) 176 Rho di drefn ar y byrdda 'ma.
(Joyce) Triwch orffwys am ryw awr fach.
 
(Joyce) Triwch orffwys am ryw awr fach.
(1, 0) 178 'Dw i'n iawn.
(1, 0) 179 'Dw i ddim wedi teimlo cystal ers wsnosa dallta...
(1, 0) 180 A ffrog.
(Joyce) Ffrog?
 
(Joyce) Ffrog?
(1, 0) 182 Gwisga ffrog.
(1, 0) 183 'Dw i 'di laru dy weld di yn yr hen drowsus hyll 'na.
(1, 0) 184 Gwisga honna brynist ti pan o'ddat ti'n aros hefo dy chwaer...
 
(1, 0) 186 ... ac mi gei di hel mwy o floda ysgo imi...
(1, 0) 187 Rhaid inni roid digon o liw i'r lle 'ma.
(1, 0) 188 Drycha oes 'na bunting ar ôl y carnifal dwytha yn rhwla.
 
(1, 0) 190 Mi ddyla fod mewn bocs yn y twll dan grisia... yn y pen pella... mi ddangosa'i iti...
(Gruff) I'll be with you now, right?...
 
(Joyce) Nigel?
(1, 0) 322 Ia.
(1, 0) 323 Hwnnw.
(Joyce) Siŵr o fod.
 
(Morris) Gweld dipyn ar yr hen fyd 'ma cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
(1, 0) 655 Ydi Gruff wedi dwad nôl?...
 
(1, 0) 657 O, Arwyn.
(1, 0) 658 Be ti'n da 'ma rŵan?
(Arwyn) Rhyw bicio draw.
 
(1, 0) 675 Edrach ymlaen at weld Nans...
(Arwyn) Be?
 
(Arwyn) Be?
(1, 0) 677 Nans.
(1, 0) 678 Ma' hi'n dwad heno gobeithio?
(Arwyn) O, ia.
 
(Arwyn) Na fydd hi yma.
(1, 0) 683 Pam?
(Arwyn) Wedi gorfod rhuthro i Warrington.
 
(Arwyn) Wedi gorfod rhuthro i Warrington.
(1, 0) 685 At Karen?
(Arwyn) Ia.
 
(Arwyn) Yr hogan 'cw.
(1, 0) 688 Ma'n ddrwg gin i Arwyn.
(1, 0) 689 Yng nghanol y prysurdeb 'ma o'n i wedi anghofio'n lân.
(1, 0) 690 Y babi.
(Arwyn) Ia.
 
(Arwyn) Y babi.
(1, 0) 693 Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud?
(Arwyn) Ydi.
 
(Arwyn) Ydi.
(1, 0) 695 O.
(1, 0) 696 Mi fydd Nans a chditha wedi mopio'ch penna.
(1, 0) 697 Cofia di ddeud wrthi am ddwad â fo yma, yntê Morris?
(Morris) Dwad â phwy yma rŵan?
 
(Morris) Dwad â phwy yma rŵan?
(1, 0) 699 Wel y babi, te?
(Morris) Ia, ia.
 
(Morris) Hynna'n f'atgoffa i...
(1, 0) 706 Lle ti'n mynd?
(Morris) Ma' gin i lond bŵt o ddiod.
 
(Morris) Ma' gin i lond bŵt o ddiod.
(1, 0) 709 Y cais cynllunio 'ma.
(1, 0) 710 Be sy'n digwydd?
(Arwyn) Dim, hyd y gwn i.
 
(Arwyn) Dim, hyd y gwn i.
(1, 0) 712 Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd?
(Arwyn) 'Dw i ddim yn meddwl.
 
(Arwyn) 'Dw i ddim yn meddwl.
(1, 0) 714 Arwyn?
(Arwyn) Na fydd.
 
(Arwyn) Wir rŵan.
(1, 0) 717 Wy'st ti be?
(1, 0) 718 Fawr o ots gin i bellach.
(1, 0) 719 Geith o 'neud be lecith o i'r lle 'ma.
(1, 0) 720 Heblaw un peth.
(1, 0) 721 Cheith o ddim rhoid i hen facha ar y bonc 'na yn fan'cw.
(1, 0) 722 'Dw i wedi deud wrthat ti droeon cymaint ma' hi'n i olygu imi.
(1, 0) 723 Ceinwen a finna pia honna a neb arall...
(1, 0) 724 Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn?
(Arwyn) Lle ddeudodd Joyce o'dd y bwrdd 'na?
 
(Arwyn) Y rhiwal ia?
(1, 0) 727 Yn tydi, Arwyn?
(Arwyn) Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn.
 
(Arwyn) Drws nesa i'r hen feudy ma' hwnnw, os 'dw i'n cofio'n iawn.
(1, 0) 734 Y champagne?
(1, 0) 735 Gest ti o?
(Morris) Wele!...
 
(Morris) {Mae'n taro'r bocs i lawr.}
(1, 0) 738 Mi fydd rhaid 'i oeri o.
(Morris) Rhyw hannar awr yn y ffrisar yn ddigon...
 
(Morris) Rhaid lladd y gwreiddia.
(1, 0) 743 Cadw olwg arno fo, ta.
(Morris) Mi wna' i , gwna?...
 
(Morris) Os na roi di ddôs i'r gwraidd, dwad eto 'neith y sglyfa'th petha.
(1, 0) 746 Cofia di rŵan.
(Morris) Iawn.
 
(Morris) Iawn.
(1, 0) 749 Mi fydda i'n dy atgoffa di.
(Morris) Dim rhaid iti.
 
(Morris) Dim rhaid iti.
(1, 0) 751 Pryd roi di o i mewn?
(Morris) Tua'r chwech 'ma.
 
(Morris) Tua'r chwech 'ma.
(1, 0) 753 A'i estyn o allan, te?
(Morris) Ia.
 
(Morris) Ia.
(1, 0) 756 'Dw i ddim isio stomp.
(Morris) Fydd 'na ddim stomp.
 
(Morris) Fydd 'na ddim stomp.
(1, 0) 758 Gwydyr ym mhob man.
(Morris) {Yn gwylltio.}
 
(Morris) Duw duw, rho'r gora i...
(1, 0) 761 Fedra' i mo'i glirio fo.
(Morris) Mi stedda i ar ben y blydi ffrisar efo cloc larwm yn 'y llaw os leci di?
 
(Morris) Mi stedda i ar ben y blydi ffrisar efo cloc larwm yn 'y llaw os leci di?
(1, 0) 763 'Dw i ddim isio i ddim byd ddrysu petha heno, dyna'r cwbwl.
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Iawn?
(1, 0) 768 Be sy'n hwnna?
(Morris) Yn be?
 
(Morris) Yn be?
(1, 0) 770 Y bag 'na?
(Morris) Pa fag?
 
(Morris) Pa fag?
(1, 0) 772 Rhyw hen wisgi eto m'wn.
(Morris) Wisgi ma' Arwyn yn 'i yfad.
 
(Morris) Wisgi ma' Arwyn yn 'i yfad.
(1, 0) 774 Arwyn yn medru cadw'i ben tydi?
(Morris) 'Dw inna hefyd.
 
(Morris) 'Dw inna hefyd.
(1, 0) 776 Hy!
(Morris) Medra!
 
(Morris) Medra!
(1, 0) 778 'Dw i ddim isio iti ddechra rhochian tua'r deg 'ma.
(Morris) Wna' i ddim.
 
(Morris) Wna' i ddim.
(1, 0) 780 A rhyw hen ganu a ballu.
(Morris) Fedra i ddim blydi canu.
 
(Morris) Fedra i ddim blydi canu.
(1, 0) 782 Hollol.
(Morris) Rwbath arall 'lly?
 
(Morris) Tra 'ti wrthi?
(1, 0) 785 Yr hogan Joyce 'ma.
(Morris) Y?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 787 'Dw i wedi erfyn arni i wisgo ffrog heno.
(1, 0) 788 Rhyw ffrog bach ysgafn.
(1, 0) 789 Ma' gynni hi un ddigon o ryfeddod.
(1, 0) 790 'Dw i 'di 'i gweld hi.
(Morris) Do dam las!
 
(Morris) Be 'nei di?
(1, 0) 794 Be?
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Be sy i' ddisgwl?
(1, 0) 805 Pam ma' Arwyn yma rŵan?
(Morris) {Yn edrych ar ei oriawr.}
 
(Morris) Oes duw.
(1, 0) 810 Arwyn.
(1, 0) 811 Pam mae o yma rŵan?
(Morris) {Yn flin.}
 
(Morris) Ma'r car gin Gruff, tydi?
(1, 0) 815 Atab rhywun, 'nei di?
(Morris) Y?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 817 Be sy ar y gweill rŵan?
(Morris) Dim byd dylat ti fwydro dy ben yn 'i gylcho...
 
(Morris) Gwrando dim.
(1, 0) 822 Mi gei 'neud be leci di hefo'r caea 'na ond ma'r bonc 'na yn mynd i ga'l llonydd dallta.
(Morris) Hogan Dei Pandy.
 
(Morris) Hogan Dei Pandy.
(1, 0) 824 'Nest ti addo imi, Morris.
(Morris) Fedra i ddim dallt neb yn cyflogi'r hulpan dwp.
 
(Morris) Fedra i ddim dallt neb yn cyflogi'r hulpan dwp.
(1, 0) 826 'Nest ti addo imi.
(Morris) Y cwrs naw twll 'na welis i yn y Wirral.
 
(Morris) Wedi dewis pob un ohonyn nhw'n ofalus.
(1, 0) 831 Lliain gwyn.
(Morris) Wedi marcio ar y cynllunia ble o'dd pob un wân jac yn ca'l 'i phlannu.
 
(Morris) Wedi marcio ar y cynllunia ble o'dd pob un wân jac yn ca'l 'i phlannu.
(1, 0) 833 Cylch o floda llefrith arno fo.
(Morris) Dim rwla-rwla.
 
(Morris) Neb arall.
(1, 0) 840 Rhedag at Pwll Gaseg.
(Morris) A fel 'na bydd hi'n fan'ma dallta.
 
(1, 0) 877 O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi.
(1, 0) 878 Lle ma'r bwrdd 'na Joyce?
(Gruff) Gwrandwch, mi ddyla chi ga'l gwbod...
 
(Gruff) 'Dw i fod mewn dau le ar unwaith, ydw?
(1, 0) 886 Y llieinia gwynion?
(1, 0) 887 Lle ar wynab y ddaear ma'n nhw?
(Joyce) {Wrth GRUFF.}
 
(1, 0) 907 Lle ma'r llieinia gwynion?
(Joyce) Yn y dreser.
 
(Joyce) Yn y dreser.
(1, 0) 909 Nac ydyn.
(Joyce) Wel ydyn.
 
(Joyce) Wel ydyn.
(1, 0) 911 'Dw i newydd edrach.
(Joyce) Ma'n nhw dan y cantîn.
 
(Joyce) Ma'n nhw dan y cantîn.
(1, 0) 913 Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i.
(Joyce) 'Nes i mo'r ffasiwn beth.
 
(Joyce) 'Nes i mo'r ffasiwn beth.
(1, 0) 915 Ma' rhywun wedi bod wrthi.
(Arwyn) Y gist 'na.
 
(1, 0) 921 Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi.
(Arwyn) Fi?
 
(Arwyn) Fi?
(1, 0) 923 Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di.
 
(1, 0) 925 Dangos imi lle ma'n nhw.
(Arwyn) {Yn anesmwyth.}
 
(Morris) Pam na fasat ti wedi deud wrtha' i 'u bod nhw wedi cyrra'dd?
(1, 0) 1146 'I thiwtor hi wedi 'i blesio'n arw.
(Morris) Wir?
 
(Ceinwen) Twt lol.
(1, 0) 1151 Mi fydd gynnon ni dwrna bach yn y teulu gyda hyn.
(Morris) Rhywun i roid trefn arna' i Arwyn?
 
(Morris) Gwydra champagne te!
(1, 0) 1163 Dydi o ddim 'di oeri.
(Morris) Digon da byth.
 
(Morris) Digon da byth.
(1, 0) 1165 Gad o tan heno.
(Morris) Ro'th yr hulpan y poteli iawn imi tro 'ma tybad?
 
(Morris) Be welodd hi?
(1, 0) 1170 Newydd gyrra'dd ma' hi.
(Morris) "Am hynny, cadwn ŵyl", yntê, Arwyn?
 
(Morris) Y?
(1, 0) 1174 Gad inni roid trefn iawn ar y byrdda 'ma gynta.
(Morris) {Wrth CEINWEN.}
 
(Morris) {Mae'n ddi-hid wrth agor y botel.}
(1, 0) 1185 Ara' deg.
(1, 0) 1186 Ma' gwaith yn'o fo.
(Morris) Oes, gobeithio, am igain punt y botal.
 
(Ceinwen) Callio dim, nac 'di?
(1, 0) 1190 Dim.