Golff

Ciw-restr ar gyfer Joyce

(Gwyneth) {Yn gweiddi.}
 
(1, 0) 27 Be drioch chi 'neud rŵan?
(Gwyneth) {Yn flin.}
 
(Gwyneth) Mi 'nes i drio'u pigo nhw.
(1, 0) 31 Ddeudes wrthach chi am ddisgwl amdana'i.
(Gwyneth) Wn i. Wn i.
 
(Gwyneth) Wn i. Wn i.
(1, 0) 34 Pwyll rŵan.
(1, 0) 35 Cyfforddus?
(Gwyneth) Am wn i.
 
(Gwyneth) Cod nhw.
(1, 0) 39 Mi a'i hel rhei er'ill yn 'u lle nhw.
(1, 0) 40 Fydda i ddim chwinciad.
(Gwyneth) Cod nhw.
 
(Gwyneth) 'Drycha be ti 'di 'neud!
(1, 0) 50 Be?
(Gwyneth) Sathru'r bloda llefrith 'na.
 
(Gwyneth) Sathru'r bloda llefrith 'na.
(1, 0) 52 Yn lle?
(Gwyneth) Fanna!
 
(Gwyneth) Ma'n nhw'n un slwts.
(1, 0) 56 Twt lol, nac ydyn.
 
(1, 0) 58 Ma'n nhw'n iawn.
(1, 0) 59 Drychwch.
(Gwyneth) Yli llipa ydyn nhw.
 
(Gwyneth) Yli llipa ydyn nhw.
(1, 0) 61 Pethe fel hyn yn dechra gwywo'n syth bin, tydyn?
(1, 0) 62 Ca'l 'u tynnu o'u cynefin.
(Gwyneth) Be ydi hwnna sy gin ti?
 
(1, 0) 66 Hwn?
(1, 0) 67 Clywed 'i ogla fo 'nes i.
 
(1, 0) 69 Hyfryd, tydi?
(Gwyneth) Gwyddfid.
 
(Gwyneth) Gwyddfid.
(1, 0) 71 Dyna ydi o?
(1, 0) 72 Wel, wel.
(Gwyneth) Tafla fo.
 
(Gwyneth) Tafla fo.
(1, 0) 74 Pam?
(Gwyneth) Anlwcus.
 
(Gwyneth) Anlwcus.
(1, 0) 76 Pwy ddedodd ffasiwn beth?
(Gwyneth) Yr hen bobol.
 
(1, 0) 79 Twt lol.
(Gwyneth) Gwna be 'dw i'n 'i ddeud.
 
(Gwyneth) Tafla fo!
(1, 0) 85 Fodlon?
(Gwyneth) {Yn ochneidio.}
 
(Gwyneth) Ma'n ddrwg gin i, Joyce.
(1, 0) 88 Ia, wel, ych parti chi ydi o, te?
(Gwyneth) Naci.
 
(Gwyneth) Dim ond y ddwy ohonan ni.
(1, 0) 104 Pryd o'dd hi'n bwriadu cychwyn o Aberystwyth?
(Gwyneth) Yn syth bin ar ôl 'i harholiad dwytha medda hi.
 
(Gwyneth) Faint 'neith hi rŵan?
(1, 0) 109 Wedi troi tri.
(Gwyneth) Tân dani felly, te?
 
(Gwyneth) Tair blynedd, felly.
(1, 0) 113 Be?
(Gwyneth) Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma.
 
(Gwyneth) Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma.
(1, 0) 115 Ydi hi, 'dwch?
(Gwyneth) Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth.
 
(Gwyneth) Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth.
(1, 0) 117 Ia, te?
(Gwyneth) Cythral bach dan din.
 
(Gwyneth) Cythral bach dan din.
(1, 0) 119 Pwy?
(Gwyneth) Morris.
 
(Gwyneth) Ac mi ddoist ti o rwla, do?
(1, 0) 147 Fydd Nigel yn dwad efo Ceinwen?
(Gwyneth) Bydd, m'wn.
 
(Gwyneth) Hidio dim ar 'i olwg o.
(1, 0) 153 Y bwrdd arall 'ma.
(1, 0) 154 Ble'n union dach chi isio fo?
(Gwyneth) Gest ti afa'l arnyn nhw.
 
(Gwyneth) Bob dim yn lluch i dafl hyd y lle 'ma ers i Morris ddechra stwnsian.
(1, 0) 157 Do, do.
(1, 0) 158 Ma'n nhw yn y rhiwal.
(Gwyneth) Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma.
 
(Gwyneth) Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma.
(1, 0) 160 Chi ŵyr.
(Gwyneth) Ia.
 
(Gwyneth) Rown ni'r buffet yn fan'ma, iawn?
(1, 0) 163 Ie.
(1, 0) 164 Iawn.
(1, 0) 165 Rhwle.
(1, 0) 166 Dim ots gen i.
(1, 0) 167 Dim ond imi ga'l gwbod yn ddigon buan.
(Gwyneth) Naci.
 
(Gwyneth) Mi fydd raid 'u taro nhw mewn dŵr.
(1, 0) 175 Dewch â nhw i mi.
(Gwyneth) Rho di drefn ar y byrdda 'ma.
 
(Gwyneth) Rho di drefn ar y byrdda 'ma.
(1, 0) 177 Triwch orffwys am ryw awr fach.
(Gwyneth) 'Dw i'n iawn.
 
(Gwyneth) A ffrog.
(1, 0) 181 Ffrog?
(Gwyneth) Gwisga ffrog.
 
(Gruff) Arglwydd, ydi hi'n garnifal eto 'leni?
(1, 0) 204 Cau geg 'nei di.
(Gruff) Ges i gam llynadd, sti.
 
(Gruff) 'Dw i am daro fy hen beth yn 'y nghlust a mynd fath â pwmp petrol.
(1, 0) 209 Oes rhaid bod mor fudur dy dafod?
(Gruff) Ble uffar mae o, d'wad?
 
(Gruff) Ble uffar mae o, d'wad?
(1, 0) 211 Pwy?
(Gruff) Morris, te?
 
(Gruff) Y dyn mawr 'i hun.
(1, 0) 215 Yn dre.
(1, 0) 216 Wedi picio i ryw bwyllgor cynllunio ne' rwbath.
(Gruff) Ma' olwyn y blydi medelwr wedi torri.
 
(Gruff) Ma' olwyn y blydi medelwr wedi torri.
(1, 0) 218 A be di peth felly?
(Gruff) Harvester.
 
(Gruff) Yr hen beth 'na brynodd o i hel peli, te?
(1, 0) 221 Deall dim.
(Gruff) Wast ar bres, yli.
 
(1, 0) 226 Helpa fi efo hwn 'nei di?
(Gruff) {Yn cydio yn un pen i'r 'bunting'.}
 
(Gruff) la?
(1, 0) 229 Be?
(Gruff) Be 'dw i fod i 'neud efo'r diawl peth?
 
(Gruff) I lapio fo am fy...
(1, 0) 232 I hongian o, te?
(1, 0) 233 Ma' hi isio rhoi dipyn o liw i'r lle 'ma, medde hi.
(Gruff) Hi o'dd wrthi gynna?
 
(Gruff) Pobol yn dechra methu'u siots wrth glywad y fath balafar.
(1, 0) 237 Wedi cwmpo o'dd hi.
(Gruff) A lle ro'ddat ti yn lle cadw golwg arni?
 
(Gruff) Dyna pam ti yma... gobeithio?
(1, 0) 240 Galla'i ddim 'i dal hi ymhob man.
(Gruff) Digon gwir.
 
(Gruff) Digon gwir.
(1, 0) 242 Ar biga'r drain ers ben bore.
(1, 0) 243 Isio pob dim yn barod at y parti ddiawl 'ma.
(1, 0) 244 Dyna'r unig beth 'dw i "di glywed o fora gwyn tan nos.
(1, 0) 245 Parti. Parti. Blydi parti.
(Gruff) Oes rhaid i ti aros yma?
 
(Gruff) Oes rhaid i ti aros yma?
(1, 0) 247 Rhaid.
(Gruff) 'Dw i'n rhyw feddwl picio i'r hen Ship te?
 
(Gruff) Be amdani?
(1, 0) 255 Do'dd Morris ddim isio rhyw lol fel hyn.
(1, 0) 256 Hi fynnodd.
(1, 0) 257 Be tase hi'n dwad yn law ne' rwbeth?
(Gruff) A be o'dd o, Morris, isio felly?
 
(Gruff) A be o'dd o, Morris, isio felly?
(1, 0) 259 Sut gwn i?
(Gruff) Wel, ia, te.
 
(Gruff) Ro'dd Morris efo'r hen ddyn 'cw'n 'r ysgol, sti.
(1, 0) 263 Ti 'di deud wrtha'i o'r blaen, ganwaith.
(Gruff) O'dd, duw.
 
(Gruff) Drewi.
(1, 0) 268 Y byrdde 'na sy'n y rhiwal...
(1, 0) 269 'Nei di 'u tynnu nhw allan imi?
(Gruff) Moi menyn pot.
 
(Gruff) Moi menyn pot.
(1, 0) 271 Y?
(Gruff) Drewi fath â menyn pot.
 
(Gruff) Drewi fath â menyn pot.
(1, 0) 273 Be 'di peth felly 'mwyn tad?
(Gruff) Rhyw sgôth ddiawl fydda gin yr hen bobol.
 
(Gruff) Am flynyddo'dd fues i'n methu dallt...
(1, 0) 303 Deall be?
(Gruff) Sut o'ddan nhw'n medru, wy'st ti...
 
(Gruff) Yn y ddaear.
(1, 0) 313 Mi allet ad'el.
(Gruff) Mi fedrat titha hefyd, 'mechan i.
 
(Gruff) Mi fedrat titha hefyd, 'mechan i.
(1, 0) 318 Dyna ni.
(1, 0) 319 Hyll, te?
(Gruff) Ydi'r hogyn 'na'n dwad adra hefo Ceinwen?
 
(Gruff) Ydi'r hogyn 'na'n dwad adra hefo Ceinwen?
(1, 0) 321 Nigel?
(Gwyneth) Ia.
 
(Gwyneth) Hwnnw.
(1, 0) 324 Siŵr o fod.
(Gruff) Damia.
 
(Gruff) Mi fydd y sinach bach wrth 'y nhin i drwy'r ha'.
(1, 0) 327 Braf ca'l help, bydd?
(Gruff) Help, o ddiawl.
 
(Gruff) Meddwl ma' rhyw stiwdant bach tlawd ydi o.
(1, 0) 335 Cer i moyn y byrdde' 'na imi, 'nei di?
(Gruff) {Yn chwerw.}
 
(Gruff) Ffyrm tad Nigel fydd yn handlio'r busnas cwrs golff newydd 'na.
(1, 0) 342 Fydda i ddim yn busnesu yn i bethe fo.
 
(1, 0) 345 Yn y rhiwal ma'n nhw.
(1, 0) 346 Yn y pen pella.
(1, 0) 347 Ar ben y sgolion, os 'dw i'n cofio.
(1, 0) 348 Cer i' moyn nhw.
(1, 0) 349 Fyddi di ddim chwinciad.
(1, 0) 350 Ma'n rhaid i mi fynd i bigo mwy o'r hen flode 'ma iddi.
(Gruff) Fedra i ddim rŵan.
 
(Gruff) Ma' rhaid imi drwsio'r medelwr, rhaid?
(1, 0) 354 Cyn gynted â galli di, te.
(Gruff) Joyce?
 
(Morris) Cym'a d'amsar!
(1, 0) 459 Ti byth 'di moyn y bwrdd 'na?
 
(1, 0) 461 O'n i'n meddwl fod Gruff yma...
(1, 0) 462 Isio help o'n i... efo'r byrdde...
(1, 0) 463 Lle mae o?
(Morris) Wedi picio i Bedfords.
 
(Morris) Wedi picio i Bedfords.
(1, 0) 465 Be wna'i rŵan?
(1, 0) 466 Ma'n rhaid imi ga'l y lle ma'n barod.
(Morris) O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi.
 
(Morris) Be ar wynab y ddaear ydi petha fel 'na?
(1, 0) 470 Blode'r sgawen.
(Morris) Debycach i floda crachod.
 
(Morris) Debycach i floda crachod.
(1, 0) 472 Hi ofynnodd imi'u pigo nhw.
(Morris) I be?
 
(Morris) Fi ga'th blanning iddo fo.
(1, 0) 481 Peidiwch â deud dim byd wrthi.
(Morris) Ddeudis i ddigon do?
 
(Morris) Ble ti'n mynd?
(1, 0) 487 I roi rhein mewn dŵr.
(1, 0) 488 Ma' hi'n disgwl amdana i.
(Morris) Triw ar y diawl iddi, twyt?
 
(Morris) Triw ar y diawl iddi, twyt?
(1, 0) 490 Diolch bod rhywun.
 
(Morris) Rhyw feddwl aros noson yn rhwla.
(1, 0) 503 Ie, pam lai.
(Morris) Ochra braf, 'r ochra yna.
 
(Morris) Norton Lindsey.
(1, 0) 511 Honeybourne, Evesham.
 
(Morris) Gwisga hi heno...
(1, 0) 522 Mi fydd rhaid chwilio am rywbeth i roi rhein yn'o fo.
(Morris) Mi fydd Ceinwen gartra... yli...
 
(Morris) Mi ddalltith.
(1, 0) 529 Morris... plîs...
(1, 0) 530 Ddim heno o bob noson.
(Morris) Bydda'n amyneddgar.
 
(1, 0) 662 Morris, 'dw i'n methu symud y sgolion i ga'l y byrdde 'na allan.
(Morris) {Wrth ARWYN.}
 
(1, 0) 669 Ma'n ddrwg gin i am hyn.
(1, 0) 670 Yn y rhiwal ma'n nhw.
 
(Morris) Fel'na'n union.
(1, 0) 844 Ma'n amhosib ca'l gaf'el arno fo.
(Gruff) Pam na fasach chi 'di deud wrtha' i?
 
(Gruff) Gwrandwch, mi ddyla chi ga'l gwbod...
(1, 0) 880 Methu ca'l ato fo ydan ni te?
 
(1, 0) 882 Mi fydd raid inni ga'l dy help di.
(1, 0) 883 Ty'd!
(Gruff) {Yn flin.}
 
(1, 0) 889 Ma' 'na gist dderw fawr wedi 'i gwthiad yn erbyn y byrdde yn llawn o ryw hen gelfi a ballu.
(Morris) {Wrth GRUFF.}
 
(1, 0) 899 Ca'l y byrdde 'na allan gynta, iawn?
(Morris) {Wrth GRUFF.}
 
(Gwyneth) Lle ma'r llieinia gwynion?
(1, 0) 908 Yn y dreser.
(Gwyneth) Nac ydyn.
 
(Gwyneth) Nac ydyn.
(1, 0) 910 Wel ydyn.
(Gwyneth) 'Dw i newydd edrach.
 
(Gwyneth) 'Dw i newydd edrach.
(1, 0) 912 Ma'n nhw dan y cantîn.
(Gwyneth) Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i.
 
(Gwyneth) Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i.
(1, 0) 914 'Nes i mo'r ffasiwn beth.
(Gwyneth) Ma' rhywun wedi bod wrthi.
 
(Morris) A does 'na ddiawl o neb yn dallt hynny!
(1, 0) 1015 Lle ma'r byrdde 'na?
(Arwyn) Ma'n ddrwg gin i Joyce.
 
(Morris) Be amdani?
(1, 0) 1021 Well inni roid help llaw i Arwyn.
(Ceinwen) Mam!
 
(Ceinwen) 'Nest ti?
(1, 0) 1069 Ceinwen.
(Ceinwen) Joyce.
 
(Ceinwen) Lle ma' hi?
(1, 0) 1073 Yn tŷ.
(Ceinwen) Yn gorffwys?
 
(Ceinwen) Yn gorffwys?
(1, 0) 1075 Duw a ŵyr.
 
(1, 0) 1077 Ceinwen?
(Ceinwen) Ia?
 
(Ceinwen) Ia?
(1, 0) 1079 Siwrne iawn?
(Ceinwen) Hyfryd.
 
(Morris) Gwydr, y munud 'ma!
(1, 0) 1160 Be?