Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Dafydd

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(Jared) Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?
(1, 0) 32 Mae un o goesa'r gadair ma'n rhydd ers plwc byd, Jared, ac mae rhywrai ohonom yn y tŷ acw'n eiste arni heb gofio, ac i lawr â ni'n glwt i'r llawr.
(1, 0) 33 Fu dim ond y dim i Mr. Harris y gweinidog fynd ar i hyd ar garreg yr aelwyd y noson o'r blaen.
(Jared) Cato pawb!
 
(Jared) Eiste'n rhywle, Dafydd, nes daw'r criw i mewn am scwrs: mae gen i ddrws stabl Gŵr y Plas i'w orffen.
(1, 0) 41 Dos di ymlaen.
(1, 0) 42 Rwy'n credu i mi chwysu digon i nofio man-i-war go lew heddiw wrth fynd a dod, a thrwy ryw anlwc roedd gen i feichiau trymach nag arfer heddiw.
(Jared) Ond job go iach, wel di, ydi job postman er hynny, allan yn yr awyr iach drwy'r dydd, ac ambell i jwg o laeth enwyn a chwlff o fara chaws wrth y ffermydd na, yn lle bod fel fi a dy ben wrth y post drwy gydol y dydd ynghanol shafings a blawd lli.
 
(Jared) lfan Wyn gaiff roi i glun i lawr ar honna.
(1, 0) 46 Druan o'r hen grydd, wn i ddim sut mae o'n cadw'n ffrindiau â thi ar ol dy holl gastiau.
(Jared) Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.
 
(Jared) Hen bartnars, Dafydd, hen bartnars: Ifan a finnau ddeng mlynedd ar hugain yn ol oedd y ddau lanc smartia'n y dyffryn.
(1, 0) 48 Be nath i ti bara'n hen lanc ac yntau i briodi, Jared?
(Jared) Dyna oedd yn y rhan i hwyrach.
 
(Ifan) Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd?
(1, 0) 69 Oedd nen tad, ond beth am danat ti ar dy sêt grydd?
(Ifan) Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i.
 
(Hopcyn) Dyma titha'n rhoi dy hun yn Radical mawr fel Ifan, ac eto rwyt ti'n ddigon anghyson i neud drws stabal i geffyla sy'n rambandio o gwmpas yr ardal ar etholiad i gario dynion i fotio'n erbyn yr egwyddorion rwyt ti byth a hefyd yn eu brolio.
(1, 0) 111 Yn ôl dy syniad di, felly, rhagrithiwrs a Phariseaid ydi pob enaid ohonom?
(Hopcyn) Ddwedais i mo hynny, Dafydd; dal rydw i mod i mor gyson a neb ohonoch.
 
(Jared) Cofia di fod Mr. Harris wedi bod yn y coleg am dair neu bedair blynedd, a fuo ni'n pedwar erioed mewn dim coleg ond coleg y gweithdy ma: y fo fydd yn plicio'n plu ni'n siwr i ti.
(1, 0) 143 Ie, dyna'r peth tebyca, achos ma nhw'n dysgu ymresymu yn y colegau na wrth reolau neilltuol.
(Ifan) Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson.
 
(Ifan) Mae'r stori'n wir, fechgyn.
(3, 0) 766 Paid a bod yn rhy siwr; cwestiwn go gynnil ydi hwn.
(3, 0) 767 Y cwbl welsom ni oedd ei fraich am wddw'r eneth.
(3, 0) 768 Pe gwelsem o'n rhoi cusan iddi mi fasa tir sâff dan ein traed.
(Hopcyn) Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi.
 
(Hopcyn) Gwelsom ddigon i wybod i sicrwydd i fod o'n caru â merch Dic Betsi.
(3, 0) 770 Howld! be wyddom ni nad cysuro'r eneth yn ei gofid roedd o—i chysuro hi'n rhinwedd ei swydd fel gweinidog?|
(Ifan) Rhinwedd ei swydd fel gweinidog, wir!
 
(3, 0) 775 Beth ydi'r tacla yma, tybed?
 
(3, 0) 777 Diain i, mae pwysa ynddyn nhw hefyd.
(3, 0) 778 Clyw, Ifan.
(Ifan) {Gan ddal yn ol.}
 
(Ifan) Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw?
(3, 0) 782 Gafr i! Mi wn be ydyn nhw; efo'r rhain y bydd Dic yn taro talcen y samons fydd o'n ddal.
(3, 0) 783 O boced hen angeu'r pysgod y daetho nhw'n siwr i chi.
(Ifan) Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw.
 
(Ifan) Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt.
(3, 0) 797 Chware teg, Ifan, cofia fod Dic ar lan yr Iorddonen y munudau yma.
(Ifan) Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i bortsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr.
 
(Nel) Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan.
(4, 0) 1181 Mae'n dda gen i gael cyflei gymodi.
(4, 0) 1182 Mi gaiff Jared chware teg perffaith efo chi—sut mae o?