Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Desc

(1, 0) 1 Gweithdy'r Saer.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Mae bwrdd hir-gul yn ymestyn gyda'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr.
(1, 0) 4 Ar y muriau gwelir ychydig o offer gwaith saer yn grogedig yma ac acw gyda thri neu bedwar o focsis wrth y muriau ar y dde a'r chwith i eistedd arnynt, a naddion ac ysglodion ar y llawr.
(1, 0) 5 Arwain y drws sydd ar y chwith i'r tŷ sy'n gysylltiedig â'r gweithdy, a'r un ar y dde i'r heol.
(1, 0) 6 Pan gyfyd y llen gwelir y saer yn plaenio planc a'i brentis yn dal un pen i'r planc rhag symud.
(1, 0) 7 Drwy'r act hon, pan bo hynny'n gyfleus, mae'r saer i'w weld yn brysur gyda rhyw ran neu gilydd o'i waith.
(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(Jared) 'Run pryd cofia ystyr y gair prentis wrth usio'r plaen─dojio'r hoelion, wyddost, ydi'r gamp i brentis o jeinar.
(1, 0) 30 Daw DAFYDD ELIS y postman i mewn o'r dde efo cadair.
(Jared) Helo, Dafydd Elis, wyt ti'n mudo i rywle?
 
(Jared) Dyna oedd yn y rhan i hwyrach.
(1, 0) 50 Daw MORGAN HOPCYN y siopwr i mewn yn ei ffedog wen.
(Jared) Pa siap sydd ar y siopwr heno?
 
(Jared) Mor sobr a |judge| bob copa ohonoch chi rwan.
(1, 0) 64 Daw IFAN i mewn yn ei ffedog byg-ddu ac yn llewys ei grys.
(Jared) Da machgen i am gadw dy gyhoeddiad.
 
(Jared) Cofia ystyr y gair prentis, a chofia fod yma am saith bore fory.
(1, 0) 137 Exit HARRI.
(Hopcyn) Beth wyt ti eisiau â'r gweinidog?
 
(Jared) Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi, ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha.
(1, 0) 153 Tyn MR. HARRIS ei gôt hanner oddiamdano.
(Jared) Cyn i chi drioch llaw, setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma.
 
(Mr Harris) Ond unwaith eto mae fy holl fryd ar fynd i wâdd y bobl yma nad ynt yn mynd i unrhyw le o addoliad, ac rwyn siwr na sefwch chi ddim yn erbyn hynny.
(1, 0) 187 Cyfyd pawb ac arwyddant yn eu ffordd eu hunain eu cyd-syniad.
(Ifan) Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris.
 
(Pawb) Nos dawch, Mr. Harris.
(1, 0) 208 A MR. HARRIS allan, ac mae ennyd o ddistawrwydd yn y gweithdy.
(Jared) Diaist i, mae na gêm yno fo, fechgyn!
 
(Pawb) Nos dawch!
(1, 0) 224 Baria JARED y drws ar eu hol, ac wrth droi i fynd i'r tŷ drwy'r drws ar y chwith gwêl NEL yn sefyll yno â shol ar ei phen.
(Nel) {Gan ddod i'w gyfarfod yn erfyniol.}
 
(Jared) Does dim eisia bwyd arna innau chwaith, ond mi gewch estyn y glustog sydd ar y setl yn y gegin, os gnewch chi, ac yna fe wnaf y tro'n |grand|.
(1, 0) 239 A NEL i'r tŷ am y glustog.
(Nel) Dyma hi.
 
(Nel) Nos dawch!
(1, 0) 244 Disgynna'r llen ar JARED yn gosod y glustog ar y bwrdd i gysgu arni.
(2, 0) 245 Cegin Dic Betsi'r Portsiar.
(2, 0) 246 ~
(2, 0) 247 Mae'r gegin yn lân ond tlodaidd.
(2, 0) 248 Ar y mur gyferbyn â'r edrychwyr gwelir tri neu bedwar o luniau, almanaciau, etc.
(2, 0) 249 Ar y mur ar y chwith, uwchben y lle tân, gosoder drych bach, a photo o fam NEL DAVIS ar y mur ar y dde wrth ochr y drws a arwain i'r gegin.
(2, 0) 250 Saif y bwrdd heb fod nepell o'r lle tân gyda dwy neu dair o gadeiriau a dressar gyferbyn â'r edrychwyr.
(2, 0) 251 Cyfyd y llen ar NEL y tu ol i'r bwrdd yn golchi'r llestri ar ol pryd o fwyd, ac eistedd DIC BETSI, ei thad, wrth y drws yn cyweirio rhwyd bysgota yn llewys ei grys ac mewn trowsus "corduroy," a chrafat o gylch ei wddf.
(2, 0) 252 Mae gwisg NEL yn debig i un "gipsy" -- drwsiadus a llawn lliwiau deniadol.
(Nel) Pryd byddwch chi'n ol heno?
 
(Nel) Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd.
(2, 0) 293 Mae ennyd o ddistawrwydd yn dilyn.
(Dic) Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na?
 
(Dic) Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith.
(2, 0) 395 Clecia'r drws ar ei ol, ac eistedd NEL yn benisel gan edrych ar y llun; gesyd ef yn y man yn ei le ar y pared.
(2, 0) 396 Ar hynny daw curo ar y drws, sych hithau ei dagrau â'i ffedog, ac egyr y drws.
(Mr Harris) {Ar y trothwy.}
 
(Mr Harris) {Exit.}
(2, 0) 568 Ennyd o ddistawrwydd.
(Nel) Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno?
 
(Nel) Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn.
(2, 0) 574 LLEN
(3, 0) 575 Study Tŷ'r Gweinidog.
(3, 0) 576 ~
(3, 0) 577 Ar ran o'r mur sy gyferbyn â'r edrychwyr saif silffoedd o lyfrau a bwrdd yn llawn o bapurau a.
(3, 0) 578 llyfrau wrth eu hochr.
(3, 0) 579 Ychydig i'r chwith i gyfeiriad ffrynt y llwyfan mae bwrdd bychan a llestr o flodeu arno.
(3, 0) 580 Gosoder soffa wrth y mur ar y chwith, a thair neu bedair o gadeiriau esmwyth yma ac acw drwy'r ' ystafell.
(3, 0) 581 Mae drws ar y dde yn agor i'r "passage" sy'n arwain allan i'r heol, a drws arall ar y chwith yn arwain i'r gegin sydd y tucefn i'r "study."
(3, 0) 582 Cyfyd y llen ar y GWEINIDOG yn eistedd wrth y bwrdd llyfrau, â'i gefn at y gynulleidfa, yn brysur gyda'i bregeth, a'i chwaer MARGED wrth y bwrdd blodeu yn eu trefnu yn y llestr.
(3, 0) 583 Wrth ei hymyl ar lawr gwelir "Concordance."
(Mr Harris) Un waith eto, Mag bach, ac wedyn mi gei lonydd am wsnos.
 
(Mr Harris) Mi bregethaf heb gôt na chadach gwyn os bydd rhaid yn y prif-ffyrdd a'r caeau.
(3, 0) 668 Clywir curo trwm ar ddrws y ffrynt ac â Mr. HARRIS allan i'r "passage" a daw a NEL DAVIS i mewn.
(3, 0) 669 Ymddengys NEL fel pe mewn ing mud.
(Mr Harris) Dwedwch rywbeth, Nel: mae'ch golwg chi'n nychryn i.
 
(Nel) Rwyn waeth na phagan, medde'ch chwaer, ac mae hi'n iawn.
(3, 0) 757 Daw y tri blaenor, ELIS IFAN, a HOPCYN i mewn o'r gegin drwy'r drws ar y chwith, ond ceisiant gilio'n ol drwy'r drws wrth weld Mr. HARRIS â'i law am wddf NEL.}
(Mr Harris) {Cyfyd ar ei draed.}
 
(Mr Harris) Nos dawch, a diolch i chi, Jared Jones.
(3, 0) 866 A JARED allan ac eistedda'r GWEINIDOG yn benisel.
(3, 0) 867 Daw MARGED i mewn o'r chwith ac ymeifl yn gariadus yn ei law.
(Marged) Eifion, mae golwg digalon iawn arnat ti.
 
(Nel) {Cyfyd yn benisel ac arweinir hi allan ar y chwith, a syrth y llen ar y ddau yn cyrchu'n araf at y drws.}
(4, 0) 975 Gweithdy'r Saer.
(4, 0) 976 ~
(4, 0) 977 Gweler Act 1.
(4, 0) 978 Cyfyd y llen ar HARRI yn curo hoelion i ddarn o bren, a'r DOCTOR yn dod i mewn o'r chwith.
(Doctor Huws) Gweithio'n galed, Harri?
 
(Ifan) Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor.
(4, 0) 1054 A'r tri allan ar y chwith, a dechreua HARRI guro'r hoelion.
(4, 0) 1055 Yn y funud daw Mr. HARRIS i mewn o'r dde, a thyn ei gôt a'i het yn barod i waith.
(Mr Harris) Rwan, Harri! y troed gore mlaen.
 
(Mr Harris) Ac i chitha.
(4, 0) 1083 A'r DOCTOR allan i'r dde a chwilia Mr. HARRIS am goed tân o dan y bwrdd, a tra'n chwilio dan y bwrdd daw NEL i mewn o'r chwith.}
(Nel) Harri, Harri, ymhle rwyt ti?
 
(Mr Harris) Mae Marged yn fwy awyddus na neb am gymodi â chi.
(4, 0) 1153 Daw IFAN a HOPCYN i mewn o'r chwith.
(Hopcyn) Wel, Mr. Harris, rwyn meddwl fod y Nyrs wedi hanner maddeu i Ifan a fi am yr hyn a fu—ond go oer oedd hi am dipyn, yntê Ifan?
 
(Ifan) O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto.
(4, 0) 1189 Daw JARED JONES i mewn o'r chwith yn nillad saer nes brawychu pawb.
(Jared) Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
 
(Jared) Rydw i wedi blino bod yn sâl a'r Nyrs ddim yn tendio arna i.
(4, 0) 1191 Daw NEL ac EIFION a HOPCYN o'i gylch yn bryderus, gan dybio ei fod wedi colli arno'i hun.
(Nel) O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma.
 
(Nel) O, nage, nid fi, ond {Anela ei bys at ei wyneb.} y pistol galwad hwnnw.
(4, 0) 1240 LLEN