Ar y Groesffordd

Ciw-restr ar gyfer Dic

(Jared) {Gan edrych ar y plaen ar ol plaenio ' ychydig.}
 
(2, 0) 255 Does dim ods i ti pryd do i'n ol; mi ddo'n ol ar ol gorffen fy ngwaith.
 
(Nel) Leiciech i mi gadw'r |kettle| ar yr |hob| erbyn i chi ddod?
(2, 0) 258 Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi, mechan i, o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed.
(2, 0) 259 Mi gei godi, |my lady|, i ddawnsio tendans arna i.
(Nel) Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ.
 
(2, 0) 262 Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep.
(Nel) Fydd hynny, chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gynno chi.
 
(2, 0) 265 Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig.
(Nel) Styfnig!
 
(Nel) Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd.
(2, 0) 272 Be nei di, sgwn i?
(2, 0) 273 Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i?
(2, 0) 274 Hwyrach y dywedi di wrth y plisman?
(Nel) Mae gen i un arf na ddefnyddiais i mohono; eto, ond mi rhof o ar waith heno os bydd raid.
 
(2, 0) 277 Arf! Pa arf wyt ti'n gario?
(Nel) Ewch yn ol i'ch cornel yn gynta ac hwyrach y cewch wybod wedyn.
 
(2, 0) 280 Y faeden sosi!
(2, 0) 281 Enwa'r arf sy gen ti'r funud ma ne mi gei weld miloedd o sers ar un trawiad.
(2, 0) 282 Mi ro un siawns iti, a dim ond un.
(2, 0) 283 Ddeydi di?
(Nel) Na wnaf.
 
(2, 0) 287 Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl,
(Nel) Mae digon o frid yno i heno fel na chewch chi na neb arall ddim plygu f'ysbryd i.
 
(2, 0) 290 Wyddwn i ddim tan heno mod i'n magu rhyw greadur mentrus fel ti.
(Nel) {Gan fynd ymlaen â'r llestri.}
 
(Nel) Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd.
(2, 0) 294 Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na?
(2, 0) 295 Beth ydi o?
(Nel) {Yn fwy siriol.}
 
(Nel) Sgwn i ddylwn i ddeyd beth ydi o?
(2, 0) 298 Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma.
(Nel) Rwan, mae'r ffrwyn yn dyn ar y nhempar i, ac rwy'n berffaith bwyllog—rwy'n benderfynol o'ch gadael am byth os rhowch chi'ch llaw arna i eto.
 
(Nel) Mi fedraf ennill y nhamaid, achos mi fedraf weithio, wrth lwc, a gweithio'n galed.
(2, 0) 301 Dyna'r arf ai ê?
(Nel) Ie.
 
(Nel) Ie.
(2, 0) 303 Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl.
(Nel) Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na ffesant.
 
(Nel) Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na ffesant.
(2, 0) 305 Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm.
(Nel) Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg, felly?
 
(Nel) Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg, felly?
(2, 0) 307 Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys.
(Nel) Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser?
 
(Nel) Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser?
(2, 0) 309 Mae'n reit y rhan amla, a chofia di hynny.
(2, 0) 310 Wel, estyn y gwn na i lawr oddiar y pared i mi, mae hi'n bryd i mi gychwyn.
(Nel) {Estynna'r gwn a deil ef yn ei llaw gan edrych arno.}
 
(Nel) Fyddwch chi'n cael arwyddion ambell dro, Nhad?
(2, 0) 313 Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly?
(Nel) Na, nid petha felly'n hollol.
 
(Nel) Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril.
(2, 0) 316 Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i.
(Nel) Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o.
 
(2, 0) 320 Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno.
(2, 0) 321 Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys.
(2, 0) 322 Gillwng d'afael!
(Nel) Gwrandewch arnaf am unwaith, Nhad.
 
(2, 0) 326 Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i.
(2, 0) 327 Ydi bys Nel bach yn brifo?
(2, 0) 328 Gaiff dadi bach neis roi tws iddo?
(2, 0) 329 Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng popeth.
(2, 0) 330 Be sy'n dy gorddi di heno, sgwni?
(2, 0) 331 Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw.
 
(2, 0) 333 Peidiwch mynd allan heno, Nhad.
(2, 0) 334 Wyt ti'n clywed?
(2, 0) 335 Gillwng d'afael!
 
(2, 0) 344 Oedd.
 
(Nel) Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd?
(2, 0) 348 Oedd, am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig.
(Nel) {Yn fyfyriol uwchben y llun.}
 
(Nel) Sgwn i ymhle mae hi heno?
(2, 0) 351 Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan.
(Nel) Ydi hi i gyd yno, tybed?
 
(2, 0) 354 Ydi hi gyd yno!
(2, 0) 355 Be wyt ti'n feddwl?
(Nel) Ydi hynny oedd o Mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro?
 
(2, 0) 358 I hyspryd hi wyt ti'n feddwl?
(2, 0) 359 Welaist ti hyspryd hi rhywdro?
(Nel) Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun.
 
(2, 0) 362 Ia, ond welaist ti hi, Nel?
(Nel) Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed.
 
(2, 0) 365 Oes i hofn hi arnat ti?
(Nel) Ofn Mam!
 
(2, 0) 371 Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan.
(Nel) Na, dydi Mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid Mam; mae Mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma.
 
(2, 0) 375 Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd.
(2, 0) 376 Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos?
(Nel) Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.
 
(Nel) Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons.
(2, 0) 378 Pwy pia nhw ynte?
(2, 0) 379 Pwy nath y samons sydd yn yr afon?
(Nel) {Yn chwareus.}
 
(Nel) Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mai fo sy'n dal y rhan fwya ohonyn nhw.
(2, 0) 382 Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod.
(Nel) Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.
 
(Nel) Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg.
(2, 0) 384 Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon?
(2, 0) 385 Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwâr, er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth.
(2, 0) 386 Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew.
(Nel) Ydach, wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig.
 
(Nel) Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi.
(2, 0) 389 Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor.
 
(2, 0) 394 Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith.
(Mr Harris) {Ar y trothwy.}
 
(2, 0) 527 Be felltith ydi rhyw gamocs fel hyn?
(2, 0) 528 Be ydi'r antarliwd sy'n mynd ymlaen yma?
(2, 0) 529 Nel, wyt ti wedi mynd yn hollol o dy |sense|?
(2, 0) 530 Pwy gebyst ydi'r dyn ma sy'n llewys ei grys?
(Nel) {Yn chwareus.}
 
(Nel) Dyma Mr. Eifion Harris, gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano.
(2, 0) 533 Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgyrn di.
 
(2, 0) 535 Tyn y tacla na oddiamdanat mewn dau funud.
 
(2, 0) 537 Rhowch rhein amdanoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo.
(Mr Harris) {Gan rôi ei gôt amdano'n bwyllog.}
 
(Nel) Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei gôt i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi amdanaf.
(2, 0) 547 Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd.
(2, 0) 548 Be ddeydodd hi oedd eich enw chi?
(Mr Harris) Eifion Harris.
 
(Mr Harris) Eifion Harris.
(2, 0) 550 Ga i deimlo bôn eich braich?
(Mr Harris) {Dan wenu.}
 
(2, 0) 554 Tawn i byth yn symud, ma nhw mor dyn a chroen drwm a chyn gleted a chwipcord.
 
(2, 0) 556 Mae dyn hefo braich fel yna'n rhy dda i bwlpud.
(2, 0) 557 Nos dawch, Syr.
(Mr Harris) Mi ddeyda'm neges cyn mynd: dod yma wnes i ofyn i chi ddod i'r capel, Richard Davis, rai o'r Suliau ma.
 
(Mr Harris) Mi ddeyda'm neges cyn mynd: dod yma wnes i ofyn i chi ddod i'r capel, Richard Davis, rai o'r Suliau ma.
(2, 0) 559 Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim,
(Mr Harris) Gadewch i'ch merch ddod ynte.
 
(Mr Harris) Mae ma rhyw debygrwydd rhyngddi â'ch merch.
(2, 0) 564 Dyna lun ei mam.
(2, 0) 565 Nos dawch.
(Mr Harris) Nos dawch i chi'ch dau.
 
(Nel) Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno?
(2, 0) 570 Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd.
(2, 0) 571 Tawn i'n llwgu'r funud ma, wn i ddim o ble y doist ti hefo dy sbrydion a dy freuddwydion a dy godl.